Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro ac Iwan Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro'r CBC a’r Swyddog
Monitro.
PENDERFYNWYD:
1.
Cytuno i ymrwymo i
Gytundeb Cyflawni ac Ariannu ble trosglwyddir rôl corff Cyfrifol, cyfrifoldeb
am gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r trefniadau ariannu ar gyfer y Cynllun
Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.
2.
Cytuno i amnewid ac aseinio yn ôl yr angen,
cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r hawliau a’r rhwymedigaethau ym mhob
cytundeb ariannu sy’n dod i mewn a ddelir gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol
ar ran trosglwyddiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.
3.
Cytuno i drosglwyddo, amnewid ac/neu aseinio’r holl
fuddiannau ym mhortffolio prosiectau a ariennir gan Gynllun Twf Gogledd Cymru
ynghyd ag unrhyw gytundebau taliadau a phrydlesi ategol gan Gyngor Gwynedd fel
Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.
4.
Cytuno i drosglwyddo a/neu aseinio’r holl falansau
ariannol, arian sy’n ddyledus ac asedau fel a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ar neu cyn 31 Mawrth, 2025.
5.
Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr Dros Dro,
mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gytuno a
gweithredu’r cytundebau, gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol terfynol
eraill sy’n angenrheidiol i weithredu’r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym
mharagraffau 1, 2 a 3 uchod erbyn neu cyn 31 Mawrth, 2025.
6.
Cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a
bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer
gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar amnewid y Cynllun Twf a
chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol sy’n ymgorffori telerau allweddol y
Cytundeb Cyd-weithio rhwng y 6 Cyngor Cyfansoddiadol a’r 4 parti Addysg.
TRAFODAETH
Atgoffwyd
yr Aelodau mai’r dyddiad a benodwyd ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Cynllun Twf i Gyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd yw 1 Ebrill 2025. Cadarnhawyd bod gweithdrefnau pob Awdurdod Lleol
perthnasol wedi cymeradwyo’r trosglwyddiad gan nodi bod yr Adroddiad yn manylu
ar y camau sydd angen eu cyflawni er mwyn ei gwblhau’n amserol.
Eglurwyd
bod y Cyd-bwyllgor ar drothwy derbyn cytundeb gan bartneriaid y Cynllun Twf ar
gyfer y trosglwyddiad hwn.
Nodwyd
bod oediad wedi bod yn y trefniadau er mwyn derbyn cytundeb gan Lywodraeth
Cymru i ryddhau Cyngor Gwynedd o gyfrifoldebau a’r cytundeb ariannu’r Cynllun
Twf gan ganiatáu i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd fod yn gyfrifol ohono o 1
Ebrill 2025. Pwysleisiwyd bod y cytundeb hwn yn un creiddiol i’r trosglwyddiad.
Tynnwyd sylw bod cytundeb drafft wedi cael ei anfon i Lywodraeth Cymru ym mis
Chwefror 2025. Mynegwyd balchder bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ar 21
Mawrth 2025, yn dilyn trafodaethau maith, bod y cytundeb hwn yn dderbyniol ar
gyfer cyflawni’r trosglwyddiad. Cynghorwyd y gallai’r Cyd-bwyllgor ganiatáu’r
trosglwyddiad, yn ddibynnol ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn
derbyn cytundeb i’w arwyddo erbyn 25
Mawrth 2025, er mwyn sicrhau bod yr amserlen arfaethedig yn cael ei lynnu ato.
Amlygwyd
bod y penderfyniadau a nodwyd o fewn yr Adroddiad yn cyfeirio at ddirwyn
swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben ar 31 Mawrth 2025.
Ymhelaethwyd bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ysgwyddo baich y
swyddogaethau hynny o 1 Ebrill 2025.
Diolchwyd i’r
holl swyddogion am eu gwaith er mwyn ymdrechu i sicrhau bod popeth yn ei le ar
gyfer y trosglwyddiad hwn yn amserol, gan ddiolch hefyd am gydweithrediad
Llywodraeth Cymru ar y mater.
Dogfennau ategol: