I
gymeradwyo'r gosodiad rhagdybiaeth ar gyfer prisiad Cronfa Bensiwn Gwynedd 2025.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau
yn amlinellu gosodiad rhagdybiaethau ar gyfer prisiad 2025 Cronfa Bensiwn
Gwynedd. Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y disgwyliad oes ariannol,
disgwyliad oes, a rhagdybiaethau demograffig eraill sydd rhaid i'r Gronfa eu gwneud, a bod y
rhagdybiaethau hyn wedi eu gosod gan Actiwari'r
Gronfa wedi trafodaethau a sesiwn hyfforddi gyda Swyddogion ac Aelodau’r
Pwyllgor. Amlygwyd bod perthnasedd y rhagdybiaethau presennol wedi cael eu
hystyried cyn cyflwyno newidiadau fyddai’n adlewyrchu nodweddion penodol y
Gronfa a chymryd barn hirdymor iawn. Ategwyd bod y rhagdybiaethau hefyd yn cadw at ganllawiau CPLlL sy'n gofyn am ddoethineb yn y gyfradd ddisgownt, tra
bod y rhagdybiaeth eraill yn amcangyfrifon gorau posib.
Yng nghyd-destun rhagdybiaethau ariannol,
amlygwyd newidiadau sylweddol mewn amodau economaidd ers prisiad 2022, oedd yn
cynnwys cyfraddau llog uwch, chwyddiant uwch na'r disgwyl, a mwy o
anweddolrwydd (volatility) yn y farchnad. Nodwyd bod
risgiau gwleidyddol a hinsawdd hefyd yn cael eu crybwyll fel ffactorau
dylanwadol. Ategwyd bod y gyfradd disgownt (sydd yn cynrychioli cyfradd
flynyddol gyfartalog dychwelyd buddsoddiad yn y dyfodol), wedi gweld newid
sylweddol yn yr amgylchedd economaidd ers 2022, sydd o ganlyniad wedi arwain at
enillion buddsoddi disgwyliedig uwch yn y dyfodol, a lefelau cyllido, ond hefyd
at gynnydd mewn ansicrwydd. Amlygwyd mai argymhelliad yr Actiwari oedd
cynyddu'r lefel bwyll ar gyfer y gyfradd ddisgownt o 75% i 80%.
Yng nghyd-destun codiadau i’r buddion ac
ailbrisio y Cynllun Cyfartaledd Gyrfa, sy'n gysylltiedig â CPI, nodwyd bod y
dull yn aros yr un fath â phrisiad 2022, ond yn adlewyrchu disgwyliadau
chwyddiant cyfredol. Adroddwyd mai’r lefel gyfartalog o chwyddiant i’r dyfodol
ar 30 Tachwedd 2024 oedd 2.3% y flwyddyn (o'i gymharu â 2.7% y flwyddyn ym mis
Mawrth 2022) ac felly argymhellwyd cynnal codiadau cyflog ar CPI + 0.5%, i
adlewyrchu ansicrwydd er gwaethaf disgwyliadau chwyddiant cyfredol.
Cyfeiriwyd at ragdybiaethau disgwyliad bywyd
gan nodi mai’r argymhelliad oedd mabwysiadau rhagdybiaeth gyffredinol o
welliant ‘diofyn’ yn y dyfodol, a gyda rhagdybiaethau eraill megis
rhagdybiaethau demograffi, nodwyd bwriad o fabwysiadu
rhagdybiaethau sy’n seiliedig ar ddadansoddi
gwybodaeth o’r Gronfa ynghyd â phrofiad aelodaeth wirioneddol y Gronfa.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Mewn ymateb i
sylw bod lefel gyllido'r gronfa erbyn hyn yn
200% ac os oedd pwynt neu lefel lle bydd gofyn
stopio, nodwyd nad oedd lefel
uchafswm cyn belled a bod y
Gronfa yn parhau i fod
yn ddarbodus. Ategwyd bod sylwadau diweddar yn y Wasg, yn herio'r hyn
sydd yn rhesymol
i’r trethdalwyr ei dalu i
ariannu’r Gronfa (yng nghyd-destun rhai o brif gyflogwyr
y Gronfa sy’n derbyn arian cyhoeddus
- Cyngor Gwynedd, Môn, Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri). O ganlynaid,
bydd angen cynnal trafodaethau i ymateb i’r
pwysau hyn i sicrhau cydbwysedd.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau
·
Bod y sesiwn hyfforddi wedi bod yn ddefnyddiol
gyda chyflwyniadau clir ac eglur.
·
Awgrym i gynnal sesiynau
cyffelyb i’r dyfodol wrth wneud
penderfyniadau
·
Bod y Gronfa mewn sefyllfa iach
·
Bod ystod eang o ragdybiaethau
a ffigyrau cadarn i’w cefnogi
PENDERFYNWYD:
·
Cymeradwyo’r
gosodiad rhagdybiaeth ar gyfer prisiad Cronfa Bensiwn Gwynedd 2025.
·
Croesawu’r sesiwn
rhannu gwybodaeth gyda Hymans
Dogfennau ategol: