Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San
Steffan i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau i’r Senedd, ac i
Lywodraeth Cymru fynd ymlaen gyda’r gwaith o baratoi a thrafod gyda San Steffan
ar y ffordd orau i wireddu hyn.
Penderfyniad:
Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San
Steffan i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau i’r Senedd, ac i
Lywodraeth Cymru fynd ymlaen gyda’r gwaith o baratoi a thrafod gyda San Steffan
ar y ffordd orau i wireddu hyn.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i
eiliwyd:-
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Ei
bod wedi dod yn amlwg dros y blynyddoedd diwethaf nad yw Cymru’n cael y darlun
llawn pan mae’n dod i drafod y materion sy’n allweddol i ni fel Cenedl, a bod
diffyg cael rheolaeth dros y cyfryngau wedi achosi penbleth i bobl y wlad wrth
drafod protestiadau, argyfyngau a materion cyffredinol sy’n ein heffeithio ni
fel pobl o ddydd i ddydd.
·
Bod
y cyfnod clo yn ystod Cofid yn enghraifft amlwg o hyn, pan fu’r cyfryngau yn
rhannu newyddion nad oedd yn berthnasol i Gymru, gan greu dryswch o ran hawl
pobl i groesi ffiniau.
·
Y
gwelwyd yr un hen stori hefyd wrth i faterion Cymreig gael eu trafod ar y
newyddion cenedlaethol a’r papurau; materion sy’n cynnwys datganoli, protest y
ffermwyr, y gofal iechyd cenedlaethol, a llu o faterion pwysig, oherwydd prin
iawn ydi’r persbectif Cymreig a’r amser sy’n cael ei ddynodi i’r materion yma.
·
Ei
bod yn destun siom hefyd nad yw darlledu Cymraeg wedi cael yr un cyfle i dyfu â
chyfryngau mewn gwledydd tebyg, megis Catalwnia a Gwlad y Basg, sydd ag amryw o
sianeli yn eu hieithoedd eu hunain, yn ogystal â sianeli dwyieithog, a sianeli
yn y Sbaeneg sydd â phersbectif Catalaneg / Basgeg.
·
Heb
drafodaeth lawn, glir, gyda phersbectif Cymreig ar y materion allweddol yma, ei
bod yn mynd yn anodd deall beth yw’r camau nesaf i’w cymryd, a’n bod, felly, yn
tueddu i droi mewn cylchoedd ar bynciau llosg heb wybod beth yw’r ffordd i’w
datrys.
·
Ei
bod yn bwysig bod Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru yn dechrau trafod
ar unwaith sut mae modd datganoli darlledu a’r cyfryngau, drwy edrych ar y
ffordd i’w ariannu a’i wneud yn gynaliadwy.
Mynegwyd
cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau eraill, a nodwyd:-
·
Y
sefydlwyd sianeli teledu / radio yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia
tua’r un adeg a phan sefydlwyd S4C a Radio Cymru yma yng Nghymru. O ran cyd-destun, roedd gan Wlad y Basg 1
sianel deledu ac 1 sianel radio ar y cychwyn, ond bellach roedd ganddynt 6
sianel deledu a 5 sianel radio. Ar y
cychwyn roedd gan Gatalwnia 1 sianel deledu ac 1
sianel radio, ond bellach roedd ganddynt 6 sianel deledu a 3 sianel radio.
·
Bod
Bil Cyfryngau 2024 Llywodraeth y DU yn disodli’r angen i gynnig darpariaeth
trwy gyfrwng y Gymraeg, ac er i Bwyllgor Diwylliant Senedd Cymru fynegi pryder
clir ynglŷn â hynny, ni chafodd y cymal ei warchod. O ganlyniad, daeth dros 20 mlynedd o
ddarlledu Cymraeg ar y sianeli masnachol, gan gynnwys Champion, Heart a Capital, i ben ar 24
Chwefror eleni, gan arwain at golli swyddi a chreu bwlch o ran ein diwylliant.
·
Y
clywyd yn y dyddiau diwethaf nad yw Radio Cymru na BBC Sounds
yn mynd i allu darlledu i bobl y tu allan i’r DU oherwydd y newidiadau i
ddarpariaeth BBC Sounds. Bydd hyn yn golled enfawr i ddysgwyr Cymraeg
ar draws y byd ac i Gymry sy’n byw dramor.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Mae’r Cyngor yn
galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r
cyfryngau i’r Senedd, ac i Lywodraeth Cymru fynd ymlaen gyda’r gwaith o baratoi
a thrafod gyda San Steffan ar y ffordd orau i wireddu hyn.