St Tudwals
Inn, Abersoch
I ystyried
y cais
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu y cais
Trwydded
Arfaethedig
Dydd
Sul/Sunday: 09:00 - 01:00
Dydd
Llun/Monday: 09:00 – 01:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 09:00 – 01:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 09:00 – 01:00
Dydd
Iau/Thursday: 09:00 – 01:00
Dydd
Gwener/Friday: 09:00 – 01:30
Dydd
Sadwrn/Saturday: 09:00 – 01:30
Gweithgareddau Trwyddedadwy
Cyflenwi
Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo :
Dydd
Sul/Sunday: 10:00 - 00:00
Dydd
Llun/Monday: 10:00 – 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 10:00 – 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 10:00 – 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 10:00 – 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 10:00 – 01:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 10:00 – 01:00
Amseriadau
ansafonol:
Caniatáu
gwerthu i breswylwyr 24 awr y dydd
I ganiatáu
gwerthu o 10:00 o'r gloch ar 31 Rhagfyr tan 00:00 ar y 1af o Ionawr
Cerddoriaeth
wedi ei Recordio Tu Fewn :
Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00
Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00
Lluniaeth yn
Hwyr y Nos: Dan do :
Dydd
Sul/Sunday: 23:00 - 00:00
Dydd
Llun/Monday: 23:00 - 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 23:00 - 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 23:00 - 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 23:00 - 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 23:00 - 00:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 23:00 - 00:00
Cerddoriaeth
Byw: Tu Fewn :
Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00
Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00
Ffilmiau: Tu
Fewn :
Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00
Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00
Cynllun
Rheoli Sŵn i’w ddarparu i Adran Iechyd yr Amgylchedd
Asesu lleoliad
CCTV dan do a tu allan o ystyried newid yng nghynllun y safle.
Dim mynediad i
blant o dan 16 oed i'r safle ar ôl 22:00 ar Noswyl Nadolig a Nos Galan (os nad
ydynt yn bwyta neu aros yn y gwesty).
Y mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel
amodau.
Cofnod:
Michelle Hazelwood Ar ran yr ymgeisydd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad
yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr
Adan Amgylchedd yn manylu ar gais am amrywiad trwydded eiddo St Tudwals,
Abersoch. Cyflwynwyd y cais am amrywiad oherwydd gwaith adnewyddu mewnol ac
allanol i’r eiddo ac i gymryd mantais o’r cyfle i adolygu cynnwys y drwydded
bresennol. Ategwyd, ar wahân i’r newidiadau mewnol ac allanol, bod cais ar
gyfer ychwanegu gweithgaredd trwyddedig o ddangos ffilmiau hefyd wedi ei
gynnwys.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr
Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â
gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.
Cyflwynwyd sylwadau gan yr Heddlu yn nodi eu dymuniad i gynnwys amod ar
y drwydded fyddai yn nodi na fydd plant o dan 16 oed yn cael dod mewn i’r safle
/ aros yno ar ôl 22:00 oni bai eu bod yn aros neu yn bwyta yn y gwesty ar
Noswyl Nadolig a Nos Galan - hyn yn gyson a nosweithiau eraill y flwyddyn.
Nodwyd hefyd bod yr Heddlu yn dymuno i’r ymgeisydd asesu lleoliad TCC o
ystyried newid yng nghynllun y safle.
Roedd
y swyddogion yn nodi y dylai’r Is-bwyllgor ystyried y sylwadau a dderbyniwyd
gan argymell bod yr Is-bwyllgor yn caniatáu'r amrywiad cyn belled a bod yr
ymgeisydd yn cytuno i gyfaddawd a awgrymwyd gan Swyddog Adran Gwarchod y
Cyhoedd a sylwadau’r Heddlu.
b) Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r
ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.
c) Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod cynllun y gwesty yn un agored, gyda ffocws
ar gyfer teuluoedd
·
Mewn ymateb i nifer o gynlluniau gwahanol i gefn
yr adeilad a diffyg eglurhad o’r statws cynllunio, cyflwynwyd cynllun newydd
oedd yn cyfateb i amodau a gofynion y drwydded bresennol
·
Yn cytuno gydag amod yr Heddlu na fydd plant o dan 16 oed yn cael dod i
mewn nac aros yn yr eiddo ar ôl 22:00 o'r gloch ac eithrio pan fyddant yn preswylio
neu'n bwyta yn y gwesty ar Noswyl Nadolig a Nôs Galan
·
Er yn derbyn bod cwynion sŵn wedi eu derbyn
yn 2022/23 nid fu tor cyfraith yng nghyd-destun niwsans cyhoeddus ac mai
pryderon oedd yma yn hytrach na chwynion swyddogol.
·
Cytuno y bydd cynllun rheoli sŵn yn cael i
ddarparu ac yn cael ei gyflwyno i’r Adran Iechyd yr Amgylchedd am gymeradwyaeth
(o fewn 6 wythnos, os bydd yr amrywiad yn cael ei ganiatáu)
·
Bydd y person trwyddedig yn gysylltiedig ag
unrhyw weithredoedd ar y safle – yn gwirio lefelau sŵn, yn gwarchod yr
ardal cefn ac yn rheoli sŵn posib o daflu gwastraff / poteli yn ystod
oriau hwyr y nos
·
Bod ffin y safle yn cefnu ar ardal breswyl ac
felly bydd pob ymgais yn cael ei wneud i reoli sŵn
·
Bod cais wedi ei wneud i gynnwys trwydded dangos
ffilmiau, ond nid yw hyn yn un o brif nodweddion y busnes
·
Bod buddsoddiad sylweddol i’r busnes gyda’r
safle wedi ei adnewyddu’n chwaethus.
·
Yr amodau wedi eu tynhau
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â chapasiti y safle ar ddiwrnod prysur, nodwyd
wrth ystyried gofod tu mewn a thu allan y safle, bydd lle i oddeutu 250 o bobl.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chwarae
cerddoriaeth (o ystyried bod cerddoriaeth acwstig wedi ei chwarae ar y teras yn
y gorffennol), nodwyd mai penderfyniad y person trwyddedig fydd dewis
cerddoriaeth fyw, ond y bydd unrhyw ddarpariaeth cerddoriaeth angen cynllun
rheoli sŵn addas sydd wedi ei gymeradwyo gan Iechyd yr Amgylchedd. Er yn
derbyn bod hawl chwarae cerddoriaeth o dan Ddeddf Cerddoriaeth Byw, bydd rhaid
sicrhau rheolaeth gadarn o sŵn i osgoi cwynion.
Mewn ymateb i bryderon mynediad i blant dan
16 oed ar y safle, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd na fydd plant o dan 16 oed
yn cael dod i mewn nac aros yn yr eiddo ar ôl 22:00 o'r gloch ac eithrio pan
fyddant yn preswylio neu'n bwyta yn y gwesty. Ategwyd bod hyn hefyd yn
berthnasol i Noswyl Nadolig a Nos Galan yn unol ag amod Heddlu Gogledd Cymru.
d) Manteisiodd
y Rheolwr Trwyddedu ar y cyfle i i grynhoi ei hachos, gan
nodi ei bod yn;
·
Rhannu pryderon mynediad plant dan 16 oed ar yr
eiddo ac yn croesawu amod yr Heddlu bod Noswyl Nadolig a Nos Galan yn dilyn yr
un rheolau a nosweithiau eraill y flwyddyn
·
Croesawu bod y cynllun ardal tu allan wedi ei
gytuno
·
Croesawu bod trafodaethau a chyfaddawd wedi ei
gyrraedd a bod yr amod cyflwyno cynllun rheoli sŵn yn cael ei gyfarch
Ymneilltuodd cynrychiolydd yr ymgeisydd a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
Wrth
gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd,
sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y
Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn
bresennol yn y gwrandawiad.
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth
briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law
i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.
PENDERFYNIAD:
Caniatáu amrywio’r drwydded
Trwydded
Arfaethedig
Dydd
Sul/Sunday: 09:00 - 01:00
Dydd
Llun/Monday: 09:00 – 01:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 09:00 – 01:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 09:00 – 01:00
Dydd
Iau/Thursday: 09:00 – 01:00
Dydd
Gwener/Friday: 09:00 – 01:30
Dydd
Sadwrn/Saturday: 09:00 – 01:30
Gweithgareddau
Trwyddedadwy
Cyflenwi
Alcohol ar ac oddi ar yr Eiddo :
Dydd
Sul/Sunday: 10:00 - 00:00
Dydd
Llun/Monday: 10:00 – 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 10:00 – 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 10:00 – 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 10:00 – 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 10:00 – 01:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 10:00 – 01:00
Amseriadau
ansafonol:
Caniatáu
gwerthu i breswylwyr 24 awr y dydd
Caniatáu
gwerthu o 11:00 o'r gloch ar 31 Rhagfyr tan 00:00 ar y 1af o Ionawr
Cerddoriaeth
wedi ei Recordio Tu Fewn :
Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00
Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00
Lluniaeth
yn Hwyr y Nos: Dan do :
Dydd
Sul/Sunday: 23:00 - 00:00
Dydd
Llun/Monday: 23:00 - 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 23:00 - 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 23:00 - 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 23:00 - 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 23:00 - 00:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 23:00 - 00:00
Cerddoriaeth
Byw: Tu Fewn :
Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00
Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00
Ychwanegu
Gweithgaredd Ffilmiau: Tu Fewn :
Dydd
Sul/Sunday: 11:00 – 00:00
Dydd
Llun/Monday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mawrth/Tuesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Mercher/Wednesday: 11:00 – 00:00
Dydd
Iau/Thursday: 11:00 – 00:00
Dydd
Gwener/Friday: 11:00 – 00:00
Dydd
Sadwrn/Saturday: 11:00 – 00:00
Amodau:
Y
cynllun diwygiedig i’w gynnwys ar y drwydded
Cynllun
Rheoli Sŵn i’w ddarparu i Adran Iechyd yr Amgylchedd
Asesu
lleoliad CCTV dan do a thu allan o ystyried newid yng nghynllun y safle.
Ni
chaniateir i blant o dan 16 oed ddod i mewn nac aros yn yr eiddo ar ôl 22:00
o'r gloch ac eithrio pan fyddant yn preswylio neu'n bwyta yn y gwesty
Y
mesurau ychwanegol, fel y nodir yn rhan M y cais, i'w cynnwys fel amodau.
Yng
nghyd-destun Trosedd ac Anrhefn, nid oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r
newid yng nghynllun y safle nag i ychwanegu ffilmiau i’r gweithgareddau
trwyddedig. Er hynny, roeddynt yn awgrymu bod yr ymgeisydd yn asesu lleoliad y
TCC dan do a thu allan, o ystyried y newid yng nghynllun y safle.
Yng
nghyd-destun materion Diogelwch Cyhoeddus ni chyflwynwyd sylwadau na
thystiolaeth oedd yn berthnasol i'r egwyddor hon.
Yng
nghyd-destun Atal niwsans cyhoeddus, yn dilyn trafodaethau gyda’r
ymgeisydd, roedd Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd wedi cytuno i dynnu’r
gwrthwynebiad i’r cais yn ôl ar yr amod bod Cynllun Rheoli Sŵn yn cael ei
gyflwyno i’r Gwasanaeth o fewn 6 wythnos, a’i gytuno gyda’r Gwasanaeth.
Yng
nghyd-destun Gwarchod Plant Rhag Niwed, roedd yr Heddlu yn derbyn yr
amod i ganiatáu plant o dan 16 oed, sy’n aros yn y gwesty neu’n bwyta yno, i
gael mynediad i’r eiddo neu i aros yno ar ôl 22:00. Roeddynt yn bryderus serch hynny am y
sefyllfa ar Noswyl Nadolig a Nos Galan ac fe gytunodd yr ymgeisydd i’r amod yma
fod yn berthnasol i’r adegau hynny hefyd.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi
cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i
gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor.
Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif
Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan
gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn
cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: