Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn a nodi’r cynnydd i ganfyddiadau arolwg Archwilio Mewnol a’r drefniadau Gofal Cartref y Cyngor

·       Croesawu'r Rhaglen Waith drylwyr sydd mewn lle i wella’r ddarpariaeth

·       Bod angen diweddariad pellach ymhen 12 mis ar gynnydd a llwyddiant y rhaglen waith

 

Cofnod:

Yn dilyn, darganfyddiadau archwiliad arbennig gan Archwilio Mewnol  a gomisiynwyd gan y Prif Weithredwr i ofal cartref Cyngor Gwynedd, cafwyd diweddariad gan Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar y rhaglen waith manwl sydd wedi ei llunio i flaenoriaethu a chryfhau’r ddarpariaeth, ac i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd trefniadau’r Cyngor yn y maes gofal cartref. Nodwyd bod y rhaglen waith yn cynnwys 63 o Is-brosiectau o fewn ffrydiau gwaith y Grŵp Prosiect Gofal Cartref (sydd wedi ei sefydlu dan arweiniad y Pennaeth i gyfarch y gwaith a mynd i’r afael â’r materion sydd angen sylw i roi hyder fod y model o ddarparu gofal cartref yn gweithio yn effeithiol). Ategwyd bod tri prif ffrwd i’r rhaglen waith oedd yn cynnwys darpariaethau mewnol (15), systemau a phrosesau (22) a gwreiddio’r model newydd (26). Cyflwynwyd i’r Pwyllgor yr is- brosiectau hynny oedd yn ymwneud ag Archwiliad SAC yn unig sef rhestr aros, gwariant / cyllido a monitro contractau a rhoddwyd adroddiad cynnydd ar y prosiectau hynny.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Pwyllgor yn gofyn am sicrwydd bod y Pwyllgor Craffu Gofal wedi edrych ar elfennau’r maes gofal cartref, y model newydd yn gyffredinol a’i effaith ar drigolion, nodwyd bod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu yn Medi 2024 i gefnogi awydd aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal i bwyso a mesur effeithiolrwydd y ddarpariaeth gofal cartref ar draws y Sir yn enwedig o ran cynnal a gwella gwasanaethau i drigolion.

 

Mewn ymateb i’r archwiliad mewnol, nodwyd bod sicrwydd ac eglurder o fynd i’r afael â’r materion a godwyd gyda gwahoddiad agored i archwilio mewnol fynychu cyfarfodydd o’r Grŵp Prosiect.

 

Yng nghyd-destun yr oriau bloc, nodwyd bod yr oriau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd ar y cyd gyda’r Adran Cyllid a bod y gofrestr risg bellach wedi ei symleiddio i adlewyrchu blaenoriaethau ac ymdrech. Ymddengys bod y rhestrau aros yn amlygu tuedd / patrwm o leihad sydd yn rhoi argraff bod y model newydd yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

 

Adroddwyd bod Archwiliad Arolygaeth Gofal Cymru yn cadw golwg dros ansawdd a safonau’r Gwasanaeth, ac Archwilio Cymru yn cyhoeddi eu darganfyddiadau o drefniadau Gofal Cartref 06-02-25 - bydd argymhellion yr archwiliadau hyn hefyd yn amlygu materion i’w gwella fydd angen eu cydlynu gyda’r rhaglen waith.

 

Mynegodd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod y maes gofal cartref yn un cyfnewidiol a heriol gyda’r mater yn cael sylw a buddsoddiad sylweddol i wella. Ategwyd bod yr Adran yn cymryd y mater o ddifrif a blaenoriaethau i wella wedi eu gosod.

 

Cymerodd y Prif Weithredwr y cyfle i ategu bod yr ymdrech i geisio trefn wedi deillio o ymateb i bryder yn nhrefn monitro gwariant gofal cartref a comisiynwyd Archwilio Mewnol i edrych ar y sefyllfa. O ganlyniad, nododd bod rhaglen waith wedi ei llunio a newidiadau ar waith i geisio gwella’r ddarpariaeth, gan dderbyn bod rhai o’r trefniadau wedi bod yn wan. Bellach gydag argymhellion clir Archwilio Mewnol, y broblem wedi ei hadnabod a gwellhad i’r sefyllfa wedi ei gynnig - yr oriau bloc yn cael sylw arbennig a’r rhestrau aros yn lleihau. Ategodd bod diweddariad o’r sefyllfa i’w gyflwyno iddo ar ddiwedd 2024/25 ynghyd a thrafodaethau parhaus yng nghyfarfodydd perfformiad yr Adran

 

Diolchwyd am y diweddariad, y wybodaeth a’r ymateb llawn i’r sefyllfa

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Angen cyllideb ddigonol ar gyfer y gwaith - y gorwariant yn bryder

·         Bod gwendidau sylweddol yng ngweinyddiaeth yr Adran - angen sicrhau bod y mater yn cael ei oruchwylio. Oes sicrwydd bod y gwendidau wedi diflannu a /ynteu sicrwydd bod yr arian sydd yn cael ei dalu allan yn gywir?

·         Bod data yn cael ei ddefnyddio yn briodol - derbyn bod diffygion gwybodaeth wedi bodoli, ond angen sicrwydd bod y model newydd yn sicrhau gwybodaeth gywir i reoli a monitro y sefyllfa yn well

·         Bod angen sicrhau bod llwyddiant yn cael ei fesur

·         Bod angen diweddariad ar y cynnydd a llwyddiant y rhaglen waith

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn a nodi’r cynnydd i ganfyddiadau arolwg Archwilio Mewnol a’r drefniadau Gofal Cartref y Cyngor

·         Croesawu'r Rhaglen Waith drylwyr sydd mewn lle i wella’r ddarpariaeth

·         Bod angen diweddariad pellach ymhen 12 mis ar gynnydd a llwyddiant y rhaglen waith

 

Dogfennau ategol: