I cyflwyno diweddariad am y broses werthuso yng nghyd- destun y Gwerthusiad o’r Gyfundrefn Drochi.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Cofnod:
Gosododd
yr Aelod Cabinet Addysg y cyd-destun.
Nodwyd bod y Cabinet wedi penderfynu yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf 2021 ei
fod yn amserol i ad-drefnu’r canolfannau hyn a chreu Cyfundrefn Addysg Drochi
newydd. Esboniwyd bod y Pwyllgor wedi mynegi dymuniad i graffu y gyfundrefn
newydd ar ôl iddi gael cyfle i wreiddio. Eglurwyd bod yr Adran Addysg wedi
penderfynu penodi tîm ymchwil o Brifysgol Bangor i werthuso’r Gyfundrefn Addysg
Drochi yng Ngwynedd. Ymhelaethwyd bod y tîm hwn wedi cynnal ymweliadau ac wedi
siarad â rhanddeiliaid, a bydd yn adrodd yn ôl cyn bo hir gyda’i gasgliadau.
Cwestiynwyd
sut y dewiswyd y tri chyfranogwr ar gyfer yr astudiaeth achos, a beth oedd y
meini prawf. Nodwyd, mewn ymateb, mai’r brifysgol a ddewisodd y tri. Eglurwyd
bod hyn yn dibynnu ar ganiatâd rhieni a’u bod wedi’u dewis ar hap, sy’n ddull
gwyddonol o ddewis cyfranogwyr mewn astudiaethau achos. Ymhelaethwyd bod y
cyfranogwyr yn dod o wahanol ganolfannau trochi.
Mynegwyd
diddordeb i gael copi o’r ddogfen asesiad effaith cydraddoldeb a luniwyd pan
newidiwyd i’r gyfundrefn newydd. Mynegwyd pryder ynglŷn â gogwydd a ffocws
yr adroddiad a’r penderfyniad cychwynnol i leihau o bum niwrnod trochi i
bedwar. Nodwyd bod y ffocws, heb eithriad, ar yr unigolion sy’n mynd drwy’r
system drochi, heb sôn am ymgynghori â rhieni, dysgwyr eraill yn yr ysgol, na’r
gymdeithas ehangach nac aelodau etholedig. Mynegwyd bod y penderfyniad, yr
adroddiad a’r ymchwil arfaethedig yn drwyadl neo-ryddfrydol ei ideoleg.
Eglurwyd,
mewn ymateb, bod y gwaith ymchwil hwn yn benodol yn edrych ar y goblygiadau i
blant sy’n mynd drwy’r system drochi, ond bod y pwynt ynglŷn â’r effaith
ar ysgolion yn cael ei dderbyn, a sgyrsiau wedi’u cynnal gyda phenaethiaid
ynglŷn â’r mater hwn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Adran Addysg yn
barod i gryfhau neu newid y trefniadau mewn ymateb i argymhellion, ond eu bod
yn disgwyl gweld beth fydd yr adroddiad yn ei ddweud cyn dod i unrhyw
gasgliadau. Tanlinellwyd nad oedd unrhyw ymdrech wedi’i wneud i guddio dim, ac
o ran ystyried adroddiadau a luniwyd dros gyfnod, mynegwyd bod mwy na digon o
awydd i weld beth fu’r effaith. Nodwyd bod y pwynt ynglŷn â goblygiadau
cydraddoldeb yn cael ei dderbyn, a bod ei ehangder o bosibl yn fwy na’r disgwyl
mewn adroddiadau arferol.
Ymatebodd
yr aelod gan nodi bod disgwyl y byddai
ymchwil wedi ei wneud cyn gwneud y penderfyniad i leihau dyddiadau addysg
drochi. Nodwyd ei bod, o safbwynt lleygwr, yn ymddangos fel penderfyniad
cyllidol.
Nodwyd
o ystyried bod y penderfyniad i ailwampio’r canolfannau trochi wedi’i wneud er
mwyn cael darpariaeth o ansawdd uchel, bod y nifer o athrawon wedi’u cwtogi o
ddau athro i bob canolfan i un athro ac un cymhorthydd, a gostyngwyd y nifer o
ganolfannau, gan newid o bum niwrnod trochi i bedwar. Mynegwyd nad yw’r math
hwn o drochi yn ddwys os nad yw’n bum niwrnod. Nodwyd bod anhawster i athrawon
wrth raglennu ar gyfer plant sy’n mynd i’r ganolfan am bedwar diwrnod o drochi
ac yn dychwelyd i’r ysgol am un diwrnod yr wythnos. Amlygwyd y nodir yn Atodiad 1 bod llawer o
weithgareddau ymarferol megis chwaraeon ar ddydd Gwener yn yr ysgolion, ond
wrth holi, nodwyd nad yw hyn yn digwydd. Nodwyd bod plant yn derbyn deunyddiau
ar eu cyfrifiaduron gan y ganolfan, ond eithaf anaml mae’r uned iaith yn ymweld
i archwilio a yw’r plentyn yn iawn. Cwestiynwyd a yw hyn yn wirioneddol fuddiol
i’r plentyn sy’n cael ei drochi.
