Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones
Ystyried yr adroddiad, a gwneud argymhelliad ar Gynllun i geisio cadw
toiledau cyhoeddus, sydd dan fygythiad o gau oherwydd y toriadau, yn agored a
gweithredol i’r dyfodol.
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd
yn argymell cynllun i geisio cadw'r toiledau
cyhoeddus hynny sydd o dan fygythiad o gau, yn agored a gweithredol i’r
dyfodol. Cyfeiriwyd at ymarferiad Her Gwynedd lle bu i’r Cyngor, yn ei gyfarfod
ar y 3ydd o Fawrth 2016, argymell gwneud toriadau
oedd yn cynnwys ‘cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y Sir’ gan dorri
£244,000 o’r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth. Eglurwyd mai bwriad y cynllun
amgen yma oedd cwrdd â’r toriad drwy geisio cynnal y ddarpariaeth bresennol o doiledau cyhoeddus
yn y Sir.
Gwnaed cais gan yr
Aelod Cabinet i’r Pwyllgor ystyried y cynllun
a chyfeirio eu hargymhelliad i’r Cabinet. Eglurwyd bod y Cynllun yn
ddibynnol ar ennyn diddordeb Cynghorau Cymuned a Thref i Bartneriaethau er mwyn
sicrhau parhad ar y ddarpariaeth, drwy gyfrannu yn ariannol at y cynllun.
Tynnwyd sylw at y ddau opsiwn:
·
Opsiwn 1 - lefel cyfraniad o £4000 i bob toiled yn
agored drwy’r flwyddyn a chyfraniad o £2000 i bob
toiled sydd yn agored yn dymhorol
·
Opsiwn 2 – cyfraniad
cyfwerth a thraean (33.3%)
cost blynyddol ar gyfartaledd o weithredu’r toiled
Nodwyd bod y
cynllun yn fodd o gynnal y ddarpariaeth, ac os na fydd sêl bendith i’r cynllun,
byddai rhaid asesu'r angen yn lleol.
b)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol yn erbyn yr
argymhelliad:
·
Nad oedd
y cynllun wedi ei graffu yn
ddigonol
·
Papur Gwyn gan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol
(GIG) yn nodi bod rhaid gwella profiad y claf drwy 'wrando a dysgu’ ac i
sefydliadau ddatblygu strategaethau clir i gyfarch hyn - cau toiledau cyhoeddus
yn groes i hyn.
·
Nad oedd digon o ystyriaeth wedi ei roi ar
drigolion bregus a thrigolion gyda chyflyrau iechyd.
·
Rhaid sicrhau bod digon o doiledau cyhoeddus ar
gael - Gwynedd yn ardal sydd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac felly angen sicrhau
toiledau o ansawdd uchel.
·
Deiseb yn erbyn y penderfyniad o gau'r toiledau yn
casglu momentwm gyda dros 2000 o enwau - nid oes rheswm digonol i gau toiledau
cyhoeddus
c)
Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr Aelodau bod
toriad i’r gwasanaeth eisoes wedi ei gytuno yn y Cyngor Llawn ym mis Mawrth
2016, ac felly rhaid oedd ystyried ffordd o symud ymlaen. Derbyniodd yr Aelod
Cabinet y sylw bod y pwnc yn un oedd yn amlygu pryderon ymysg cymunedau. Nododd
hefyd fod ganddo gydymdeimlad llawn gyda thrigolion â chyflyrau iechyd ac y
byddai yn rhoi ystyriaeth lawn i hyn. Ategwyd y byddai'r toiledau yn parhau ar
agor hyd nes bydd ymgynghori gyda’r cymunedau perthnasol wedi cymryd lle.
ch) Mewn ymateb, nodwyd y
sylwadau canlynol yn gefnogol i’r argymhelliad:
·
Derbyn yr adroddiad a llongyfarch yn adran am
ystyried cynllun amgen ar gyfer toiledau cyhoeddus mewn dull positif.
Cyfeiriwyd at enghreifftiau da drwy’r Sir o doiledau
sydd eisoes yn cael eu rheoli gan y Cynghorau Cymuned
·
Croesawu'r adroddiad. Cyfle da yma i sefydlu partneriaeth gymunedol - dyma'r ffordd ymlaen. Cyfle da i gydweithio.
·
I’r rhai hynny sydd yn fregus neu a chyflyrau
iechyd, awgrymwyd eu bod yn trefnu eu siwrne ymlaen llaw a bod gwybodaeth
ardderchog am doiledau cyhoeddus y sir ar gael ar wefan y Cyngor.
·
Rhai Cynghorau Cymuned eisoes wedi cynnal
trafodaethau yn lleol ar y mater
·
Gwnaed cais
am wybodaeth ychwanegol am incwm toiledau a chyfraniad yr Asiantaethau Cefnffyrdd.
·
Awgrym i godi
tal yn y toiledau hynny sydd yn ddrud
i’w cynnal
d)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag anghysondebau
mewn defnydd toiledau a’r baich gwaith
ychwanegol fydd yn wynebu Cynghorau Cymuned, amlygwyd bod grantiau ar gael i’r
Cynghorau Cymuned geisio amdanynt ac y byddai
Swyddogion o’r Adran Economi ar gael i
gynnig gwybodaeth am y grantiau hyn. Nodwyd y gall y broses drosglwyddo gymryd
hyd at 3 blynedd i’w gwireddu.
dd) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
grantiau toiledau cymunedol, nodwyd bod y grantiau sydd ar gael yn parhau -
Pennaeth y Gwasanaeth i adrodd yn unigol i’r Cynghorydd L Morgan.
Cynigiwyd ac
eiliwyd i gefnogi opsiwn 1.
PENDERFYNWYD
derbyn yr argymhellion a nodwyd yn 3.1 o’r adroddiad gyda’r Pwyllgor yn cefnogi
opsiwn 1- lefel cyfraniad o £4000 i bob toiled yn agored drwy’r
flwyddyn a chyfraniad o £2000 i bob toiled sydd yn agored yn dymhorol
Anogwyd
yr Adran i;
-
edrych ymhellach i gyfleon i godi tal yn y toiledau drytaf ( a chynghori
Cynghorau Cymunedau a Thref ar sut i wneud hyn)
-
edrych os oes modd ymestyn
ymhellach y Cynllun Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Toliedau
Cyhoeddus
Dogfennau ategol: