Agenda item

I dderbyn diweddariad gan Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid) ar Gyllideb 2025/26.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid.

 

Eglurwyd bod y gyllideb ar gyfer 2025/26 wedi cael ei gyflwyno ar ffurf drafft i Aelodau Etholedig mewn cyfres o seminarau anffurfiol. Nodwyd hefyd bod y gyllideb drafft wedi cael ei graffu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 06 Chwefror ac wedi derbyn ystyriaeth gan y Cabinet ar 11 Chwefror. Ychwanegwyd bydd penderfyniad ffurfiol yn cael ei wneud ar y gyllideb wedi i’r Cyngor Llawn rhoi ystyriaeth iddo yn y cyfarfod ar 06 Mawrth.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 3.1% ar gyfer 2025/26. Nodwyd bod hyn yn uwch na’r gyfran a dybiwyd byddai’r Cyngor yn ei dderbyn ond nad oedd y cynnydd hwn yn cyfarch y cynnydd mewn cyfraddau chwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf. Pwysleisiwyd bod y Cyngor yn ymgyrchu i’r Llywodraeth fel eu bod yn gosod isafswm o lefelau grant yn flynyddol ar gyfer yr holl awdurdodau lleol.

 

Rhagwelwyd bod cynnal gwasanaethau’r Cyngor yn costio £24.2miliwn yn fwy yn 2025/26 o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol gyfredol, gan gynnwys gwariant o £7.7miliwn er mwyn cyfarch pwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau uwchlaw chwyddiant, sy’n deillio o orwariant yn sgil diffyg cyllideb i gyfarch gwir alw am wasanaethau.

 

Adroddwyd bod pwysau ar wasanaethau a chwyddiant yn arwain at argymhelliad o gynnydd o 8.66% yn y Dreth Cyngor, yn ogystal â chyflwyno rhaglen o arbedion a thoriadau er mwyn gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26. Cydnabuwyd bod y Cyngor yn ymwybodol bod hyn yn gynnydd sylweddol a fyddai’n effeithio aelwydydd Gwynedd.

 

Pwysleisiwyd bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo arbedion gwerth £5.2miliwn ar gyfer cyllideb 2024/25, gyda £2,860,300 ohono wedi eu proffilio ar gyfer 2025/26. Ymhelaethwyd bydd arbedion newydd yn cael eu cyflwyno o fewn y Cyngor. Tywyswyd yr Aelodau drwy grynodeb o’r arbedion hyn ar gyfer holl adrannau’r Cyngor. Tynnwyd sylw at arbedion gwerth £151,960 o fewn yr Adran Addysg gan bwysleisio nad oes unrhyw doriad neu gynllun arbedion i’r Gwasanaeth Ysgolion o fewn y flwyddyn ariannol 2025/26. Fodd bynnag, atgoffwyd bod demograffi yn effeithio yn negyddol ar gyllidebau ysgolion dros y flwyddyn nesaf.

 

Manylwyd ar wahanol elfennau o’r gyllideb ysgolion gan nodi:

 

•           Cadarnhawyd bydd cynnydd arferol yn y cwantwm ysgolion Gwynedd yn 2025/26, gan fod polisïau’r Cyngor yn nodi’r angen i ariannu chwyddiant, incrementau cyflog a demograffi, yn wahanol i rai awdurdodau lleol eraill. Er hyn, eglurwyd bod demograffi yn elfen negyddol yng nghyllideb 2025/26 oherwydd lleihad mewn niferoedd disgyblion.

•           Eglurwyd bod cyllideb ysgolion yn cynyddu £3.1miliwn yn 2025/26 er mwyn cyfarch cynnydd mewn chwyddiant yn ogystal â chwyddiant cyfraddau tâl a lefelau pensiwn athrawon. Nodwyd bydd cynnydd i lefelau cyflogau athrawon a staff ategol a all gael eu cadarnhau o fewn y flwyddyn ariannol.

•           Ymhelaethwyd bod cynnydd mewn cyfraniadau cyflogwr o 5% ar bensiynau athrawon ers Ebrill 2024.

•           Adroddwyd bod cynnydd o £1.9miliwn mewn cost yswiriant gwladol cyflogwr yn 2025/26. Eglurwyd bod hyn yn deillio o gyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynyddu’r gyfradd cyflogwr o 13.8% i 15.0%. Ymhelaethwyd bod trothwy Yswiriant Gwladol wedi lleihau o £9,100 i £5,000 sydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar y Cyngor oherwydd yr angen i dalu yswiriant gwladol cyflogwr ar gyfer pob unigolyn sydd yn derbyn cyflog o £5,000 neu fwy yn flynyddol. Tynnwyd sylw bod y Llywodraeth wedi nodi y byddent yn ariannu’r cynnydd hwn mewn cyfraddau yswiriant gwladol cyflogwr o fewn y sector gyhoeddus, gan nodi y bydd cadarnhad pellach yn cyrraedd y Cyngor ymhen rhai misoedd.

•           Rhagwelwyd bydd cyllidebau ysgolion yn ei gyfanrwydd yn lleihau £643,000 o ganlyniad i ddemograffi. Manylwyd bod hyn yn lleihad o £415,000 i’r sector Gynradd ac £228,000 o leihad ar gyfer y sector Uwchradd. Pwysleisiwyd bydd cyllidebau ysgolion uwchradd yn amrywio er mwyn adlewyrchu niferoedd disgyblion.

•           Nodwyd nad oes unrhyw sail i ystyried bod dyraniadau grantiau penodol Llywodraeth Cymru yn y maes addysg yn cael ei addasu o’r hyn a ddyrannwyd yn 2024/25.

 

Casglwyd y bydd cyllideb ysgolion yn uwch yn 2025/26 o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth:

 

Tynnwyd sylw bod oddeutu 400 o blant yn cael eu haddysgu gartref yng Ngwynedd ac Ynys Môn a gofynnwyd a oes arian yn cael ei ddarparu ar gyfer cefnogi eu haddysg. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg bod grant penodol yn cael ei dderbyn gan y ddwy Sir ac yna ei ddyrannu ar gyfer darparu’r gefnogaeth hon. Eglurwyd bod y gefnogaeth wedi cael ei strwythuro ar draws Gwynedd a Môn gan nodi bod o leiaf un athro yn cael ei gyflogi er mwyn ymweld â’r teuluoedd er mwyn sicrhau eu bod yn deall yr ymrwymiad wrth iddynt gysidro’r penderfyniad o addysgu eu plant gartref. Cadarnhawyd nad oes gofyniad cyfreithiol i gynnal ymweliadau pellach gyda’r teuluoedd yn dilyn y cyfarfod cychwynnol hwn. Tynnwyd sylw gall rhieni sydd yn datgan diddordeb i addysgu eu plant o adref orfod cofrestru i wneud hynny os bydd trefniadau newydd y Llywodraeth yn cael eu cymeradwyo, gan ystyried bydd hyn yn arwain at rhai teuluoedd yn penderfynu addysgu eu plant trwy’r ysgolion. Ychwanegwyd bydd sicrhau bod unrhyw gofrestr o deuluoedd sydd gyda disgyblion yn addysgu o adref yn arwain at gost ariannol i’r Cyngor er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.

 

Gofynnwyd pam bod niferoedd disgyblion ysgolion ym mis Medi yn cael ei ddefnyddio wrth ystyried demograffi. Teimlwyd gall hyn gael effaith negyddol ar gyllidebau ysgolion unigol. Nodwyd byddai defnyddio CYBLD (PLASC) mis Ionawr yn rhoi darlun gwahanol ar wir niferoedd ysgolion gan arwain at gyllideb decach. Ymhelaethwyd bod Llywodraeth Cymru wedi addasu fformiwlâu cyllido ysgolion ac yn argymell o fewn yr addasiadau hynny y dylid defnyddio strategau plasg ‘ystadegau PLASC’ ar gyfer cyllido ysgolion. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion bod yr awdurdod yn defnyddio niferoedd plant ar gyfer nifer o wahanol ffactorau dros unrhyw flwyddyn ariannol benodol ac felly bod y wybodaeth yn gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol. Ystyriwyd bod defnyddio niferoedd disgyblion mis Ionawr yn ei wneud yn hwyr i gynllunio ar gyfer y gyllideb. Ymhelaethodd y Pennaeth Addysg bod niferoedd disgyblion yn cwympo ym mhob sector ar hyn o bryd ac ni fyddai addasu dyddiad ble gesglir niferoedd ysgolion am newid hynny, ond bydd swyddogion yn ystyried y newid hwn, gan obeithio bydd niferoedd disgyblion mewn addysg yn cynyddu eto yn y blynyddoedd nesaf.

Dogfennau ategol: