Gwaith adfer i'r safle yn cynnwys addasiadau mewnol ac allanol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1. 5
mlynedd
2. Unol
a’r cynlluniau
3. Nwyddau
dwr glaw o wneuthuriad haearn bwrw
4. Manylion
y drysau newydd i’w gymeradwyo o flaen llaw
5. Morter
calch
6. Manylion
ffliw / fents i’w gymeradwyo o flaen llaw
7. Manylion
y ffens newydd i’w gymeradwyo o flaen llaw
8. Samples
carreg
9. Samples
o’r deunyddiau i’w defnyddio
10. Unol
a gofynion y GIS
11. Amodau
Dwr Cymru
12. Amodau
goleuadau
13. Amodau
bioamrywiaeth / CNC
14. Tirlunio
Cofnod:
Gwaith adfer i'r safle yn cynnwys addasiadau mewnol ac allanol
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais cynllunio llawn
ydoedd ar gyfer gwaith adfer i'r safle yn cynnwys dymchwel y caffi a’r siop
presennol a chodi adeiladau newydd.
Eglurwyd
bod safle Gilfach Ddu ym Mhentref Llanberis, yn gorwedd tu allan i ffiniau
datblygu'r pentref ond o fewn Safle Treftadaeth y Byd y Diwydiant Llechi yn
ogystal â'r Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Nodwyd bod yr adeiladau
yn rhestredig gradd I gyda'r olwyn ddŵr yno yn heneb.
Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor oherwydd maint y safle.
Adroddwyd
bod rhan helaeth o’r gwaith yn waith adfer mewnol, ac nad oedd angen hawl
cynllunio ffurfiol i gwblhau hyn. Er hynny, nodwyd bod y gwaith adfer wedi ei
asesu o fewn y cais adeilad rhestredig cysylltiedig a bod cymeradwyaeth a
chaniatâd wedi ei dderbyn gan CADW ar y cais hwnnw. Golygai hyn bod hawl
adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith ffisegol i’r adeilad, ond bod y bwriad yn
parhau i fod angen caniatâd cynllunio. Ategwyd bod Swyddog Cadwraeth y Cyngor
wedi rhoi mewnbwn sylweddol i’r cais yn ystod y cyfnod ‘cyngor cyn cyflwyno
cais’ a bod llwyddiant y cyngor yn cael ei adlewyrchu gan benderfyniad prydlon
CADW i gefnogi’r bwriad.
Tynnwyd
sylw at brif elfennau’r bwriad oedd yn cynnwys, dymchwel y siop bresennol a
chodi un newydd gyda’r un ôl-troed, codi estyniad er mwyn creu toiledau newydd,
dymchwel y caffi presennol a chodi un newydd ar yr un ôl-troed, codi gweithdy
bach newydd a chodi canopi newydd fel cysgodfa i ymwelwyr. Cyfeiriwyd at yr
amrywiaeth o addasiadau mân oedd hefyd yn cael eu cynnwys yn y cais megis creu
ac addasu agoriadau, gosod isadeiledd, codi ffensys, tirweddu, creu iard storio
a thynnu waliau pared modern.
Yng
nghyd-destun egwyddor y bwriad, nodwyd bod gwella atyniadau twristiaeth yn cael
eu cefnogi gan bolisi TWR 1. Ystyriwyd bod y bwriad ar sail dyluniad ac effaith
ar fwynderau yn dderbyniol ac ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr Uned
Trafnidiaeth gan nad oedd newidiadau i’r fynedfa na’r ddarpariaeth parcio o
fewn y safle. Derbyniwyd adroddiadau bywyd gwyllt efo’r cais a thrwy osod
amodau byddai modd bodloni sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth a Cyfoeth Naturiol
Cymru.
Nodwyd
bod y gwaith adfer yn hanfodol i ddyfodol y safle ac y byddai’r adeiladau
newydd yn welliant sylweddol o ran
dyluniad a phrofiad ymwelwyr y safle. Ystyriwyd y byddai'r bwriad yn dderbyniol
ac roedd y swyddogion yn argymell y Pwyllgor i'w ganiatáu gydag amodau.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod ef, ynghyd ag Aelod Lleol ward Llanberis, yn
gefnogol i’r cais
·
Angen sicrhau bod cymeriad yr adeiladau yn cael ei
warchod
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwdau canlynol:
·
Mai egwyddor sylfaenol a sail y cais, ynghyd a’r
cais a gymeradwywyd eisoes i adnewyddu adeilad rhestredig yn fewnol, yw sicrhau
bod y datblygiadau yn addas ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd.
·
Bod y Gilfach Ddu yn safle treftadaeth eithriadol o
bwysig, ac fe ystyriwyd bwysigrwydd y safle wrth wneud y cynigion, yn ogystal
â’r broses o Asesu'r Effaith ar Dreftadaeth.
·
Bod sesiynau ymgysylltu cyn cyflwyno'r cais wedi eu
cynnal gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol, CADW, a'r Is-grŵp Llechi
·
Bydd y datblygiadau arfaethedig yn gwella'r profiad
i ymwelwyr; yn sicrhau bod y safle ar gael i bawb; ac yn creu mwy o gyfleoedd
addysg a chyflogaeth.
·
Bod y cynllun creu Hwb Dehongli ar gyfer y Dirwedd
Llechi sy’n Safle Treftadaeth y Byd yn cyd-fynd â themâu allweddol Cynllun
Rheoli Safle Treftadaeth y Byd, sef ‘gofalu’, ‘mwynhau’ a ‘dysgu’ am y dirwedd
Llechi. Bydd yr Hwb Dehongli yn hyrwyddo'r etifeddiaeth ddiwydiannol, yr iaith
Gymraeg a’i diwylliant.
·
Bod yr addasiadau, yr adeiladau newydd, a’r
gwelliannau i’r dirwedd wedi cael eu dylunio’n ofalus mewn ffordd sy’n parchu'r
ardal leol.
·
Cyflwynwyd casgliad sylweddol o wybodaeth ategol i
gyd-fynd â’r cais.
·
Bod
yr ymgynghorwyr wedi ystyried yr holl wybodaeth yn fanwl, ac ni dderbyniwyd
gwrthwynebiadau ganddynt.
·
Nad oedd sefydliadau trydydd parti wedi cyflwyno
gwrthwynebiadau yn ystod y broses gynllunio.
·
Bod y datblygiad arfaethedig yn cael ei ystyried fel
un sy’n cyd-fynd â phrif bolisïau'r cynlluniau datblygu sydd ynghlwm â Chynllun
Cymru’r Dyfodol, Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd, a Pholisi Cynllunio
Cymru.
·
Bod adroddiad y Swyddog yn datgan y bydd y
datblygiadau arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gymeriad y safle, yn
ogystal â mwynhad pobl o’r safle, ond yn bwysicach yn sicrhau dyfodol y safle.
·
Yn diolch i
Swyddogion yr Awdurdod Lleol, yn enwedig Eryl Williams am ymgysylltu’n
gadarnhaol trwy gydol y broses.
d) Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau
canlynol gan yr Aelodau:
· Bod y cais yn un i’w groesawu
· Bod angen gwarchod y diwylliant
· Bod y safle angen adfywiad
· Ei bod yn hanfodol cadw cymeriad
yr adeiladau
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â defnyddio shîtiau rhychiog coch fel to
ar gyfer y siop a chysgodfa ymwelwyr ac nid llechi, ac awgrym cael amod i
sicrhau defnydd llechi lleol fel deunydd mwy cydnaws, nodwyd bod penderfyniad
wedi ei wneud i ddewis deunyddiau gwahanol fel bod modd gwahaniaethu rhwng yr
hen a’r newydd yn haws gan sicrhau nad yw’r adeiladau newydd yn cystadlu gyda’r
adeiladau traddodiadol.
PENDERFYNIAD: Caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r cynlluniau
3. Nwyddau dwr glaw o wneuthuriad haearn bwrw
4. Manylion y drysau newydd i’w gymeradwyo o
flaen llaw
5. Morter calch
6. Manylion ffliw / fents
i’w gymeradwyo o flaen llaw
7. Manylion y ffens newydd i’w gymeradwyo o
flaen llaw
8. Samples carreg
9. Samples o’r deunyddiau i’w defnyddio
10. Unol a gofynion y GIS
11. Amodau Dwr Cymru
12. Amodau goleuadau
13. Amodau bioamrywiaeth / CNC
14. Tirlunio
Dogfennau ategol: