Agenda item

I ystyried yr adroddiad a mabwysiadau’r gyllideb sylfaenol ar gyfer Ebrill – Mai 2025/26

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

·       Adborth o gyfarfod yr Awdurdod Lletyol gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru i'w rannu gyda’r Cydbwyllgor.

·       Bod llythyr o gefnogaeth / datganiad gwleidyddol gan y Cydbwyllgor yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Lletyol yn cefnogi eu pryderon o’r costau ychwanegol sydd i ddirwyn GwE i ben oherwydd oediad gan y Llywodraeth o ran defnydd Grant Addysg Awdurdod Lleol (GAALl) i gefnogi Dysgu Proffesiynol.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn manylu ar gyllideb i GwE ar gyfer y ddau fis hyd at ddiwedd Mai 2025, a hynny yn dilyn llithriad yn amserlen terfynu GwE i 31 Mai 2025. Nodwyd, fel a wneir ar gyfer cyllidebau unrhyw flwyddyn, bod trefn arferol o gynyddu’r cyllidebau i gynnwys cyfraddau chwyddiant angenrheidiol ac ystyriaeth o’r setliad tâl ayyb wedi ei wneud. Yn dilyn hyn, adroddwyd bod gwerth 2 fis o gyllideb wedi ei ddarparu ar gyfer penawdau perthnasol gyda rhai eithriadau.

 

Tynnwyd sylw at y penawdau canlynol:

·        Gweithwyr - costau staffio yn seiliedig ar nifer staff oedd yn gyflogedig ar y 1af o Chwefror 2025, felly 2 fis o gyllideb wedi ei ddarparu ar eu cyfer.

·        Rhent, costau teithio, rhaglenni cenedlaethol / comisiynu - gwerth 2 fis o gyllideb wedi ei ddarparu

·        Cyflenwadau a Gwasanaethau – nid oes cyllideb wedi ei gynnwys ar y pennawd Technoleg Gwybodaeth, gan mai cyfraniad i gronfa adnewyddu ydyw, felly am resymau amlwg, ni fydd cyllideb ar ei gyfer.

·        Ffioedd Archwilio - bydd rhaid i Archwilio Cymru archwilio’r cyfrifon, ac felly bydd  rhaid talu ffi iddynt gynnal yr archwiliad. Nodwyd mai’r swm llawn sydd wedi ei gynnwys, ond er na ellid rhoi sicrwydd ar hyn, y gobaith yw y bydd yn llai.

·        Costau Gwasanaethau Cefnogol Awdurdod Lletyol’ – gwerth 2 fis o gyllideb wedi ei osod ar y penawdau yma, gan eithrio Cyllid, gan y bydd gofyn statudol i baratoi set o gyfrifon llawn, er cyfnod o ddau fis yn unig fydd angen ei gyfrifo. Y gyllideb felly yn adlewyrchu y gwaith yma a’r gwaith sydd ei angen gan yr Adran Cyllid yn ystod cyfnod yr archwiliad efo Archwilio Cymru.

·        Model cenedlaethol a phrosiectau penodol - dim cyllideb wedi ei ddarparu

·        Gwasanaethau a gomisiynwyd gan yr Awdurdodau – dau fis o gyllideb wedi ei osod

 

O ganlyniad i’r rhagolygon uchod, ystyriwyd gosod cyfanswm y gyllideb gwariant yn £1.2 miliwn (12% o gyllideb 2024/25, sydd yn llai na gwerth 1 rhan o 6, sef 2 fis, sydd yn 17%). O ran ariannu’r costau yma, cyfeiriwyd at y cyfraniadau craidd a’r cyfraddau perthnasol wedi ei nodi fel cyfraniadau yr awdurdodau, gyda gwerth 2 fis wedi ei darparu.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd),  mai amcan yn unig oedd y gyllideb yma, a bod disgwyliad mai dim ond y gwariant angenrheidiol fydd yn cael ei wneud hyd ddiwedd Mai. Cadarnhawyd mai yn seiliedig ar y gwir gost fydd yr hawliad yn cael ei wneud i’r Awdurdodau.

 

Yng nghyd-destun arian wrth gefn, gan fod y gronfa wrth gefn wedi cael ei defnyddio i gyllido sefyllfa ariannol 2024/25, nid yw ar gael ar gyfer 2025/26.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

·        Yn croesawu’r gyllideb er bod angen mwy o eglurhad / sail rhesymegol dros rai o’r penderfyniadau – awgrym i’r mater gael ei drafod / herio yn y Bwrdd Trosiannol gydag adborth i gyfarfod nesaf o’r Cydbwyllgor

·        Oediad gan Lywodraeth Cymru  i ddirwyn GwE i ben sydd wedi arwain at gostau ychwanegol – pam felly’r Cynghorau sydd yn wynebu’r costau? Awgrym i ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am eglurder i’r oediad a chais i Cyngor Gwynedd (fel yr Awdurdod Lletyol) i dafod y mater yng nghyfarfod gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru

·        Cynnig bod llythyr o gefnogaeth / datganiad gwleidyddol gan y Cydbwyllgor yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Lletyol yn cefnogi eu pryderon o’r costau ychwanegol sydd i ddirwyn GwE i ben oherwydd oediad gan y Llywodraeth o ran defnydd Grant Addysg Awdurdod Lleol (GAALl) i gefnogi Dysgu Proffesiynol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a derbyn adborth o gyfarfod Cyngor Gwynedd gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru, nodwyd nad oedd dyddiad nac amser wedi ei gadarnhau ar hyn o bryd, ond yn sicr bydd canlyniad y cyfarfod yn cael ei rannu gyda’r Cydbwyllgor. Ategwyd mai prin oedd yr amser a bod angen eglurder a sicrwydd o’r sefyllfa ariannol cyn cyfarfod y Cydbwyllgor yn mis Mai.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r adroddiad.

 

         PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

·        Adborth o gyfarfod yr Awdurdod Lletyol gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru i'w rannu gyda’r Cydbwyllgor

·        Bod llythyr o gefnogaeth / datganiad gwleidyddol gan y Cydbwyllgor yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Lletyol yn cefnogi eu pryderon o’r costau ychwanegol sydd i ddirwyn GwE i ben oherwydd oediad gan y Llywodraeth o ran defnydd Grant Addysg Awdurdod Lleol (GAALl) i gefnogi Dysgu Proffesiynol.

 

Dogfennau ategol: