Adeiladu 4rh uned ddiwydiannol newydd a thirlunio allanol cysylltiedig ar Lain C3 ym Mharc Bryn Cegin, Llandygai, Bangor.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud
gyda:
1.
Amser
2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3.
Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad
ecolegol / cynllun tirlunio
4. Amod
Dŵr Cymru
5. Caniateir
defnyddio'r adeiladau at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B2
6. Sicrhau
arwyddion Cymraeg / Dwyieithog
7. Amodau
Gwarchod y Cyhoedd
Nodiadau
1.
Dŵr Cymru
2.
Uned Draenio Tir
Cofnod:
Adeiladu
4rh. uned ddiwydiannol newydd a thirlunio allanol cysylltiedig ar Lain C3 ym
Mharc Bryn Cegin, Llandygai, Bangor.
a)
Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr oedd yn cynnwys sylwadau pellach gan yr Uned Bioamrywiaeth -
ystyriwyd ei bod yn briodol gosod amod i sicrhau mesurau lliniaru a thirweddu
priodol.
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd
ar gyfer codi pedwar adeilad ynghyd a gwaith cysylltiol ar un o'r lleiniau
gweigion o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai. Eglurwyd bod un o'r
adeiladau yn cael ei adael fel un uned sengl tra byddai dau ohonynt wedi eu
rhannu'n ddwy uned lai gyda'r pedwerydd yn cael ei rannu'n bedair uned.
Nodwyd bod y safle wedi’i leoli
ar Safle Busnes Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin sydd tua1km i’r de o ffin
ddatblygu Canolfan Rhanbarthol Bangor a’r defnydd bwriedig
yn cydfynd gyda gofynion polisi CYF 1, oherwydd bod cyfiawnhad priodol ar gyfer
caniatáu datblygiad o'r fath ar safle sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y math
yma o ddefnydd. Nid yw’n ddatblygiad annisgwyl ac mae’r broses o glustnodi’r
safle wedi sefydlu’r egwyddor. Ategwyd nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad ar
sail materion cynaliadwyedd ac isadeiliedd,
trafnidiaeth, treftadaeth, bioamrywiaeth na ieithyddol.
Adroddwyd bod y safle hefyd o
fewn Parthau Clustogi Henebion Cofrestredig Hengor a Chwrsws Llandygai a Rheilffordd Chwarel y Penrhyn, a bod
mynediad gerbydol yn bodoli ar y safle yn barod. Er yn ymddangos yn fawr,
amlygwyd bod yr adeiladau o faint, dyluniad a defnyddiau a fyddai’n
ddisgwyliedig i adeiladau diwydiannol cyfoes. Ategwyd bod bwriad tirlunio fydd
yn atgyfnerthu’r sgrinio presennol a fyddai, ynghyd a’r sgrinio naturiol
presennol yn cuddio’r safle o’r rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus. O ystyried ei safle ar stad ddiwydiannol, sydd
eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio, ni ystyriwyd y byddai’r safle yn gwneud
niwed arwyddocaol i edrychiad cyffredinol y safle, nac yn amharu ar fwynderau
gweledol yr ardal yn gyffredinol yn ogystal a’r dynodiadau tirwedd.
Cyfeiriwyd at Asesiad Sŵn oedd wedi ei gyflwyno gan
gadarnhau bod Gwasaneth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor
Gwynedd wedi darparu ymateb ac yn cynnig amodau er mwyn sicrhau fod mesurau
lliniaru sŵn digonol yn cael eu darparu, ynghyd ac oriau gwaith/agor
penodol ar sail y wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais.
Wedi
ystyried fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau
lleol a chenedlaethol perthnasol roedd y swyddogion yn ystyried fod y bwriad yn
dderbyniol ac yn argymhell caniatáu’r cais gydag
amodau.
b)
Nid oedd gan yr Aelod Lleol sylwadau i’w cynnig
ar y cais
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud
gyda:
1.
Amser
2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3. Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad
ecolegol / cynllun tirlunio
4. Amod Dŵr Cymru
5. Caniateir defnyddio'r adeiladau
at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B2
6. Sicrhau arwyddion Cymraeg /
Dwyieithog
7. Amodau Gwarchod y Cyhoedd
Nodiadau
1.
Dŵr Cymru
2.
Uned Draenio Tir
Dechreuodd y cyfarfod am 13.00 a daeth i ben
am 14:00
|
CADEIRYDD
Dogfennau ategol: