Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr
cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r
unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd
wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl
ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl
ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd
yn gallu bod yn hyderus
wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat
Roedd yr
Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais gan nad oedd
nad oedd tair blynedd wedi
mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad gyrru.
Gwahoddwyd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb a’i amgylchiadau personol. Nododd bod cyfnod covid wedi bod yn
gyfnod anodd iddo a’r digwyddiad
yn parhau i gael effaith arno.
Ategodd ei fod wedi derbyn
hysbysiad yn nodi lleihad yn
ei oriau gwaith pob dydd
ac o ganlyniad, roedd rhaid iddo
ystyried incwm ychwanegol i gefnogi ei deulu.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Canllawiau Addasrwydd Unigolyn
·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu
·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Datganiad DBS
·
Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Datganiad Tyst
·
Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd ynghyd a thystiolaeth a gwybodaeth ysgrifenedig
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r mater canlynol
Cefndir
Yn
Chwefror 2021, derbyniodd
yr ymgeisydd gollfarn o dan
y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 am yrru o dan ddylanwad cyffuriau. Fe’i gwaharddwyd rhag gyrru am 12 mis yn weithredol o’r
3ydd o Awst 2021.
CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael
ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw
gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei
fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni
chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod
Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn
caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o
dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd paragraff 11.0 sydd yn cyfarch
troseddau gyrru. Ym mharagraff 11.1 fe nodir y byddai ystyriaeth ddifrifol i
gollfarnau am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol /
cyffuriau. Bydd un sydd wedi ei gael yn euog o droseddau yn ymwneud ag yfed a
gyrru / dan ddylanwad cyffuriau yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod
yn rhydd rhag collfarn(au) o’r fath am 3 blynedd o leiaf.
CASGLIADAU
Bu
i’r Is-bwyllgor bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol gan ystyried sylwadau'r ymgeisydd yn ofalus
a derbyn ei ddatganiad gonest ynglŷn â sefyllfa o gwmpas y gollfarn a’r ffaith bod cyfnod covid wedi bod yn amser anodd
iddo. Bu i'r is-bwyllgor ystyried mai ymhen pump mis byddai’r ymgeisydd wedi gallu cyflwyno
cais a fyddai wedi cael ei
ganiatáu gan swyddogion yn unol
â'r polisi. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd mai cais
am drwydded blwyddyn oedd yma ac os
byddai’n cyflwyno cais i adnewyddu,
byddai, oherwydd y manylion ar y DBS yn cael ei
alw gerbron yr is-bwyllgor unwaith eto.
Ar
ôl pwyso a mesur yr holl ffactorau
yn ofalus, penderfynwyd drwy fwyafrif, bod y ymgeisydd yn berson addas i gael trwydded.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd gan amlygu ei hawl i apelio’r
penderfyniad