Nodwyd
bod rhai plant, wrth fynd yn ôl i’r ysgol am un diwrnod yr wythnos, yn teimlo’n
nerfus ynglŷn â’u gallu i ddilyn pethau. Cadarnhawyd bod y ffaith hon, o
ganlyniad, yn gallu arwain at athrawon yn siarad mwy trwy gyfrwng y Saesneg,
gan newid arferion ieithyddol y dosbarth yn llwyr. Mynegwyd bod hyn heb ei
fesur o gwbl yn yr ymgynghoriad. Ymhelaethwyd y credir nad oedd y cwestiynau a
ofynnwyd fel rhan o’r ymchwil yn caniatáu i bobl fynegi sylwadau ar effaith y
trefniadau ar weddill y plant na’u harferion ieithyddol. Mynegwyd bod hyn yn
fater sy’n peri pryder.
Mewn
ymateb, cadarnhawyd bod y gwerthusiad o’r gyfundrefn yn rhoi ffocws clir ar
integreiddio’r diwrnod pontio’n ôl i’r prif lif. Nodwyd bod staff yr ymchwil
wedi dilyn y plant yn ystod yr wythnos gyntaf yn yr unedau trochi, ac ar y Dydd
Gwener, gan hefyd arsylwi diwedd cyfnod y plant ar y cwrs er mwyn cymharu lefel
eu hyder. Ymhelaethwyd bod y tîm wedi dilyn y plant yn y prif lif i asesu
effaith y pontio arnynt, faint o ddefnydd iaith sydd ganddyn nhw yn yr ysgolion
a beth yw’r effaith ar yr ysgolion.
Dymunwyd
gweld unrhyw ddogfennau perthnasol ynglŷn â sut y penderfynwyd cwtogi’r
dyddiau trochi.
Mynegwyd
siom ynglŷn â’r sylwadau a fynegwyd am y newidiadau i’r drefn addysg
drochi. Nodwyd er bod ystyriaethau cyllidol yn berthnasol i bob gwasanaeth,
llwyddwyd i ddenu llawer mwy o gyllid nag a fuddsoddwyd yn y gwasanaeth hwn.
Amlygwyd mai’r prif reswm dros adolygu’r drefn oedd nad oedd wedi newid ers ei
sefydlu yn 1984, a’i bod erbyn hyn wedi dyddio ac yn aneffeithlon. Croesawyd yr
adolygiad hwn a mynegwyd gobaith y bydd yn dangos y ffordd ymlaen ac yn cyfarch
y sylwadau negyddol. Tanlinellwyd barn y bydd y ffordd newydd yn llawer mwy
effeithiol.
Mynegwyd
y farn gan un aelod nad oedd trochi 80% o’r amser yn ddigonol, a’u bod yn credu
ein bod yn cymryd cam yn ôl wrth ganiatáu hynny. Cyfeiriwyd at yr holiadur i
rieni a’r cwestiynau, gan nodi bod yr Adran Addysg yn chwilio am atebion i
gyfiawnhau’r hyn y mae’r Cyngor eisiau ei wneud, heb fod hynny’n gwbl
wrthrychol. Mynegwyd siom bod athrawon yn gorfod ymdopi â mwy o bwysau gwaith
ar ddydd Gwener.
Nodwyd,
mewn ymateb, nad yw’r trochi’n gyfan gwbl llwyr beth bynnag, gan fod plant
gartref dros y penwythnos. Tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o ysgolion yng
Ngwynedd yn cynnwys canran uchel o blant sy’n defnyddio Saesneg ar iard yr
ysgol, ac nad ydynt yn blant sy’n mynd i’r canolfannau trochi’n unig.
Derbyniwyd y pwynt bod rhyddhau plant o’r canolfannau trochi ar ddydd Gwener yn
gallu bod yn anghyfleus i athrawon, yn enwedig o gofio’r llwyth gwaith sydd
ganddynt. Mynegwyd gwerthfawrogiad tuag at athrawon sy’n barod i addasu
cynlluniau a gwaith ar gyfer lefelau gwahanol o allu plant. Mynegwyd awydd i
dderbyn yr adroddiad fel bod modd ystyried y mater mewn modd gwyddonol. Nodwyd
pryder ynglŷn â’r naws a fynegwyd mewn perthynas â’r newidiadau, gan bwysleisio’r
rôl bwysig sydd gan gymorthyddion o fewn canolfannau trochi.
PENDERFYNWYD
1. Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau.
2. Bod y Pwyllgor yn
craffu Cynllun Gweithredu Argymhellion Gwella’r Gyfundrefn Addysg Drochi yng
nghyfarfod 10 Ebrill 2025.
Dogfennau ategol: