I gyflwyno
canfyddiadau yr archwiliad ac ymateb y Cyngor i’r Pwyllgor
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiadau a gofyn am adroddiadau cynnydd.
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant gan dynnu sylw at
bresenoldeb llawn tîm rheoli’r Adran Oedolion yn y cyfarfod heddiw. Diolchwyd
iddynt am eu hamser gan fynegi bod eu presenoldeb yn dangos cryfder ac
ymroddiad yr Adran i’w cyfrifoldebau. Eglurwyd bod archwiliad ar y cyd rhwng
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi ei gynnal ym mis Hydref 2024 ar y
gwasanaethau yn yr Adran Oedolion. Credwyd felly ei bod yn addas cyflwyno’r
ddau adroddiad o fewn yr un eitem i’r Pwyllgor Craffu Gofal.
Ychwanegwyd yn ystod yr un
cyfnod bod arolygiaeth o waith yr Adran oedd wedi ei gomisiynu gan yr Adran
drwy’r CLlLC wedi ei gynnal a hefyd y gwaith ar y
cynllun Llechen Lan. Mynegwyd bod bwriad i ddod a chanfyddiadau’r holl arolygon
at ei gilydd a chreu un cynllun gweithredu manwl ar gyfer yr Adran. Eglurwyd y
bydd y cynllun hwn mewn amser yn dod ger bron y Pwyllgor Craffu Gofal er mwyn
derbyn ei fewnbwn, sydd wastad yn cael ei werthfawrogi gan yr Adran.
Diolchwyd i swyddogion AGC a
SAC am y cyd-weithio cyson efo’r Adran Oedolion a mynegwyd gwerthfawrogiad am
eu mewnbwn. Amlygwyd bod canran uchel iawn o’r materion sy’n cael eu nodi yn
faterion sy’n heriol yn genedlaethol neu’n faterion sydd eisoes wedi eu
hadnabod a’r Adran yn ceisio darganfod datrysiadau ar eu cyfer.
Cyflwynodd cynrychiolydd
Arolygiaeth Gofal Cymru'r adroddiad gan fanylu ar y canfyddiadau. Diolchwyd i
Uwch Swyddogion yr Adran am eu gwaith o ragbaratoi cyn mis Hydref ac am y
gwaith a’r gefnogaeth yn ystod yr archwiliad. Tynnwyd sylw at y llythyr sydd wedi
ei gynnwys yn y Rhaglen (tudalen 16) gan egluro mai’r llythyr hwn yw canlyniad
yr ymweliad.
Amlygwyd rhai
materion sydd wedi eu cynnwys yn y llythyr megis y ganmoliaeth am y cynnydd
sydd wedi ei wneud yn y maes gofal cartref er bod gwelliannau pellach i’w
gwneud. Credwyd bod angen cysoni’r amser aros am asesiadau gan fod oedi efo
rhai asesiadau am ofal cartref. Cydnabuwyd hefyd y cryfderau a’r gwelliannau
clir yn y maes diogelu oedolion ac asesu galluedd meddyliol pobl.
Derbyniwyd bod
heriau yn bodoli wrth geisio gweithio mewn partneriaeth efo’r Bwrdd Iechyd gan
gydnabod bod ymdrechion yn cael eu gwneud a phwysleisiwyd y pwysigrwydd i
barhau â’r ymdrechion hynny. Tynnwyd sylw at rai meysydd i’w gwella megis yr
heriau wrth gofnodi data am
asesiadau a chymorth i ofalwyr di-dâl gan nodi bod lle i wneud y data yn fwy
dibynadwy.
Cyflwynodd cynrychiolydd Archwilio Cymru drosolwg
o’r Adroddiad Archwilio Cymru fel sydd wedi ei gynnwys yn y Rhaglen (tudalen
37). Eglurwyd bod y gwaith archwilio SAC yn canolbwyntio ar faterion yn
ymwneud â darparu a chomisiynu gofal cartref mewnol ac allanol. Diolchwyd am y
croeso yn ystod yr ymweliad ac am y cyd-weithio.
Rhoddwyd canmoliaeth i
adroddiad Llechen Lan a’r cynlluniau sydd ar y gweill gan nodi fod hyn yn
dangos meddwl hir dymor ac ystyriaethau i drawsnewid yr Adran i fod yn fwy
effeithiol. Nodwyd ei bod yn wendid bod y flaenoriaeth hon ddim yn cael ei
gynnwys yng nghynllun yr Adran nac yng Nghynllun y Cyngor ond amlygwyd bod
cynlluniau ar y gweill a newidiadau eisoes wedi digwydd i adfer hyn, oedd yn
galonogol iawn.
Tynnwyd sylw at un elfen
oedd yn aneffeithiol yn y system bresennol sef bod tensiwn rhwng rhedeg
gwasanaeth effeithlon a diffyg cyllideb a chreu gwasanaeth sy’n gynaliadwy yn
ariannol. Nodwyd heb newid mawr roedd y gorwariant eleni yn ymddangos yn anochel.
Ategwyd bod Llechen Lan yn dangos mwy o alw; o ganlyniad bydd angen gwneud yn
siŵr bod lefel gwasanaeth yn gyson a bod sicrwydd i’r Cyngor a’r Aelodau
bod y gyllideb yn gynaliadwy er mwyn osgoi'r angen i ddarganfod mwy o arian
wrth gefn yn flynyddol.
Cyfeiriwyd at y gofrestr
risg oedd yn cydnabod y risgiau ac yn adnabod camau lliniaru. Nodwyd nad oes
disgwyliad i’r Adran ddatrys yr holl rwystrau yn y dyfodol agos ond bod camau
mewn lle a bod y rhestrau aros yn lleihau a’n gwella yn gyson. Tynnwyd sylw at
arddangosyn 3 yn yr adroddiad ar dudalen 45 o’r Rhaglen oedd yn gwneud 4 o
argymhellion i’r Cyngor.
Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr Adran Oedolion wedi
wynebu sawl her yn ddiweddar ac ymfalchïwyd bod canlyniadau’r arolygon yn
eithaf cadarnhaol. Cydnabuwyd bod llefydd i wella a bod canlyniadau’r holl
arolygon gan gynnwys yr arolwg CLlLC wedi dod i
gasgliadau weddol debyg. Amlygwyd bod yr Adran yn ymwybodol o lawer o’r meysydd
i’w gwella eisoes gan nodi bod ambell un o’r meysydd hyn yn her i’r Adran ond
credwyd bod yr adroddiad AGC yn deg a chywir ac yn rhoi cyfle i’r Adran well.
Credwyd bod yr
adroddiadau i gyd yn casglu fod yr Adran ar y trywydd cywir ond angen
gweithredu yn gyflymach. Tynnwyd sylw at y cynllun gweithredu sydd yn ei le gan
yr Adran.
Cyfeiriwyd at yr
heriau yn y maes gofal cartref, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan
gydnabod bod rhagor o waith i’w wneud yn y maes. Ychwanegwyd bod y sefyllfa yn
gwella ac y bydd adroddiad er mwyn ychwanegu'r gwaith ar ofal cartref i mewn i
Gynllun y Cyngor yn dod ger bron y Cyngor Llawn yn fuan. Croesawyd y sylwadau
gafodd eu derbyn gan yr arolygwyr ar y rhaglen Llechen Lan a diolchwyd i’r
arolygwyr am eu gwaith.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:-
Diolchwyd am yr adroddiadau.
Cyfeiriwyd at awgrym mewn cyfarfod blaenorol i’r Adran Oedolion wneud mwy o
ddefnydd o’r broses craffu. Awgrymwyd efallai bod lle i wneud mwy o ddefnydd
o’r Pwyllgorau Craffu ac i newid y ffordd mae Craffi’n cael ei gynnal er mwyn
bod yn fwy o gymorth i’r Adrannau.
Pryderwyd nad oes gan rai o
weithwyr rheng flaen y Cyngor e.e. gofalwyr cartref neb i siarad â hwy yn
ddigon aml a cwestiynwyd os all y Cyngor roi mwy o gyfleoedd i’r staff yma
leisio eu barn.
- Mewn ymateb cydnabuwyd yr her o dderbyn
adborth gan staff gan nodi fod y swyddi rheng flaen hyn yn gallu bod yn swyddi
unig.
- Eglurwyd bod y Cyngor wedi cynnal
sesiynau diolch ar gyfer gofalwyr cartref oedd yn gweithio i’r Cyngor flwyddyn
diwethaf. Eglurwyd bod y sesiynau hyn ar gyfer y gweithwyr gofal cartref sydd
allan yn y gymuned. Cynhaliwyd 10 sesiwn gan nodi bod yr Adran wedi derbyn
llawer o adborth defnyddiol. Nodwyd yn dilyn yr adborth a’r argymhellion bod
newidiadau eisoes wedi digwydd megis gofod cinio pwrpasol i’r staff a
goruchwyliaeth a chefnogaeth gan reolwyr llinell. Cyfeiriwyd at yr hybiau sydd
wedi eu sefydlu mewn rhai ardaloedd er mwyn cwrdd â’r gofyn hwn gan y staff.
- Nodwyd bod yr Adran yn ymwybodol o’r
gofynion gan ofalwyr cartref ac yn ceisio gweithredu ar y pryderon a godwyd gan
yr Aelod.
-
Ychwanegwyd
bod cynlluniau i’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau
Cymdeithasol, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesant a’r Aelod Cabinet i
ymweld â gwasanaethau’r Adran dros y misoedd nesaf. Amlygwyd mai’r bwriad yw
gwrando ar staff a’u pryderon a’r heriau y maent yn ei wynebu.
-
Soniwyd bod gwaith ar y gweill i gael siarter fel bod staff yn
ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn y gwaith. Nodwyd hefyd bod
holiaduron yn cael eu hanfon allan i staff er mwyn derbyn eu barn am y
gwasanaeth.
- Cyfeiriwyd at yr Academi
Gofal sydd bellach wedi ei sefydlu er mwyn denu a chefnogi gyrfa staff yn y
meysydd gofal.
Cydymdeimlwyd â’r heriau
cyson sy’n wynebu’r Adran Oedolion. Tynnwyd sylw at bwynt yn adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru am ddiffyg cyllideb digonol yn yr Adran Oedolion gan ofyn sut y
gellir sicrhau rhagor o gyllideb i’r Adran yn sgil yr heriau ariannol sy’n
wynebu’r Cyngor. Gobeithir y byddai’r neges hon yn cael ei chyfleu i Lywodraeth
Cymru gan fynegi barn bod y Cyngor yn cael ei dan-gyllido.
- Mewn ymateb nodwyd bod SAC wedi llunio
adroddiad cenedlaethol ym mis Rhagfyr ar ariannu’r sector Llywodraeth Leol ble
mae neges glir am yr anawsterau sydd o fewn y sector yn genedlaethol.
- Ychwanegodd y Pennaeth Oedolion, Iechyd
a Llesiant mae’r nod ydi gweithredu yn fwy effeithlon er mwyn cyfarch yr
anghenion ond bod hyn yn anodd yn sgil y cynnydd yn y galw. Nodwyd ei bod yn
ddyletswydd i ddefnyddio’r arian sydd ar gael yn y modd mwyaf effeithlon.
Gwnaethpwyd sylw nad oedd
sôn yn yr adroddiad bod y gwasanaeth integredig iechyd meddwl oedd yn arfer bod
efo’r Awdurdod Iechyd wedi dod i ben. Credwyd y dylai cyfeiriad at y newid yma
fod wedi ei gynnwys yn yr adroddiad gan ei fod yn newid sylweddol.
- Mewn ymateb nodwyd mai ffocws AGC yn
benodol oedd i ddilyn fyny ar y materion gafodd eu nodi yn yr archwiliad
blaenorol nol yn 2022 a doedd y mater yma heb ei adnabod fel un o’r prif
welliannau bryd hynny. Credwyd fod y mater yn un rhanbarthol ac yn ehangach na
Gwynedd fel ardal benodol.
- Ychwanegodd y Pennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd
Meddwl a Diogelwch Cymunedol y bydd adroddiad pellach ar y Gwasanaeth Iechyd
Meddwl yn dod ger bron y Pwyllgor Craffu Gofal ym mis Ebrill.
Gofynnwyd faint o swyddogion
sydd yn gwneud y gwaith o asesu pobl am o ran galluedd meddyliol o fewn y
Cyngor ac os yw AGC yn credu fod y niferoedd hynny yn ddigonol.
- Mewn ymateb nodwyd bod pob Gweithiwr
Cymdeithasol yn gallu gwneud asesiadau galluedd meddyliol a bod bid wedi ei
gyflwyno am arian ar gyfer cyflogi dau asesydd budd gorau ychwanegol er mwyn
cryfhau'r tîm DOLS.
Gwnaethpwyd pwynt
gan AGC bod safon yr asesiadau wedi gwella.
Dogfennau ategol: