Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod agwedd a pherfformiad yr Adran yn galonogol. Tynnwyd sylw at bump o flaenoriaethau’r Adran yng Nghynllun y Cyngor gan nodi bod yr Adran yn arwain drwy Brydain ar rai o’r blaenoriaethau er enghraifft y gwaith efo rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.

 

Tynnwyd sylw at y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu gan nodi bod niferoedd yr ymholiadau sy’n ymwneud â methu casgliadau gwastraff wedi lleihau dros y flwyddyn gyfredol fel sydd i’w weld yn Ffigwr 1 yn yr adroddiad. Amlygwyd bod targed ailgylchu’r Llywodraeth wedi cynyddu i 70% a’i bod yn annhebygol y bydd yr Adran yn cwrdd â’r targed eleni. Serch hyn nodwyd bod y Strategaeth Wastraff newydd ar gyfer 2025-2023 ar ffurf drafft ar hyn o bryd a bydd gweithredu’r Strategaeth hon yn golygu cyrraedd y targed. Ategwyd y bydd y Strategaeth Wastraff yn dod ger bron y Cabinet ym mis Mai neu Fehefin.

 

Cyfeiriwyd at yr heriau yn y gwasanaeth Bwyd a Diogelwch fel sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad gan amlygu bod dros 2,000 o fusnesau bwyd yn y Sir. Nodwyd bod llawer o staff cymwys a profiadol wedi gadael neu ymddeol yn ddiweddar sydd wedi gadael bwlch yn y gwasanaeth. O ganlyniad i’r heriau o ran staffio a phwysigrwydd buddsoddi yn hyfforddiant swyddogion a chysgodi staff profiadol, mynegwyd bod yr Adran yn ceisio am hyfforddai proffesiynol Iechyd Amgylchedd eleni.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

           Mynegwyd bod y problemau recriwtio yn themâu cyson a phwysleisiwyd pwysigrwydd cynlluniau fel y Cynllun Hyfforddeion.

           Gofynnwyd beth yw canlyniad methu cyrraedd y targed ailgylchu.

-           Mewn ymateb nodwyd y byddai methu cyrraedd y targed yn golygu risg o ddirywion i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru.

           Credwyd bod angen buddsoddi mewn hyfforddi ac addysgu trigolion y Sir ar bwysigrwydd ailgylchu.

-           Cytunwyd bod hyn yn allweddol ac eisoes wedi ei adnabod fel maes sydd angen sylw.

           Holwyd beth yw’r camau nesaf o ran y Strategaeth Wastraff.

-           Eglurwyd y bydd y Strategaeth yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet ar gyfer caniatâd i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus cyn adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r ymgynghoriad a gofyn i fabwysiadu’r Strategaeth. Yn dilyn derbyn caniatâd bydd y Strategaeth yn cael ei gweithredu.

           Tynnwyd sylw at yr ymarferion ‘pryniant prawf’ sydd wedi ei nodi yn rhan 5.2.5 o’r adroddiad gan nodi ei fod yn galonogol bod y tîm yn ceisio sicrhau nad yw siopau yn gwerthu tân gwyllt i blant dan oed. Holwyd os oes rheoliadau tebyg yn ymwneud a gwerthiant ‘vapes’.

-           No diwyd bod ymdrin â risgiau sy’n deillio o werthiant ‘vapes’ yn rhan o brosiect sydd yn un o flaenoriaethau’r gwasanaeth ac ar draws Gymru yn ogystal â gwerthiant tybaco anghyfreithlon. Ategwyd bod y tîm yn ceisio atal gwerthiant y deunyddiau i bobl dan oed yn ogystal â cheisio atal deunydd anghyfreithlon gael eu gwerthu. Nodwyd bod hyn yn golygu llawer o waith dydd i ddydd i’r tîm; ychwanegwyd hefyd bod angen gwarchod busnesau yn ogystal â defnyddwyr.

Awdur:Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd

Dogfennau ategol: