Dilyniant
yn dilyn Craffu yng nghyfarfod 22 Chwefror 2024.
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod
Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac
YGC a’r Pennaeth Cynorthwyol.
Eglurwyd bod dyletswyddau statudol ar
awdurdodau lleol i gynnal a gwella bioamrywiaeth, ond bod dyletswydd foesol
hefyd ar y Cyngor i weithredu yn gadarnhaol. Nodwyd bod gan y Cyngor
gyfrifoldeb fel tirfeddiannwr sylweddol i osod esiampl a chryfhau gwytnwch
ecosystemau’r ardal. Mynegwyd bod y gwaith a wnaed hyd yma yn gam cyntaf
cadarnhaol ac yn gam ar y ffordd tuag at wireddu’r uchelgeisiau hyn.
Cadarnhawyd bod y ffigurau
presennol yn yr adroddiad yn dangos sut y mae’r gwasanaeth wedi addasu’r
trefniadau torri glaswellt, gan greu mwy o arwynebedd ar gyfer blodau gwyllt i
dyfu ac annog pryfed peillio. Eglurwyd y gobaith yw, wedi cwblhau’r treialon, y
gellir eithrio ardaloedd sylweddol o ymylon ffyrdd o’r contract presennol a’u
cynnwys mewn trefniant newydd o dorri a chasglu glaswellt.
Fodd bynnag, nodwyd y bydd angen
ystyried sawl ffactor cyn gweithredu hyn, gan gynnwys hyfywedd ariannol, gan
fod y Cyngor dan bwysau ariannol sylweddol a methu fforddio cynyddu costau wrth
weithredu trefniadau newydd. Nodwyd bod angen penderfynu pwy fydd yn cyflawni’r
gwaith, ai gweithlu mewnol y Cyngor sydd â’r arbenigedd angenrheidiol, neu
gontractwyr allanol.
Tynnwyd sylw at ymateb y cyhoedd
i’r trefniadau newydd, gan gyfeirio at yr ymgyrch ‘Nature
is not neat’ ac at y ffaith bod gan unigolion farn
wahanol am daclusrwydd. Nodwyd yr angen i sicrhau nad yw’r newidiadau’n arwain
at gwynion gan y cyhoedd.
Eglurwyd bod torri ymylon ffyrdd
trefol hefyd yn rhan o’r gwaith, nid yn unig am resymau diogelwch ond hefyd i
wella delwedd cymunedau. Yn y mannau hyn, caiff glaswellt ei dorri rhwng tair a
phum gwaith y flwyddyn, a hynny’n is i’r ddaear. Nodwyd bod rhai cynghorau tref a
chymuned yn talu’r Cyngor i dorri glaswellt yn amlach, ond bod eraill yn
awyddus i neilltuo tir ar gyfer blodau gwyllt, gan gydweithio â’r Cyngor neu’n
gofyn iddynt wneud y gwaith ar eu rhan.
Cyfeiriwyd at y treialon yn Nwyfor a’r gwaith yn Meirionnydd, lle derbyniwyd adroddiad
gan ecolegydd lleol cyn dechrau’r gwaith gyda’r tîm yn gweithredu yn unol â’r
adroddiad. Eglurwyd bod y profiad yn gyffredinol yn gadarnhaol, ond bod
problemau wedi codi, megis pan dorrodd contractwr safle ar gam gan adael
glaswellt ar wyneb y tir, neu pan fu i Dŵr Cymru
dyrchu dros waith oedd eisoes wedi’i gwblhau cyn i arwyddion allu cael eu
gosod. Nodwyd bod camau wedi'u cymryd i unioni’r sefyllfa ac y caiff gwersi eu
dysgu.
Edrychwyd ymlaen at gamau nesaf
y cynllun, gan gynnwys archwiliadau i safleoedd yn Arfon ac ehangu’r treialon y
flwyddyn ganlynol, os bydd cyllid ar gael. Nodwyd bod gwaith cydweithredol yn
digwydd rhwng yr Adran Amgylchedd a’r Tîm Bioamrywiaeth, gan obeithio derbyn
cyllid i ychwanegu mwy o safleoedd.
Eglurwyd bod Gwasanaeth Cynnal Tiroedd
wedi cychwyn cynnal treialon torri a chasglu eu hunain ar rai o’r tiroedd maent
yn gyfrifol am eu cynnal, fel Cerrig yr Orsedd yng Nghaernarfon. Nodwyd bod
grant gan Bartneriaeth Natur Gwynedd wedi galluogi’r Cyngor i brynu offer
arbenigol, megis tractor, peiriant casglu a belar fel
y byddai'r Gwasanaeth Cynnal Tiroedd yn gallu gwneud y math yma o waith ei hun
yn y dyfodol ac ennill arbenigedd yn y maes.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Diolchwyd am yr adroddiad a’r gwaith
sy’n cael ei wneud gan y gwasanaeth a’i weithwyr.
Mynegwyd pryder am y diffyg
gwybodaeth yn yr adroddiad ynghylch sut y mesurir llwyddiant y treialon a’u
heffaith ar fioamrywiaeth. Nodwyd bod y fethodoleg yn cael ei hamlinellu, e.e.
prynu offer, paratoi’r pridd a hau hadau, ond nad oedd dulliau o fesur canlyniadau’r
camau hynny wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Pwysleisiwyd nad yw’n ddigonol
gweithredu heb allu profi’r canlyniadau. Gofynnwyd am sicrwydd y bydd
gwybodaeth fanwl am fesur llwyddiant yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y
dyfodol.
Mewn ymateb, nodwyd bod
safleoedd yn cael eu hasesu gan ecolegydd cyn i unrhyw dreial ddechrau, gan
gynnwys asesiad o’r rhywogaethau presennol, nifer y rhywogaethau, a safon y
pridd. Nodwyd bod y wybodaeth yma yn ffurfio’r gwaelodlin i’w defnyddio fel sail
i gymharu ar ddiwedd y cyfnod, ac os nad oes newid yn y data, y gellid dod i’r
casgliad nad oedd y treial wedi bod yn llwyddiannus. Ymhelaethwyd bod hyn yn
caniatáu ateb y cwestiwn a yw’n werth parhau yn yr ardal, ac os yw’r ateb yn
gadarnhaol, ei fod yn rhoi cyfiawnhad cryfach i ehangu’r cynllun ac yn cefnogi
ceisiadau am gyllid ychwanegol.
Mynegwyd pryder ynghylch
diogelwch ffyrdd di-ddosbarth, gan nad ydynt yn cael eu torri’n rheolaidd.
Ymhelaethwyd y gallai hyn bod yn berygl diogelwch oherwydd y rhwystr i welededd
a achosir gan goed a gordyfiant ar y ffyrdd hyn, sydd yn aml yn gul ac yn droellog.
Mynegwyd pryder, pe bai damwain yn digwydd, y gallai’r Cyngor wynebu hawliad
oherwydd diffyg cynnal a chadw.
Mewn ymateb, cadarnhawyd bod
trefniadau arolygu diogelwch yn bodoli ar gyfer pob ffordd, a bod
canfyddiadau’r arolygiadau’n cael eu cofnodi. Eglurwyd os ystyrir bod
sefyllfa’n beryglus, caiff y gwaith ei gynnwys yn y rhaglen ar unwaith neu ar
gyfer ei drin yn ôl blaenoriaeth. Cadarnhawyd bod cwynion yn derbyn sylw
uniongyrchol yn ystod tymor twf, a bod peirianwyr ardal yn cadw rhestrau o’r
lleoliadau hynny sydd wedi derbyn nifer uchel o gwynion. Disgwylir y bydd y
rhain yn cael eu cynnwys yn y gwasanaeth torri unwaith yn y gwanwyn. Atgoffwyd
bod y ffyrdd hyn i gyd yn cael eu torri yn yr hydref.
Mynegwyd pryder am bobl yn
parcio ar ymylon glaswellt, gan achosi difrod i'r pridd a'r glaswellt, ac yn
rhwystro gwaith y contractwyr. Cwestiynwyd a oes modd i'r Cyngor gydweithio’n
fewnol i fynd i’r afael â hyn. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod hwn
yn broblem gynyddol, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad poblogaidd ymysg
ymwelwyr. Nodwyd bod y difrod yn achosi problemau cynnal, risgiau diogelwch, ac
yn llesteirio’r defnydd cyhoeddus o ymylon fel llwybrau lle nad oes palmant.
Trafodwyd y posibilrwydd o osod
rhwystrau neu gyfyngiadau parcio, ond mynegwyd amheuaeth ynghylch eu
heffeithiolrwydd. Eglurwyd nad oes gorfodaeth barcio wedi’i sefydlu ar gyfer y
safleoedd hyn, a bod rhai pobl yn dadlau eu bod yn gymwys i barcio yno. Cynghorwyd
bod modd trafod gyda’r heddlu os ystyrir bod rhwystr i ddefnyddwyr eraill.
Rhoddwyd enghraifft gadarnhaol o
osod bolards yn Nhalysarn,
ger maes chwarae, gan sicrhau diogelwch plant, a mynegwyd gwerthfawrogiad am
ymyrraeth y Cyngor yn yr achos hwnnw.
PENDERFYNWYD
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
2. Bod y Pwyllgor yn cefnogi
bwriad yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC i
ymestyn y treialon torri a chasglu i ardal Arfon.
Dogfennau ategol: