Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys
Penderfyniad:
Yn
dilyn sefydlu’r Gyllideb yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth, 2025,
cytunwyd i’r Cabinet gymeradwyo'r bidiau un tro o £2,057,260 ar gyfer 2025/26
sydd i’w cyllido o’r:
·
£1,557,260 o gyllid ychwanegol yn y setliad terfynol a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru ar 20 Chwefror 2025.
·
£500,000 o Bremiwm Treth Cyngor at ddibenion llety dros dro i’r
Digartref.
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y bydd arian ychwanegol i'r maes gofal, yn ddarostyngedig ar fanylion ac amodau'r grant hwn, cytunwyd defnyddio’r ffynhonnell i ariannu'r bidiau yn y maes gofal.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNIAD
Yn
dilyn sefydlu’r Gyllideb yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth, 2025,
cytunwyd i’r Cabinet gymeradwyo'r bidiau un tro o £2,057,260 ar gyfer 2025/26
sydd i’w cyllido o’r:
• £1,557,260 o gyllid ychwanegol yn y
setliad terfynol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Chwefror 2025.
• £500,000 o Bremiwm Treth Cyngor at
ddibenion llety dros dro i’r Digartref.
Yn
dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y bydd arian ychwanegol i'r maes
gofal, yn ddarostyngedig ar fanylion ac amodau'r grant hwn, cytunwyd
defnyddio’r ffynhonnell i ariannu'r bidiau yn y maes gofal.
TRAFODAETH
Nodwyd
bod y bidiau yn anorfod ond yn anffodus nid yw’r Cyngor ar hyn o bryd yn gallu
cefnogi bidiau datblygol na trawsffurfiol. Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai
cronfa trawsffurfio’r Cyngor sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer i gyllido’r
bidiau un tro ond nad oes unrhyw arian ar ôl yn y gronfa hon i gyllido unrhyw
fidiau eleni. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol yn
ddiweddar sydd ar gael i gyfrannu tuag at gostau’r bidiau un tro. Cydnabuwyd y
bydd yr arian yma yn ddefnyddiol ond mynegwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi
ariannu Cyngor Gwynedd yn ddigonol yn y lle cyntaf.
Nodwyd
bod y bidiau yn geisiadau am arian refeniw ond arian refeniw dros dro a’r
gobaith yw dros y flwyddyn y bydd y gofyn dros dro yn un ai diflannu neu
leihau.
Cyfeiriwyd
at y tabl yn rhan 4.2 o’r adroddiad oedd yn rhestru’r bidiau, oedd yn gyfanswm
o ychydig dros £2 filiwn. Tynnwyd sylw at y bidiau mwyaf costus sef Cludiant
Addysg, gan egluro bod hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd yng nghostau tanwydd a
cynnal a chadw cerbydau a’r cynnydd yn y niferoedd sydd angen cludiant i’r
ysgolion. Gobeithir y bydd y gost yn llai flwyddyn nesaf yn dilyn adolygiad yn
y maes.
Esboniwyd
bod y bid am gostau llety argyfwng digartref yn swm o hanner miliwn a bod hefyd
bid am £115,000 ar gyfer gweithwyr ychwanegol yn sgil derbyn Ceiswyr Lloches
heb rieni fel rhan o’r Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol, sy’n achos trist ond
teilwng iawn.
Adroddwyd
bod opsiynau i ariannu’r bidiau wedi eu hystyried ond nad oedd digon o arian
refeniw a bod cronfeydd corfforaethol wrth gefn y Cyngor wedi lleihau yn
sylweddol a bod angen ceisio eu gwarchod.
Nodwyd er i gronfa Adrannol fod yn briodol ar gyfer bid yr Adran Tai ac
Eiddo, nid oedd cronfeydd Adrannol priodol yn bodoli ar gyfer y bidiau eraill.
Yn sgil hyn awgrymwyd i ¾ y bidiau gael eu hariannu drwy’r cyllid ychwanegol
gan y Llywodraeth a’r ¼ arall i gael eu hariannu o’r unig gronfa Adrannol
briodol sydd ar ôl sef cronfa'r Premiwm Treth Cyngor.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:
• Ynglŷn â’r bid Cludiant Addysg,
gwnaethpwyd sylw os nad yw’r Cyngor yn fodlon talu a chefnogi’r bid yna fod hyn
yn golygu fod plant ddim yn cael mynediad i addysg. Cydnabuwyd bod gôr-wario
yma ond o bosib ei bod yn fater o dan-gyllido’r gwasanaeth. Credwyd nad yw
gwario’r arian yma yn opsiwn. Gobeithir na fydd yr Adran yn y sefyllfa yma
flwyddyn nesaf a bod opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar hyn o bryd er mwyn
gwneud pethau’n fwy effeithlon a chael y gwerth gorau am arian.
• Mynegwyd cefnogaeth am yr holl fidiau
gan Aelod ond mynegwyd nad oedd yn cefnogi defnyddio’r Cynllun Gweithredu Tai i
ariannu’r costau llety argyfwng Digartrefedd. Pryderwyd bod tynnu’r arian hwn
allan o’r Cynllun Gweithredu Tai yn mynd i olygu na all y Cynllun Gweithredu
Tai gyflawni cystal a cwestiynwyd beth felly fydd yn cael ei dorri allan o’r
Cynllun Gweithredu Tai. Ychwanegwyd nad yw’n gronfa ariannol i bwrpas ariannu
tan-gyllido gan nodi bod atal digartrefedd yn wasanaeth statudol. Credwyd bod
yr Adran Dai yn cael ei thrin yn wahanol gan fynegi bod yr Adran wedi llwyddo i
leihau costau Digartrefedd trwy waith ataliol. Oherwydd y rhesymau uchod
penderfynodd yr Aelod atal ei bleidlais.
• Pryderwyd y bydd costau ychwanegol yn
y maes Digartrefedd yn y dyfodol agos o ganlyniad i gyhoeddiad y papur gwyn gan
y Llywodraeth. Nododd yr Aelod Cabinet y byddai yn ysgrifennu at y gweinidog a
bod Penaethiaid Tai Cymru wedi ysgrifennu at y Llywodraeth i fynegi eu pryderon
am gynnwys y papur gwyn.
- Cytunwyd â’r sylwadau ar y papur gwyn
gan nodi nad yw’r Cyngor yn ymwybodol o beth fydd oblygiadau ariannol y papur
gwyn ar hyn o bryd.
- Cydymdeimlwyd â safbwynt yr Aelod gan
gydnabod mai nid hyn yw’r ateb delfrydol ond bod y sefyllfa yn un anodd ac
arian ychwanegol y Llywodraeth ddim digon i ariannu’r holl fidiau un-tro.
- Ychwanegwyd pan fydd adolygiad o’r Cynllun Gweithredu Tai y gellir ystyried bryd hynny beth i’w dynnu allan. Awgrymwyd hefyd efallai bydd opsiynau yn y dyfodol i ad-dalu’r arian hwn yn ôl i gronfa’r Cynllun Gweithredu Tai.
Awdur:Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr
Dogfennau ategol: