I ystyried
yr adroddiad
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
·
Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo trefniadau gweithredu GwE am y cyfnod 01/04/25 i 31/05/25.
·
Bod angen
eglurder ynglŷn â thaliadau costau ychwanegol tu hwnt
i Fai 2025. Ai'r Awdurdodau Lleol unigol neu Llywodraeth Cymru fydd yn cymryd
y baich?
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan
Pennaeth
Gwasanaeth - Gwella Ysgolion a Phennaeth
Gwasanaeth GwE - Dysgu Proffesiynol yn nodi trefniadau gweithredu GwE am y cyfnod
01/04/2025 i 31/05/2025. Eglurwyd bod
Prif Weithredwyr y chwe Awdurdod Addysg bellach wedi cadarnhau dyddiad terfynu
GwE fel 31ain o Fai yn hytrach na’r 31ain o Fawrth, 2025 sydd yn golygu bydd y
Gwasanaeth yn parhau heibio i’r flwyddyn gyllidol presennol, a’r Cytundebau
Comisiynu a’r Cynlluniau Busnes presennol, am gyfnod o ddau fis ychwanegol.
Ategwyd bod cytundebau unigolion sydd ar secondiad neu’n gweithio ar gomisiwn i
GwE yn dod i ben ar 31ain o Fawrth ac y
bydd hyn yn effeithio capasiti’r
Gwasanaeth. Nodwyd hefyd, er yn gyfnod o
ddau fis, bydd yr ysgolion ond yn agored am chwe wythnos yn ystod y cyfnod yma
oherwydd gwyliau’r Pasg a hanner tymor.
Er nad yw’n ymarferol llunio Cynllun
Busnes a Chytundeb Comisiynu ar gyfer y cyfnod byr yma, adroddwyd y byddai’r Gwasanaeth
yn parhau i gefnogi ysgolion yn unol â’r gofynion craidd ac y bydd yr
Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant yn ymateb yn hyblyg i ofynion ysgolion gan
sicrhau gwasanaeth llyfn a di-dor yn ystod y cyfnod trosiannol yma. Bydd hyn yn
cynnwys yr ymweliadau arferol o fonitro a sicrhau ansawdd addysgu a dysgu yn yr
ysgolion. Ategwyd, pe byddai diffyg na ellid ei lenwi, bydd y Gwasanaeth yn
ystyried comisiynu penaethiaid trwy gytundeb gyda’r Prif Swyddogion Addysg ac
yn unol â’r hyn a gytunwyd arno yn y Cydbwyllgor ar 2 Hydref 2024.
Yng nghyd-destun Amserlenni Rhaglenni
Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol, nodwyd
bydd rhai carfannau hyfforddiant cenedlaethol, sydd yn gyfrifoldeb i
GwE, heb eu cwblhau erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25. Mewn ymateb, nodwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ar lafar i sicrhau bod unrhyw raglen dysgu
proffesiynol Cenedlaethol yn parhau tan ei diwedd.
Yng nghyd-destun Hyfforddiant Lleol /
Rhanbarthol, nodwyd bod yr amserlen wedi ei chyfyngu i delerau grant 2024/25 ac
felly nid yw’n ymarferol llunio cynnig
Dysgu Proffesiynol i ysgolion am gyfnod
o ddau fis 2025/26. Bydd hyblygrwydd i staff GwE gynnal sesiynau yn ddibynnol
ar yr angen ac ar y capasiti sydd ganddynt, o
ystyried mai tîm cyfyngedig fydd gan GwE wedi’r Pasg.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:
·
Bod angen cydweithio gyda’r Adrannau Addysg i sicrhau
na fydd costau
pellach.
·
Bod Llywodraeth Cymru drwy’r Awdurdodau Lleol yn ymrwymo i sicrhau bod cydweithwyr
ar raglenni yn eu cwblhau
yn llwyddiannus – angen sicrhau parhad
iddynt
·
Costau tu hwnt i Fai 2025 – ai’r Awdurdodau fydd yn cymryd
y baich yntau Lywodraeth Cymru? Angen eglurder
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â capasiti staff nodwyd y byddai GwE yn ceisio sicrhau
cefnogaeth i ysgolion gyda thrafodaethau gydag Awdurdodau unigol i drafod y
sefyllfaoedd mwyaf anghenus.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo trefniadau gweithredu GwE am y cyfnod
01/04/25 i 31/05/25.
·
Bod angen eglurder ynglŷn â thaliadau costau ychwanegol tu hwnt i
Fai 2025. Ai'r Awdurdodau Lleol unigol neu Llywodraeth Cymru fydd yn cymryd y baich?
Dogfennau ategol: