Penderfyniad:
Nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais a hynny oherwydd
nad oedd ymddygiad yr ymgeisydd mewn digwyddiad diweddar yn cyrraedd
y safon ddisgwyliedig gan yrrwr tacsi.
Dangoswyd fideo TCC oedd yn tystiolaethu’r digwyddiad ynghyd a hanes o aildroseddu mewn perthynas â chollfarnau trefn gyhoeddus 2010, 2018 a 2024.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chais adnewyddu trwydded, nodwyd bod trwydded gyrrwr
cerbyd hacni / hurio preifat yn
gyfredol am dair blynedd - dyma’r cyfnod safonol.
Amlygwyd bod trwydded yr ymgeisydd wedi dod i ben yn Rhagfyr 2024 ac ni fu iddo ddatgelu’r
cyhuddiadau yn ei erbyn ar
ei ffurflen gais - mae dyletswydd ar bob ymgeisydd i roi gwybod i'r Awdurdod
Trwyddedu am unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn. Ategwyd, yn achlysurol, bod yr Heddlu yn
rhoi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu ond y tro hwn
aelod o’r cyhoedd oedd wedi
cwyno i’r Heddlu cyn dwyn
achos swyddogol yn erbyn yr ymgeisydd.
Wedi i'r ymgeisydd fod gerbron
y Llys cafwyd y wybodaeth ganddo ynghyd a datganiad wedi ei arwyddo
wrth aros am DBS.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y digwyddiad a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd
wedi cwblhau ei ffurflen gais yn llawn gan ei
fod yn aros
am ddyfarniad y cyhuddiad oedd yn ei erbyn.
Yng nghyd-destun digwyddiad Rhagfyr 2024, roedd yn cyfaddef
ei fod wedi
ymateb i fygythiad y dioddefwr, ond roedd y dioddefwr wedi ei fygwth
ef yn gyntaf.
Amlygodd hefyd nad oedd yn
adnabod y dioddefwr ac mi roedd wedi
datgelu’r digwyddiad i’r Adran Drwyddedu,
y bore canlynol. Ategodd ei fod yn
gyrru bysiau ers dros 30 blynedd heb unrhyw gwynion
a bod y swydd fel gyrrwr tacsi
yn golygu cymaint iddo.
PENDERFYNWYD nad oedd
yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
·
Canllawiau Addasrwydd Unigolyn
·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Datganiad DBS
·
Datguddiad Collfarnau a Datganaid
wedi ei arwyddo
21/11/24
·
Tystysgrif Argyhoeddiad gan Llys Ynadon Caernarfon
·
Sicrwydd Gwybodaeth gan Heddlu Gogledd
Cymru
·
Datganiad Tyst
·
Adroddiad a Chofnodion Gwrandawiad
yr ymgeisydd Tachwedd 2021
·
Tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng - TCC
·
Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd
ynghyd a thystiolaeth a gwybodaeth ysgrifenedig
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn mis Rhagfyr 2024 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o
ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol a sarhaus oedd yn debygol o godi ofn,
dychryn neu drallod yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Gorchmynnwyd iddo
dalu iawndal o £50 gyda dirwy o £400. Ni fu i’r Heddlu gyflwyno tystiolaeth am
y cyhuddiad o Ymosodiad drwy guro a gollyngwyd y cyhuddiad yma
Yn mis Tachwedd 2018 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o
ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol a sarhaus oedd yn debygol o godi ofn,
dychryn neu drallod yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd gosb o
£100, ac £85 o gostau
Yn mis Hydref 2010 cafwyd yr ymgeisydd yn euog am
ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol neu sarhaus, gyda'r bwriad o godi ofn
neu bryfocio trais yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael
ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw
gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei
fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni
chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf
1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o
drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad
agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt
cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.
Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am
drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried
am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf
Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
Mae paragraff 16.1 o’r Polisi yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau
bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond
gyda’i gilydd yn creu hanes
o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg
parch at les eraill ac eiddo. O dan y Polisi rhaid
bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers
y gollfarn fwyaf diweddar.
CASGLIADAU
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y collfarnau’n ymwneud â throseddau o drais
Yn 2021, penderfyniad yr Is-bwyllgor oedd caniatáu cais
yr ymgeisydd a hynny wedi iddynt ystyried
ei dystiolaeth er bod y polisi yn nodi y dylid gwrthod cais
os nad oedd
cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd heibio
ers y gollfarn ddiwethaf. Yn Rhagfyr 2024, gwelwyd unwaith eto bod llai na
3 blynedd ers y drosedd ddiweddaraf (Tachwedd 2021) ac felly, man cychwyn
i’r ystyriaethau fyddai gwrthod y cais. Ystyriwyd hefyd patrwm o aildroseddu oedd yn cynnwys yr un math o ymddygiad gyda dwy drosedd o fewn
y cyfnod o 10 mlynedd.
Bu i’r
Is-bwyllgor hefyd ystyried yr amgylchiadau yn yr achos penodol
yma gan dderbyn
bod sylwadau’r ymgeisydd am
y digwyddiadau dan sylw yn ddatganiad gonest
o'r hyn a ddigwyddodd ar y Maes yng Nghaernarfon.
Derbyniwyd hefyd, ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, bod y dioddefwr wedi dod draw at yr ymgeisydd wrth weld ei fod wedi
parcio ar y Maes ac felly o’r hyn a welodd yr Is-bwyllgor o dystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng (TCC) ar y maes, y dioddefwr
oedd wedi dechrau’r gwrthdaro ar y noson.
Er hynny,
roedd yr ymgeisydd yn anghytuno â dehongliad eraill o'i ymddygiad mewn
perthynas â'r ail ddigwyddiad, gyda’r dioddefwr yn hwyrach
ymlaen ar yr un noson yn gwadu
dyrnu'r dioddefwr drwy ffenestr car. Nid rôl yr is-bwyllgor
yw dod i
ganfyddiad ffeithiol os oedd y digwyddiad
hwnnw yn gyfystyr â throsedd gan fod yr ymgeisydd
wedi ei gyhuddo
o ymosod trwy guro ac nid oedd
yr Heddlu wedi cyflwyno tystiolaeth mewn perthynas â'r cyhuddiad hwnnw. Serch hynny, roedd tystiolaeth
TCC yn dangos yn glir, beth
amser ar ôl y digwyddiad cyntaf, bod yr ymgeisydd drwy stopio ei
gar o flaen car y dioddefwr
er mwyn ei orfodi i stopio,
ei fod wedi
dod allan o'r car a bygwth y dioddefwr. Daeth yr is-bwyllgor i’r casgliad, waeth
beth oedd wedi digwydd rhwng
yr ymgeisydd a’r dioddefwr bod yr ail ddigwyddiad yma wedi dechrau
gan weithredoedd yr ymgeisydd a bod ei ymddygiad yn annerbyniol
ac yn bell o gyrraedd safon ddisgwyliedig gan yrrwr trwyddedig.
Eglurwyd bod dyletswydd ar yr Awdurdod i ddiogelu'r
cyhoedd ac fel rhan o hynny rhaid
asesu'r risg o ail droseddu. Yn wyneb y digwyddiad diweddaraf (collfarn Rhagfyr 2024), cytunodd yr Is-bwyllgor â'r Uned Drwyddedu
bod yr ymgeisydd wedi derbyn collfarn arall am yr un math o drosedd a hynny yn brawf
na fu unrhyw welliant yn ei
ymddygiad ers gwrandawiad Tachwedd 2021. Amlygwyd bod y patrwm hwnnw yn un o ymddygiad
ymosodol a bygythiol gyda thystiolaeth o ddigwyddiad pellach yn 2010. Nid oedd
yr Is-bwyllgor felly yn hyderus na fyddai
ymddygiad tebyg yn digwydd eto.
Bu i’r
Is-bwyllgor hefyd ystyried darpariaethau Canllawiau Addasrwydd, sy'n nodi’r angen
i ystyried cymeriad gyrrwr yn ei gyfanrwydd
gan gynnwys agwedd a natur yr unigolyn dan sylw. Ategwyd bod y Canllawiau yn pwysleisio bod angen i yrwyr
arddangos ymddygiad proffesiynol priodol bob amser. Yn yr achos yma, ystyriwyd perthnasedd paragraff 4.15 gan ei fod
yn nodi bod troseddau neu ymddygiad annerbyniol sydd yn digwydd
wrth yrru cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat
yn cael eu
hystyried fel nodweddion o dramgwyddo.
Yn ychwanegol, roedd yr is-bwyllgor yn siomedig
â chyhuddiadau’r ymgeisydd tuag at
swyddogion yr awdurdod
Trwyddedu. Eto, nid oedd hyn yn
ymddygiad a ddisgwylid gan yrwyr trwyddedig.
Daeth yr is-bwyllgor i'r casgliad fod y collfarnau ynddynt eu hunain yn
ddigon o reswm i wrthod y cais
o dan Bolisi’r Cyngor, ond wedi ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ni welwyd unrhyw reswm
pam na ddylid dilyn darpariaethau'r Polisi yn yr achos yma. Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid
gwrthod y cais ac nad oedd yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol i adnewyddu
ei drwydded gyrrwr cerbyd hacni
a hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd gan amlygu ei hawl i apelio’r
penderfyniad