Agenda item

Cais llawn i adeiladu 6 preswyl (dosbarth defnydd C3) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys mynedfa, parcio a thirlunio  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ar gyfer cyfraniad addysgol a thy fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol :

 

1.     Amser

2.     Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.     Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

4.     Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir yn ymwneud a’r uned fforddiadwy ynghyd a cyfyngu’r gallu i newid neu ychwanegu ffenestri newydd o’r hyn a ganiateir.

5.     Amod Dŵr Cymru

6.     Amodau Priffyrdd

7.     Amodau Bioamrywiaeth

8.     Angen cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu cyn dechrau’r gwaith datblygu

9.     Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

10.  Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

11.  Tirlunio

 

Cofnod:

 

Plot Borthwen Lôn Rhos, Edern, Gwynedd, LL53 8YN

 

Cais llawn i adeiladu 6 tŷ preswyl (dosbarth defnydd C3) gyda datblygiadau cysylltiedig gan gynnwys mynedfa, parcio a thirlunio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys gwybodaeth ar ffurf Datganiad Tai yn nodi’r sefyllfa yn lleol o ran y galw am dai ynghyd a gwybodaeth berthnasol yn ymwneud a’r datblygiad arfaethedig a’r budd fyddai yn lleol o’i ganiatáu.

 

a)      Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi 6 tŷ preswyl i gynnwys 1 tŷ fforddiadwy gyda gwaith a datblygiadau cysylltiedig o fewn ffin datblygu Edern ac o fewn safle Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn. Nodwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys codi 1 tŷ deulawr 4 ystafell wely, 3 tŷ cromen 3 ystafell wely a 2 dŷ deulawr 3 ystafell wely.

 

Eglurwyd bod Lôn Rhos, sy’n ymylu gyda blaen y safle, yn ffordd gyhoeddus dosbarth 3 gyda mynedfa gerbydol eisoes wedi ei chreu i mewn i’r safle. Ategwyd bod  tai preswyl yn ymylu yn uniongyrchol a rhai o ffiniau’r safle gyda thiroedd amaethyddol agored tu hwnt i ffin deheuol eithaf sydd hefyd yn cynnwys dynodiad llwybr cyhoeddus.

 

Er bod y safle wedi ei leoli o fewn y ffin ddatblygu, amlygwyd y byddai’r datblygiad yn golygu y byddai Edern yn mynd dros ei lefel cyflenwad dangosol ac o ganlyniad roedd angen cyfiawnhad dros y bwriad er mwyn arddangos sut byddai’r datblygiad yn cyfarch galw cydnabyddedig lleol. Nodwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn cadarnhau y byddai’r tai yn cyfrannu yn uniongyrchol at ddarparu mwy o dai i gwrdd â’r galw uchel presennol sydd yn bodoli ar gyfer y math yma o dai preswyl parhaol ac ystyriwyd felly bod cyfiawnhad ac angen ar eu cyfer a’u bod yn cyfarch anghenion y gymuned leol. Ategwyd, gan fod yr Ysgol Gynradd leol yn llawn y bydd cyfraniad addysgol yn cael ei sicrhau drwy cytundeb 106.

 

Ystyriwyd bod yr egwyddor o ddatblygiad preswyl newydd yn cyfrannu tuag at ddiwallu’r angen yn lleol, ac nid oedd tystiolaeth i ddangos y byddai’r bwriad yn cael effaith niweidiol ar yr Iaith. Nodwdy bod bwriad gosod amodau priodol er mwyn sicrhau bod enwau Cymraeg i’w cytuno ar gyfer y stad a’r tai.

 

Wrth ystyried cyd-destun y safle a’r ffaith y bydd yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r pentref, ystyriwyd bod gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn ei ffurf diwygiedig, yn gweddu i’r lleoliad mewn modd priodol, a’r bwriad hefyd yn dderbyniol o safbwynt diogelwch ffyrdd. Ystyriwyd bod natur adeiledig bresennol yr ardal yn amrywiol, ond yn gymharol ddwys gan ei fod yn ffurfio rhan o bentref sefydledig. Yn ychwanegol, ystyriwyd bod y pellteroedd, lefelau tir a phresenoldeb y ffens arfaethedig a’r llystyfiant presennol yn golygu na fyddai’r tai yn amharu i raddau cwbl annerbyniol ar fwynderau tai cyfagos.

 

Roedd y swyddogion yn ystyried fod y bwriad yn dderbyniol ac yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Ei fod wedi sefydlu cwmni Sbarc ddwy flynedd yn ôl gyda’r nod o warchod y gymuned, yr iaith ac addysg yr ardal - egwyddorion pwysig i’w fusnes

·         Ei fod wedi trafod datblygiad Porthwen gyda’r ysgolion lleol – 15 plentyn yn gadael Ysgol Edern eleni gydag ond 7 yn dod i mewn – pryder yn nyfodol yr ysgol

·         Tri tŷ yn unig sydd wedi eu datblygu yn Edern dros y 10 mlynedd diwethaf

·         Bod y cynlluniau gwreiddiol wedi cael eu haddasu – yn fwy addas i bobl lleol a theuluoedd.

·         Bod 2 dŷ eisoes wedi eu gwerthu yng ngwedd 1 o’r datblygiad

·         Bod Sbarc yn barod i gydweithio gyda phôbl lleol, Swyddogion y Cyngor a Chymdeithasau Tai

 

c)         Yn manteisio ar yr hawl i gyflwyno sylwadau, nododd yr Aelod Lleol ei fod yn gefnogol iawn i'r cais am 6 tŷ preswyl yn Edern am y rhesymau canlynol –

·         I bentref bychan arfordirol/gwledig Edern byddai'r datblygiad tai yma, oherwydd ei fod ar raddfa fach o 6 tŷ, yn briodol ac addas.

·         Ei fod yn croesawu y bwriad i sicrhau fod cymysgedd o dai 3/4 yst wely a'r ffaith fod 1 tŷ yn fforddiadwy, er byddai’n well pe bai mwy o'r tai yn fforddiadwy.

·         Bod Cyngor Tref Nefyn, sy'n cynnwys nifer o Gynghorwyr o Edern, yn cefnogi'r cais.

·         Gyda chymaint o Ysgolion Gwynedd (Cynradd ac Uwchradd) yn gweld gostyngiad yn niferoedd disgyblion, braf fyddai gweld cynnydd yn niferoedd Ysgol Botwnnog ac Ysgol Edern dros y blynyddoedd nesaf pe caniateir y datblygiad hwn yn Edern

·         O ran 'Mwynderau Gweledol', byddai'r datblygiad yn ychwanegu at a gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle. Croesawyd y cydweithio rhwng swyddogion Cynllunio a'r datblygwr o ran sicrhau na fydd goredrych dros eiddo cyfagos na phreswylwyr tai cyfagos yn colli preifatrwydd.

·         Gallai dystio fod y lleoliad ei hun yn lecyn braf iawn yng nghanol pentref Edern. Yn lecyn delfrydol o ran hwylustod cyrraedd Ysgol Edern a'r cae chwarae poblogaidd.

·         Bod ganddo bob ffydd y byddai’r datblygwr, sef 'Eiddo Sbarc' sy'n gwmni lleol, yn driw i'w cenhadaeth o "Adeiladu'r dyfodol trwy greu eiddo fforddiadwy, cynaliadwy, arloesol a chain. Mae'r iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n treftadaeth yn hollbwysig i ni yn Sbarc. Gweithiwn i drawsnewid lleoedd gwag yn gymunedau ffyniannus. Adeiladwn gartrefi o safon a chyfrannu at warchod a hyrwyddo'r Gymraeg."   Y cwmni eisoes gydag enw da o ran darparu tai o ansawdd i drigolion Llŷn.

·         Er mwyn sicrhau fod Edern yn parhau i ffynnu fel pentref hyfyw, bywiog a Chymraeg mae angen y datblygiad hwn ac felly yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi argymhelliad y swyddogion Cynllunio a chaniatau y cais.

 

ch)       Cynigwyd ac eiliwyd caniatau y cais

 

a)         Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod yr ymgeisydd wedi egluro ei ddyheadau yn dda

·         Bod hawl cynllunio eisoes yn bodoli gan gyn-berchennog y safle

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ar gyfer cyfraniad addysgol a thy fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol :

 

1.    Amser

2.    Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.    Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

4.    Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir yn ymwneud a’r uned fforddiadwy ynghyd a cyfyngu’r gallu i newid neu ychwanegu ffenestri newydd o’r hyn a ganiateir.

5.    Amod Dŵr Cymru

6.    Amodau Priffyrdd

7.    Amodau Bioamrywiaeth

8.    Angen cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu cyn dechrau’r gwaith datblygu

9.    Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

10.  Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

11.  Tirlunio

 

Dogfennau ategol: