I gyflwyno
adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr
Pwllheli.
Penderfyniad:
Cofnod:
Derbyniwyd Adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariadau Cod
Diogelwch Morol Porthladd, y Strategaeth Hirdymor, Carthu, Materion Ariannol,
Materion Gweithredol ac ystadegau niferoedd angorfeydd a chanrannau boddhad
cwsmer.
Diolchwyd i’r cyn-harbwrfeistr,
Wil Williams, am 34 mlynedd o wasanaeth yn Hafan Pwllheli, wedi iddo ymddeol yn
ddiweddar. Tynnwyd sylw ei fod yn arwain ar y gwaith o adeiladu’r marina,
goruchwylio estyniad a pob amser yn cynnal y lefel uchaf o wasanaeth i’r
cwsmeriaid. Ychwanegwyd ei fod yn angerddol iawn dros faterion yr harbwr a pob
amser yn barod i rannu arweiniad a chefnogaeth. Rhannwyd dymuniadau gorau iddo
yn ei ymddeoliad.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Carthu
Cadarnhaodd Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod
trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer derbyn trwydded carthu yn
pwysleisio’r angen i adennill tir yn ogystal â chyflwyno tirwedd addas ar gyfer
rhywogaethau natur a welir ar yr arfordir.
Holiwyd am drefniadau gwaredu ym Mae Ceredigion, gan
gadarnhau byddai angen trwydded forol i waredu unrhyw laid i’r Bae.
Ymhelaethwyd bod cais yn cael ei wneud i broffilio ble bydd y llaid sydd yn
gadael yr harbwr yn setlo, mewn cydweithrediad ag Ymgynghoriaeth Gwynedd.
Mewn ymateb i ymholiad am ddefnyddio cwch i gludo llaid i
Fae Ceredigion er mwyn ei waredu yno, cadarnhaodd Rheolwr Masnachol Hafan a
Harbwr Pwllheli byddai hyn yn costio llawer i’r gwasanaeth, gan fyddai cost o
£1miliwn er mwyn cludo’r cwch i Bwllheli cyn cychwyn ar y broses. Cadarnhawyd
nad oes ystyriaeth yn cael ei roi i gynllun o’r fath oherwydd nad yw’n
ymarferol o fewn cyllidebau’r Harbwr. Fodd bynnag, cadarnhawyd mai’r bwriad yw
sicrhau bod y llaid yn cael ei bwmpio i’r Bae.
Pryderwyd am gostau blynyddol y broses carthu a chynigwyd syniad amgen er mwyn mynd i’r afael a’r her.
Manylwyd ar y syniad o adeiladu grwyn ger Carreg yr Imbyll er mwyn atal tywod rhag cyrraedd yr harbwr o
gyfeiriad Abererch, gan achosi i lai o laid setlo o fewn yr harbwr. Mewn
ymateb, cadarnhaodd Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod y costau o
faethu’r tywod o’r Harbwr i draeth Carreg y Defaid wedi cael ei gyfarch gan y
llywodraeth. Ymhelaethwyd bod yr Harbwr yn rhydd i werthu gweddill y tywod am
elw, gan gadarnhau bod yr holl elw a wnaed yn cael ei ychwanegu i Gronfa
Carthu'r Harbwr. Nodwyd hefyd bod Cynllun Rheoli Llifogydd yn weithredol ar y
cyd gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, gydag amryw o
opsiynau megis adeiladu grwyn wedi cael ei gynnwys
ynddo. Fodd bynnag, eglurwyd bod oediad gyda’r Cynllun hwn gan nad ydi o wedi
cael ei drafod fel rhan o gynllun busnes ardal Pwllheli gan fwrdd Cyfoeth
Naturiol Cymru, sydd yn arwain ar y prosiect. Pwysleisiwyd bod swyddogion yn
ymdrechu yn gyson er mwyn cael diweddariad ar y mater hwn mor fuan â phosib.
Datganodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned bod
yr her o ddelio gyda’r llaid yn argyfyngus. Derbyniwyd bod gan asiantaethau
allanol bryderon amgylcheddol ynglŷn â chais yr Harbwr am drwydded i’w
bwmpio i Fae Ceredigion. Cadarnhawyd bod yr Harbwr yn cwblhau asesiad
amgylcheddol, ariannol a chymdeithasol ar y broses wrth gyflwyno’r cais am
drwydded. Gobeithiwyd bydd sefydliadau lleol ac aelodau’r Pwyllgor hwn yn
cyfrannu i’r asesiad hwnnw er mwyn dwyn perswâd ar ddatrysiad hirdymor i’r her
hon.
Tynnwyd sylw bod yr Afon Erch wedi newid ei chwrs a bod hyn,
yn ogystal â thywydd stormus diweddar, wedi arwain at gynnydd yn lefelau’r
llaid sydd yn setlo o fewn yr harbwr. Mynegwyd pryder na fyddai modd i gychod mawr ddefnyddio’r basin yn
y dyfodol agos heb ddatrysiad i’r her hon a dim ond badau personol all gael
budd o’r harbwr. Ymhelaethwyd nad oes modd tynnu 10,000 tunnell ychwanegol fel
y gwnaed ym mis Hydref 2024 gan fod y lagŵn wedi cael ei lenwi ar gost o
oddeutu £750,000 a bod angen amser iddo sychu cyn symud llaid unwaith eto.
Ystyriwyd cau ardal y ‘Bae Bach’ er mwyn gwella rhediad yr
afon a lleihau’r llaid sydd yn setlo o fewn yr harbwr. Mewn ymateb i’r
ystyriaeth, cadarnhaodd Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod hyn yn
ystyriaeth o fewn cynllun yr Harbwr o fewn y cais am drwydded pwmpio’r llaid i
Fae Ceredigion. Eglurwyd y bwriedir defnyddio’r cerrig sydd yn ardal y Bae Bach
eisoes er mwyn adeiladu wal, gan waredu’r llaid y tu hwnt iddo er mwyn gallu
adennill tir. Gobeithiwyd bydd y cynllun hwn ar y cyd gyda phwmpio llaid i Fae
Ceredigion yn ddatrysiad hir dymor i’r heriau presennol, gan fod adroddiadau
ecolegol yn cadarnhau bod oddeutu 90% o’r llaid yn cael ei dynnu i mewn o’r môr
i'r harbwr.
Cadarnhawyd bod swyddogion yn cyfarfod gydag Ymgynghoriaeth
Gwynedd yn fuan er mwyn sicrhau bod y cais am drwydded yn llwyddiannus, gan
sicrhau bydd pryderon y pwyllgor hwn yn cael eu hamlygu er mwyn canfod
datrysiadau. Ystyriwyd cyfarfod gyda’r aelodau er mwyn derbyn mewnbwn ar y
ffordd ymlaen wedi i’r cais am drwydded gael ei gyflwyno, pan yn amserol.
Dogfennau ategol: