I ystyried yr adroddiad
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth
Nodyn:
Aelod o’r Bwrdd Pensiwn hefyd i fynychu’r gynhadledd i’r
dyfodol
Cofnod:
Feedback and an
overview of key items discussed in the LGA Governance Conference (Bournemouth
in January 2025) were presented by Councillor Ioan Thomas (Vice-chair of the Pensions
Committee) and Meirion Jones (Pensions Manager). It was reported that the event
had been very beneficial, and the following matters were noted as fields that
required attention from the Gwynedd Pension Fund after receiving information at
the Conference.
-
Reducing the Number of Pools – concern that Wales was unsafe as one pool for the future as a result of the 'Fit for the Future' review by the UK
Government on the number of pools.
-
There
was a need to ensure that the work of the valuation started soon with enough
engagement on the strategy
-
There
was a need to ensure that the dashboards were ready by October 2025
-
A
general note – various Councils sent many members to the conference – requested
that Gwynedd offered an opportunity for a Member of the Pension Board to
attend.
The members gave
thanks for the feedback.
In response to the
observations, in the context of the 'Fit for the Future' review to reduce
pooling numbers, it was noted that the Wales Pension Partnership (WPP) had
submitted a Business Plan to the Government which proposed a way forward. It
was elaborated, from the unofficial feedback received to this current
consultation, that WPP would be able to stay as one investment company for
Wales. He added that although no formal feedback to the Business Plan had been
received, work streams were being prepared in the background to establish a
company.
Responding to the
observation about the work of the valuation, it was noted, although the process
was long, that consultation work had already started
and Committee Members had received a training session on actuarial assumptions
and methods.
In response to the
need to ensure that the dashboards were ready by October 2025, it was noted
that the Fund had been working with the Heywood Pension Technologies company to
establish the dashboards and that the system was now in a trial period. It was elaborated
that Gwynedd would be ready to connect when the public dashboards went live.
Members gave thanks for the response to the
observations and the officers were thanked for their good and timely work and
for their proactive attitude.
RESOLVED:
To accept the
report for information.
Note:
A member of the Pension Board to also attend the conference in the
future.
Cyflwynwyd adborth a chrynodeb o eitemau allweddol a drafodwyd
yng Nghynhadledd Llywodraethu’r LGA (Bournemouth mis
Ionawr 2025) gan y Cyng. Ioan Thomas (Is-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau) a
Meirion Jones (Rheolwr Pensiynau). Adroddwyd bod y digwyddiad wedi bod yn
fuddiol iawn a nodwyd y materion isod fel meysydd sydd angen sylw gan Gronfa
Bensiwn Gwynedd yn dilyn derbyn gwybodaeth yn y Gynhadledd.
-
Lleihau Nifer Pwlïau - pryder nad yw Cymru yn
ddiogel fel un pwl i’r dyfodol yn sgil adolygiad ‘Fit for
the Future’ gan Lywodraeth y DU i niferoedd pwlïau.
-
Bod angen sicrhau bod gwaith y prisiad yn dechrau
yn fuan gyda digon o ymgysylltu ar y strategaeth
-
Bod angen sicrhau bod y dangosfyrddau
yn barod erbyn Hydref 2025
-
Nodyn cyffredinol - bod amryw o Gynghorau yn anfon
nifer o aelodau i’r gynhadledd a chais i Wynedd gynnig cyfle i Aelod o’r Bwrdd
Pensiwn fynychu.
Diolchwyd am yr adborth.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd yng
nghyd-destun yr adolygiad ‘Fit for the Future’ i leihau niferoedd pwlio,
bod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) wedi cyflwyno Cynllun Busnes i’r
Llywodraeth oedd yn cynnig ffordd ymlaen. Ategwyd, o’r adborth answyddogol sydd
wedi ei dderbyn i’r ymgynghoriad presennol yma, y bydd PPC yn gallu aros fel un
cwmni buddsoddi i Gymru. Ategwyd, er nad oedd adborth ffurfiol i’r Cynllun
Busnes wedi ei dderbyn, bod ffrydiau gwaith yn cael eu paratoi yn y cefndir i
sefydlu cwmni.
Wrth ymateb i’r sylw am waith y prisiad,
nodwyd, er bod y broses yn un hir bod y gwaith ymgynghori eisoes wedi dechrau a
bod Aelodau’r Pwyllgor wedi derbyn sesiwn hyfforddiant ar ddulliau a
rhagdybiaethau actiwaraidd.
Mewn ymateb i’r angen i sicrhau bod y dangosfyrddau yn barod erbyn Hydref 2025, nodwyd bod y
Gronfa wedi bod yn cydweithio gyda chwmni Heywood Pension Technologies
i sefydlu’r dangosfyrddau a bod y system
bellach mewn cyfnod prawf. Ategwyd pan fydd y dangosfyrddau
cyhoeddus yn mynd yn fyw, bydd Gwynedd yn barod i gysylltu.
Diolchwyd am yr ymateb i’r sylwadau a diolchwyd i’r swyddogion am eu
gwaith da, amserol ac am eu hagwedd rhagweithiol.
PENDERFYNWYD:
Derbyn
yr adroddiad er gwybodaeth
Nodyn:
Aelod o’r Bwrdd
Pensiwn hefyd i fynychu’r gynhadledd i’r dyfodol
Dogfennau ategol: