Agenda item

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2024/25 i’r Cyngor Llawn

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·       Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·       Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2025/26 yn eu cyfarfod 11/02/25

·       Diolch i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r Gyllideb

 

Nodyn:

Sefyllfa gorwariant yn bryderus - angen sicrhau llai o ddefnydd o’r gronfa wrth gefn

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 3.1% gyfer 2025/26, sy’n cyfateb i gynnydd gwerth £7.5m mewn ariannu allanol. Adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2025/2g gyda’r angen i gynyddu gwariant o £24.,2m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau.  Yn ogystal â chyfarch y galw ar wasanaethau yn ogystal â chwyddiant uchel bydd rhaid ystyried cyfuniad o gynnydd Treth Cyngor a rhaglen newydd o arbedion a thoriadau. Gydag argymhelliad o gynnydd o 8.66% yn y Dreth Cyngor bydd angen mwy o arbedion a thoriadau i osod cyllideb gytbwys gyda rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach wrth anelu i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27.

 

Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru.

 

Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod 11/02/25) yn argymell i’r Cyngor Llawn (06/03/25) i sefydlu cyllideb o £355,243,800 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £246,818,190 a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sydd yn gynnydd o 8.66% ar dreth anheddau unigol)  a sefydlu rhaglen gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y meysydd hynny;

·         Chwyddiant Cyflogau o £8.6m - y gyllideb yn neilltuo cynnydd cytundeb tâl 2025/26 o 3.5% ar gyfer yr holl weithlu ac athrawon

·         Addasiad i’r trothwy a chyfradd yswiriant gwladol a delir gan y cyflogwr.

·         Cyllideb o £4.6m wedi ei osod ar y sail y bydd y gost yn cael ei ariannu’n rhannol gan y Llywodraeth, sef gwerth £3.5 miliwn

·         Cynnydd mewn Ardollau i gyrff perthnasol - £506K

·         Demograffi - lleihad mewn nifer disgyblion yn yr ysgolion - £643k

·         Pwysau ar Wasanaethau - argymell cymeradwyo bidiau gwerth £7.7m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.  Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

·         Ystyriaethau pellach - £2.2m ( addasiadau i wahanol gyllidebau ar draws y Cyngor sy’n cynnwys effaith lleihad mewn derbyniadau llog o £2.3m mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau a llif arian y Cyngor

 

Cyfeiriwyd at Rhagolygon Gorwariant 2024/25 yr Adran Oedolion, Iechyd a  Llesiant a’r Adran Plant a Theuluoedd gan nodi’r bwriad o gyllido'r gorwariant drwy gronfeydd wrth gefn (gwerth £8,294m)

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, cyfeiriwyd at gynlluniau arbedion a thoriadau  newydd i leihau’r bwlch ariannu o £519k fydd yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet 11-02-25 (er mai £100k gellid ei dynnu o gyllideb 2025/26. 

 

Adroddwyd y byddai angen cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth Cyngor ac o ganlyniad bydd y Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn i godi’r dreth 8.66% er mwyn diwallu’r pwysau ar wasanaethau wrth osod cyllideb gytbwys.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith gofynnol a wnaed i adrodd ar gadernid yr amcangyfrifon sydd yn sail i’r gyllideb, ac wedi ystyried yr holl risgiau a'r camau lliniaru roedd y  Pennaeth Cyllid o’r farn fod y cyllidebau ar gyfer 2025/26 yn un gadarn, digonol a chyraeddadwy.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·         Bod lefel y dreth yn uchel - yn anodd a’r drethdalwyr Gwynedd o ystyried bod sefyllfa'r blynyddoedd nesaf i weld yn gwaethygu. Angen osgoi codi treth eto

·         Croesawu bod y gyllideb yn gytbwys, ond angen cadw llygad ar y sefyllfa o ystyried bod prisiau tai yn uchel yng Ngwynedd a chyflogau yn isel

·         Yn diolch am y gwaith trylwyr o baratoi’r gyllideb

·         Bod defnydd o £8.8m o gronfa wrth gefn i weld yn sylweddol - yn amlygu pryder bod y gorwariant yn parhau. Angen i’r Adrannau geisio gweithredu o fewn eu cyllidebau

·         Bod rhaid sicrhau bod arian wrth gefn ar gyfer argyfwng

·         Os daw mwy o arian gan Lywodraeth Cymru, a fydd bwriad ei ddefnyddio i gryfhau’r gronfa wrth gefn yn hytrach na defnydd bidiau?

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thalu chwyddiant ar gyflogau, nododd y Pennaeth Cyllid bod cynnydd mewn cyflogau yn cael eu gosod yn genedlaethol ac anodd yw rhagweld y cynnydd hwnnw. Ategwyd mai swm ac nid canran sydd wedi ei weithredu yn y gorffennol, ac er mai anodd yw gosod canran, nid yw’r Cyngor mewn sefyllfa i wrthod gweithredu’r cynnydd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Arweinydd y Cyngor bod Gwynedd gyda chefnogaeth siroedd gwledig eraill megis Sir Fynwy a Phowys yn pwyso ar CLlLC i osod isafswm i’r setliad. Cydnabuwyd hefyd bod pwysau cynyddol ariannol ar drigolion Gwynedd a bod y dewis rhwng cynnal gwasanaethau a chynnig lefel rhesymol o drethiant yn un anodd.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·         Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·         Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod a chymeradwyo Cyllideb 2025/26 yn eu cyfarfod 11/02/25

·         Diolch i’r Adran Cyllid am y gwaith trylwyr o baratoi’r Gyllideb

 

Nodyn:

Sefyllfa gorwariant yn bryderus - angen sicrhau llai o ddefnydd o’r gronfa wrth gefn

 

Dogfennau ategol: