Dewi Morgan
(Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya ac Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r Adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid a
Phennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya.
PENDERFYNWYD
1.
Nodi a derbyn adolygiad
refeniw diwedd Rhagfyr 2024 y Bwrdd Uchelgais.
2.
Nodi a derbyn
diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.
3.
Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Nodi tanwariant a ragwelir o £205,405 yn
erbyn y gyllideb refeniw yn 2024/25. Bydd y tanwariant terfynol ar ddiwedd y
flwyddyn ariannol yn cael ei defnyddio i leihau’r swm a hawlir o’r Grant
Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Nodi llithriad pellach ar y rhaglen gyfalaf,
gydag amcangyfrif o wariant o £12.51m yn 2024/25 o’i gymharu â chyllideb
gymeradwy o £24.67m ar gyfer y flwyddyn.
TRAFODAETH
Amcanwyd bydd tanwariant o £205,000 erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.
Manylwyd ar y meysydd ble mae’r tanwariant
hynny yn deillio ohono gan egluro yr amcanwyd tanwariant o £43,000 yng
nghyllideb y Swyddfa Rheoli Portffolio gan gadarnhau mai’r prif reswm am hyn yw
bod gwir chwyddiant cyflogau oddeutu 3% o’i gymharu â 6% a amcanwyd yn
gynharach yn y flwyddyn ariannol. Ymhelaethwyd bod estyniad yng nghyllideb y
Gronfa Ffyniant Gyffredin hyd Mawrth 2025 wedi galluogi defnyddio tanwariant ar
y gyllideb ‘Cynlluniau’ er mwyn ariannu costau tri swyddog yn hytrach na gwneud
defnydd o’r gyllideb graidd. Tynnwyd sylw bod estyniad hyd at Fawrth 2025 hefyd
wedi cael ei dderbyn ar y prosiect Ynni Ardal Leol a bydd y gorwariant
perthnasol yn cael ei ariannu gan yr arian grant.
Eglurwyd hefyd y rhagwelwyd tanwariant o
£17,000 yng nghyllideb ‘Gwasanaethau Cefnogol’ yn ogystal â rhagdybio
tanwariant o £34,500 yn y gyllideb ‘Cyd-bwyllgor’.
Adroddwyd bod gorwariant net o £181,000 i’w
weld yng nghyllideb ‘Prosiectau’ gydag oddeutu £136,000 ohono yn orwariant ar
gostau cefnogaeth gyfreithiol allanol a oedd yn allweddol ar gyfer nifer o
brosiectau’r rhaglen gyfalaf. Ymhelaethwyd bod cyllideb ‘Datblygu Achosion
Busnes y prosiectau o fewn y gyllideb hon yn gorwario £86,000. Cadarnhawyd bod
cyfraniad o £152,000 gan y gyllideb ‘Prosiectau’ wedi ariannu cyfran o brosiect
Ynni Lleol Blaengar.
Cadarnhawyd bod prif ffrydiau incwm ar gyfer
y flwyddyn ariannol hon yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, dyraniad refeniw
Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, grant Ynni Llywodraeth Cymru, secondiad staff
Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ogystal
â’r gronfa ‘Prosiectau’ a'r gronfa wrth gefn.
Eglurwyd bydd y gwarged o £205,000 a ragwelir
yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cael ei ddefnyddio er mwyn
lleihau cyfraniad o’r Grant Cynllun Twf sydd ei angen ar gyfer y flwyddyn hon.
Cadarnhawyd bydd y cyfraniad hwn yn cael ei drosglwyddo i gyllideb 2025/26.
Mynegwyd balchder yr amcanwyd bydd cyfanswm o
bron i £211,000 yn y gronfa wrth gefn cyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol hon. Ymhelaethwyd nad oes arian yn y gronfa ‘Prosiectau’ ac amcanwyd
bydd £7.2miliwn yn y gronfa llog erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Tywyswyd yr aelodau drwy ddiweddariad ar
sefyllfa’r rhaglen gyfalaf gan nodi bod gostyngiad net o £12.16miliwn yn y
gwariant disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Pwysleisiwyd bod hyn yn
deillio o lithriad ar brosiectau Ynni Lleol Blaengar, Porth Caergybi a chyn
Ysbyty Gogledd Cymru yn ogystal â’r penderfyniad i dynnu prosiect Canolfan
Treuliad Anaerobig Glannau Dyfrdwy yn ei ôl. Eglurwyd bod ffigyrau hyd at
flwyddyn ariannol 2030/31 i’w gweld yn yr adroddiad ar gyfer y prosiectau
Canolfan Treuliad Anaerobig Glannau Dyfrdwy ac Ynni Carbon Isel ar hyn o bryd
er mwyn sicrhau bod arian yn cael eu clustnodi i brosiectau newydd yn y
dyfodol, gan nad oes modd cadarnhau beth fyddai’r prosiectau hynny ar hyn o
bryd, gan sicrhau bydd y wybodaeth hon yn cael ei adolygu yn y dyfodol i nodi
pa brosiectau sydd yn derbyn yr arian a glustnodwyd yma. Tynnwyd sylw bod y
gwariant ar Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol a'r Rhwydwaith Talent
Twristiaeth yn cyd-fynd gyda’r proffil cyfalaf diweddaraf.
Amlygwyd bod cynnydd yng nghostau cyfreithiol
i’w weld yn ystod y flwyddyn ariannol hon gan ystyried os yw’r ffioedd hyn yn
debygol o barhau i gynyddu’n raddol yn y dyfodol. Mewn ymateb i’r sylwadau,
cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y cynnydd
hwn mewn ffioedd cyfreithiol eleni gan gynnwys ffioedd cwmni cyfreithiol
allanol ar faterion arbenigol ynghlwm â’r prosiectau ac i ariannu cyflogau
cyfreithwyr dros dro. Cadarnhawyd y gobeithir i’r ffioedd hyn leihau dros y
misoedd nesaf wrth i wasanaeth cyfreithiol yr Awdurdod Lletya gynnal proses
recriwtio ar gyfer y rolau perthnasol. Cydnabuwyd ei fod yn bosib bydd ffioedd
cyfreithiol yn parhau i gynyddu i'r dyfodol wrth i’r angen godi i gefnogi
niferoedd uwch o achosion busnes prosiectau fel maent yn cael eu cymeradwyo.
Dogfennau ategol: