Agenda item

I graffu’r ddarpariaeth addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol ac i sicrhau mewnbwn a dealltwriaeth y Pwyllgor Craffu o’r cynnydd a wnaed i sicrhau bod Gwynedd yn barod ar gyfer y Ddeddf ADY a Chynhwysiad newydd.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg:
  • Ystyried edrych os oes angen diwygio aelodaeth grŵp canllawiau ar gyfer mynediad i ysgolion arbennig.
  • Edrych ar ffyrdd o adnabod, gwella darpariaeth a hwyluso pethau i grŵp penodol o blant sydd yn y prif lif,  gyda anghenion dwys ond sydd ddim yn cyrraedd y trothwy ar gyfer derbyn cefnogaeth.
  • Edrych ar ffyrdd i barhau i warchod y gyllideb i ysgolion arbennig a monitro bod arian yn cael ei wario yn briodol ac yn dilyn y canllawiau.
  • Annog ymarferwyr i fanteisio ar hyfforddiant, ac edrych os yw’n bosib sicrhau bod pobl yn gwario’r pres a dderbynnir am hyfforddiant ar hyfforddiant yn unig.
  • Ymchwilio i’r posibilrwydd o  roi ddarpariaeth lloeren mewn rhai ysgolion.
  • Gohebu gyda Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder am ddiffyg arian ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a’r heriau sy’n wynebu ysgolion.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg wrth nodi ei fod wedi’i lunio yn dilyn cais gan y Pwyllgor Addysg ac Economi i dderbyn diweddariad ar faterion sy’n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn ysgolion prif lif ac ysgolion arbennig. Eglurwyd bod yr adroddiad yn amlinellu’r anawsterau sy’n wynebu ysgolion yng Ngwynedd o ganlyniad i newid yn y galw am wasanaeth, yr hinsawdd ariannol bresennol ac effaith toriadau.

Mynegwyd bod y sefyllfa’n anodd, ond bod cyfleoedd i’r adran wella, ac awydd glir i wneud y gorau dros blant a phobl ifanc y sir. Pwysleisiwyd bod y maes hwn yn peri pryder i rai o’r aelodau ac yn faes dyrys sy’n haeddu sylw.

Tynnwyd sylw at effaith flynyddoedd o lymder ac arbedion ariannol ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau effeithiol, gan bwysleisio bod yr effaith honno’n cyrraedd pob cornel o’r gymuned. Mynegwyd parodrwydd i wrando, trafod ac ystyried beth y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol er mwyn cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn well.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Holwyd pwy sydd yn gyfrifol am bennu’r meini prawf mynediad i ysgolion arbennig. Mewn ymateb, eglurwyd mai cyfrifoldeb yr awdurdod ydy sicrhau lleoliad plentyn mewn ysgol arbennig, gan nodi bod disgrifiadau o’r anghenion a ddisgwylir mewn ysgolion arbennig wedi’u diffinio, a bod ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y rhain. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad terfynol bob amser gyda’r awdurdod.

Holwyd ymhellach pa ganllawiau a meini prawf a ddefnyddiwyd wrth bennu’r disgwyliadau hyn. Mewn ymateb, eglurwyd bod y meini prawf yn gysylltiedig â’r cwricwlwm a’r ddarpariaeth sydd ei hangen ar y plentyn. Nodwyd bod y Ddeddf ADY yn pwysleisio'r angen i ystyried addysg brif lif yn gyntaf, cyn troi at ddarpariaeth mewn ysgolion arbennig os nad yw anghenion y plentyn yn cael eu diwallu yn y brif lif. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch adolygu’r meini prawf, nodwyd:

·       Bod adolygiadau wedi’u cynnal yn 2017 ac eto yn 2020.

·       Bod gwaith yn parhau ar ddogfen sy’n crynhoi’r meini prawf mewn ffordd symlach, gyda bwriad i'w rannu gyda’r ysgolion arbennig yn fuan.

·       Bod categorïau anghenion ar ffurf ‘bandiau’ wedi’u sefydlu, o fand un (anghenion mwyaf dwys) i fand pedwar, a bod yr asesiadau’n digwydd yn unol â’r bandiau hyn.

·       Bod y drafodaeth bellach yn canolbwyntio ar egluro’r meini prawf i rieni ac ysgolion a diffinio’r dystiolaeth sy’n cael ei defnyddio i asesu’r bandiau.

Holwyd pwy sydd yn ymwneud â llunio’r meini prawf. Mewn ymateb, nodwyd bod y panel yn cynnwys gwasanaethau ADY yr awdurdod, seicolegwyr addysgol, athrawon arbenigol o dimau amrywiol a phenaethiaid yr ysgolion arbennig. Cadarnhawyd nad yw unrhyw asiantaeth allanol ar hyn o bryd yn rhan o’r broses, ond bod trafodaethau’n digwydd gyda’r bwrdd rhanbarthol, a bod y gobaith y byddai penaethiaid ysgolion prif lif yn rhan o’r panel wrth symud ymlaen. Nodwyd nad oedd y bwrdd iechyd yn aelod o’r panel cymedroli, ond bod trafodaethau gyda’r bwrdd iechyd wedi dechrau gan ei fod yn arfer a welir mewn siroedd eraill.

Cyfeiriwyd at gynnydd yn y galw am leoedd mewn ysgolion arbennig a’r angen am adnoddau ychwanegol yn y prif lif, yn enwedig ar gyfer plant ag anghenion corfforol, gan fod plant ag anghenion dwys yn gorfod aros yn y prif lif oherwydd diffyg capasiti mewn ysgolion arbennig. Holwyd pwy sydd yn gyfrifol am ddarparu offer arbenigol i gefnogi yr pobl yma. Mewn ymateb, eglurwyd:

·       Os ydy’r offer yn ymwneud ag anghenion corfforol meddygol, byddai’n deillio o asesiad gan therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd ac yn cael ei ddarparu gan y bwrdd iechyd.

·       Os ydy’r offer yn gysylltiedig ag anghenion addysgol, megis ar gyfer nam ar y golwg, byddai’r awdurdod yn darparu’r adnoddau hynny.

·       Nodwyd bod darpariaeth ar gyfer blynyddoedd cynnar yn peri mwy o her, gan nad yw’r lleoliadau’n statudol. Ymhelaethwyd bod trafodaeth yn cael ei cynnal gyda’r Bwrdd Iechyd ynglŷn a hyn.

Holwyd a oedd gan yr adran unrhyw ystadegau am blant a phobl ifanc gyda Chynllun Datblygu Unigol (CDU) a oedd wedi dadgofrestru o addysg ers Covid. Mewn ymateb, nodwyd bod gan yr adran gofnod o’r plant hynny a'u bod yn derbyn cefnogaeth drwy grant addysg gartref. Cadarnhawyd bod athrawon yn cael eu cyflogi i gadw cysylltiad gyda’r teuluoedd a chydlynu adolygiadau o’r CDU. Gofynnwyd aelod am gael ystadegau penodol a chadarnhawyd y byddai’r wybodaeth honno’n cael ei rannu.

Mynegwyd pryder am lefel ariannu ysgolion arbennig Gwynedd o’i gymharu â gweddill Cymru, gan ofyn beth oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Nodwyd ymhellach nad oedd plant â'r un lefel o anghenion ag a welwyd yn flaenorol yn cael eu derbyn bellach i ysgolion arbennig, a bod y diffyg darpariaeth ar gyfer y plant hynny yn y prif lif yn peri pryder. Cwestiynwyd beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â sefyllfa’r plant hyn sydd ag anghenion dwys ond nad ydynt yn bodloni’r meini prawf mynediad i ysgolion arbennig. Mewn ymateb, eglurwyd:

·       Nad oedd Gwynedd ymhlith yr awdurdodau sy’n ariannu lleiaf, yn ôl adroddiad Estyn 2023–24, ac nad oedd unrhyw doriadau wedi’u gweithredu yn y sector arbennig.

·       Bod pwysau cynyddol ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r niferoedd uwch o blant ag anghenion dwys yn cael eu cyfeirio at ysgolion arbennig.

·       Bod plant gyda ADY yn derbyn cefnogaeth dda mewn ysgolion prif lif a bod nifer yn llwyddo’n llawn drwy’r ddarpariaeth honno.

·       Bod y ddarpariaeth yn parhau i ddatblygu, gyda phwyslais ar gynhwysiant, ond bod angen dod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng cynhwysiant a chwrdd ag anghenion penodol plant.

·       Bod gwaith mapio’n cael ei gynnal ar hyn o bryd i asesu anghenion dysgwyr ar draws y grwpiau oedran, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, er mwyn cynllunio’n rhagweithiol ar gyfer y dyfodol.

·       Bod newidiadau yn y cyllido ôl-16 yn golygu y bydd angen ystyried y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr 16–19 oed, gan gynnwys opsiynau y tu allan i’r ysgol megis colegau.

·       Bod y gwasanaeth hefyd yn adolygu proffil y canolfannau lle mae plant yn treulio rhan o’r wythnos, er mwyn sicrhau eu bod yn dal i ddiwallu’r galw newidiol.

·       Bod y newid mwyaf yn y proffil anghenion yw anghenion o ran iaith, cyfathrebu a therapi, yn enwedig ymhlith dysgwyr ifanc sydd â CDU.

·       Bod data’n dangos brig yn nifer y dysgwyr mewn ysgolion arbennig yn ystod diwedd cyfnod cynradd a dechrau’r cyfnod uwchradd, gyda’r niferoedd yn sefydlogi wedi hynny.

Mynegwyd barn bod llwyddiant yn bodoli yn y brif lif, ond bod achosion o fethiant hefyd yn amlwg ac yn peri pryder. Cyfeiriwyd at y newid yn y fformiwla gyllido CDU yn ysgolion prif lif, gan holi sut y gellid sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario’n briodol ar anghenion dysgu ychwanegol. Mynegwyd pryder y gallai’r cyllid gael ei ddefnyddio ar gyfer meysydd eraill, megis gwella canlyniadau academaidd, gan arwain at ddiffyg darpariaeth i ddisgyblion ag ADY. Mewn ymateb, nodwyd:

·       Bod gan ysgolion ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu’r hyn a nodir mewn CDU.

·       Bod swyddogion ADY yn monitro’r defnydd o gyllid fel rhan o’r broses fonitro.

·       Y byddai dogfen ganllaw yn cael ei rhannu erbyn y Pasg gyda’r ysgolion, yn nodi’r disgwyliadau o ran defnydd priodol o’r cyllid, a’r hyn sy’n dderbyniol ac yn annerbyniol.

·       Y byddai’r wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y broses sicrhau ansawdd mewn ysgolion.

Mynegwyd gwerthfawrogiad am unedau ADY yn ysgolion Ddolgellau yn y gorffennol, ac awgrymwyd y dylid ystyried a ellid ailsefydlu canolfannau lloeren mewn ysgolion brif lif. Holwyd ymhellach a oedd Llywodraeth Cymru’n cael ei lobïo ynghylch diffyg seicolegwyr addysgol Cymraeg eu hiaith. Mewn ymateb, eglurwyd:

·       Bod y gwaith mapio’n cynnwys ystyriaeth o grwpiau bach o ddysgwyr mewn ysgolion prif lif uwchradd, sydd angen cwricwlwm gwahanol ond nad ydynt yn addas ar gyfer ysgol arbennig.

·       Bod Prifysgol Bangor wedi derbyn arwydd o fuddsoddiad ar gyfer tri lle hyfforddi ym mis Medi 2027, ond bod angen o leiaf chwech i gynnal y cwrs yn gynaliadwy.

·       Bod trafodaethau’n parhau gyda’r Llywodraeth ar lefel swyddogol a gwleidyddol.

Tynnwyd sylw at y newid mewn natur anghenion disgyblion, gan gynnwys problemau ymddygiad a chyfathrebu, a holwyd a oedd digon o gefnogaeth ar gyfer staff sy’n gweithio gyda’r dysgwyr hyn. Codwyd pryderon ynghylch anhawster ysgolion i recriwtio cynorthwywyr, a gofynnwyd a oedd pecyn hyfforddi ar gael i wneud y swydd yn fwy deniadol. Mewn ymateb, nodwyd:

·       Bod y ddarpariaeth orau pan fo’r tîm yn modelu dulliau gweithio mewn ysgolion.

·       Bod y galw wedi cynyddu ond nad yw adnoddau wedi cynyddu’n gymesur, gan roi straen ar hyblygrwydd staff mewn ysgolion.

·       Bod nifer y CDU wedi cynyddu yn ogystal â chymhlethdod anghenion, gan olygu bod cydweithio trawstîm bellach yn hanfodol.

·       Bod ysgolion yn wynebu her i gynnal y ddarpariaeth gyda’r un lefel o gyllid, gan greu tensiynau sydd angen eu datrys.

·       Bod y newid i fformiwla gyllido wedi galluogi ysgolion i gynllunio’n well drwy gael sicrwydd o’r potiau am flwyddyn gyfan. Gobeithir y bydd hyn yn arwain at gontractau hwy ar gyfer cynorthwywyr a llai o gylchdroi staff.

Holwyd am y rhesymeg y tu ôl i’r newid i’r fformiwla gyllido, gan nodi bod rhai ysgolion penodol wedi colli cyllid, heb dystiolaeth glir o eraill yn ennill cyllid yn ei le. Mewn ymateb, eglurwyd:

·       Bod y trefniant blaenorol yn seiliedig ar geisiadau i banel, oedd yn ansefydlog ac yn annheg yn rhai ardaloedd.

·       Bod y fformiwla newydd yn fwy deg gan ei bod yn seiliedig ar gymhlethdod anghenion yn hytrach na niferoedd yn unig.

·       Bod rhwyd diogelwch wedi’i sefydlu fel na fyddai unrhyw ysgol yn colli mwy na 50% o’i gyllid yn y flwyddyn gyntaf.

·       Bod grant Llywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio i bontio’r bwlch yn y flwyddyn gyntaf, gyda’r gobaith o’i adnewyddu.

·       Bod y fformiwla wedi’i chynllunio ar sail draws sector -  cynradd ac uwchradd, gan gywiro anghydbwysedd hanesyddol.

·       Bod trafodaethau wedi digwydd ar lefel unigol gyda rhai ysgolion a oedd wedi gweld gostyngiad, a’u bod wedi derbyn esboniad teg.

Holwyd a ydy'r cyllid yn dilyn y disgybl pe bai’n trosglwyddo ysgol neu’n cael ei wahardd. Mewn ymateb, eglurwyd bod eithriadau i’r fformiwla’n cael eu hystyried ar sail achos wrth achos, a bod trosglwyddiadau yn arwain at ail-ddosbarthu’r cyllid fel bo’n briodol.

Awgrymwyd y dylid ailystyried darparu darpariaeth yn Ysgol Bro Idris, gan ystyried y costau teithio uchel i Ysgol Hafod Lon. Mewn ymateb, nodwyd bod y gwaith proffilio a mapio yn cynnwys ystyriaeth o’r posibilrwydd hwnnw, ond bod angen sicrhau arbenigedd addas ac amgylchedd priodol.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd cynhwysiant mewn ysgolion prif lif lle bo’n bosibl, ond bod angen sicrhau cefnogaeth briodol i staff a dysgwyr. Mewn ymateb, cytunwyd bod llawer o bwysau ar gydlynu’r broses CDU a bod gwaith yn digwydd i leddfu’r baich gweinyddol, gan gynnwys cydweithio ym mandiau dalgylch a darparu hyfforddiant ADY yn y prif lif i ysgolion cynradd ac uwchradd o fis Ebrill ymlaen. Amlygwyd pwysigrwydd ehangiad y cwricwlwm er mwyn osgoi gwaharddiad anfwriadol o ddysgwyr ag ADY. Nodwyd bod grantiau ar gael ar gyfer cydlynwyr ADY, i gefnogi, rhyddhau amser ac ariannu hyfforddiant.

PENDERFYNWYD

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

2.    Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg:

·       Ystyried edrych os oes angen diwygio aelodaeth grŵp canllawiau ar gyfer mynediad i ysgolion arbennig.

·       Edrych ar ffyrdd o adnabod, gwella darpariaeth a hwyluso pethau i grŵp penodol o blant sydd yn y prif lif,  gydag anghenion dwys ond sydd ddim yn cyrraedd y trothwy ar gyfer derbyn cefnogaeth.

·       Edrych ar ffyrdd i barhau i warchod y gyllideb i ysgolion arbennig a monitro bod arian yn cael ei wario yn briodol ac yn dilyn y canllawiau.

·       Annog ymarferwyr i fanteisio ar hyfforddiant, ac edrych os yw’n bosib sicrhau bod pobl yn gwario’r pres a dderbynnir am hyfforddiant ar hyfforddiant yn unig.

·       Ymchwilio i’r posibilrwydd o roi darpariaeth lloeren mewn rhai ysgolion.

·       Gohebu gyda Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder am ddiffyg arian ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a’r heriau sy’n wynebu ysgolion.

 

Dogfennau ategol: