Cyflwynwyd gan:Cyng. Menna Trenholme
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Menna Trenholme
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi bod yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd yn gyfrifol am ddau brosiect o
fewn Cynllun y Cyngor. Darparwyd diweddariad ar y prosiectau hyn sef y Cynllun
Awtistiaeth a’r Cynllun Cartrefi Grŵp Bychan. Manylwyd ar y cynnydd sydd
wedi ei wneud a nodi’r gwaith sydd ar y gweill.
Manylwyd ar heriau sy’n cael
effaith ar berfformiad y gwasanaethau megis capasiti’r gweithlu. Cyfeiriwyd at
yr ymdrechion sy’n cael ei gwneud i wella’r sefyllfa gan nodi bod prosiect
Cynllunio’r Gweithlu a Gofalwn Cymru yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio. Nodwyd
hefyd bod cynnydd yn y galw a bod natur achosion yn dangos fod anghenion plant
a theuluoedd yn cymhlethu ac yn dwysau. Pryderwyd bod llwyth gwaith staff yr
Adran yn uchel ac ddim yn gynaliadwy nac yn iach yn y tymor hir.
I gloi crynhowyd sefyllfa
ariannol yr Adran sydd bellach yn £3.7 miliwn o orwariant o ganlyniad i gynnydd
yng nghostau lleoliadau all-sirol a chyfeiriwyd at gynlluniau arbedion yr
Adran. Diolchwyd i holl staff yr Adran am eu gwaith gan nodi bod y gwaith yn
heriol ac yn eang.
Ychwanegodd y Pennaeth Plant a
Chefnogi Teuluoedd bod sefyllfa’r gweithlu wedi gwella rhywfaint dros y
blynyddoedd ond yn bryder parhaus. Nodwyd nad oes unrhyw swyddi parhaol gwag ar
hyn o bryd dim ond swyddi dros dro o ganlyniad i gyfnodau mamolaeth. Ychwanegwyd
bod yr Adran yn hybu datblygiad staff ac yn gefnogol i roi cyfleoedd a
phrofiadau i staff o fewn gwasanaethau’r Adran.
Nodwyd ei bod yn anodd denu
Gweithwyr Cymdeithasol cymwysedig a bod y niferoedd ar y cyrsiau wedi gostwng.
Credwyd y byddai’r gwaith Academi Gofal yn gwneud gwahaniaeth i broblemau
staffio rhai o’r gwasanaethau.
Cydnabuwyd buddion y
cynlluniau Cartrefi Gofal Bychain gan nodi y byddant yn bositif i’r gyllideb
wrth ddiwallu anghenion yn lleol ac edrychwyd ymlaen i’r plant ddychwelyd yn ôl
i’w cynefin. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i gymuned Morfa Bychain am y croeso ac
am y cydweithio arbennig efo Ysgol Eifionydd. Gobeithiwyd ail adrodd yr esiampl
yma efo’r tai eraill.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth:
• Llongyfarchwyd yr Adran am y gwaith ar y Cartrefi Gofal
Bychain gan nodi ei fod yn newyddion gwych. Nodwyd bod y gwaith yn cael effaith
bositif ar blant ac ymfalchïwyd bod rhai eisoes wedi dychwelyd yn ôl i’w
cynefin a mynegwyd balchder bod cynlluniau eraill ar y gweill.
• Cydnabuwyd gwaith gwych yr Academi Gofal a’r ymdrech
recriwtio a diolchwyd i Gwenno Williams, Swyddog Marchnata a Datblygu Gyrfaoedd
Gofal am ei gwaith a mynegwyd llongyfarchiadau iddi am dderbyn anrhydedd mewn
gwobr gan Gyrfa Cymru.
• Pryderwyd am y lleihad yn y niferoedd sy’n cwblhau cyrsiau
Gwaith Cymdeithasol ym Mangor a cwestiynwyd os oes risg i’r cwrs gael ei
ddiddymu os oes llawer o lefydd gwag arno.
- Mewn ymateb nodwyd nad oes trafodaethau i ddod a’r cwrs i ben ym Mangor ond yn hytrach trafodaethau ar sut i ddenu mwy i fod eisiau cwblhau’r cymhwyster Gwaith Cymdeithasol. Ategwyd hefyd bod yr Adran am benodi tair swydd Gweithiwr Cymdeithasol newydd o ganlyniad i fid ariannol llwyddiannus; credwyd y bydd y swyddi yma yn gwneud lles i lwyth gwaith a llesiant staff presennol yr Adran.
Awdur:Marian Parry Hughes, Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd
Dogfennau ategol: