Agenda item

I dderbyn diweddariad gan

 

·        Network Rail

 

·        Trafnidiaeth Cymru

 

Amserlen 2025 - 2026

 

·         Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig

Cofnod:

Trafnidiaeth Cymru (TrC)

 

Croesawyd Gail Jones i’r cyfarfod

 

Rhannwyd fideo o waith diweddar Trafnidiaeth Cymru ar Reilffordd y Cambrian oedd yn cynnwys gwaith peirianneg o adnewyddu traciau, cryfhau arglawdd a gweithgareddau cynnal a chadw allweddol rhwng yr Amwythig a Machynlleth o 21/3/25 hyd 3/4/25.

 

Gwnaed cais am fideo Gymraeg ac i’r fideo gael ei rhannu gyda’r Aelodau fel bod modd iddynt ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol eraill.

 

Adroddwyd bod yr aflonyddwch diweddar o ganlyniad i ddamwain yn Nhalerddig Hydref 2024 wedi dod i ben 21/3/25 gyda threnau erbyn hyn yn rhedeg rhwng y Drenewydd ac Aberystwyth a Machynlleth i Bwllheli.

 

Amlygwyd yr effaith ar blant sy'n mynychu Ysgol Uwchradd Tywyn ac eraill sy'n teithio i'r Coleg yn Y Drenewydd oherwydd cau ffyrdd a chau rheilffordd ar yr un pryd. Nodwyd bod rhai myfyrwyr heb allu mynychu’r coleg am bythefnos gan aros adref i weithio, ond heb allu gwneud  gwaith ymarferol. Nododd y Cadeirydd, bod y gwyn yn un dilys yn creu effaith sylweddol ar bobl leol. Pan fydd gwasanaethau ffyrdd a rheilffyrdd yn cau mae'n gwneud bywyd yn anodd i bobl mewn ardaloedd gwledig, gyda'r gwyriadau'n hir iawn a’r gwasanaeth bws yn aneffeithiol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod y gwaith oedd yn cael ei weithredu yn hanfodol gyda Network Rail wedi ei gynllunio ymlaen llaw.

 

Diolchwyd i Gail am ei chyfraniad

 

Amserlen 2025 – 2026

 

Tynnwyd sylw at ostyngiadau yn amserlen Gaeaf Rheilffordd y Cambrian gan nodi bod colled y trên olaf yn un sylweddol i’r economi leol a'r sector lletygarwch. Er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd diffyg gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig, mae’n rhaid defnyddio ceir, ac wrth ddiddymu gwasanaeth y trên ola far y Cambrain, ystyriwyd bod hyn yn mynd yn groes i bolisiau Llywodraeth Cymru.

 

Ategodd rhai Aelodau bod nifer o fusnesau wedi cael eu heffeithio oherwydd colled bod gwasanaeth y trên olaf wedi dod i ben, gan nodi bod sefydliadau megis y Magic Lantern yn Nhywyn a Theatr y Ddraig, Abermaw wedi gorfod aildrefnu llawer o’i digwyddiadau. Nodwyd hefyd bod yr effaith ar rai yn "eithaf dinistriol." Ystyriwyd bod y gwasanaeth gaeaf eisoes yn annigonol a’r cysylltiadau rhwng pentrefi a threfi, erbyn hyn yn amhosib. Cyfeiriwyd at y teithiau undydd (megis taith i’r Amwythig am y diwrnod), ac at deithwyr yn treulio nosweithiau ym Mhwllheli, Abermaw neu Aberdyfi, sydd bellach yn amhosibl. Nodwyd bod diffyg dealltwriaeth neu werthfawrogiad o'r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau oherwydd yr hyn sy'n cael ei reoli gan amseroedd y rheilffordd.

 

Cyfeiriwyd at ddeiseb gyda 3500 o lofnodion oedd o blaid achub y gwasanaethau nos, ac yn tynnu sylw at yr anawsterau oedd yn wynebu busnesau gydag esiamplau o golli gweithwyr ac ysgwyddo costau ychwanegol. Erfyniwyd am ddatrysiad gwell a modd o ail atgyfodi’r rheilffordd.

 

Tynnwyd sylw at Asesiad Effaith a gwblhawyd gan staff Rheilffordd Tal-y-llyn oedd yn cynnwys gwybodaeth am effaith negyddol y gwasaneth trên ar yr economi leol. Cyfeiriwyd at nifer o ymatebion oedd wedi eu derbyn gan ddefnyddwyr a sefydliadau unigol a gwnaed cais i’w wybodaeth gael ei rannu gyda’r Aelodau a Thrafnidiaeth Cymru.

 

Adroddwyd bod y pryderon wedi eu hamlygu mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn a bod y materion hefyd wedi eu cyfarch gan Mabon ap Gwynfor oedd wedi codi’r materion yn y Senedd.

 

Amlygodd Gail Jones y byddai’n rhannu’r negeseuon gydag Uwch Swyddogion Trafnidiaeth Cymru, ond mynegodd bod angen i’r Aelodau, a’r ASau barhau i lobio a thynnu sylw at yr effeithiau. Ategodd y bydd y trenau newydd yn cadw gwell cofnod o nifer y teithwyr fydd yn cryfhau’r dystiolaeth bod defnydd da o’r gwasanaeth.

 

Network Rail

 

Nid oedd cynrychiolydd o Network Rail yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno diweddariad ond nodwyd eu parodrwydd i dderbyn sylwadau / adborth am y gwasanaeth

 

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

 

Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno diweddariad

 

Adroddwyd bod cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Nhywyn gyda Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru (dyddiad i’w gadarnhau). Manylion y cyfarfod i’w rannu gydag Aelodau’r Pwyllgor pan fydd y wybodaeth ar gael.