Agenda item

I cyflwyno gwybodaeth am y drefn ymgysylltu yng nghyd- destun y Polisi Iaith Addysg newydd, ac yna adrodd ar ganfyddiadau’r ymgysylltu.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Bod y Pwyllgor yn craffu’r Polisi Iaith Addysg Drafft a’r Strategaeth i gefnogi gweithredu’r polisi yng nghyfarfod 10 Ebrill 2025.
  3. Gofyn am gopi o gofnodion perthnasol y cyfarfodydd ymgysylltu.
  4. Gwahodd aelodau’r Pwyllgor Iaith i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ar gyfer yr eitem.

 

Cofnod:

Adroddodd yr Aelod Cabinet Addysg fod yr adroddiad hwn wedi’i gyflwyno mewn ymateb i gais gan aelodau’r Pwyllgor i dderbyn adroddiad am y drefn ymgysylltu yng nghyd-destun y Polisi Iaith Addysg newydd. Nodwyd bod yr adroddiad yn crynhoi’r drefn ymgysylltu mewn perthynas â Pholisi Iaith Addysg.

 

Gosodwyd y cyd-destun gan nodi bod Gwynedd yn awdurdod lleol â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a’r ganran uchaf o bobl ifanc sy’n cael addysg drwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog. Nodwyd bod newidiadau ieithyddol yn y sir, ynghyd â dylanwad Llywodraeth Cymru ar addysg yng Nghymru, yn ei gwneud hi’n amserol adolygu Polisi Iaith Addysg Cyngor Gwynedd, a thrafod pa elfennau sy’n gweithio’n dda a pha newidiadau neu addasiadau allai fod eu hangen.

 

Esboniwyd bod yr Adran Addysg wedi mynd ati yn yr adroddiad i egluro’r  drefn a’r broses. Nodwyd bod nifer o sesiynau ymgysylltu wedi’u cynnal gydag ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ym mhob rhan o’r sir, a hynny mewn ardaloedd â gwahanol ganrannau siaradwyr Cymraeg. Cynhaliwyd cyfarfod ymgysylltu ar gyfer cynrychiolwyr megis Cylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol yr Iaith a RHAG (Cymdeithas Rhieni ac Athrawon dros Addysg Gymraeg). Nodwyd ymhellach bod cynrychiolaeth o aelodau’r Pwyllgor hwn, y Pwyllgor Iaith a Fforwm Llywodraethwyr Gwynedd hefyd wedi bod yn rhan o’r broses.

 

Mynegwyd mai’r bwriad yw creu Polisi Iaith cadarn ac addas i amgylchiadau Gwynedd, gan sicrhau bod modd adeiladu arno a’i ddatblygu yn y dyfodol. Nodwyd bod y gwir sefyllfa’n dangos bod yna lithriad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc yn y sir. Nodwyd ymhellach bod angen atal hynny a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

 

Adroddodd Meirion Prys Jones (Ymgynghorydd) bod 29 o sgyrsiau wedi’u cynnal yn ystod y broses ymgysylltu ym mis Hydref, 2024 gydag ystod eang o gynrychiolwyr o’r maes addysg a rhieni. Nodwyd, yn sylfaenol, bod 10 cwestiwn i’w gofyn yn ystod y trafodaethau, ond bod cyfranogwyr yn rhydd i fynegi barn ar unrhyw fater yn ymwneud â Pholisi Iaith Addysg Gwynedd a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer y dyfodol. Mynegwyd bod ymateb adeiladol a phositif wedi dod i law gan bob cyfranogwr, yn enwedig gan y disgyblion eu hunain.

 

Nodwyd mai prif gasgliadau’r ymgysylltiad yw bod y Polisi Iaith yn gweithio’n dda ac yn arwain at lwyddiant. Nodwyd bod pawb yn cefnogi’r Polisi Iaith, er nad oedd neb wedi’i ddarllen yn ddiweddar, gan arwain at fwy o ‘ethos’ a theimlad fod Polisi Iaith da’n bodoli, ond heb sicrwydd llwyr ynghylch beth sydd ynddo.

 

Amlygwyd bod hyn yn arwain at ddehongliad ac at weithredu gwahanol ar y Polisi Iaith o ysgol i ysgol, yn enwedig ymhlith ysgolion uwchradd. Nodwyd fod gwahaniaeth amlwg rhwng y sector cynradd a’r uwchradd, gyda’r Polisi’n gadarn yn y cynradd ond yn fwy amrywiol yn yr uwchradd. Ymhelaethwyd bod teimlad ymhlith y sector cynradd fod y sector uwchradd yn eu siomi o ran cynnal Cymreictod plant, gan nad yw hynny’n parhau’n ddigonol pan fyddant yn cyrraedd yr uwchradd.

 

Adroddwyd mai’r prif gasgliad yw bod angen Polisi Iaith cryno, clir a chadarn, a fydd yn nodi’n eglur beth sydd angen ei gyflawni, a bod angen monitro hynny wrth iddo fynd rhagddo.

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd yn manylu ar y sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd gan Sian Eurig (Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd) a Meirion Prys Jones. Nodwyd bod yr adborth canlynol wedi’i dderbyn o’r sesiynau ymgysylltu ynghylch y Polisi Iaith presennol:

 

-           Bod cefnogaeth i’r Polisi Iaith ac awydd i’w ddiwygio ar draws y sir.

-           Bod dim adborth penodol am sut i ddiwygio’r Polisi.

-           Bod teimlad o falchder tuag at y Gyfundrefn Addysg Drochi.

-           Bod awydd cryf am newid, gan fod teimlad fod y Polisi’n perthyn i gyfnod pan oedd y Gymraeg yn gryfach yn y sir, ac felly wedi dyddio.

-           Bod angen esblygu’r Polisi, nid chwyldro llwyr.

 

Tanlinellwyd y prif negeseuon a godwyd:

 

-           Bod canmoliaeth i’r sector cynradd am gynnal y Gymraeg.

-           Bod teimlad cyffredinol o lithriad pan fydd disgyblion yn symud o’r cynradd i’r uwchradd.

-           Bod y cwestiwn wedi codi ynghylch ehangu capasiti Unedau Addysg Drochi.

-           Bod llais dysgwyr o blaid y Polisi.

-           Bod anghysondeb ymhlith ysgolion uwchradd o ran gweithredu’r Polisi, a dymuniad i’w gysoni.

-           Bod Ysgolion Friars a Thywyn wedi’u crybwyll sawl gwaith, gan danlinellu’r angen i gynllunio’n strategol dros amser i sicrhau polisi effeithiol sy’n cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

-           Bod angen gwell perchnogaeth gan yr ysgolion a mwy o atebolrwydd gan y Cyngor, gan fod galwad gryf am gryfhau grym yr Adran Addysg i fonitro hyn.

 

Amlygwyd prif themâu’r sesiynau ymgysylltu o ran y Polisi ei hun, yr angen am hyfforddiant, yr her o allu recriwtio i wireddu’r Polisi a’r angen i edrych yn ofalus ar ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg a rôl y gymdeithas ehangach i gynnal hynny.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Mynegwyd bod ymdeimlad ymysg yr aelodau etholedig o’r Pwyllgor Iaith a’r Pwyllgor Craffu nad yw’r Polisi presennol yn cynnig gwarchodaeth ddigonol i ddiogelu’r Gymraeg yn y sir. Nodwyd mai’r prif wendid yw nad yw’n bolisi sy’n cynnal defnydd iaith, heb sôn am gynyddu hynny, yng ngoleuni’r newidiadau demograffig. Nododd yr aelod ei fod yn weddol gadarn ei farn am y gwendid o ran dilyniant o un cyfnod addysg i’r llall, a cyfeiriwyd at yr angen am atebolrwydd i weithredu’r Polisi a monitro’i weithrediad. Cyfeiriwyd at ddiffyg gweledigaeth yng nghyswllt targedau’r sir i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dilyn pynciau TGAU ac uwch fel a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA), gan nodi y gallai monitro’r Polisi’n ofalus fod yn fodd o weld cynnydd dros amser.

 

Nodwyd bod rhai yn credu y dylai’r Polisi Iaith Addysg fod yn bolisi sy’n cyfeirio at y Gymraeg yn unig. Ymhelaethwyd y gallai hynny gefnogi penaethiaid, yn enwedig wrth wynebu ceisiadau gan rieni i newid cyfrwng pynciau ar ddiwedd Blwyddyn 9. Holwyd a ddylid ystyried cynnwys cyfeiriad at sut i sicrhau gweithlu digonol o fewn y Polisi, a’r angen i gyflwyno manteision a phwysigrwydd dwyieithrwydd, gan y bydd hynny’n cyfrannu at sicrhau gweithlu digonol yn y sir yn y dyfodol.

 

Nodwyd, o ran Ysgolion Friars a Thywyn, fod cytundeb y dylai Polisi Iaith Addysg Gwynedd fod yn bolisi cynhwysfawr, gan gynnwys yr ysgolion hyn, ond gyda chynlluniau clir i arwain unrhyw newid yn llwyddiannus. Ymhelaethwyd bod ymwybyddiaeth o heriau daearyddol yn Nhywyn o ran recriwtio, a’r angen i gynllunio’n fwy strategol tuag at newid.

 

Amlygwyd nad oedd unrhyw awgrym na datrysiad pendant ynghylch sut y dylai unrhyw bolisi diwygiedig edrych, petai’n cael ei addasu. Mynegwyd mai’r neges glir yw bod angen newid, a bod angen Polisi sy’n sicrhau caffael iaith ac sy’n gorseddu’r iaith lafar oddi mewn iddo.

 

Holwyd sut y gellid llwyddo i gadw cymunedau mor Gymraeg â phosibl ledled y sir, a nodwyd fod angen strategaeth i geisio dylanwadu’n gadarnhaol ar rieni i hybu ac annog plant i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol a thu hwnt. Nodwyd, yng nghyd-destun categoreiddio ysgolion, fod sylwadau am yr angen i sicrhau dealltwriaeth o’r diffiniadau er mwyn cael gwaelodlin gadarn i unrhyw bolisi, ac i’r Cyngor ystyried beth arall ellir ei gyflawni o fewn y diffiniadau hynny.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad. Mynegwyd balchder ar ran cynrychiolwyr o’r Pwyllgor a’r Pwyllgor Iaith am gael cyfle i roi mewnbwn. Nodwyd mai argraff gyntaf yr aelodau oedd y byddent yn rhan o greu’r Polisi newydd ond yn y cyfarfod, deallwyd nad hyn oedd y bwriad. Mynegwyd bodlonrwydd fod crynodeb wedi’i wneud o’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod ymgynghori, gan ofyn a fyddai’n bosibl cyhoeddi’r cofnodion hyn yn gyhoeddus a’u hatodi i’r adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor fel bod modd gweld y sylwadau.

 

Amlygwyd barn nad oedd yr ymgynghori a wnaed gyda’r ysgolion cynradd yn cynrychioli’n ddigonol yr ysgolion yn yr ardaloedd mwyaf Cymraeg yn Arfon, Meirionnydd a Dwyfor.

 

Nodwyd fod gofyn cael strategaethau gwahanol ar gyfer ysgolion Dalgylch Tywyn ac ardal Meirionnydd yn gyffredinol, gan fod yr ysgolion hynny’n dymuno bod yn fwy uchelgeisiol, gan eu bod wedi’u hadnabod o ddifri fel categori un o’r categorïau cyfredol. Mynegwyd, wrth lunio un strategaeth ar gyfer pob ysgol, nad oes modd caniatáu i rai ysgolion fod mor uchelgeisiol ag y gallent fod.

 

Cyfeiriwyd at yr adroddiad a oedd yn nodi’r casgliad bod angen “esblygu’r polisi” yn hytrach na chwyldro. Tanlinellwyd bod hyn yn cyd-fynd â’r pwynt nad yw pobl yn ymwybodol o’r polisi cyfredol ac yn teimlo nad yw’n ddigon clir. Mynegwyd bod hynny’n arwydd bod angen ailwampio’r Polisi Iaith yn llwyr, nid ei esblygu’n raddol. Nodwyd, yn ystod y sesiwn ymgynghori gyda Meirion Prys Jones, fod sylwadau pendant wedi’u cyflwyno ynglŷn â geiriad y polisi.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd:

 

-           Bodlonrwydd i gynnwys cofnodion y sesiynau ymgysylltu i’r cyfarfod nesaf.

-           Bod y sesiynau sy’n cael eu cyfeirio atynt yn rhai ymgysylltu, gyda’r bwriad o dynnu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib at ei gilydd.

-           Bod y wybodaeth o’r sesiynau ymgysylltu’n cael ei defnyddio i lunio’r Polisi Iaith, a wedyn bydd ymgynghori arno.

-           Bod yr ysgolion wedi’u dewis er mwyn sicrhau croestoriad o’r ysgolion yng Ngwynedd.

-           Ei fod wedi bod yn her i gael penaethiaid i fynychu cyfarfodydd  ymgysylltu. Felly, bod cais wedi’i wneud i’r ffederasiwn i ofyn iddynt ddod â’u dalgylchoedd at ei gilydd i benderfynu pwy fyddai’n eu cynrychioli.

-           Bod pob pennaeth wedi cael cyfle i fynegi barn o fewn eu dalgylchoedd, ac yna bod cynrychiolydd wedi cyflwyno’r safbwyntiau hynny yn y cyfarfodydd ymgysylltu.

 

Cyfeiriwyd at erthygl Golwg 360 a oedd wedi ei gynnwys yn y rhaglen fel Atodiad 3, sy’n awgrymu bod llai o le i addysg a mwy o le i bethau eraill, ond wrth ddarllen yr erthygl mae’n ymddangos ei bod yn cyfeirio at Gymru yn gyffredinol, nid ardaloedd sy’n gadarnleoedd ieithyddol fel Gwynedd. Mynegwyd bod cynnwys yr erthygl yn awgrymu bod penderfyniad wedi’i wneud ymlaen llaw. Mynegwyd barn na ddylai’r erthygl fod wedi ei gynnwys.

 

Cyfeiriwyd at sylwad yn y cyflwyniad ynglŷn â rôl ehangach y gymdeithas i gynnal y Gymraeg, sy’n gyson â’r penderfyniad i gynnwys yr erthygl. Nodwyd bod dealltwriaeth fod sawl elfen ynghlwm â chynnal y Gymraeg, nid addysg yn unig, ond gan ein bod yn trafod Polisi Iaith Addysg, mae angen canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ddylanwadu arno fwyaf. Nodwyd bod ganddynt rym absoliwt bellach ynghylch y Polisi Iaith, ond nad oes ganddynt rym tebyg dros elfennau eraill a grybwyllwyd. Mynegwyd pryder ynghylch gorddefnyddio geiriau fel “balchder” ac “agweddau,” gan nodi bod angen canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl yn ei wneud, ac nid ar eu hagweddau yn unig. Nodwyd bod angen mwy o ddewrder yn y maes hwn.

 

Mewn ymateb, mynegwyd anghytundeb â thermau fel “grym absoliwt,” gan nad yw’r Adran Addysg yn gorfodi plant i siarad unrhyw iaith. Nodwyd bod meithrin agwedd bositif ymhlith plant a rhieni tuag at y Gymraeg yn bwysig i’w hybu i ddewis addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymhelaethwyd bod cynlluniau’n mynd rhagddynt yn ardal Bro Dysynni a Bangor er mwyn meithrin agwedd bositif ymysg plant a rhieni at y Gymraeg. Derbyniwyd bod angen cyfuno agwedd bositif â pholisi cryf a chadarn. Nodwyd bod rôl gan yr Adran Addysg i feithrin dinasyddion cydwybodol a byd-eang. Nodwyd nad oedd bwriad llywio barn neb drwy gynnwys yr erthygl, a’i bod wedi’i chynnwys er mwyn dangos cyd-destun yn unig.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad gan ESTYN sy’n nodi bod prinder athrawon mewn sawl maes, gan gynnwys Cymraeg. Nodwyd bod ysgolion fel Tywyn yn cael anhawster cael athrawon i ddysgu meysydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly’n dibynnu ar athrawon Saesneg i lenwi’r swyddi. Cwestiynwyd beth mae’r adroddiad yma’n mynd i’w wneud am hyn. Cwestiynwyd a fydd y sefyllfa hon yn peri i rai plant beidio â siarad Cymraeg o gwbl.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

 

-           Bod problem recriwtio yn her gynyddol a chenedlaethol.

-           Bod gwaith yn digwydd gydag ysgolion trosiannol i sicrhau bod y gweithlu’n cael mynediad at wersi Cymraeg, a’u cefnogi i gyflwyno pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

-           Bod y tîm yn edrych ar ddadansoddiad o lefel ieithyddol y gweithlu yn yr ysgolion trosiannol, a’u bod yn cydweithio gyda’r Athrofa Genedlaethol i deilwra a darparu cyrsiau gloywi, cyrsiau codi hyder a chyrsiau Cymraeg o’r cychwyn i ddechreuwyr.

-           Bod athrawon o’r ysgolion trosiannol wedi ymgeisio am gyrsiau sabothol i ddysgu Cymraeg.

 

Mewn ymateb i sylw bod Ysgol Friars wedi ei eithrio, cadarnhawyd nad oedd Ysgol Friars wedi ei eithrio o weithredu yn unol â’r Polisi Iaith. Ymhelaethwyd y bydd yna Bolisi Iaith ar gyfer y sir gyfan, gan gydnabod sefyllfaoedd gwahanol rhai ysgolion fel Friars a Thywyn o fewn y Polisi, a chreu cynllun gwahanol ar gyfer y Gymraeg yn y ddwy ysgol hon ac un arall. Nodwyd bod awgrym gan rai cyfranogwyr yn y cyfarfodydd ymgysylltu a oedd yn adlewyrchu’r farn honno.

 

Mynegwyd siom mai dim ond rhagflas o wybodaeth yw’r adroddiad hwn. Cytunwyd bod cynnwys yr erthygl wedi rhoi gogwydd anffodus ar y drafodaeth. Mynegwyd ansicrwydd ynghylch cael strategaeth unigol i wahanol ysgolion. Nodwyd yr angen gwirioneddol i fonitro’r Polisi Iaith yn y dyfodol. Mynegwyd pryder ynghylch y term ‘gorseddu iaith lafar’, gan nad yw’n golygu dim ond un rhan o’r darlun. Pwysleisiwyd bod hwn yn Bolisi Iaith Addysg a bod plant ond yn cael un cyfle i ennill gafael ar y Gymraeg yn iawn, ac felly mae angen cyflwyno iaith o ansawdd uchel i feithrin perthnasedd a balchder. Mynegwyd nad oedd dim o hyn yn dod i’r amlwg o’r rhagflas o’r Polisi Iaith newydd. Nodwyd nad oes amser i gael esblygiad graddol. Mynegwyd gobaith y byddai’r Polisi Drafft yn fwy addawol na’r hyn a gyflwynwyd i’r cyfarfod.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

 

-           Mai un Polisi Sirol fydd y Polisi Iaith newydd, gyda manylder a chynlluniau unigol ar gyfer pob ysgol.

-           Nad yw’r  Polisi yn gwahaniaethu, a bod yr awydd a’r uchelgais yr un fath i’r Sir, ond y bydd cynlluniau unigol i’r ysgolion, fel y gallant ddangos dros amser sut maent yn cyflawni’r Polisi.

-           Bod monitro yn mynd i fod yn allweddol i weithredu’r Polisi, a bod diffyg monitro wedi’i adnabod fel gwendid yn yr ymgysylltu.

-           Mai aelod etholedig wnaeth y sylw ynglŷn â ‘gorseddu iaith lafar’.

 

Holwyd a fwriedir rhoi sylw penodol i ddulliau monitro. Cwestiynwyd a fyddai gan yr ysgolion hawl i osod targedau gwelliant eu hunain o fewn y cynlluniau unigol a llunio Polisi Iaith unigol.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

 

-           Nad yw’r Polisi Iaith, yn ei ffurf bresennol, yn Bolisi y mae’r Adran yn gallu mynnu i ysgolion ei ddilyn, ond y bydd y Polisi Iaith newydd yn orfodol.

-           Bod angen rhoi cynllun unigol i helpu’r ysgolion gyrraedd targedau a’u monitro yn erbyn hynny.

-           Bod angen gosod yr uchelgais o fewn y Polisi, nodi’n glir beth yw’r cynlluniau, cael cynlluniau i gefnogi ysgolion i gyrraedd y nod a monitro bod ysgolion yn cadw at y cynlluniau strategol.

-           Bod y mater hwn wedi dod gerbron y Pwyllgor er mwyn adrodd ar ble y cyrhaeddwyd yn y broses ac i fod mor dryloyw â phosibl.

 

Ategwyd y pwynt a wnaed ynglŷn â chael mynediad at gofnodion y cyfarfodydd ymgysylltu.

 

Mynegwyd cefnogaeth i gryfhau’r Polisi hwn. Pwysleisiwyd bod defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn hollbwysig. Nodwyd bod cyfrifoldeb ar y Cyngor i gryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Nodwyd bod cyfrifoldeb ar bawb o ran defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, gan gynnwys unigolion ac aelodau etholedig, i gefnogi dysgwyr y Gymraeg mewn cymunedau a magu agwedd gadarnhaol. Nodwyd ymhellach fod gan bobl sy’n magu plant, neu’n ymwneud â phlant, gyfrifoldeb i wahodd plant o gefndiroedd di-Gymraeg i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden gyda phlant sy’n siarad Cymraeg.

 

Cwestiynwyd os oes gwersi wedi’u dysgu o’r peilot ym  Mangor sy’n ymwneud â phontio’r Cynradd a’r Uwchradd a allai ein helpu i wneud y pontio’n fwy llwyddiannus.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

 

-           Adnabuwyd bod yna ysgolion yn nalgylch Bangor a Thywyn yn benodol lle mae iaith y plant yn syrthio i lefel C1, hynny yw, bod eu Saesneg yn gryfach na’u Cymraeg.

-           Yn cydweithio â chwmni’r Frân Wen i roi cyfleoedd i blant ddefnyddio’u Cymraeg a chael hyder yn eu Cymraeg ar lafar o fewn y prosiect ym Mangor a Thywyn.

-           Bod y prosiect hwn wedi mynd o nerth i nerth dros y drydedd flwyddyn.

-           Bod ysgolion yn adrodd bod y plant yn datblygu hyder yn y Gymraeg a’u bod hefyd yn gweld hwb Cwmni’r Frân Wen yn Nyth ym Mangor fel canolfan y tu allan i oriau ysgol i ddefnyddio’u Cymraeg.

-           Bod yr adborth o’r peilot yn gadarnhaol iawn.

-           Bod gobaith parhau ac ymestyn y cyfleoedd hyn er mwyn sicrhau dilyniant a chynnal continwwm iaith, fel na fydd llithriad.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad a mynegwyd  gobaith gweld y cofnodion llawn o’r sesiynau ymgysylltu. Nodwyd nad oedd dim byd annisgwyl wrth weld y prif gasgliadau. Mynegwyd gobaith y bydd crynhoad o awgrymiadau personol Meirion Prys Jones fel arbenigwr caffael iaith ynglŷn â’r ffordd orau i fwrw ymlaen â chreu Polisi Iaith yng Ngwynedd.

 

Mynegwyd bod Polisi Iaith Addysg Gwynedd yn wan oherwydd bod Ysgolion Friars a Thywyn o fewn y Polisi Iaith, ond bod neb yn dilyn pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg, heblaw am Gymraeg ei hun. Nodwyd bod y ffaith bod y Polisi’n caniatáu hynny yn dangos pa mor wan ydyw. Ymhelaethwyd bod y Polisi’n dyddio’n ôl i ddyddiau’r hen Gyngor Gwynedd, ac nad yw wedi newid llawer ers hynny, a’i hanfod yw, os nad yw rhywun yn teimlo’n abl i wneud pethau drwy’r Gymraeg, does dim rheidrwydd iddynt wneud hynny.

 

Mynegwyd gyda’r holl ymgynghori bod tuedd i golli golwg ar y pwynt dan sylw, sef cryfhau Polisi Iaith Addysg Gwynedd mewn ardal lle mae’r iaith yn dal yn fyw ac yn gryfach nag mewn rhannau eraill o Gymru. Ymhelaethwyd bod angen ceisio’i gryfhau gymaint â phosibl, a bod angen newid llwyr. Nodwyd bod Gwynedd yn meddu ar y demograffeg a’r adnoddau staffio i gyflwyno’r newid hwn – dewrder sydd ei angen.

 

PENDERFYNWYD

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Bod y Pwyllgor yn craffu’r Polisi Iaith Addysg Drafft a’r Strategaeth i gefnogi gweithredu’r polisi yng nghyfarfod 10 Ebrill 2025.

3.         Gofyn am gopi o gofnodion perthnasol y cyfarfodydd ymgysylltu.

4.         Gwahodd aelodau’r Pwyllgor Iaith i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ar gyfer yr eitem.

 

Dogfennau ategol: