Agenda item

I adrodd ar y gwaith o lunio Cynllun Economi newydd i Wynedd, gan wahodd mewnbwn yr Aelodau ar gynnwys yr adroddiad hwn ac ar faterion pellach y credir y dylid eu hystyried wrth greu’r Cynllun.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Bod y Pwyllgor yn craffu Cynllun Economi Gwynedd Drafft pan yn amserol yn ystod 2025/26.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned i’w gyfarfod cyntaf o’r pwyllgor craffu ac fe’i longyfarchwyd ar ei benodiad.  Croesawyd y Pennaeth Economi a Chymuned a’r swyddogion i’r cyfarfod hefyd.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet yn gwahodd mewnbwn yr aelodau ar y cynnwys ac ar faterion pellach y credir y dylid eu hystyried wrth greu Cynllun Economi Gwynedd.

 

Nododd yr Aelod Cabinet ar y cychwyn fod yr eitem hon yn dilyn ymlaen o’r drafodaeth yng nghyfarfod y pwyllgor craffu ar 25 Ionawr 2024 ynglŷn â gweithredu’r Prosiect Datblygu Economi Gwynedd.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cadeirydd ar gychwyn y cyfarfod, eglurodd y Pennaeth Economi a Chymuned:-

           Ei bod yn deg dweud, pan gyflwynwyd yr adroddiad llynedd, y disgwylid bod mewn sefyllfa reit wahanol erbyn hyn.

           Mai’r gobaith hydref diwethaf, pan gafwyd trafodaeth yn y Tîm Arweinyddiaeth, oedd y byddai dogfen wedi’i chwblhau erbyn hyn i gael ei chraffu.  Nid oedd hynny wedi digwydd, er bod llawer o waith wedi digwydd.

           Bod angen mynd yn ôl i’r Tîm Arweinyddiaeth, a chredid bod mantais cael mewnbwn y pwyllgor hwn heddiw i’r egwyddorion a’r cyfeiriad fel bod y ddogfen fydd yn cael ei chyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth yn ymgorffori sylwadau’r craffwyr.

           Nad oedd drafft o’r ddogfen orffenedig yn barod heddiw gan fod yr Adran wedi ail-raglennu gwaith ers yr hydref.  Roedd hynny wedi digwydd am sawl rheswm, gan gynnwys ail-gychwyn gosod cyfeiriad newydd yn sgil penodi Aelod Cabinet newydd ac ail-gynllunio blaenoriaethau gwaith i ymdopi â blwyddyn ychwanegol o waith yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn y Gronfa Ffyniant Bro am flwyddyn ychwanegol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad gan nodi:-

           Bod cadarnhad Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) y bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn parhau am flwyddyn bellach i 2025/26 i’w groesawu, ond y gellid bod yn sicr y bydd y tirlun ariannol yn newid unwaith eto ar ôl Ebrill, 2026.  O ganlyniad, roedd y gofyn i’r Cyngor hwn ystyried ei flaenoriaethau economaidd yn parhau.

           Y byddai sicrhau dogfen sy’n datgan ein dyhead yn glir hefyd yn arf pwysig i ddylanwadu ar y trafodaethau gan y ddwy lywodraeth o fewn Rhanbarth y Gogledd.

           Mai bwriad yr adroddiad gerbron oedd crynhoi’r negeseuon sydd i law a derbyn sylwadau ac adborth gan y craffwyr cyn symud ymlaen i gwblhau llunio Cynllun Strategol Datblygu’r Economi a’i fabwysiadu yn y flwyddyn ariannol newydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Mynegwyd y farn ei bod yn anodd craffu ar adroddiad cynnydd a bod yr aelodau wedi gobeithio craffu drafft o Gynllun Economi Gwynedd yn y cyfarfod hwn.  Nodwyd na ellid bod yn siŵr a fyddai yna gyfle arall i’r pwyllgor hwn graffu’r cynllun cyn iddo fynd i’r Cabinet ym mis Ebrill.  Pwysleisiwyd ei bod yn hollbwysig i Wynedd gael strategaeth lefel uchel gyda’r newidiadau tebygol yn y rhaglenni ariannu.  Er hynny, nodwyd y cydnabyddid bod yna waith da iawn wedi’i wneud mewn rhai meysydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

           Y cytunid ei bod yn bwysig cael dogfen sy’n adnabod yn glir beth yw blaenoriaethau Gwynedd fel sir fel bod modd ei defnyddio i ddylanwadu a thargedu arian i’r dyfodol.

           Bod pawb wedi disgwyl y byddai’r arian i gyd wedi dod i ben ar 1 Ebrill 2025 a bod angen y ddogfen eleni.  Fodd bynnag, roedd ymestyn yr arian am flwyddyn ychwanegol yn golygu bod rhaid i’r staff ymdopi â chynllunio’r gwaith o baratoi’r ddogfen ochr yn ochr â rhedeg rhaglen ariannu newydd ar gyfer 2025/26.

           Y gobeithid gallu dod â dogfen ddrafft i’r pwyllgor i’w chraffu yn y misoedd nesaf.  Anelid at gael dogfen wedi’i chytuno yn 2025/26 fel ei bod mewn lle i ddylanwadu ar raglenni 2026/27.

 

Holwyd a fyddai yna gyfle i’r pwyllgor hwn graffu’r drafft o’r Cynllun Economi cyn iddo fynd gerbron y Cabinet.  Mewn ymateb, nodwyd y credid ei bod yn hanfodol gwneud hynny.  Fodd bynnag, gan fod bwriad i gyflwyno’r ddogfen ddrafft i’r Cabinet ar yr 8fed o Ebrill a bod y pwyllgor hwn ddim yn cyfarfod eto tan y 10fed o Ebrill, awgrymwyd o bosib’ y byddai’n rhaid symud yr eitem Cabinet yn ei blaen. 

 

Nodwyd y dylid ystyried goblygiadau’r holl newidiadau sy’n digwydd yn y byd amaeth ar y funud a phwysigrwydd y maes i Wynedd. Mynegwyd yr angen i’r Adran fod mewn cysylltiad â’r undebau amaeth yng Nghymru.  Pwysleisiwyd bod goblygiadau’r newidiadau yn enfawr i gefn gwlad Gwynedd ac yn bellgyrhaeddol hefyd i fusnesau gwledig sy’n ddibynnol ar y byd amaeth.  Mewn ymateb, nodwyd:-

           Bod y dadansoddiad o’r economi yn dangos gwerth a phwysigrwydd amaethyddiaeth ac y byddai angen i’r Cynllun Economi roi sylw i’r newidiadau a’r bygythiadau sy’n wynebu’r sector.

           Nad oedd trafodaethau wedi’u cynnal hyd yma gyda’r undebau amaeth, ond o ran y sector bwyd amaeth yn ehangach, y byddai’r Cynllun Economi yn cyfarch prosiectau blaenoriaeth sy’n cael eu cynllunio, megis Hwb Economi Wledig Glynllifon.

           Bod y ddogfen gychwynnol yn manylu ar broffil yr economi a pha rannau o’r economi sy’n bwysig er mwyn gallu adnabod risgiau a lle mae angen twf yn yr economi.

           O ran ymgysylltu’n ehangach, y cynhaliwyd trafodaethau gyda phartneriaid strategol y Cyngor, megis Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai a chyrff sy’n cynrychioli busnesau, megis Ffederasiwn y Busnesau Bach, o ran darparu cefnogaeth i fusnesau yn y sir.

           Bod yr Arolwg Busnes y cyfeirir ato ym mharagraff 5.1 o’r adroddiad yn ymarferiad a wnaethpwyd llynedd i ymgysylltu gyda busnesau yn y sir, ac y derbyniwyd 130 o ymatebion i’r arolwg.

           Mai pwrpas yr ymarferiad oedd adnabod beth yw bwriadau ac amcanion y busnesau dros y cyfnod o’u blaenau, yr heriau sy’n eu hwynebu a’r cyfleoedd y dymunent fanteisio arnynt, fel bod modd gweld oes bwriad ganddynt i dyfu, neu ydyn nhw’n darogan y byddent yn crebachu.

           Mai heriau recriwtio yw un o’r prif heriau sy’n wynebu’r busnesau.  Roedd hynny’n adlewyrchu tueddiadau ehangach o ran demograffi yn y sir, ac roedd yr Adran yn fyw iawn i’r rheini yn yr adroddiad.

           Bod negeseuon hefyd yn cael eu cyfleu, nid yn unig am hyfywedd y busnesau a sut rydym am allu ymateb i hynny, ond hefyd o ran sut y gallwn gefnogi’r busnesau hynny i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a gwelededd y Gymraeg.

           Y bwriedid ymateb i negeseuon y busnesau yn y Cynllun Economi er mwyn sicrhau cynllun sy’n addas i’r amodau mae busnesau yn eu hwynebu yn y sir.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r amserlen.  Mewn ymateb, nodwyd:-

           Nad oedd bwriad i fynd â’r Cynllun terfynol i’r Cabinet i gael ei fabwysiadu ddechrau Ebrill ac y byddai yna gyfle i’r aelodau graffu’r ddogfen ddrafft yn ystod y flwyddyn nesaf. 

           Y dymunid cael mewnbwn y craffwyr i’r trafodaethau fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn rhwng y ddwy Lywodraeth a bod yr Adran hefyd yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sicrhau bod llais awdurdodau lleol yn rhan o’r drafodaeth honno.

 

Pwysleisiwyd yr angen i roi ffocws neilltuol yn y Cynllun Economi i’r diwydiant adeiladu, yn benodol yn Nwyfor a Meirionnydd, o ystyried effaith polisïau eraill y Cyngor, megis y Premiwm Treth Cyngor, ar y diwydiant. Nodwyd hefyd y byddai’n fuddiol gwybod pa mor ddibynnol yw busnesau yn y gwahanol rannau o Wynedd ar lafur plant dibynnol (hy ieuengach nag 16), myfyrwyr ôl 16 a myfyrwyr 18-21, yn enwedig felly yn y sectorau lletygarwch a manwerthu, o gymharu ag awdurdodau eraill, yn genedlaethol ac ar lefel gwladwriaeth.  Eglurwyd bod hyn yn rhan o gwestiwn ehangach, sef diffyg gweithwyr mewn diwydiannau penodol, gan y bydd y sefyllfa yn gwaethygu dros y degawdau nesaf wrth i gyfraddau genedigaethau ostwng.  Cwestiynwyd pa mor hyfyw yw rhai o’r busnesau hyn o gwbl a chwestiynwyd faint mwy o fusnesau o’r fath y dymunir eu cael o ystyried mai’r nod yw sicrhau twf i bwrpas, ac nid twf er ei fwyn ei hun.  Mewn ymateb, nodwyd:-

           Na chredid bod y data sydd ar gael yn gwahaniaethu rhwng oed y gweithwyr.

           Bod y sefyllfa’n adlewyrchiad o ba mor dynn yw’r farchnad lafur yng Ngwynedd a bod llawer o ymdrech yn cael ei wneud drwy gynllun Gwaith Gwynedd i sicrhau bod pawb sy’n gallu gweithio yn gweithio ac i annog pobl i aros yn gynhyrchiol hefyd.

 

Holwyd a oedd yr Adran yn mynd i wrando ar ddymuniadau’r craffwyr a nodwyd y dylai’r Cynllun Economi gyfarch y materion isod:-

           Yr orddibyniaeth ar dwristiaeth sy’n gallu bod yn anwadal iawn.

           Yr angen i annog mwy o bobl i fentro mynd yn hunangyflogedig.

           Cynlluniau i ddatblygu ynni adnewyddol.

           Hyrwyddo diwydiannau gwerth uchel.  Holwyd oni ddylai’r adroddiad i’r pwyllgor fod wedi cyfeirio at adroddiad ar y pwnc yma a baratowyd tua 5 mlynedd yn ôl?

           Yr holl faes digidol, sy’n faes lle gellir denu pobl i weithio o gartref yn hunangyflogedig.

 

Nodwyd ymhellach:-

           Y teimlid ein bod yn colli cyfleoedd a bod angen strategaeth oll-gynhwysol, yn hytrach na bratiog.

           Y croesawir y sylw a roddir i’r iaith yn yr adroddiad, ond dymunir gweld lle mae twristiaeth o ran effaith ar y Gymraeg gan na chredir bod y swyddi gwerth isel iawn yn y diwydiant twristiaeth yn ychwanegu at gadw ein hiaith a’n diwylliant, ond yn hytrach yn porthi tlodi a mwy o Seisnigrwydd.

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau, nodwyd:-

           O ran y pwynt ynglŷn â siaradwyr Cymraeg o fewn y diwydiannau, bod canfyddiadau’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn adnabod y 3 diwydiant yng Ngwynedd sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg lle mae canran y siaradwyr yn uwch na’r ganran sydd yng Ngwynedd yn gyffredinol o siaradwyr Cymraeg.  Gan hynny, awgrymid bod lle o hyd i gynyddu defnydd a gwelededd y Gymraeg yn y diwydiannau eraill, megis twristiaeth.

           O ran y sylw ynglŷn â’r ystod o wahanol ddiwydiannau a pha ddiwydiannau sydd â photensial twf yng Ngwynedd, bod yr adroddiad yn disgrifio beth ydi sefyllfa’r economi heddiw.  Roedd hynny’n cynnwys twristiaeth ac amaethyddiaeth, ac yn sicr roedd lle i ychwanegu gwerth pellach o’r rheini.

           Bod yr adroddiad hefyd yn cydnabod bod lle o hyd i dyfu mewn diwydiannau newydd, megis diwydiannau creadigol a digidol, a dod ag ychydig o amrywiaeth i’r economi a chreu mwy o gyfleoedd i bobl weithio i adnabod swyddi newydd pe dymunent, ayb.

 

Awgrymwyd y gallai rhwystrau cynllunio fod yn broblem wrth geisio sefydlu busnesau newydd, a gofynnwyd i ystyriaeth gael ei roi i hynny yn y Cynllun Economi.  Nodwyd hefyd y dylid ail-edrych ar ddod â swyddi gwerth uchel i Lanbedr, ynghyd â Thrawsfynydd, yn sgil newid polisi Llywodraeth y DU.  Mewn ymateb, nodwyd:-

           Y ceisid sicrhau ffyniant a swyddi yn y sir fydd yn creu cyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf fedru aros yn eu cymunedau, a’i bod yn allweddol bwysig cael amrywiaeth o swyddi yn y sir sy’n gofyn am amrywiaeth o sgiliau gwahanol, fel nad ydym yn ddibynnol ar unrhyw un sector.

           Bod materion cynllunio yn destun trafodaeth sy’n mynd yn ôl ychydig ac y byddai’r Adran yn sicr yn cydweithio gyda swyddogion yn yr Adran Amgylchedd i drafod y manylion cyn dod yn ôl.

 

Nodwyd bod y mwyafrif o ffermwyr ifanc yn rhannau gwledig y sir ynghlwm â thwristiaeth, a heb dwristiaeth, fyddai yna ddim trefn ar amaeth chwaith.  Nodwyd ymhellach y dylai’r Gwasanaeth Cynllunio a’r Adran Economi a Chymuned gydweithio yn agosach a chyfeiriwyd at sefyllfa cwmni oedd wedi penderfynu lleoli ym Mhowys yn hytrach na De Meirionnydd gan eu bod yn derbyn mwy o gefnogaeth yno.  Mewn ymateb, nodwyd:-

           Mai prinder safleoedd addas ar ochr Gwynedd i’r ffin oedd wedi arwain at benderfyniad y cwmni dan sylw i sefydlu ym Mhowys.

           Y cydnabyddid bod yna rwystrau, ond byddai’r Cynllun yn edrych ar y dosbarthiad gofodol ar draws y sir er mwyn sicrhau bod yna gyfleoedd teg ar draws Gwynedd, yn hytrach na’u bod wedi’u cronni mewn rhai ardaloedd yn unig.

 

Nododd yr aelod ymhellach, er yn cydnabod bod prinder tir yn ffactor yn yr achos dan sylw, bod angen i’r Gwasanaeth Cynllunio fod yn fwy hyblyg, neu fel arall, bydd mwy o swyddi yn cael eu colli i Bowys.

 

Nodwyd y byddai’n fuddiol petai’r Cynllun Economi yn cyfleu rhyw fath o ddarlun o’r cyfraniadau mwy cudd mae pobl yn wneud yn eu cymunedau sy’n cyfrannu i’r economi mewn ffyrdd gwahanol i fod yn gynhyrchiol yn y farchnad lafur.  Mewn ymateb nodwyd:-

           Na roddwyd sylw i gyfraniad ehangach pobl i gymdeithas yn y Cynllun hyd yma, ond gellid edrych ar sut i ymgorffori hynny o ran y darlun ehangach.

           Bod hynny hefyd yn codi’r cwestiwn ai cynllun datblygu’r economi ydyw, neu gynllun cymunedau llewyrchus, ac o bosib’ bod angen ail-edrych ar bwrpas y Cynllun.

 

Nodwyd bod y maes economi yn hollbwysig i gymunedau Gwynedd, ond fel maes anstatudol, y byddai’n rhaid i’r Aelod Cabinet frwydo’n galed drosto yn y Cabinet yn erbyn meysydd eraill pwysig o waith y Cyngor.  

 

Croesawyd y bwriad i roi ffocws ar gadw’r swyddi da sydd gennym yn y sir yn barod wrth geisio gwneud ymdrechion recriwtio oherwydd bod y swyddi hynny yn aml yn cael eu gweld fwy fel troed nodyn mewn adroddiad neu strategaeth economaidd, yn hytrach nag yn brif strategaeth y cynllun economaidd.

 

PENDERFYNWYD

1.         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.         Bod y Pwyllgor yn craffu Cynllun Economi Gwynedd Drafft pan yn amserol yn ystod 2025/26.

Dogfennau ategol: