Alwen
Williams (Prif Weithredwr Dros Dro y CBC) ac David Hole (Arweinydd Gweithredu
Rhaglen y CBC) i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Adroddiad Chwarterol gan:
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Brif Weithredwr Dros Dro CBC y Gogledd ac Arweinydd Gweithredu
Rhaglen y CBC.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r
Adroddiad Chwarterol gan:
1.
Argymell i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn
diweddariad o’r trefniadau i gyllido prosiect Diwygio Bysiau ac Masnachfreinio.
2.
Mynegi pryder am barhad gwasanaeth
wrth i brosiect Diwygio Bysiau a Masnachfreinio gael ei ddatblygu ymhellach.
3.
Gofyn am drafodaeth bellach ar
gyfer cyllido gwasanaeth bws (coets) o ddwyrain i orllewin Cymru a hefyd
gwasanaeth bws Gogledd Cymru i’r De, i gyd fynd gyda gwasanaethau rheilffordd
drawsffiniol, heb amharu ar wasanaethau lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd y
Cylch Gorchwyl yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor ar 1 Hydref 2024. Mae’r
Is-bwyllgor wedi cyfarfod ar ddau achlysur, ac ystyrir ei bod yn briodol
adolygu’r gwaith a wnaed a sicrhau bod yr adnoddau cywir yn eu lle i ddiwallu
datblygiadau yn y dyfodol.
TRAFODAETH
Adroddwyd
mai dyma’r adroddiad chwarterol cyntaf sydd yn
manylu ar ddatblygiadau, yn unol â dyletswydd
gyfreithiol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wrth ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Ymhelaethwyd bydd adroddiad chwarterol yn cael ei
gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig pob chwarter er mwyn manylu ar brosiectau penodol, perfformiad ariannol yr Is-bwyllgor a’r datblygiadau
sydd ar y gweill. Atgoffwyd bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynorthwyo awdurdodau
lleol gyda datblygiadau ac nid oes ganddo bwerau
dros gynlluniau ffyrdd a rheilffordd strategol sydd y tu hwnt i
reolaeth yr awdurdodau hynny.
Diolchwyd
i’r Is-bwyllgor ac i’r holl rhan-ddeiliaid
am eu cymorth i gyflawni’r holl
ddatblygiadau a welwyd o fewn yr adroddiad.
Cadarnhawyd bod cyfnod ymgynghori
ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol draft wedi cychwyn ers 20 Ionawr 2025 ac yn parhau nes 14 Ebrill
2025. Eglurwyd bod y gwaith
yn cael ei
arwain gan ARUP ar ran y Cyd-bwyllgor, gan nodi hefyd bod cydweithio wedi digwydd gyda
Thrafnidiaeth Cymru. Diweddarwyd
bod dros 1120 o bobl wedi ymateb i’r
ymgynghoriad hyd yma, gyda’r disgwyliad
bydd y niferoedd hyn yn parhau
i gynyddu’n raddol hyd at ddiwedd
y cyfnod ymgynghori. Ymhelaethwyd bod ARUP wedi canfod themâu yn
codi mewn nifer o’r ymatebion,
ac yn eu casglu gyda'i gilydd
er mwyn ymateb yn effeithiol i
unrhyw bryder neu syniad a gyflwynwyd gan y cyhoedd.
Tynnwyd
sylw bod timau cyfathrebu’r awdurdodau lleol wedi cefnogi’r
gwaith o hyrwyddo’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn. Ymhellach, mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac ARUP wedi cymryd pob cam er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosib gyda Mynediad i’r ymgynghoriad megis rhif ffôn
dwyieithog, Ystafell ymgynghori
ddigidol a hefyd drwy ddatblygu fersiwn hawdd ei
ddarllen o’r ymgynghoriad er mwyn cefnogi unrhyw un a all gael heriau
i ddeall a chymryd rhan yn
yr ymgynghoriad hebddo.
Eglurwyd
bod ARUP yn asesu’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan gadarnhau
y byddent yn cyflwyno adroddiad ynghylch yr atebion pan yn amserol. Manylwyd
bod cwestiynau meintiol wedi cael eu
cynnwys yn yr ymgynghoriad a fydd yn cael ei
asesu er mwyn canfod niferoedd a chanrannau ymatebion sydd yn cytuno
neu’n anghytuno gyda’r cwestiynau a datganiadau. Eglurwyd ei bod yn fwy
heriol i asesu canlyniadau’r ymatebion i’r cwestiynau
ansoddol gan gadarnhau bod ARUP wedi Datblygu
system godio gyfrifiadurol er
mwyn cynorthwyo i ganfod themau
penodol a materion sydd yn peri pryder.
Cadarnhawyd bod hyn yn galluogi ARUP i brosesu’r holl
wybodaeth er mwyn ei rannu gyda’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig a Thrafnidiaeth Cymru am ystyriaeth.
Adroddwyd bydd addasiadau perthnasol yn cael ei
wneud yn dilyn hyn er mwyn
gallu cyflwyno’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar ffurf draft i Lywodraeth Cymru am ystyriaeth bellach a chymeradwyaeth.
Tywyswyd
yr Aelodau drwy gamau nesaf y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan gadarnhau yr anelir i’w gyhoeddi’n
derfynol yn ystod Medi 2025.
Eglurwyd
bod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn cydweithio gyda’r awdurdodau lleol er mwyn
datblygu nifer o brosiectau sy’n cynnig trafnidiaeth gynaliadwy ledled Gogledd
Cymru. Nodwyd bod y prosiectau hyn yn cael eu hystyried yn y sylfaen polisi
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Manylwyd bod rhai o’r prosiectau hyn yn
cynnwys Porth Wrecsam, Porth Bangor, Porth Caergybi, Porth Caernarfon a Gwella
Gwydnwch Menai, gyda chyllideb wedi ei gadarnhau ar gyfer eu datblygu ymhellach
yn 2025/26, gyda’r gobaith o’u cyflawni mor fuan â phosib.
Mynegwyd
pryder am barhad gwasanaeth wrth i brosiect Diwygio Bysiau a Masnachfreinio
gael ei ddatblygu ymhellach, gan gadarnhau bod rhai rhanddeiliaid wedi codi’r
pryderon hyn gydag ysgrifennydd y Cabinet perthnasol, Ken Skates AS. Nodwyd bod
awdurdodau lleol yn dymuno derbyn sicrwydd na fydd unrhyw ddatblygiadau
masnachfreinio yn effeithio ar wasanaethau sydd eisiau mewn lle o fewn siroedd
y Rhanbarth. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod ‘Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)’
bellach yn derbyn ystyriaeth y Senedd a gobeithir y byddai’n cael ei
fabwysiadu’n statudol erbyn Ionawr 2026. Pwysleisiwyd ei fod yn allweddol bod
awdurdodau lleol yn lleisio barn ar bwysigrwydd y mater hwn, gan fyddai denu
cyllid ychwanegol yn sicrhau datblygiad gwasanaethau trafnidiaeth i’r rhanbarth.
Adroddwyd
ar ddyheadau datblygiadau hirdymor rhwydwaith rheilffordd y rhanbarth.
Cydnabuwyd nad yw datblygiadau i’r rhwydwaith rheilffordd wedi bod yn
flaenoriaeth wrth lunio Cynlluniau Trafnidiaeth yng Nghymru yn y gorffennol gan
nad yw’n fater sydd wedi cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag,
pwysleisiwyd ei fod yn allweddol i’w gynnwys o fewn Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Manylwyd ar 9 ddyhead am ddatblygiad
rheilffyrdd yn y Rhanbarth, gan nodi ei bod wedi derbyn ystyriaeth gan
Drafnidiaeth Cymru ac Network Rail a bellach o dan ystyriaeth Prosbectws
Buddsoddi Llywodraeth Cymru wrth iddynt drafod gyda Llywodraeth y DG, yn y
gobaith o sefydlu cyllideb rheilffordd i Gymru. Rhannwyd enghraifft o ystyried
ychwanegu trenau trydan yn y dyfodol, gan egluro gall hyn fod yn ddatblygiad
newydd yn y dyfodol.
Cadarnhawyd bod Comisiwn Trafnidiaeth
Gogledd Cymru wedi cael ei gomisiynu gan
Lywodraeth Cymru er mwyn llunio argymhellion ar faterion trafnidiaeth yn y rhanbarth. Eglurwyd bod y Comisiwn wedi nodi 60 o argymhellion, gyda sylwadau ychwanegol
am gysylltiadau Pont Menai. Pwysleisiwyd
bod yr argymhellion hyn wedi dylanwadu ar ddatblygiad Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd,
oni bai am 3 argymhelliad sydd
yn cael eu
datblygu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Diweddarwyd bod grŵp ymgynghorol
Hunt-Medi wedi cael ei ffurfio gyda
chefnogaeth ARUP, Comisiwn Dylunio Cymru, Swyddogion Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth
Cymru a’r Panel Dethol. Eglurwyd mai ei
nod yw deall rhwystrau i ddatblygiadau
cynaliadwy, gan wneud argymhellion ar ffyrdd gwell o weithio er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bawb
yng Nghymru. Nodwyd bod yr heriau a adnabuwyd yn
ystod gwaith y grŵp ymgynghorol hwn wedi bwydo
mewn i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft.
Cyfeiriwyd
at Wasanaeth Bws Cyflym Gogledd-De, gan fod Trafnidiaeth Cymru yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer gwasanaeth newydd a all gael ei
gyflwyno yn ystod 2026. Manylwyd byddai’r gwasanaeth yn cysylltu Bangor gyda Chaerfyrddin yn gyflymach na’r
darpariaethau cyfredol. Nodwyd hefyd bod ystyriaethau am wasanaeth cyflym Dwyreiniol-Gorllewinol ond byddai’r holl
ddatblygiadau hyn yn ddibynnol ar adborth o ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal
â chyllidebau.
Nodwyd
bod y gwaith o gasglu adnoddau ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei oruchwylio
gan Arweinydd Gweithredu Rhaglen Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ar y cyd gyda gwasanaethau ymgynghori ARUP a Thrafnidiaeth Cymru. Eglurwyd bydd y Prif Weithredwr
Dros Dro yn cychwyn proses recriwtio unigolion sydd ag arbenigedd cynllunio trafnidiaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith hyn, yn
dilyn y trosglwyddiad i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar 1 Ebrill
2025.
Cadarnhawyd bod holl wariant o ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn bennaf yn
deillio o gratiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Ymhelaethwyd
bod comisiynu ARUP i ddarparu cymorth technegol a chyflawni ers dechrau 2024 wedi arwain at wariant o £193,170 hyd yma. Adroddwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cadarnhau dyraniadau ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26, ond nad oes cadarnhad
o’r gyllideb ar hyn o bryd.
Dogfennau ategol: