Cyflwynwyd gan:Cyng. June Jones
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn
yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. June Jones
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi y bydd yn amlinellu’r hyn sydd wedi ei gyflawni o fewn yr
Adran fel rhan o flaenoriaethau Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 ac yn rhoi
diweddariad ar y sefyllfa ariannol a’r cynlluniau arbedion. Adroddwyd bod
cynnydd sylweddol wedi ei wneud gyda phrosiectau Cynllun y Cyngor ac er bod yr
Adran yn parhau i wynebu heriau mynegwyd hyder fod gan yr Adran gynlluniau
addas i gyfarch y sefyllfa hyd eithaf ei gallu.
Rhedwyd drwy’r
tabl yn Atodiad 1 sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd tri phrosiect blaenoriaeth
yr Adran yng Nghynllun y Cyngor sef Cymunedau Glas a Thaclus, Gweithredu ar
Risgiau Llifogydd ac Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a
phobl ifanc y Sir. Darparwyd trosolwg o’r prosiectau gan nodi beth sydd ar y
gweill a’r diweddariad hyd at fis Mawrth 2025.
Tywyswyd Aelodau’r
Cabinet trwy weddill yr adroddiad oedd yn manylu ar berfformiad gwasanaethau’r
Adran. I gloi tynnwyd sylw at sefyllfa ariannol yr Adran gan nodi y rhagwelir
gorwariant o tua £700,000 eleni sy’n gyfuniad o ffactorau megis lleihad mewn incwm
a phwysau ychwanegol ar gyllidebau glanhau strydoedd a glanhau toiledau
cyhoeddus.
Ychwanegwyd bod
teimlad gwych o fewn yr Adran ble mae’r staff yn frwdfrydig ac yn cymryd gwir
ddiddordeb yn eu gwaith. Diolchwyd i staff yr Adran am eu hymroddiad.
Mynegodd y
Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC ei ddiolch i’r Aelod Cabinet am
fynd o amgylch holl wasanaethau’r Adran er mwyn cyflwyno ei hun a dysgu am
waith yr Adran. Ychwanegwyd bod yr Adran yn wynebu heriau ariannol sylweddol
ond yn gwneud eu gorau i leihau’r gorwariant ac efo cynlluniau arbedion ac yn
hyderus y bydd gwerth £278,500 o arbedion yn cael eu cyflawni flwyddyn yma.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth:
• Cydnabuwyd gwaith da’r Adran a
diolchwyd am hynny.
• Ynglŷn â gorfodaeth stryd a’r
graff yn yr adroddiad, gofynnwyd sut mae’r Cyngor yn cymharu â Chynghorau
eraill a gofynnwyd pam bod gwahaniaeth sylweddol yn ffigurau’r Haf o gymharu â
ffigyrau’r Gaeaf.
- Mewn ymateb esboniwyd bod y tîm dan
bwysau o ran lefelau staff. Esboniwyd bod y graff ar dudalen 102 yn benodol ar
faw cŵn a dim ysbwriel. Ymhelaethwyd ei bod yn anodd cosbi am droseddau
baw cŵn am ei bod yn anodd dal y person ar y pryd. Tynnwyd sylw at y
gwelliant sylweddol sydd wedi bod hyd yma eleni.
- Nodwyd nad yw’r wybodaeth ar gael ar
hyn o bryd er mwyn gwneud cymhariaeth efo awdurdodau eraill ond gall y Pennaeth
Adran ddarganfod y wybodaeth yno.
• Tynnwyd sylw at y diffyg buddsoddiad
mewn caeau chwarae dros y blynyddoedd. Dymunwyd codi ymwybyddiaeth bod grwpiau
cymunedol yn gallu ymgeisio am grantiau i wella caeau chwarae.
- Atgoffwyd bod 131 o gaea chwarae ar
draws y Sir a cydnabuwyd bod angen gwella cyfleusterau ar gyfer defnydd cadair
olwyn yn y caeau chwarae. Nodwyd bod y gwasanaeth yn ail edrych ar y
strategaeth ond fod arian yn brin ar gyfer y ddarpariaeth yma. Ategwyd bod y
gwasanaeth yn hapus i drafod efo Cynghorau Cymuned a bod bwriad i gysylltu efo
Cynghorau Cymuned yn y dyfodol wrth symud y gwaith yn ei flaen.
• Mynegwyd diolchiadau i dîm tacluso
Ardal Ni, yn benodol tîm David Charles Williams am eu gwaith.
• Gofynnwyd a oes bwriad i ymestyn y
cynllun ‘person a chart’ ymhellach i ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd.
- Cadarnhawyd bod y cynllun ar waith ym
Mangor a Chaernarfon ar hyn o bryd a bod bwriad i’w ymestyn i ardal Dwyfor
(Pwllheli a Porthmadog) yn fuan. Nodwyd bod trefniadau tebyg mewn rhai
ardaloedd ym Meirionydd e.e. glanhawr tref hanesyddol efo oriau traddodiadol o
gychwyn yn fuan yn y bore. Cadarnhawyd bod trafodaethau ar y gweill i newid yr
oriau fel bod yr oriau yn oriau mwy gweledol.
• Mewn ymateb i gwestiwn am heriau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru ag os yw hyn wedi effeithio ar y cyd-weithio efo’r Adran, cadarnhawyd nad oes effaith wedi ei weld hyd yma ar unrhyw brosiect ar y cyd nac dim i awgrymu unrhyw effaith ar gynlluniau yn symud yn eu blaen.
Awdur:Steffan Jones, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC
Dogfennau ategol: