Agenda item

I graffu trefniadau cyflwyno pwyntiau gwefru cyhoeddus ar gyfer cerbydau tryfan fel rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28 – Gwynedd Werdd.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Argymell i’r Adran Amgylchedd y dylid bod isafswm o ddau bwynt gwefru ym mhob safle.
  3. Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad gan gynnwys y Cynllun Busnes a gwybodaeth am y ddarpariaeth yn ardaloedd gwledig Gwynedd ymhen blwyddyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd (Trafnidiaeth) a Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau.

Adroddwyd bod y maes hwn yn dod yn fwy amlwg ac yn ennill proffil uwch, gyda mwy o gerbydau trydan ar y ffyrdd, gan adlewyrchu’r targed ar gyfer 2030 i leihau ac yna atal cynhyrchu cerbydau petrol a disel. Nodwyd bod yr adran yn arwain ar ddarparu mannau gwefru cyhoeddus a oedd yn brosiect blaenoriaeth o dan yr  amcan Gwynedd Werdd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 , gan fod teimlad mewn rhai ardaloedd o Wynedd nad yw’r sector preifat yn diwallu’r angen fel mewn mannau eraill. Esboniwyd mai’r bwriad ydy llenwi’r bylchau lle nad oes darpariaeth gan sectorau eraill.

Tynnwyd sylw at natur ddeinamig y maes, gyda datblygiadau’n digwydd yn aml ac yn sydyn. Eglurwyd nad oedd yn glir ble y byddai’r dechnoleg yn mynd nesaf, ond yr uchelgais fyddai cael argaeledd darpariaeth a fyddai’n golygu bod yr amser gwefru cerbyd trydan yr un fath â’r amser i lenwi car petrol neu ddisel.

Nodwyd bod gwaith eisoes wedi’i wneud i osod y pwyntiau gwefru, a bod cyfeiriad yn yr adroddiad at wefan ‘Zapmap’, sy’n dangos nifer fawr o bwyntiau gwefru newydd yn ymddangos ledled y wlad. Nodwyd y byddai hyn yn dylanwadu ar rôl y Cyngor wrth symud ymlaen, gan y byddai’n gynyddol anodd cydlynu a chael trosolwg o’r lleoliadau.

Eglurwyd bod y peiriannau’n cael eu gosod bellach mewn mannau gwaith, siopau, datblygiadau eraill ac mewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor ger canolfannau Byw’n Iach. Cadarnhawyd bod gwaith ar y gweill i gyflwyno mwy o bwyntiau gwefru chwim. Esboniwyd y byddai’r ffocws dros amser yn symud o argaeledd daearyddol tuag at faint o bwyntiau fydd ar gael, gan dybio y bydd y galw’n cynyddu’n gyson.

Nodwyd bod Strategaeth Isadeiledd Cerbydau Trydan Gwynedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, gan gofio nad y mannau gwefru cyhoeddus yn unig sydd angen sylw, ond hefyd y cyfle i bobl allu gwefru gartref. Eglurwyd bod gwaith ar y gweill i archwilio sut i alluogi pobl i wefru ar y stryd, er bod hyn yn gymhleth oherwydd ystyriaethau iechyd a diogelwch ac egwyddorion Deddf Priffyrdd.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Diolchwyd am yr adroddiad, gan nodi bod cynnydd da yn cael ei wneud tuag at greu rhwydwaith gwefru trydan a bod y safleoedd newydd a’r rhai arfaethedig yn cael eu croesawu, yn enwedig y pwyntiau gwefru chwim. Mynegwyd pryder bod gormod o ddibyniaeth ar beiriannau gwefru araf 7kW. Ymhelaethwyd eu bod yn addas ar gyfer gwefru dros nos ond nid ar gyfer gwefru cyflym mewn lleoliadau fel meysydd parcio.

Croesawyd yr opsiwn o ddefnyddio cerdyn banc er mwyn talu yn hytrach na cherdyn neu apiau ar gyfer cwmnïau penodol megis GRIDSERVE neu Tesla. Credwyd bod defnyddio cerdyn banc yn ffordd symlach a bod hyn bellach yn ofyniad deddfwriaethol. Tynnwyd sylw at fylchau yn y rhwydwaith, megis Aberdaron lle’r mae’r pwynt gwefru chwim agosaf dros 50 milltir i ffwrdd ym Mhorthmadog.

Nodwyd y byddai’n ddoeth sicrhau o leiaf dau bwynt gwefru ym mhob safle, gan y byddai dibynnu ar un yn golygu risg o fynd yn sownd pe bai problem yn codi gyda’r peiriant. Atgoffwyd y pwyllgor bod creu rhwydwaith gwefru cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer trigolion na allant osod pwynt gwefru gartref, ac ar gyfer ymwelwyr. Nodwyd bod pryderon a diffyg hyder ynghylch pellter yn rhwystr i bobl newid i gerbydau trydan, a bod cynyddu nifer y pwyntiau gwefru’n hanfodol i annog newid tuag at sero net.

Mewn ymateb, nodwyd bod adborth defnyddwyr profiadol yn werthfawr iawn wrth ddatblygu’r prosiect ac y byddai’r swyddogion yn cymryd sylw o’r pwyntiau a godwyd.

Mynegwyd siom nad oedd pwyntiau gwefru wedi’u gosod eto mewn ardaloedd megis Dyffryn Nantlle, er bod maes parcio'r Cyngor a Chanolfan Byw’n Iach wedi’u lleoli yno. Holwyd pam bod cysylltu’r pwyntiau’n cymryd cymaint o amser ac a ydy Scottish Power yn gyfrifol. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd Scottish Power yn gyfrifol am yr oedi.  Eglurwyd bod cais am gyllid ym mis Medi wedi bod yn aflwyddiannus ac nad oedd modd symud ymlaen nes sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru.

Cwestiynwyd a oes bwriad i ehangu’r ddarpariaeth i feysydd parcio ym Mhenygroes a Thalysarn. Mewn ymateb, cadarnhawyd nad oes cynlluniau penodol gan y Cyngor ar hyn o bryd y tu hwnt i’r rhai a nodwyd o fewn yr adroddiad.

Holwyd pa gynlluniau sydd ar y gweill i ehangu’r ddarpariaeth yn y dyfodol er mwyn gwasanaethu holl drigolion Gwynedd, gan gynnwys pentrefi Gwynedd, gan fod y ‘Zapmap’ yn dangos bylchau clir ar hyn o bryd. Mewn ymateb, nodwyd nad oes cynlluniau pendant y tu hwnt i’r cynlluniau presennol, ond y byddai strategaeth ar gyfer symud ymlaen yn cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r her o sicrhau darpariaeth sy’n cyrraedd pawb o fewn amser penodol.

Holwyd ynglŷn ag amseroedd gwefru, gan fynegi syndod at ba mor hir y gallai rhai gymryd, ac fe holwyd a oedd modd symud tuag at wefru chwim yn y dyfodol. Mewn ymateb, nodwyd bod cynlluniau i gyflwyno pwyntiau gwefru ‘ultra-chwim’ ym Mhwllheli, ond bod hyn yn heriol i’w ddarparu’n ehangach oherwydd safon yr isadeiledd trydan yn y sir. Nodwyd ymhellach bod cwestiwn ynglŷn â rôl y Cyngor yn darparu pwyntiau o’r math yma, gan y gallai hyn danseilio rôl y sector preifat yn y farchnad. Mynegwyd bod angen darganfod y balans cywir wrth symud ymlaen yn y dyfodol.

Cwestiynwyd a fyddai modd cynhyrchu incwm yn dilyn y buddsoddiad. Mewn ymateb, nodwyd y byddai gwell darlun erbyn y flwyddyn nesaf wrth i fwy o beiriannau chwim ddod ymlaen. Nodwyd bod y brif her i’r sector gyhoeddus yn ymwneud â sut i gynnal gwasanaeth a fyddai’n ddibynnol ar ddefnydd y cyhoedd wrth symud ymlaen.

Mynegwyd pryder am safle Dolgellau, gan nodi bod un peiriant allan o ddefnydd. Cwestiynwyd faint o hir y byddai’n cymryd i’r ail beiriant ddod yn weithredol. Mewn ymateb, nodwyd eu bod yn gweithio’n agos gyda Scottish Power ac yn disgwyl gallu cynnig gwasanaeth llawn erbyn yr haf.

Mynegwyd cefnogaeth i’r sylwadau a godwyd ynglŷn â’r angen i ehangu’r ddarpariaeth o bwyntiau gwefru trydan yn ardaloedd gwledig, megis Deiniolen. Mynegwyd pryder ynghylch sut y byddai pobl mewn ardaloedd gwledig yn gallu ymdopi â’r newid wrth agosáu at y terfyn 2030 pan fyddai cynhyrchu cerbydau petrol a disel yn dod i ben.

Mynegwyd pryderon ynghylch sut y byddai’n bosibl cynnal y ‘baseload’ heb danwyddau ffosil, a phryderon ynghylch a fyddai’r cyflenwad trydan presennol yn ddigonol i gadw’r system i redeg. Nodwyd y byddai mwy o geir trydan yn arwain at fwy o bwysau ar y grid ac y byddai hynny’n peri risg o chwalfa.

Gan ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, codwyd cwestiynau am effaith y datblygiad ar lesiant, gan nodi fod prisiau trydan ymhlith yr uchaf yn y byd am y cyflenwad, a bod polisïau sero net yn peri risg o wthio pobl i dlodi tanwydd. Cyfeiriwyd at yr effaith amgylcheddol ehangach, gan nodi bod cynhyrchu batris a’r broses weithgynhyrchu yn cyfrannu at allyriadau carbon. Mynegwyd amheuon ehangach ynghylch y targedau sero net.

Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Amgylchedd bod y sylwadau yn ymwneud â materion gwleidyddol nid gweithredol, ac nid rôl y Pwyllgor Craffu oedd gwneud penderfyniadau gwleidyddol.

Cyfeiriwyd at sylw a wnaed eisoes, nodwyd bod rôl i sectorau eraill heblaw’r Cyngor i gwrdd ag anghenion mewn ardaloedd gwledig, gan roi enghraifft o rai ardaloedd lle mae cynghorau cymuned neu neuaddau pentref eisoes wedi gosod pwyntiau gwefru.

Mynegwyd cefnogaeth i’r sylwadau bod angen ehangu’r ddarpariaeth ymhellach i ardaloedd gwledig, megis Ganllwyd, Llanelltyd a Brithdir. Rhannwyd profiad personol o newid i gerbyd hybrid, gan gydnabod pryderon am gynaliadwyedd batris ond hefyd nodi bod arbedion ariannol sylweddol i’w cael o ran costau tanwydd.

Cwestiynwyd sut y byddai’r Cyngor yn cyfathrebu â’r cyhoedd wrth symud ymlaen gyda’r amcan Gwynedd Werdd. Mewn ymateb, nodwyd bod y ffigurau defnydd hyd yma wedi bod yn gadarnhaol ac yn arwydd bod pobl yn ymwybodol ac yn manteisio ar y ddarpariaeth.

Mynegwyd pwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys y darparwr grid, Scottish Power, gan gydnabod bod yr isadeiledd mewn rhai ardaloedd gwledig yn hen, mewn cyflwr gwael ac yn annigonol i ymdopi â’r pwysau ychwanegol a ddaw yn sgil targedau sero net. Nodwyd, os na wneir rhywbeth i fynd i’r afael â hyn, na fydd y targedau sero net yn cael eu cyflawni. Pwysleisiwyd bod y mater hwn yn haeddu sylw a dylanwad gan yr awdurdod lleol.

 

        PENDERFYNWYD

1.        Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y            drafodaeth.  

2.        Argymell i’r Adran Amgylchedd y dylid bod isafswm o ddau bwynt          gwefru ym mhob safle. 

3.        Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad gan gynnwys y Cynllun     Busnes a gwybodaeth am y ddarpariaeth yn ardaloedd gwledig Gwynedd ymhen blwyddyn. 

 

Dogfennau ategol: