Agenda item

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at ddiwedd Ionawr 2025.

·       Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod o’r Bwrdd Trosiannol, bod adroddiad sefyllfa diwedd blwyddyn ynghyd â dadansoddiad llawn am wariant terfynol 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor yng nghyfarfod mis Mai.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb refeniw GwE am y flwyddyn gyllidol 2024/25 a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), bod yr adroddiad yn seiliedig ar wybodaeth diwedd Ionawr 2025 gyda’r darlun o ran costau diswyddo a chostau rhyddhau pensiwn yn gliriach.

 

Eglurwyd bod y costau diswyddo a chostau pensiwn yn seiliedig ar y rhai uchaf posib, felly yn rhoi y senario waethaf i’r Cydbwyllgor, fel bod modd gweld beth yw’r bwlch ariannol uchaf posib. Ategwyd mai’r gobaith yw na fydd y ffigyrau mor uchel ac y bydd modd cynnig swyddi i staff sydd tu allan i’r drefn TUPE, sef y rhai sy’n trosglwyddo i’r Awdurdodau Lleol (er nad oes modd rhoi unrhyw addewid o hynny).

 

Cyfeiriwyd at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol gyda’r rhagolygon, yn dilyn adolygiad diwedd Ionawr 2025, yn awgrymu y bydd sefyllfa ariannol am 2024/25 yn orwariant o £919k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion;

 

·        Gweithwyrerbyn hyn yn dilyn ystyried costau diswyddo a chostau pensiwn, rhagwelir gorwariant o £1.1 miliwn ar y pennawd yma. Eglurwyd bod cyllideb GwE ar gyfer y flwyddyn gyfredol ei sefydlu yn seiliedig ar nifer y staff nôl yn Chwefror 2024. Amlygwyd bod arbediad wedi ei wireddu wedi i rai aelodau staff GwE adael eu swyddi, ynghyd â derbyniad grant sydd wedi cael ei ddefnyddio i gyllido swyddi. Nodwyd bod y ffigyrau hefyd wedi ymgorffori penderfyniad y Cydbwyllgor ar 1af Awst 2024, gan gynnwys ailstrwythuro o’r Uwch Dîm Reoli.

 

Ategwyd, yn dilyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf bod yr adolygiad ariannol yn cynnwys amcan gyfrifiad o uchafswm cost diswyddo cyfredol o oddeutu £1.7m i staff na fydd yn trosglwyddo i’r awdurdodau. Disgwylir cyfraniad Llywodraeth Cymru o £738k (£123k sydd wedi ei dderbyn fesul awdurdod) tuag at y gost.

 

Cyfeiriwyd at y rheoliadau Cyfrifeg sydd yn golygu bod angen cyfrifo am gostau pensiwn yn y flwyddyn ariannol lle mae llythyr wedi ei ryddhau i staff. Gyda bwriad i ryddhau llythyr i staff GwE ar ddechrau mis Mawrth rhaid oedd sicrhau ymrwymiad ariannol a’r costau hynny yn taro yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

·        Rhent - gorwariant o bron i £90 mil. £10k ohono yn unol â’r tueddiad hanesyddol gan fod gofod mwy o faint wedi bod yn cael ei rentu yng Nghaernarfon, sydd wedi bod uwchlaw lefel y gyllideb. Yn ychwanegol i hyn, amlygwyd wrth ddirwyn GwE i ben bod costau terfynu prydlesi swyddfeydd sydd angen eu wynebu, yn bennaf ar gyfer swyddfa Yr Wyddgrug.

·        Cludiant - y darlun yn parhau i fod yn gyson gydag adolygiadau blaenorol gyda thanwariant o £34 mil ar y pennawd cludiant, gan fod costau teithio wedi lleihau o ganlyniad i ffyrdd newydd o weithio dros y blynyddoedd diwethaf.

·        Cyflenwadau a Gwasanaethau - rhagwelir tanwariant o bron i £19 mil yma gan na fydd cyfraniad yn cael ei wneud i gronfa adnewyddu technoleg gwybodaeth.

 

Eglurwyd, yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol, bod angen cymryd i ystyriaeth fod y gronfa wrth gefn o £221k, yn cael ei defnyddio yn llawn i leihau’r gorwariant.

 

Tynnwyd sylw at Cronfa Athrawon Newydd Gymhwyso sydd wedi cronni, a sydd bellach yn £455k. Nodwyd bod yr arian yma wedi ei glustnodi ar gyfer defnydd penodol, a bod cais eisoes wedi mynd at Lywodraeth Cymru i holi os byddai modd defnyddio’r gronfa yma fel cyfraniad tuag at y costau sydd yn cael eu wynebu. Er hynny, hyd nes bydd cadarnhad, ni ellid ei ddefnyddio i leihau’r costau ar y pwynt yma.

 

Wrth grynhoi’r sefyllfa, rhagwelwyd bod bwlch ariannol sydd yn uchafswm o £919k ac y bydd angen cau y bwlch yma. Ategwyd bod llythyr wedi ei yrru i Lywodraeth Cymru yn ceisio am arian ychwanegol, ond os na fydd y cais yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i’r Cynghorau unigol ei gyllido.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a diolchwyd i’r staff am gwblhau’r gwaith o fewn cyfnod anodd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

·        Pryder am orwariant adeiladaurhent (yn cynnwys gwasanaethau). Hwn yn orwariant sylweddol o ystyried defnydd digidol / rhithiol. A oes modd trafod / negodi telerau cau swyddfeydd Bae Colwyn a’r Wyddgrug?

·        Bod angen craffu pob ceiniog

·        Bod angen sicrwydd uchel o ddealltwriaeth

·        Bod angen sicrwydd o’r gwariantawgrym i’r dadansoddiad llawn am wariant terfynol 2024/25 gael ei drafod / herio yn y Bwrdd Trosiannol gydag adborth i gyfarfod nesaf o’r Bwrdd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a defnydd Cronfa Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) ac os oedd modd defnyddio’r gronfa yma i leihau’r gorwariant yn hytrach na gweld yr arian yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru, nodwyd bod arian y gronfa yma wedi cronni dros flynyddoedd covid a bod telerau defnydd y gronfa yn nodi defnydd penodol. Er hynny, amlygwyd bod llythyr wedi ei anfon at Llywodraeth Cymru yn gofyn caniatâd i ddefnyddio’r gronfa yn erbyn y gorwariant. Ategwyd bod llythyr wedi ei dderbyn yn ymateb i gais gan Cyngor Gwynedd am arian ychwanegol i lenwi’r bwlch ariannol yn gofyn am gyfarfod gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru i drafod y sefyllfa, ac y bydd defnydd Cronfa ANG yn debygol o gael ei gynnwys yn nhrafodaeth y cyfarfod hwnnw.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r adroddiad.

 

         PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at ddiwedd Ionawr 2025.

·        Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod o’r Bwrdd Trosiannol, bod adroddiad sefyllfa diwedd blwyddyn ynghyd â dadansoddiad llawn am wariant terfynol 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor yng nghyfarfod mis Mai

 

Dogfennau ategol: