Agenda item

I dderbyn diweddariad llafar ar faterion yn ymwneud â Grantiau yn 2025/26. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad llafar gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion.

 

Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi datgan grantiau ychwanegol ar gyfer 2024/25, ar ddiwedd tymor y Nadolig.

 

Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi derbyn cynnydd i bump o’r grantiau, sef: Grant Pensiwn Athrawon, Grant Safonau, Grant Cefnogi Cydlynwyr ADY a Grant Darpariaeth ADY. Adroddwyd bod cyfanswm y cynnydd hwn oddeutu £3.7miliwn. Eglurwyd bydd yr arian yma yn gwella cynydd balansau ysgolion gan nad ydynt wedi cael y cyfle i gynllunio ei wariant.

 

Atgoffwyd bod oddeutu £200,000 o arian grant Dyraniad Integreiddio wedi cael ei roi o’r neilltu ar ddechrau’r flwyddyn ariannol er mwyn sicrhau bod arian ar gael os oes plant all-sirol yn symud i gael addysg yng Ngwynedd. Mynegwyd balchder bod y mwyafrif o baneli integreiddio bellach wedi cael eu cynnal a bod oddeutu £120,000 o’r arian hwn yn weddill, a fyddai’n cael ei rannu yn ôl i’r ysgolion.

 

Cadarnhawyd bod y codiad cyflog ar gyfer athrawon a staff ategol yn uwch na’r hyn a rhagdybiwyd gan yr Adran ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd bod oddeutu £713,000 o arian grant ar gael i ddigolledu ysgolion o’r cynnydd hwn yn tâl athrawon ac oddeutu £324,000 ychwanegol ar gyfer digolledu tâl staff ategol, er mwyn ymdrechu i sicrhau nad yw ysgolion yn gorwario ar y ffactorau hyn o fewn eu cyllidebau unigol.

 

Nodwyd hefyd bod addasiad yn cael ei wneud yn dilyn lleihad mewn costau chwyddiant ar gyfer costau nwy'r ysgolion. Eglurwyd bod mwy o arian wedi cael ei glustnodi nag oedd ei angen oherwydd bod y prisiau a broffwydwyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol wedi bod yn uwch na’r wir gost.

 

Ymhelaethwyd ar wybodaeth a dderbyniwyd ar gyfer grantiau perthnasol ar gyfer 2025/26. Adroddwyd bod pedair grant newydd yn cael eu cyflwyno gyflwynwyd i ysgolion o 2025/26 2024/25 ymlaen yn dilyn adolygiad gan y Llywodraeth, gan gynnwys grantiau: - Safonau Ysgolion, Tegwch, Diwygio a Cymraeg 2050. Cadarnhawyd bod cynnydd o oddeutu 9.4% yng nghyfanswm y grantiau rhwng 2024/25 a 2025/26 sydd ychydig yn uwch na chyfraddau chwyddiant presennol. Eglurwyd na fydd nad ydi y grant Tegwch yn cynnwys Grant Datblygu Disgyblion ar y pwynt yma. Ymhelaethwyd bod y grant Safonau Ysgolion yn gynnydd o £245,292 o’r arian a ddarparwyd yn 2024/25 a fydd yn mynd yn uniongyrchol i’r ysgolion. Adroddwyd bod y grant Tegwch yn cael ei ddyrannu i’r Adran ac yn gosod cyfyngiadau ar sut gall yr arian gael ei wario er mwyn cydymffurfio â thelerau’r grant.

 

Manylwyd ar y grant Diwygio sydd yn darparu arian grant ‘Darpariaeth ADY’. Manylwyd bod cyfanswm y dyraniad grant yn llai na’r hyn a dderbyniwyd yn 2024/25 ond ei fod yn lleihad bychan.

 

Tynnwyd sylw at y prif Grant Datblygu Disgyblion a oedd yn gyfanswm o £2,827,850 yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/25. Eglurwyd nad oes manylion wedi cael eu rhannu ar gyfer y grantiau hyn ar gyfer 2025/26 ymlaen a bod y Cyngor yn disgwyl arweiniad pellach ar gyfanswm y grantiau hyn yn y dyfodol agos.

 

Diolchwyd i Lywodraeth Cymru am rannu’r wybodaeth am y grantiau yn gynharach na’r arfer, gan alluogi’r Adran ac ysgolion i gynllunio defnydd o’r arian yn briodol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26.