Cwestiynau i’w
gofyn i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Penderfyniad:
Derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd a’u hymatebion i
gwestiynau’r aelodau fydd wedi eu crynhoi yng nghofnodion y Pwyllgor.
Cofnod:
Croesawyd cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i’r
cyfarfod. Gofynnwyd y cwestiynau a oedd wedi eu gofyn ymlaen llaw i’r Bwrdd
Iechyd yn y drefn yr oeddynt yn ymddangos ar Raglen y Pwyllgor gan roi cyfle i
gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd ymateb a’r Aelodau i holi cwestiynau pellach.
Gweledigaeth
Diolchwyd am y croeso cynnes a nodwyd ei bod
hi’n braf cael ymweld â’r Cyngor i ateb cwestiynau. Esboniwyd bod y cynllun
‘Gogledd Cymru Gwell’ yn un sydd wedi bod yn rhedeg ers cyfnod ond yn rhywbeth
mae’r Bwrdd Iechyd yn ail edrych arno. Eglurwyd bod o’n waith sydd wedi bod yn
digwydd gyda’r trydydd sector, hefo partneriaid yn y cynghorau sir ar draws
gogledd Cymru, ac yng Ngwynedd mae’n
rhoi cyfle i roi ffocws ar les. Ymhelaethwyd mai’r bwriad yw t ceisio helpu, yn
enwedig, y bobl mewn ardaloedd difreintiedig ac i fynd i’r afael ar y problemau
mawr sydd yn medru gwneud gwahaniaeth yn y cefndir.
Cydnabuwyd fod problemau wedi codi gyda
lefelau staffio yn ysbytai cymunedol ar draws Wynedd. Eglurwyd mai gweledigaeth
y Bwrdd Iechyd i’r dyfodol ywsefydlu mwy o unedau mân
anafiadau i rwystro pobl rhag mynd i’r
Ysbytai mwy i gael triniaeth. Ymhellach eglurwyd mai’r nod yw sefydlu
ystafelloedd triniaeth yn yr ysbytai
cymunedol hefyd i rwystro pobl rhag gorfod teithio yn bell i gael
cyffuriau drwy eu gwythiennau. Adroddwyd fod y gwasanaeth ‘Tuag Adref’ wedi
cael dechrau positif. Nodwyd bod claf yn medru aros yn eu tai gydag ychydig
bach o gefnogaeth gan y Bwrdd Iechyd a’r nyrsys cymunedol i osgoi gorlenwi yn
yr ysbytai.
Croesawyd y syniad o gael mwy o ysbytai
cymunedol sydd yn medru darparu mwy o wasanaethau i gleifion, ond yn sgil hynny
mynegwyd pryder gyda rhai gwasanaethau yn cael eu canoli, fel y gwasanaeth
fasgwlaidd. Eglurwyd fod arbenigedd
fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd o’r blaen, ond mae’r gwasanaeth bellach
wedi ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd. Mewn ymateb eglurwyd fod hwb y gwasanaeth
Fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd a bod rhai gwasanaethau eraill yn Ysbyty Gwynedd a Maelor. Nodwyd
hefyd fod hyn yn broblem ehangach gan nad yw hi'n bosib cynnal gwasanaethau
arbenigol ym mhob man yn y Gogledd oherwydd diffyg niferoedd.
Doctoriaid a gwasanaethau dyddiol eraill
(sydd ddim yn wasanaethau brys):
Adroddwyd mai yn y gofal cychwynnol mae’r
rhan fwyaf o waith y Bwrdd Iechyd yn cael ei wneud. Cyflwynwyd stateg oedd yn
dangos, dros gyfnod o chwe mis, fod hanner miliwn o apwyntiadau gofal
cychwynnol yng ngogledd gorllewin Cymru. Cydnabuwyd fod problemau gyda
recriwtio meddygon sydd yn rhoi straen ar y system ond gobeithiwyd bydd
agor ysgol feddygol ym Mangor yn helpu
hyn yn y dyfodol.
O ran y mynediad i ofal cychwynnol, nodwyd
eu bod yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol, gyda fferyllwyr sydd yn medru
rhagnodi, therapyddion, nyrsys a pharafeddygon i gyd yn gweithio gyda’i gilydd.
Soniwyd hefyd am y ‘Sialens 50 diwrnod’ sydd wedi galluogi’r Bwrdd Iechyd i roi
arian ychwanegol i’r fferyllwyr ag i’r meddygon i edrych ar y cleifion bregus a
fydd yn helpu i drio cadw cleifion adref, neu mor agos â phosib i adref.
Rhybuddiwyd mai arian byr dymor ydy’r arian yma i dreialu gwahanol bethau.
Cydnabuwyd fod anawsterau llif yn yr adran
argyfwng ond nodwyd fod hyn yn gysylltiedig gyda’r nifer o bobl sy’n dod i’r
adran yn hytrach na’r angen am wasanaethau argyfwng. Eglurwyd fod angen hwb
cynhwysfawr ym mhob cymuned gydag amrediad o wasanaethau, a bod pobl yn
ymwybodol o hynny. Byddai hynny yn tynnu’r pwysau oddi ar yr adran argyfwng.
Nodwyd fod angen teilwro'r mynediad i’r adran argyfwng yn well drwy gyfeirio
pobl at yr amrediad o wasanaethau eraill sydd ar gael. Mynegwyd pryder gan yr
aelodau fod diffyg uned man anafiadau mewn rhai ardaloedd sydd yn gorfodi pobl
i fynd i'r uned argyfwng ac felly cwestiynwyd os oes angen mwy o unedau man
anafiadau o gwmpas Gwynedd.
Esboniodd aelod ei fod wedi mynychu’r adran
argyfwng yn ddiweddar ac nid oedd peiriant gwerthu brechdanau na pheiriant
gwerthu dŵr oer. Nodwyd mai rhywbeth bach iawn fyddai darparu peiriant
diod a brechdanau yn yr uned argyfwng a fyddai’n gwella profiad pobl yn yr
uned. Ymhellach, nododd fod cymaint o wendidau yn y system a'i fod yn bryderus
am y dyfodol. Ymhelaethodd bod y staff
yn gwneud eu gorau o dan straen anhygoel ond nad yw’r system yn gweithio’n
effeithiol.
Cytunwyd bod problem gyda'r diffyg
peiriannau bwyd a diod yn yr uned a bod gwaith angen ei wneud i wella profiadau
pobl yn yr uned. Cydnabuwyd fod problemau mawr gyda’r adran argyfwng ond fod
hyn yn broblem genedlaethol gyda’r boblogaeth yn byw yn hŷn. Nodwyd bod
angen mynd i’r afael a’r broblem yma, gan gynnwys rhoi sylw i ddarparu gofal yn
nes at adref a’r ffordd mae cymdeithas yn defnyddio gwasanaethau sydd ar gael.
Soniwyd bod profiadau pobl wrth ddisgwyl am
driniaeth yn rhywbeth mae’r Bwrdd Iechyd yn medru dylanwadu arno yn
uniongyrchol, ac y dylid edrych ar ôl y cleifion sydd ar restrau aros. Yn yr un
modd, ymhelaethwyd fod yr un peth yn wir yn yr adran argyfwng gyda phobl yn
disgwyl oriau ac weithiau diwrnodau i’w cael eu gweld. Nodwyd fod angen gwneud
hyn heb effeithio ar yr ochr glinigol a bod angen gweithio gyda phartneriaethau
eraill fel y Groes Goch i greu'r amodau gorau phosib i bobl sy’n disgwyl yn yr
uned argyfwng.
Gofynnwyd a oes uned man anafiadau ym Mangor
sydd ar agor drwy ddydd bob dydd. Nododd yr aelod ei bod wedi bod yn yr adran
argyfwng yn ddiweddar ac roedd llawer o bobl yno nad oedd angen gwasanaeth
argyfwng. Byddairhain wedi medru cael eu cyfeirio at
yr uned man anafiadau i dynnu’r pwysa oddi ar yr adran argyfwng.
-
Mewn
ymateb, eglurwyd fod yna ffrwd i bobl sydd gyda man anafiadau a bod llwybr
wedyn iddynt gael triniaeth heb amharu ar y bobl sydd wir mewn argyfwng. Nodwyd
pryderon yr aelodau a chadarnhawyd eu bod am fynd a’r sylw yma yn ôl fel
adborth. Ymhellach, cwestiynwyd os mai Ysbyty Gwynedd yw’r lle gorau i drin
pobl gyda man anafiadau ac awgrymwyd y dylid ystyried sefydlu safleoedd eraill
i’r math yma o driniaeth yn gwneud mwy o synnwyr yn ddyfodol.
Fferyllfeydd a deintfeydd
Esboniwyd nad yw agor fferyllfeydd yn dod o dan reolaeth y
Bwrdd Iechyd. Eglurwyd, pan mae yna fwlch o ran fferyllfa yn y Gogledd, bod
pobl yn medru rhoi cais i mewn er mwyn llenwi’r bwlch ond nid yw’r Bwrdd Iechyd
yn medru rheoli’r broses yn ormodol. Os yw’r cais yn cael ei gymeradwyo, mae
gan yr ymgeiswyr 7 mis i agor y fferyllfa ac mae yna gyfnod lle maent yn gorfod
hysbysu a dweud wrth randaliad. Cydnabuwyd fod y broses yn un cymhleth a hir
ond fod rheolau mewn lle ac mae’r Bwrdd Iechyd angen eu dilyn.
Gofynnwyd a yw’r cynrychiolwyr yn cefnogi
cais yr aelod seneddol dros Wynedd i gael ysgol ddeintyddol ym Mangor.
-
Mewn
ymateb, nodwyd eu bod wedi cefnogi pob ymgais i ddatblygu darpariaeth o
wasanaethau o gwmpas y Brifysgol ym Mangor. Nodwyd eu bod yn hapus i gydweithio
gyda llywodraeth a’r brifysgol i wireddu hynny oherwydd bod yr angen yn amlwg.
Ategwyd mai’r gobaith wedyn yw gallu recriwtio staff lleol i helpu gyda’r
broblem recriwtio.
Gofynnwyd pam ei bod hi’n anodd denu
deintyddion i ardaloedd gwledig.
-
Cydnabuwyd
eu bod hi’n anodd a bod y cyfnod pandemig wedi gwaethygu’r broblem o ran
contractwyr. Nodwyd fod proses caffael gwasanaeth deintyddol y llywodraeth,
sydd yn werth 5 miliwn, yn digwydd ar hyn o bryd o. Eglurwyd hefyd eu bod wedi
edrych ar sut gall y Bwrdd Iechyd addasu’r gwasanaeth wrth ddefnyddio
deintyddion y Bwrdd Iechyd a’i gyrru nhw allan i’r gymuned.
Ambiwlans
Cydnabuwyd fod y Bwrdd Iechyd angen gweithio
yn fwy effeithiol er mwyn cynorthwyo’r gwasanaeth ambiwlans.. Nodwyd fod pedwar
ffrwd o waith yn cael sylw ar hyn o bryd
sef cymorth yng nghartref yr unigolyn, o flaen drws yr ysbyty, llif o fewn yr
ysbyty a rhyddhau yn ôl i’r gymuned. Soniwyd fod gwaith mawr yn digwydd ar hyn
o bryd i wneud y broses yn un lot fwy effeithlon.
Nodwyd, fel enghraifft o ddatblygiad y
gwasanaeth, fod y Bwrdd Iechyd yn gweithio yn agos gyda’r gwasanaeth ambiwlans
ac wedi nodi y gall y gwasanaeth wneud
asesiadau wrth weld y claf yn ble maent wedi cael y ddamwain. Byddai hyn yn
sicrhau fod y bobl sydd angen dod i’r ysbyty yn cael y blaenoriaeth.
O ran colli Pencadlys Ambiwlans Awyr
Caernarfon, nodwyd nad oeddynt eisiau mynd mewn i ormod o fanylder wrth ateb y
cwestiwn gan fod achos llys ar hyn o
bryd a bod Bwrdd Iechyd Gwynedd ynghyd a Powys wedi gwrthwynebu’r newidiadau.
Ategwyd nad oeddent yn sicr ar hyn o bryd a fydd colli Pencadlys yn cael effaith negyddol ar Ysbyty Gwynedd.
Eglurwyd fod Ysbyty Gwynedd yn datblygu safle ambiwlans awyr er mwyn sicrhau
fod y gwasanaeth yn gallu cael mynediad i’r ysbyty yn rhwydd.
Canoli Gwasanaethau
Adroddwyd gan gynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd
fod bwriad, drwy’r cynllun 5 mlynedd, i wneud asesiad o beth fydd gofynion y
boblogaeth am y blynyddoedd nesaf i’w ddod ac yna penderfynu lle mae’r Bwrdd
angen darparu gwasanaethau. Crybwyllwyd fod yna ddwy ystyriaeth, sef sut y
gellir sicrhau'r gwasanaeth gorau i bobl mewn angen a sut i sicrhau mynediad i’r gwasanaeth. Cydnabuwyd
ei bod yn medru bod yn heriol i bobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig i gael
mynediad i wasanaethau ond ar yr un pryd, bod angen cofio mai’r cyfle gora i
bobl gael ansawdd iechyd gorau ydy drwy gael y gwasanaeth gorau.
Gwasanaeth Fasciwlar
Cadarnhawyd fod y gwasanaeth fasciwlar yn parhau yn Ysbyty Glan Clwyd. Yr unig newid yw
bod rhan o’r gwasanaeth arbenigol yn cael ei ddarparu yn Stoke.
Nodwyd fod y niferoedd sydd yn derbyn y gwasanaeth yma yn fach iawn gyda thri
yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Eglurwyd mai’r bwriad i’r dyfodol yw datblygu’r
gwasanaeth ac adeiladu ar y bartneriaeth gyda’r ysbyty yn Stoke.
Credwyd ei bod hi’n bwysig nodi fod gwasanaethau arbenigol trwy Brydain yn
digwydd mewn llai o ganolfannau a bod angen sicrhau fod pobl yn cael y
gwasanaeth gorau phosib.
Cydnabuwyd a nodwyd eu bod yn ymwybodol o
bryderon ynghylch pellter teithio i dderbyn rhai gwasanaethau. O ran y
gwasanaeth fasciwlar yn benodol, esboniwyd mai i
dderbyn y gwasanaeth gorau phosib y man gorau ar hyn o bryd yw drwy’r ysbyty yn
Stoke. Nodwyd fod y bartneriaeth rhwng yr ysbytai ar
waith clinigol yn gweithio ac effeithiol
iawn.
Iechyd Meddwl
Adroddwyd fod y gwasanaeth integredig iechyd
meddwl rhwng Cyngor Gwynedd a’r bwrdd iechyd wedi dod i ben ym mis Mai 2024. Esboniwyd fod hyn wedi bod yn digwydd ar draws Cymru ac nid yn
unigryw i Wynedd. Nodwyd fod y gwasanaeth dal yn bodoli ond yn fodel ychydig yn
wahanol, hynny yw, tydi o ddim yn integredig. O ran y disgwyliadau, adroddwyd
fod y gwasanaeth iechyd meddwl yn cael ei fonitro yn rheolaidd ac mae’r
ffigyrau yn cael eu rhannu gyda’r llywodraeth yng Nghymru.
Esboniwyd nad ydynt wedi cynyddu’r tîm
iechyd meddwl yn y bwrdd iechyd ond wedi defnyddio amser ychwanegol staff sydd
yno yn barod er mwyn ceisio helpu.
Cydnabuwyd fod dipyn o ôl-groniad ond fod hyn yn broblem genedlaethol a bod y
timau cenedlaethol yn edrych ar beth ellir ei wneud i fynd i’r afael â’r problemau yma. Nodwyd eu bod yn monitro
cwynion a bod tîm o fewn y bwrdd iechyd sydd yn helpu cleifion ac yn gwneud yn
siŵr bod pobl yn cael ateb i’w cwynion mor sydyn â phosib.
O ran y dyfodol, nodwyd eu bod yn teimlo’n
bositif oherwydd bod strategaeth newydd ar Iechyd Meddwl yn dod allan gan
lywodraeth Cymru blwyddyn yma. Bydd hyn yn gwneud y disgwyliadau gan bawb o
fewn y system yn glir. Gobeithir bydd y ffocws ar y claf fel eu bod nhw’n cael
y gofal sydd angen.
Soniwyd
bod gwaith yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd o fewn y Timau Iechyd
Meddwl Cymunedol er mwyn cyfarch y rhestru aros. Nodwyd hefyd bod adolygiad
staffio yn digwydd er mwyn ceisio deall
yn union lle mae’r meysydd gwan ac os ydy’r staffio yn ddigonol ar gyfer
y dyfodol. Esboniwyd bod y bwrdd iechyd yn derbyn cefnogaeth hefyd gan ‘HEIW’
sydd wedi cyflwyno strategaeth newydd yn y maes.
Gwasanaethau canolraddol ataliol
O ran beth mae’r Bwrdd Iechyd wedi eu
cyllidebu, eglurwyd fod un swydd wag yn ymwneud a therapi galwedigaethol ac un
yn wag oherwydd salwch. O ran ffisiotherapi, nodwyd eu bod wedi recriwtio a bod
pob tîm yn llawn. Credwyd eu bod hi’n amser cyffroes ar hyn o bryd i bobl sydd
yn gweithio yn y maes yma a bod arian wedi cael ei roi gan y llywodraeth i
deilwra swydd ddisgrifiadau a chwmpas proffesiynol. Esboniwyd fod yna
ymgynghorydd therapi yn rheoli a rhedeg yr adran ac yn cael canlyniadau gwych
gyda chleifiion. Ar ben hynny, nodwyd fod data
positif yn dechrau dod i sylw sydd yn dangos fod mwy o gleifion yn aros yn eu
cartref a ddim wedi gorfod mynd i’r ysbyty.
Gofal Iechyd Parhaus
Eglurwyd fod y bwrdd iechyd yn gweithio o
fewn fframwaith cenedlaethol a bod y broses yn un anodd a hir. O ran edrych ar
ofal diwedd bywyd, esboniwyd fod y fframwaith yn gadael i’r bwrdd iechyd
symleiddio proses. Ar ben hyn, er mwyn trio symleiddio’r broses mwy, nodwyd eu
bod wedi bod yn defnyddio rhai o’r gwlâu yn yr ysbytai cymunedol yn wahanol.
Hynny yw, dod a’r claf i’r ysbyty cymunedol a gwneud yr asesiad yn yr ysbyty
cyn mynd adref neu i gartref penodol.
Gwella systemau a chyfathrebu
Eglurwyd mai blaenoriaeth y Bwrdd Iechyd ar
hyn o bryd yw gwneud yn siŵr fod eu systemau yn integreiddio yn llawn. Nodwyd
fod ambell i le, fel yr uned iechyd meddwl, lle nad oes ganddynt systemau
electroneg mewn lle ar hyn o bryd. Er hyn, mae’r bwrdd iechyd yn datblygu
system electroneg ar gyfer cofnodi holl oofal iechyd.
Teimlwyd ei fod yn flaenoriaeth leol i’r bwrdd iechyd ond fod angen cydweithio
gyda byrddau iechyd eraill i wneud yn siŵr bod popeth yn integredig
Tynnwyd sylw gan aelod at ddiffygion y
systemau electroneg yn yr ysbytai.
Nododd ei fod wedi bod yn Ysbyty Gwynedd am apwyntiad ond nad oedd yr ysbyty yn
medru cael lluniau ei belydr-x o Abergele oherwydd bod y systemau yn wahanol a
ddim yn gydnaws. Ategodd ei fod yn bwysig fod y doctoriaid mewn ysbytai
gwahanol yn medru gweld y wybodaeth maent ei angen yn hawdd ac yn syth.
Cydnabydodd cynrychiolydd y y bwrdd iechyd bod
angen gwella’r ffordd maent yn defnyddio technoleg a manteisio mwy arno.
Esboniwyd fod Covid wedi creu peth newid ond bod
angen parhau i ddatblygu defnydd o dechnoleg a sicrhau fod systemau priodolmewn lle.
Diolchwyd i’r cynrychiolwyr am fod mor barod
i ateb cwestiynau gan yr aelodau ac am fod yn onest. Pwysleisiwyd fod angen
cydweithio rhwng pawb i wneud yn siŵr fod pethau yn gwella yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: