Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Paul Rowlinson

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Darparwyd diweddariad ar brosiectau Cynllun y Cyngor y mae’r Adran yn gyfrifol amdanynt. Mynegwyd balchder bod cynnydd sylweddol i’r prosiectau hyn, gyda mesurau herio perfformiad boddhaol, ers adrodd i’r Cabinet yn flaenorol.

 

Nodwyd pryder am lwyth gwaith y Tîm Digartrefedd gan egluro bod oddeutu 1000 o aelwydydd yn cofrestru eu hunain yn ddigartref pob blwyddyn. Pwysleisiwyd bod gan y Cyngor gynlluniau ar waith er mwyn ymdrechu i fynd i’r afael â’r sefyllfa heriol hon, gan gynnwys tair datblygiad newydd sydd ar gael i bobl sydd yn cyflwyno’n ddigartref.

 

Mynegwyd balchder bod y data diweddaraf yn nodi bod llai o ddibyniaeth ar lety annibynnol argyfwng brys (megis cwmnïau gwely a brecwast) o fewn y flwyddyn 2024/25. Gobeithir bydd y ffigyrau hyn yn parhau i ostwng i’r dyfodol wrth i adeilad Mona, Caernarfon ac 137 Stryd Fawr Bangor gael eu datblygu.

 

Tynnwyd bod galw mawr am dai yng Ngwynedd ac nid oes digon o dai i ymdopi gyda’r gofyn. Fodd bynnag, nodwyd bod yr Adran yn ymdrechu i gyfarch yr anghenion a godir o fewn y Cynllun Gweithredu Tai. Manylwyd ar brosiectau cefnogi Adeiladu Tai Cymdeithasol, Tŷ Gwynedd, Prynu i Osod a chynlluniau Cartrefi Gwag. Rhannwyd enghraifft drwy fanylu ar ddatblygiad Tŷ Gwynedd Maes Twnti, Morfa Nefyn sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer codi 9 o gartrefi. Ymhelaethwyd bod y gwaith benodi contractwr i ymgymryd â’r gwaith eisoes ar y gweill gan obeithio bydd tendr yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

 

Mynegwyd balchder bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn grant gwerth £13miliwn ar gyfer rhaglen Adeiladu Tai Cymdeithasol yn ddiweddar, gan ymfalchïo bod gwaith y Cyngor yn sicrhau bod modd denu grantiau o’r math yma. Fodd bynnag, mae gwrthwynebiadau i geisiadau cynllunio yn peri risg i weithrediad y rhaglen.

 

Datganwyd bod 97% o dai cymdeithasol yn cael eu gosod i bobl sydd gyda cysylltiad i Wynedd, gyda canran uchel yn cael eu gosod i bobl gyda cysylltiad i’r gymuned ble mae’r tai wedi eu lleoli.

 

Diweddarwyd bod dau ddatblygiad Tŷ Gwynedd ar waith ym Mangor a Llandygai, gan rannu gobeithion bydd mwy o brosiectau’r cynllun yn cael eu datblygu mewn ardaloedd eraill o’r Sir yn y dyfodol.

 

Adroddwyd bod ymdrin â’r argyfwng costau ynni a thlodi tanwydd yn un o brif flaenoriaethau’r Adran. Ymhelaethwyd bod y Gwasanaeth Ynni wedi ei sefydlu o fewn y Cynllun Gweithredu Tai er mwyn cydweithio gyda partneriaid i hyrwyddo a hwyluso cynlluniau arbed ynni, grantiau a budd-daliadau yn ogystal â sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn brysur iawn, gyda 661 o bobl yn derbyn cyngor dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu mewn digwyddiadau, yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2024.

 

Cadarnhawyd bod materion herio perfformiad yn derbyn ystyriaeth gyson.

 

Datganwyd bod adolygiadau diweddaraf yr Adran yn rhagweld bydd £303,000 o danwariant yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ymhelaethwyd bod yr Adran yn anelu i wireddu arbedion gwerth oddeutu £260,000 yn 2024/25 gan gydnabod bod oedi ar ddwy o’r cynlluniau perthnasol hynny ar hyn o bryd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Mewn ymateb i ystyriaethau byddai sefydliadau tai yn gallu cyflawni prosiect Tŷ Gwynedd, yn gyflymach na’r Cyngor, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet nad oes tystiolaeth i brofi hynny gan fod y sefydliadau tai hynny yn rhwym i’r un systemau caffael, cynllunio a chontractwyr â’r Cyngor. Nodwyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda’r sefydliadau tai ble mae modd gwneud hynny.

 

Awdur:Carys Fon Williams (Pennaeth Adran Tai ac Eiddo)

Dogfennau ategol: