Agenda item

I roi arweiniad ar gyfeiriad gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid yn y dyfodol i drafod os ydyw dal yn cyfarch anghenion pobl ifanc Gwynedd ac yn cyflawni ei hamcanion yn dilyn yr ailstrwythuro yn 2018. 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Argymell i’r Aelod Cabinet / Adran Addysg:

-        Bod angen sicrhau cysondeb darpariaeth ar draws y Sir.

-        Adnabod ffyrdd o ymgysylltu’n ehangach gyda phobl ifanc ac yn arbennig grwpiau penodol o bobl ifanc.

-        Bod angen ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned gyda’r bwriad i gynyddu’r nifer o glybiau cymunedol.

-        Bod angen parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau’r ddarpariaeth orau, er enghraifft yr Urdd, Ffermwyr Ifanc.

  1. Gofyn i’r Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid rannu data am nifer yr unigolion unigryw sy’n cymryd rhan yn y ddarpariaeth, ac arfer da o ran clybiau cymunedol, gyda aelodau’r pwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad gan nodi bod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod ar daith sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r ddarpariaeth wedi’i hailfodelu’n sylweddol yn 2018. Eglurwyd bod argyfwng COVID wedi cael effaith sylweddol ar anghenion pobl ifanc ac wedi cael dylanwad amlwg ar y gwasanaeth, fel pob gwasanaeth arall. Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth yn derbyn y sylw priodol gan y Pwyllgor yma. Pwysleisiwyd rôl allweddol y Gwasanaeth Ieuenctid yng ngwaith cefnogi pobl ifanc Gwynedd.

Mynegwyd barn nad ydynt yn manteisio digon ar y gwaith mae’r gwasanaeth ieuenctid yn ei wneud, nac ar yr effaith a’r ardrawiad cadarnhaol y gall gwaith ieuenctid ei gael ar fywydau pobl ifanc. Cyfeiriwyd at Gynhadledd Gwaith Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd, lle roedd gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd bresenoldeb amlwg, a chafwyd cyfle i rannu arferion da. Nodwyd bod nosweithiau gwobrwyo wedi’u cynnal gan y gwasanaeth ym Mangor i gydnabod llwyddiannau pobl ifanc ar draws y sir.

Mynegwyd bod pobl ifanc Gwynedd yn arbennig, er gwaethaf y bai a roddir arnynt yn aml. Pwysleisiwyd nad yw'r heriau a wynebir gan rai pobl ifanc yn adlewyrchiad o fethiant, ond yn dangos yr angen am gymorth, ac mai dyma’r flaenoriaeth i’r Adran Addysg.

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd clywed lleisiau pobl ifanc ac eglurwyd bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn ymgynghori'n helaeth â nhw. Nodwyd bod sefydlu Fforwm Ieuenctid Gwynedd yn gam cadarnhaol, gyda swyddog penodol yn arwain ar y gwaith i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn rhan o waith ehangach y Cyngor.

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 i’r adroddiad ‘Canfyddiadau Holiadur Pobl Ifanc 2025’. Nodwyd bod 25% o bobl ifanc yn anghyfarwydd â'r gwasanaeth, gan amlygu’r angen am fwy o waith codi ymwybyddiaeth. Amlygwyd bod y prif resymau dros gymryd rhan yn y gwasanaethau ieuenctid yn cynnwys cael mwynhau a threulio amser gyda ffrindiau. Nodwyd bod dim ond 17% yn nodi diffyg diddordeb fel rheswm dros beidio cymryd rhan, sy’n awgrymu awydd clir gan bobl ifanc i ymgysylltu.

Eglurwyd bod 75% o'r bobl ifanc a holwyd yn teimlo bod gan y gwasanaeth rôl bwysig yn y gymuned, a chyfran debyg yn gweld rôl i’r gwasanaeth mewn ysgolion. Nodwyd nad yw’n glir a ddylai’r gwasanaeth fod yn gymunedol yn unig neu hefyd yn rhan o’r ddarpariaeth ysgolion, ond bod y data'n dangos awydd i’w gael yn y ddau le.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Holwyd sut y gellid sicrhau bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn weladwy yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysgol, gan ofyn sut y gellid estyn allan yn fwy effeithiol at bobl ifanc yn y gymuned er mwyn sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu clywed. Mynegwyd pryder mai canran gymharol fach o bobl ifanc oedd wedi ymateb i’r holiadur, gan godi’r cwestiwn ynghylch sut y gellid cyrraedd y gweddill. Mewn ymateb, nodwyd:

·       Bod dymuniad i weld cyfran uwch o bobl ifanc yn ymateb i’r holiadur, er mwyn adlewyrchu barn gynrychioliadol ar draws y sir.

·       Bod y gwaith penodol sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys drwy’r Fforwm Ieuenctid, yn debygol o arwain at adroddiad llawer mwy cynhwysfawr ac dibynadwy o fewn y flwyddyn nesaf.

·       Bod y gwasanaeth yn gweithredu ar draws cymunedau Gwynedd, ond bod heriau penodol yn wynebu’r sir oherwydd ei daearyddiaeth eang.

·       Bod recriwtio staff yn parhau i fod yn her, ac y gall hyn waethygu’r sefyllfa mewn ardaloedd mwy gwasgaredig lle mae’n anoddach sicrhau darpariaeth gyson.

·       Bod angen gwneud popeth o fewn gallu’r gwasanaeth i fynd i’r afael â’r her, er ei bod yn un gymhleth.

Holodd yr aelod ymhellach ynghylch sut y gellid sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth ar draws y sir gyfan, gan gyfeirio’n benodol at Dde Meirionnydd fel ardal sy’n wynebu trafferthion gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a recriwtio. Mewn ymateb, nodwyd:

·       Bod aelod o staff newydd wedi’i recriwtio yn Nhywyn ac yn dechrau’r wythnos ganlynol, gyda’r gobaith y byddai hyn yn mynd i’r afael ag anghenion lleol yn yr ardal honno.

·       Bod chynlluniau i sefydlu clwb ieuenctid yn yr orsaf drenau i ddarparu ar gyfer pobl ifanc yn gadael yr ysgol.

·       Bod y Fforwm Ieuenctid yn weithredol bellach ym Meirionnydd, Dwyfor ac Arfon, ac y gwneir gwaith i sicrhau adborth gan gynrychiolaeth mor eang â phosib o bobl ifanc. Mynegwyd y gobaith y bydd y gwaith hwn yn datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf.

·       Bod y fforwm yn canolbwyntio ar y gwasanaeth ieuenctid yn unig, ond yn edrych ar y darlun ehangach drwy gynnwys adborth gan ysgolion, y trydydd sector, a lleisiau’r bobl ifanc eu hunain, yn enwedig y rhai na fyddent fel arfer yn mynegi barn drwy sianeli ffurfiol.

Cwestiynwyd yr angen i ail-fodelu’r gwasanaeth ieuenctid yn 2018, gan godi amryw o gwestiynau am y rôl bresennol sydd gan tua 70 o weithwyr yn y gwasanaeth. Mewn ymateb, nodwyd y canlynol ynghylch strwythur y gweithlu:

·       Bod gweithwyr llawn-amser yn gweithredu rhwng ysgolion a’r gymuned, gyda ffocws ar waith wedi’i dargedu (phresenoldeb isel neu anawsterau ymddygiadol) yn ysgolion a llesiant a cymdeithasu yn y gymuned.

·       Bod staff y prosiect 16–25 yn cefnogi pobl ifanc drwy waith un-i-un, gan ddarparu cefnogaeth un-i-un i bobl ifanc sydd bellaf o’r farchnad lafur ac sydd angen datblygu sgiliau bywyd, cymdeithasu a gwytnwch.

·       Bod gweithwyr rhan-amser, sydd yn gweithio rhwng tair a chwe awr yr wythnos, yn cefnogi darpariaeth clybiau ieuenctid cymunedol drwy gynghorau cymuned a thref ac yn cefnogi’r gweithwyr llawn-amser.

·       Bod y niferoedd o weithwyr a nodwyd yn cyfeirio at unigolion gwahanol, heb ddyblygu.

·       Bod targed o dri gweithiwr rhan-amser ar gyfartaledd ym mhob clwb.

·       Bod rhai gweithwyr hefyd yn ymwneud â Chlwb Cyfeillgar Derwen dan drefniadau cyllido ar wahân, ond i gyd yn cael eu cyflogi gan Gyngor Gwynedd.

Holwyd ynglŷn â’r naw ardal lle ariennir y ddarpariaeth gan gynghorau cymuned, gyda’r mwyafrif ohonynt yn Arfon. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd cymunedau ym Meirionnydd a Dwyfor wedi cymryd mantais o’r dull hwn i’r un graddau, ond bod trafodaethau ar y gweill er mwyn annog mwy o gynghorau cymuned i gymryd rhan. Ymhelaethwyd bod hyn yn flaenoriaeth i’r gwasanaeth. Eglurwyd mai un o’r heriau mwyaf yw recriwtio staff lleol, gan fod sawl cyngor tref wedi mynegi diddordeb yn y gorffennol ond heb lwyddo i sicrhau gweithlu.

Cwestiynwyd y ffordd orau o gysylltu â phobl ifanc â phroblemau ymddygiadol, yn enwedig mewn lleoliadau lle nad oes mannau penodol ar gyfer darpariaeth ieuenctid. Mewn ymateb, nodwyd bod gwaith yn digwydd i bontio rhwng ysgol a chymuned, ac er y gall rhai pobl ifanc benderfynu peidio ymgysylltu â chlwb ffurfiol, ceisir eu cyrraedd drwy’r cynllun ‘Roaming’ sydd yn ymgeisio creu hybiau cymunedol mewn cymaint o ardaloedd a phosib.

Pwysleisiwyd bod cydweithio agos yn digwydd gyda’r heddlu, gyda chyfarfodydd misol i adnabod a mynd i’r afael â phroblemau gwrthgymdeithasol. Eglurwyd bod dulliau wedi’u haddasu’n lleol yn unol ag anghenion cymunedau, fel y dangoswyd eisoes yng Nghricieth.

Mynegwyd pryder ynghylch dull presennol y gwasanaeth o fesur ymgysylltiad, gan ei fod yn cyfrif nifer y digwyddiadau cyswllt yn hytrach na nifer yr unigolion sy’n ymgysylltu. Mewn ymateb, eglurwyd bod gwaith ar y gweill i wella systemau data’r Cyngor er mwyn adnabod nifer y bobl ifanc unigol sy’n elwa o’r gwasanaeth yn fanwl. Nodwyd y byddai’n bosib rhannu’r data unigol erbyn diwedd y flwyddyn.

Cyfeiriwyd at neges glir gan bobl ifanc, sef yr angen am fannau diogel i ymgynnull, cymdeithasu ac ymlacio heb orfodaeth i ennill cymwysterau. Mewn ymateb, nodwyd bod cymwysterau’n parhau ar gael i’r rheini sy’n dymuno, ond bod y ffocws bellach ar gymdeithasu a llesiant, gan gynnwys gweithgareddau megis tripiau drwy brosiect Taith, gan gynnwys cynllun i ymweld â Croatia.

Mewn ymateb i gwestiwn am ddyfodol y strategaeth dair blynedd ar ôl i’r grant ddod i ben, eglurwyd bod y gwasanaeth yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu strategaeth ehangach a fyddai’n para tu hwnt i’r cyfnod cyllido presennol. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl cynllun hirdymor gyda mewnbwn gan bartneriaid gan gynnwys pobl ifanc, iechyd, addysg a’r trydydd sector. Mynegwyd gobaith y byddai’r dull hwn yn cynnal y ddarpariaeth yn y tymor hir, a bod gwaith yn parhau i gryfhau’r elfen statudol er mwyn sicrhau ei barhad yn y dyfodol.

Cwestiynwyd ynghylch a fyddai’r swyddog ieuenctid yn Nhywyn yn gweithredu hefyd yng Nghorris. Mewn ymateb, nodwyd byddai swyddog Tywyn neu Dolgellau yn ymweld â Chorris. Eglurwyd mai rhan o ddyletswydd y swyddogion yw gweithio o fewn y dalgylchoedd ac ymestyn eu darpariaeth i’r cymunedau hynny. Mewn ymateb i hyn, mynegwyd y gobaith y byddai clwb ieuenctid newydd yn cael ei sefydlu yn y pentref gan fod galw lleol cryf.

Cyfeiriwyd at sefyllfa’r Ffermwyr Ifanc, gan nodi bod cyfraniad cyllidol parhaol y Cyngor wedi dod i ben rai blynyddoedd yn ôl, a bod y mudiad wedi wynebu trafferthion ers hynny. Tynnwyd sylw at y nifer o weithgareddau a sgiliau y mae’r bobl ifanc yn eu meithrin drwy’r Ffermwyr Ifanc, megis gweithgareddau eisteddfod, cadeirio pwyllgorau a gŵyl chwaraeon. Mynegwyd pryder nad oes unrhyw strwythur wedi’i roi yn ei le i gymryd lle’r gefnogaeth a gollwyd, a galwyd am ailystyried darpariaeth swyddog ym Meirionnydd i gefnogi gweithgarwch ieuenctid ehangach.

Mewn ymateb, eglurwyd bod cydweithio’n parhau gyda’r Ffermwyr Ifanc, ac y rhoddwyd cyllid iddynt dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gefnogi prosiectau. Nodwyd hefyd bod y fforwm ‘Llais Ni’ yn cynnwys sefydliadau fel y Ffermwyr Ifanc fel rhan o’r broses adborth ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid a gwasanaethau ehangach. Mynegwyd bod y berthynas yn gadarnhaol, a bod pwysigrwydd sefydliadau cymunedol, megis y Ffermwyr Ifanc, yn cael ei gydnabod yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.

Mynegwyd gwerthfawrogiad am y gwaith a gyflawnwyd yn Llanrug dros y degawdau, gan dalu teyrnged i Donna Taylor am ei chyfraniad eithriadol dros 30 mlynedd. Eglurwyd bod ei gwaith wedi bod yn amhrisiadwy i genhedlaeth o blant a phobl ifanc yn y gymuned. Croesawyd yr olynydd newydd, ac mynegwyd dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol.

Tynnwyd sylw at y profiadau cadarnhaol i bobl ifanc wrth fynychu clwb ieuenctid Llanrug yn rheolaidd, a’r effaith gadarnhaol a welwyd mewn cardiau diolch gan blant a fynychodd noson ffarwelio. Amlygwyd pwysigrwydd darparu mannau diogel a chefnogol i bobl ifanc mewn cyfnod cymhleth a llawn heriau cymdeithasol.

Codwyd cwestiwn ynghylch faint o hyfforddiant a chefnogaeth y mae staff y gwasanaeth ieuenctid yn ei dderbyn i feithrin parch iach rhwng bechgyn a merched. Mewn ymateb, nodwyd bod gweithdai ar berthnasoedd iach eisoes yn cael eu cynnal mewn ysgolion, ac y darperir hyfforddiant pellach ar y pwnc hwn i’r holl staff, gan ymateb i faterion penodol a godwyd mewn rhaglen deledu ddiweddar.

Mynegwyd pryder ynghylch anghyfartaledd yn y ddarpariaeth rhwng ardaloedd Gwynedd, gan nodi bod wyth clwb cymunedol yn Arfon ond dim ond un ym Meirionnydd ac un yn Nwyfor. Amlygwyd bod mwyafrif amser y staff sy’n cael eu talu gan y Cyngor yn canolbwyntio ar Arfon, a mynegwyd barn fod hyn yn annheg. Cydnabuwyd ei bod yn haws i gynghorau tref mawr gyfrannu at glybiau ieuenctid, o’u cymharu â chynghorau cymuned llai sydd â llai o adnoddau.

Cymharwyd sefyllfa’r ddarpariaeth gyda fformiwla Barnett a’r ddadl genedlaethol am ariannu ar sail poblogaeth yn hytrach na lefel amddifadedd. Mynegwyd siom nad yw Cyngor Gwynedd yn gwneud digon i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o fewn y sir ei hun, a galwyd am fwy o fuddsoddiad mewn darpariaeth i ardaloedd megis Meirionnydd. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y ddarpariaeth bresennol mewn ardaloedd arfordirol, a soniwyd yn benodol am Aberdaron fel enghraifft o le y gellid dysgu gwersi gan ei lwyddiant. Mewn ymateb, nodwyd:

·       Bod y ddarpariaeth statudol yn gyson ledled y sir, gyda phob ysgol yn cael cefnogaeth gan weithiwr cymunedol rhan-amser sy’n gweithio tair noson yr wythnos yn y gymuned.

·       Bod cefnogaeth cynghorau tref a chymuned yn hanfodol er mwyn gallu cynnal darpariaeth sefydlog mewn ardaloedd eraill, ac y byddai hyn yn flaenoriaeth i’w ddatblygu yn sgil y cyfarfod hwn.

·       Bod nifer o brosiectau yn y trydydd sector yn derbyn cefnogaeth ariannol, gan gynnwys ‘Forest Schools’ yn ardal Corris a’r sinema yn Nhywyn, sy’n dystiolaeth bod gwaith yn mynd rhagddo i ymateb i anghenion lleol.

·       Nid drwy’r Cyngor yn unig y mae’r ddarpariaeth yn digwydd, ond drwy gydweithio â sefydliadau preifat a’r trydydd sector sy’n weithgar yn y gymuned.

Amlygwyd enghraifft gadarnhaol gan Gyngor Cymuned Llanddeiniolen sy’n ariannu tri chlwb ieuenctid yn Rhiwlas, Deiniolen a Bethel, gan ddangos ei bod yn bosib i gynghorau cymunedol gefnogi gwasanaethau ieuenctid yn ymarferol.

Tynnwyd sylw at gyfraniad cynghorau cymunedol at gynnal caeau chwarae, a chodwyd cwestiwn ynghylch faint o waith cydweithredol trawsadrannol sy’n digwydd yn y meysydd hyn, megis lles a chynnal a chadw. Mewn ymateb, nodwyd:

·       Bod y prosiect ‘Haf o Hwyl’ wedi defnyddio caeau chwarae yn ystod gwyliau’r haf.

·       Bod llawer o’r ddarpariaeth dros yr haf yn digwydd yn yr awyr agored.

·       Bod grantiau cymunedol wedi arwain at welliannau sylweddol mewn caeau chwarae, gan gynnwys offer newydd ac adnoddau i’w defnyddio gan blant y tu allan i oriau ysgol.

·       Bod hyn wedi ei alluogi drwy Grant Ysgolion Cymunedol, ac y byddai gwaith parhaus yn cael ei wneud gyda'r ysgolion i weld sut y gellid ymestyn y buddion hyn.

·       Bod Fforwm Chwarae, sy’n cael ei gefnogi ar y cyd gan yr Adran Addysg ac adran arall, yn gwneud gwaith i ddarparu a gwella caeau chwarae a darpariaethau chwarae ledled y sir.

Mynegwyd bodlonrwydd bod y clwb ieuenctid wedi esblygu, a bod modd cyrraedd plant mewn carfanau gwahanol, gan ganmol y ffaith bod blaenoriaeth newydd wedi’i rhoi i faterion iechyd meddwl a llesiant. Nodwyd fod hyn yn adlewyrchu'r ymatebion gan bobl ifanc, gan ddangos newid yn eu hanghenion. Cydnabuwyd nad cyfrifoldeb y gwasanaeth ieuenctid yn unig yw darparu gwasanaethau iechyd meddwl, ond yn aml mae’r dyletswyddau’n disgyn arnynt. Cwestiynwyd pa fath o ddarpariaeth iechyd meddwl fydd y gwasanaeth yn ei gynnig wrth symud ymlaen. Mewn ymateb, nodwyd:

·       Gwasanaeth ataliol yw’r gwasanaeth ieuenctid ac mai yn gynnar ar daith person ifanc y mae'n gweithredu yn fwyaf effeithiol.

·       Bod gwaith agos yn digwydd gydag ysgolion, lle mae pobl ifanc wedi cael eu nodi â phroblemau iechyd meddwl lefel isel.

·       Ymhlith y gweithgareddau a gynigir mai gweithdai llesiant, sesiynau ‘Friends for Resilience’, sesiynau yn ymwneud ag gorbryder a straen arholiadau, pontio ysgol a gwaith pontio cymunedol.

·       Bod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r grŵp oedran hŷn, gan nodi bod y gwasanaeth ieuenctid yn rhan o fforwm ‘Social Prescribing’ yng Ngwynedd.

·       Bod adborth wedi dod gan feddygon cyffredinol fod llawer o bobl ifanc yn cyflwyno gyda phroblemau iechyd meddwl, ond nad ydynt yn gymhleth digon i’w cyfeirio at CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc). O ganlyniad, mae’r gwasanaeth ieuenctid yn darparu gweithgareddau llesiant megis cymdeithasu a gwirfoddoli.

·       Bod gwaith ataliol da yn cael ei wneud, a bod angen ei ehangu yn y dyfodol ar gyfer pob grŵp oedran.

Mynegwyd pryder ynglŷn â darpariaeth clwb ieuenctid symudol, gan nodi bod darpariaeth dros dro yn gweithio'n dda, ond pan gaiff ei dynnu’n ôl, nid oes mannau diogel yn parhau ar gyfer pobl ifanc. Cyfeiriwyd at bentref Trefor, nodwyd y cynhaliwyd parti Nadolig llwyddiannus, ond erbyn Ionawr ac ymlaen nid oedd dim yn digwydd. Gofynnwyd pam nad oedd rhagor o gyfleoedd yn Llithfaen, Llangwnnadl, Tudweiliog, ac awgrymwyd fod angen dull i barhau gyda gwaith da a ddechreuwyd dros dro. Ymhellach, holwyd pam nad oedd ond un swyddog cymorth ar gyfer Dwyfor.

Mewn ymateb, nodwyd fod un aelod staff llawn amser a thri chydweithiwr rhan-amser yn gweithio yn y dalgylch. Eglurwyd mai gweithio o fewn clystyrau ysgolion yw’r sail ar gyfer y map darpariaeth, a’i fod wedi’i ddylunio yn unol â’r adnoddau sydd ar gael. Er nad yw’n berffaith, nodwyd mai hwn oedd y model gorau i ddarparu rhyw fath o wasanaeth ar draws cymaint o ardaloedd â phosib.

Cadarnhawyd bod clwb ieuenctid statig yn gweithredu fel arfer rhwng Medi ac Ebrill, gan ddarparu hanner blwyddyn o wasanaeth yn yr ardal berthnasol. Nodwyd bod cynlluniau ar y gweill ar gyfer mis Medi i ddod, gyda’r gobaith o adfer darpariaeth i bentrefi penodol.

Ategwyd sylw blaenorol drwy nodi bod arfer da i’w weld mewn ardaloedd fel Aberdaron a Llanddeiniolen, a bod modd dysgu oddi wrthynt er mwyn gwella darpariaeth mewn ardaloedd eraill.

Mynegwyd gwerthfawrogiad am waith y Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid a’r tîm, gan nodi bod y gwaith yn amlwg ac yn gadarnhaol mewn sawl rhan o’r sir, gan gynnwys Caernarfon. Cyfeiriwyd at glwb Porthi Dre, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac yn darparu lle diogel i bobl ifanc y dref. Eglurwyd bod dros 40 o bobl ifanc yn mynychu ar nos Fercher, a bod prydau poeth am ddim yn atyniad allweddol.

Galwyd am fwy o rannu adnoddau, a mynegwyd y farn fod modd gwneud defnydd gwell o’r hyn sydd gan ysgolion, gwasanaethau oedolion a’r gymuned yn ehangach. Pwysleisiwyd yr angen i feddwl yn greadigol, ac i beidio dibynnu ar y gwasanaeth ieuenctid yn unig i ddatrys problemau. Pwysleisiwyd nad cyfrifoldeb y Cyngor na’r gwasanaeth ieuenctid yn unig yw darparu gwasanaeth i bobl ifanc.

Mynegwyd pryder am blant sy’n dilyn amserlenni amgen, a’r angen i’w cynnal o fewn y system addysg ac i gydweithio â chymunedau i godi ymwybyddiaeth o’r heriau. Nodwyd bod y cydweithio â’r heddlu yn gam cadarnhaol, yn ogystal â’r hyblygrwydd o fewn y gwasanaeth i fynd i’r afael â phroblemau cymunedol. Tanlinellwyd y pwysigrwydd o edrych y tu allan i’r bocs wrth chwilio am atebion.

Mynegwyd pryder ynghylch anhawster i recriwtio staff, er bod awydd a cyllid ar gael. Gofynnwyd am gyngor ar sut i ddenu gwirfoddolwyr neu staff cyflogedig i ymuno â’r ddarpariaeth ieuenctid. Cyfeiriwyd hefyd at y potensial i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau megis y Ffermwyr Ifanc a’r Urdd. Awgrymwyd y dylid gwneud defnydd o ganolfannau hamdden y sir, gan nodi’r adnoddau ardderchog sydd ar gael ynddynt.

Mewn ymateb, eglurwyd fod rhywfaint o gydweithio eisoes â chanolfannau Byw’n Iach, er enghraifft, clwb yn Abermaw a phrosiect ar y cyd â swyddog cymunedol o dan yr Urdd, gan gynnwys chwe grŵp cymunedol.

I gloi, tynnodd yr Aelod Cabinet Addysg sylw at rôl allweddol cynghorau tref a chymuned, gan nodi mai’r hyn sy’n aml yn digwydd mewn ardaloedd trefol llwyddiannus yw bod un pentref neu dref yn dechrau, ac wedyn mae’r ardaloedd cyfagos yn dilyn. Mynegwyd y gobaith y bydd mwy o waith hyrwyddo yn digwydd yn Meirionnydd a Dwyfor. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd cydweithio rhwng gwahanol sectorau, gan gynnwys sefydliadau trydydd sector a grwpiau fel y Ffermwyr Ifanc a’r Urdd.

Canmolwyd aelodau staff y gwasanaeth ieuenctid, gan nodi eu gwaith rhagorol ledled y sir. Ailadroddwyd bod gwaith ataliol y gwasanaeth ieuenctid yn hanfodol, yn enwedig yng ngoleuni’r heriau dwys sy’n wynebu pobl ifanc heddiw. Nodwyd fod angen parhau i weithio tuag at greu mannau diogel, statig yn fwy cyson, drwy gydweithio â chynghorau lleol. Tynnwyd sylw at waith eisoes yn mynd rhagddo yn hyn o beth, a mynegwyd y gobaith y bydd rhagor o weithredu yn y dyfodol, yn enwedig ym Meirionnydd a Dwyfor.

PENDERFYNWYD

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.    Argymell i’r Aelod Cabinet / Adran Addysg:

-       Bod angen sicrhau cysondeb darpariaeth ar draws y Sir.

-       Adnabod ffyrdd o ymgysylltu’n ehangach gyda phobl ifanc ac yn arbennig grwpiau penodol o bobl ifanc.

-       Bod angen ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned gyda’r bwriad i gynyddu’r nifer o glybiau cymunedol.

-       Bod angen parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau’r ddarpariaeth orau, er enghraifft yr Urdd, Ffermwyr Ifanc.

3.    Gofyn i’r Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid rannu data am nifer yr unigolion unigryw sy’n cymryd rhan yn y ddarpariaeth, ac arfer da o ran clybiau cymunedol, gydag aelodau’r pwyllgor.

 

Dogfennau ategol: