I ystyried
adroddiad cynnydd ar Strategaeth Toiledau Lleol Gwynedd.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod
Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac
YGC a Rheolwr Asedau Bwrdeistrefol.
Nodwyd bod gan Wynedd ar hyn o bryd 61
o doiledau cyhoeddus a 39 o doiledau mewn busnesau sy’n cymryd rhan yn y
Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus. Pwysleisiwyd bod rhan fawr o Wynedd yn
gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, ac felly fod gan y Parc Cenedlaethol ac
Ymddiriedolaeth Genedlaethol doiledau cyhoeddus hefyd. Nodwyd felly bod nifer
dda o gyfleusterau ar gael ar hyd a lled y sir.
Eglurwyd bod yr adroddiad yn
rhoi diweddariad ar weithrediad y Strategaeth Toiledau Cyhoeddus ers 2019, ac
yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n nodi’r camau nesaf a’r camau sydd eisoes
wedi’u cyflawni i wella delwedd y toiledau cyhoeddus a chyfarch disgwyliadau
defnyddwyr, yn ogystal ag egluro pa ffynonellau ariannu sydd ar gael i wella’r
ddarpariaeth, beth yw’r amserlen ddiweddaraf o ran cyflwyno technoleg talu
di-gyffwrdd, a beth yw’r sefyllfa o ran incwm.
Nodwyd bod grantiau amrywiol
wedi’u denu drwy amryw o ffyrdd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys y Gronfa
Ffyniant Gyffredin. Pwysleisiwyd bod ymdrechion wedi parhau i gael mynediad at
grantiau, gyda chais wedi’i gyflwyno ar gyfer y rownd nesaf o arian gan y
Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Nodwyd bod cyllideb refeniw’r
gwasanaeth yn gyfyngedig a’i bod wedi bod dan bwysau sylweddol oherwydd cyflwr
yr adeiladau a fandaliaeth. Nodwyd bod y rhan fwyaf o’r gyllideb wedi’i
defnyddio i gynnal a chadw’r cyfleusterau presennol, gan adael ychydig iawn ar
gyfer adnewyddu neu wella.
Cyfeiriwyd at gynllun grant gan
Llywodraeth Cymru sydd yn darparu cyllid i fusnesau sy’n fodlon agor eu
cyfleusterau i’r cyhoedd. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r busnesau sicrhau
arwyddion priodol, a bod swyddogion yn monitro bod hynny’n digwydd. Cadarnhawyd
nad oes unrhyw fusnesau ar y rhestr aros ar hyn o bryd, felly mae modd cynnwys
busnesau newydd pe byddent yn ymddangos. Eglurwyd bod gwefan y Cyngor yn nodi’r
busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun a bod y rhestr honno ar gael i’r
cyhoedd. Nodwyd bod gwaith wedi mynd rhagddo i adolygu’r trefniadau glanhau, ac
er bod y safonau’n gyffredinol yn foddhaol, credwyd fod lle i wella.
Atgoffwyd bod pwysau ar y Cyngor rai
blynyddoedd yn ôl i arbed arian drwy gau toiledau cyhoeddus, ond yn hytrach na
gwneud hynny, sefydlwyd cynllun partneriaeth gyda chynghorau tref a chymuned.
Nodwyd y bydd angen adolygu’r cyfraniad hwn eleni, gan nad oes chwyddiant
wedi’i godi ar y cyfraniad ers cyflwyno’r cynllun.
Nodwyd
bod pum toiled gyda threfn codi tâl am eu defnydd. Nodwyd bod bid i adnewyddu a
gosod drysau talu modern wedi bod yn llwyddiannus, ond y bu llithriad yn y
rhaglen waith. Disgwyliwyd y byddai’r ddarpariaeth newydd ar gael cyn bo hir,
ond nid oedd modd adrodd ar ei heffeithiolrwydd eto.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Diolchwyd am y cyflwyniad.
Cyfeiriwyd at brif amcanion y strategaeth wrth fynegi pryder ynghylch y diffyg
dull clir o’u mesur, sydd yn hollbwysig. Er enghraifft, er bod yr amcanion yn
sôn am annog gwybodaeth a hyrwyddo, ni chrybwyllwyd a yw’r Cyngor yn mesur
nifer yr ymweliadau â’r wefan nac yn asesu addasrwydd yr arwyddion.
Mewn ymateb, nodwyd bod drefn o
fewn y broses herio perfformiad sy’n cynnwys mesur cwynion a’r mathau o gwynion
sy’n cael eu derbyn mewn perthynas â’r cyfleusterau a’r drefn glanhau. Yn
ogystal, nodwyd bod mesur yn bodoli ynghylch faint o ddefnydd a wneir o’r wefan
a’r modd y caiff gwybodaeth ei gyfleu i’r cyhoedd. Fodd bynnag, cydnabuwyd nad
yw ymgynghoriad wedi cael ei gynnal ers paratoi’r strategaeth yn 2019, ac y
byddai’n amserol cynnal ymarfer tebyg unwaith eto i gasglu barn a gwybodaeth
gan ddefnyddwyr.
Cyfeiriwyd at y sefyllfa o ran
codi tâl mewn pum cyfleuster ar draws Gwynedd. Holwyd beth sy'n digwydd i'r
arian a godir, a yw’n cael ei glustnodi i’r cyfleusterau hynny’n unig, i’r
ddarpariaeth toiledau cyhoeddus ar draws y sir gyfan, neu a yw’n mynd i'r
gronfa gyffredinol. Mynegwyd y farn, y dylai incwm
cyfleusterau penodol, gael ei ddefnyddio i gynnal y cyfleusterau hynny.
Mewn ymateb, nodwyd nad oedd
incwm sylweddol o’r ddarpariaeth, er bod targed incwm wedi ei osod. Cadarnhawyd
bod yr arian a gesglir o fewn y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at
gostau rhedeg y toiledau cyhoeddus.
Codwyd cwestiwn am doiledau
cyhoeddus sydd eisoes wedi’u cloi, megis yn y maes parcio ym Mhenygroes, gan holi a oes unrhyw gynlluniau i’w hailagor.
Nodwyd bod y toiledau wedi bod ar gau ers peth amser, ac nad oes unrhyw
gyfleuster ar gael ar y penwythnos yn yr ardal. Gofynnwyd a oes modd cydweithio
â’r Cyngor Cymuned lleol i ailagor y cyfleuster, o ystyried pwysigrwydd yr
ardal fel safle Treftadaeth y Byd.
Mewn ymateb, nodwyd bod y Cyngor
bob amser yn ceisio cydweithio â chynghorau cymuned, ac mewn nifer o achosion,
mae cynghorau cymuned wedi cydweithio gyda’r Cyngor ar ôl sylweddoli’r angen
lleol. Nodwyd, serch hynny, os yw adeilad wedi dirywio dros gyfnod hir, efallai
na fydd yn bosibl ei ailagor. Cadarnhawyd bod y Cyngor yn barod i ystyried pob
achos unigol.
Canmolwyd safon y glanhau yn y
toiledau cyhoeddus yn Ninas Dinlle, gyda sylw penodol i’r gwaith ardderchog gan
y rhai sy’n gyfrifol am eu cynnal a chadw.
Mynegwyd gwerthfawrogiad am y
gwaith a gyflawnwyd o dan y strategaeth, gan nodi bod Gwynedd mewn sefyllfa dda
gyda chyfanswm o 100 o doiledau cyhoeddus, llawer mwy na nifer o ardaloedd
eraill. Pwysleisiwyd bod y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus yn cynnig
gwasanaeth o safon, a’r gred y byddai ei ehangu’n arwain at arbedion sylweddol
i’r Cyngor drwy leihau'r baich ar y gwasanaeth uniongyrchol. Cwestiynwyd
faint o fusnesau sydd ar y rhestr aros ar gyfer y cynllun a phryd y disgwylir
i’r bid ar gyfer y cynllun fod yn llwyddiannus.
Mewn ymateb, cadarnhawyd nad oes
unrhyw fusnesau ar y rhestr aros ar hyn o bryd. Nodwyd bod y grant blynyddol
gan Lywodraeth Cymru yn cynyddu ychydig bob blwyddyn gyda chwyddiant, gan olygu
bod modd ychwanegu o leiaf pedwar busnes newydd i’r cynllun. Eglurwyd
bod swyddog yn cynnal archwiliadau blynyddol i sicrhau bod arwyddion yn eu lle,
bod cyfleusterau ar agor i’r cyhoedd ac yn bodloni safon benodol. Yn ogystal,
nodwyd y byddai gwaith pellach yn digwydd eleni i nodi ardaloedd nad oes
ganddynt gyfleuster bellach ond lle gallai busnes lleol fod yn barod i ymuno
â’r cynllun.
Cwestiynwyd a all cynghorwyr
bellach annog busnesau i wneud cais am y cynllun. Mewn ymateb, chadarnhawyd bod
modd gwneud hynny gan fod cyllid ar gael.
Mynegwyd cefnogaeth i’r cynllun
toiledau cymunedol a phwysleisiwyd ei werth, yn ogystal â nodi bod boddhad o
weld bod tri ‘changing places’
eisoes ar waith. Cwestiynwyd a oes unrhyw ofyniad statudol bellach sy’n golygu
bod rhaid cynnwys ‘changing places’
mewn unrhyw ddarpariaeth newydd. Mynegwyd barn y dylai hynny fod yn orfodol.
Mewn ymateb, cadarnhawyd nad
yw’n ofyniad statudol cynnwys ‘changing places’ mewn unrhyw gynllun newydd. Eglurwyd bod cyfleoedd
wedi bod ar gyfer nodi lleoliadau posib ar gyfer cyfleusterau o’r fath, a
byddai’r Cyngor yn ystyried pob cyfle wrth symud ymlaen, yn enwedig os
derbynnir grant i ddatblygu cyfleusterau newydd, a’i fod wedi’i gynnwys yng
nghynllun gweithredu’r strategaeth.
Mynegwyd pryder mai’r anhawster
mwyaf gyda chyfleusterau ‘changing places’ yw bod angen eu lleoli o fewn safleoedd gyda staff
er mwyn osgoi pryderon ynghylch fandaliaeth. Nodwyd bod eu lleoli mewn
adeiladau sydd eisoes wedi ei staffio, megis llyfrgelloedd, canolfannau
cymunedol neu amgueddfeydd, yn opsiwn mwy hyfyw.
Holwyd a oes cyfle i gydweithio
â busnesau sy’n rhan o’r cynllun toiledau cymunedol i ddarparu ‘changing places’. Cyfeiriwyd at
enghraifft benodol o’r Royal Ship Hotel yn Nolgellau,
lle mae staff ar gael drwy’r dydd, gan awgrymu y gallai cytundeb gael ei gynnig
er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth am gyfnod hir. Mewn ymateb, cytunwyd bod hyn yn
syniad da, ond bod yr her o ddenu grantiau yn parhau’n her sylweddol.
Nodwyd bod tua 27 o’r toiledau
cymunedol presennol yn cynnig cyfleusterau newid babanod, a bod hyn yn
newyddion cadarnhaol. Nodwyd bod llawer o’r cyfleusterau hyn mewn caffis a
busnesau tebyg, lle mae’r perchnogion yn fodlon darparu’r cyfleusterau.
Mynegwyd balchder am safon uchel
glendid y toiledau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai o fewn Parc Cenedlaethol
Eryri. Gofynnwyd am wybodaeth ynghylch y broses o ailagor toiledau cyhoeddus
sydd wedi cau, gan gynnwys y gost a’r camau y gallai cyngor cymuned eu cymryd i
gydweithio â’r Cyngor. Nodwyd bod un cyngor cymuned yn ystyried ailagor toiled
cyhoeddus yn eu hardal, a bod modd i eraill wneud hynny pe byddent yn deall y
broses. Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai gwybodaeth fanwl yn cael ei hanfon
ymlaen i’r Aelod.
Awgrymwyd hyrwyddo’r toiledau
sydd ar gael drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol megis Facebook.
Ymhelaethwyd bod hyn yn ffordd gyflym, hawdd ac am ddim i roi manylion am
gyfleusterau i’r cyhoedd. Nodwyd y gallai hyn bod o gymorth i unigolion sydd
angen cynllunio teithiau oherwydd materion iechyd. Awgrymwyd
y gallai cynghorwyr gyfrannu at hyn drwy rannu’r wybodaeth yn eu cymunedau.
Mewn ymateb, nodwyd y byddai
uned fusnes yr Adran, sydd ag arbenigedd mewn meysydd cyfathrebu ac
e-ddatblygu, yn ymgymryd â’r gwaith i weithredu’r awgrym.
Holwyd a oedd cais am grant
wedi’i gyflwyno i greu toiledau cyhoeddus newydd yn Nyffryn Ardudwy, gan nodi
bod y bloc blaenorol bellach yn dechrau dioddef o fandaliaeth. Cadarnhawyd bod
y cyngor cymuned yn fodlon cydweithio ac yn barod i gyfrannu’n ariannol. Mewn
ymateb, eglurwyd bod y bloc presennol wedi dirywio’n ormodol i’w ailagor, a bod
angen gwneud penderfyniad ynghylch ei ddymchwel ac adeiladu cyfleuster newydd
yn ei le. Cytunwyd y byddai swyddogion yn cysylltu â’r Aelod i drafod y mater
yn fanylach.
Holwyd a fyddai’r system talu ar
gyfer defnyddio’r toiledau cyhoeddus yn cynnwys y dewis rhwng arian parod a
cherdyn. Cadarnhawyd y byddai’r drysau talu newydd yn cynnig y ddau opsiwn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Dogfennau ategol: