Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr
cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r
unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd
wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl
ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl
ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd
yn gallu bod yn hyderus
wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat
Roedd yr
Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.
Gwahoddwyd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb a’i amgylchiadau personol. Nododd fod ganddo drwydded
gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat
ers 2008 a phan fu iddo dderbyn y drwydded cafodd gyngor i adrodd ar unrhwy
achosion o yfed a gyrru a/ neu ymddygiad
troseddol i’r Uned Trwyddedu, ond dim sôn am
adrodd ar bwyntiau gyrru. Ategodd mai diweddar oedd y pwyntiau a hynny oherwydd newidiadau mewn cyfyngiadau cyflymder yn yr ardaloedd roedd yn teithio
gyda’i waith. Derbyniodd ddifrfioldeb y sefyllfa, petai yn colli ei
drwydded y byddai yn colli ei
waith.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Canllawiau Addasrwydd Unigolyn
·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Datganiad DBS
·
Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd ynghyd a thystiolaeth a gwybodaeth ysgrifenedig
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn mis Rhagfyr 2022 derbyniodd yr ymgeisydd 3
pwynt cosb am dorri cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.
Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, yn yr un
lleoliad, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am dorri cyfyngiad cyflymder
statudol ar ffordd gyhoeddus.
Yn mis Hydref 2024 derbyniodd yr ymgeisydd 3
pwynt cosb am dorri cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael
ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw
gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei
fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni
chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod
Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn
caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o
dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau
traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff
12.2 o’r Polisi gyda paragraff 13.1 yn diffinio ‘man drosedd traffig fel
trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Ystyriwy paragraff
13.3 sy’n datgan y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w
ystyried arwain at wrthod cais, yn
enwedig os oes sawl collfarn
neu faterion eraill i’w hystyried ar
gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru. Mae’n
bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig ei gyfeirio at sylw Is-bwyllgor Trwyddedu os oes mwy
na dwy drosedd
ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar ei drwydded
CASGLIADAU
Derbyniodd
yr Is-bwyllgor bod gan yr ymgeisydd ddwy drosedd o oryrru o fewn 2 ddiwrnod i'w gilydd ac ymhellach
drydedd drosedd a ddigwyddodd yn 2024. Cafwyd eglurhad o’r lleoliadau ar gyfer y troseddau;
roedd y ddau gyntaf wedi digwydd
yng nghyffiniau Fflint ac o
fewn ychydig ddyddiau oherwydd bod yr ymgeisydd yn credu
mai 40 mya oedd y terfyn cyflymder a'i fod yn
gwneud rhwng 30 a 40. Yng nghyd-destun y trydydd trosedd eglurwyd ei fod
wedi digwydd mewn ardal cyfyngiad
cyflymder o 20mya ac roedd yn gwneud oddeutu
26mya. Ystyriwyd y sylwadau
gonest a wnaeth yr ymgeisydd gan dderbyn
ei fod yn
llawn deall difrifoldeb y sefyllfa gan gydnabod y byddai collfarn arall yn golygu
colli trwydded tacsi a thrwydded gyrru. Nododd yr is-bwyllgor hefyd fod yr ymgeisydd
wedi dal trwydded tacsi ers 2008 ac nad oedd unrhyw
broblemau blaenorol. Amlygwyd pwysigrwydd gohebu unrhyw ddigwyddiadau
gyda’r Uned Trwyddedu.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid
caniatau y cais
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd gan amlygu ei hawl i apelio’r
penderfyniad