I gyflwyno drafft o’r polisi diwygiedig.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Aelod Cabinet Addysg wrth bwysleisio mai polisi drafft yw’r ddogfen a
bod hyn yn nodi dechrau’r daith o’i datblygu. Nodwyd bod y polisi presennol
wedi bod yn ei le ers 1984, ac mai tystiolaeth o’i lwyddiant yw’r ffaith ei fod
wedi goroesi am gyfnod mor hir. Eglurwyd bod y ddogfen newydd yn cynrychioli
esblygiad y polisi presennol, gan adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol i greu
polisi sy’n addas ar gyfer anghenion Gwynedd heddiw. Nodwyd ei fod yn amser
erbyn hyn i adolygu’r polisi a chynnig newidiadau, gyda’r bwriad o gryfhau
sefyllfa’r Gymraeg ymhellach.
Mynegwyd
barn fod y model newydd yn mynd i gryfhau’r Gymraeg a’i wneud yn fwy amlwg o
fewn ein hysgolion. Nodwyd bod hynny hefyd yn gosod her i’r ysgolion ond bod y
adran addysg yn barod i gefnogi’r ysgolion i wireddu’r uchelgais hwn. Eglurwyd
nad oedd unrhyw fwriad i ddibrisio pwysigrwydd y Saesneg, ond yn hytrach i
sicrhau bod gan y disgyblion sgiliau cadarn yn y ddwy iaith, a’u bod yn gadael
yr ysgol yn gwbl ddwyieithog. Tynnwyd sylw at y ffaith mai dyna sydd ei angen
i’r dyfodol: unigolion sy’n gallu byw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r
Saesneg.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mynegwyd
y farn mai’r polisi iaith drafft yw’r ddogfen bwysicaf i ddyfodol y Gymraeg yng
Ngwynedd, gan ddisgrifio’r effaith y gallai’r polisi hwn ei chael fel un
ddigynsail ar blant y sir a’r gymuned ehangach. Canmolwyd y polisi am ei
eglurder a’i fod yn gryno, gan nodi fod y fersiwn flaenorol yn rhy hir ac
agored i gamddehongli. Mynegwyd pryderon, fodd bynnag, ynghylch nifer o
elfennau:
Pwysleisiwyd
bod angen egluro sut mae'r Saesneg yn cael ei ddysgu’n drawsgwricwlaidd a phwy
sy’n penderfynu hynny, gan fynegi pryder y gallai hyn danseilio’r defnydd cyson
o’r Gymraeg. Mynegwyd y dylai’r polisi egluro'n benodol pwy sy’n penderfynu ar
gynnwys y ddarpariaeth honno. Nodwyd hefyd nad yw'r polisi yn nodi'n glir sut y
rhennir amser dysgu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mynegwyd siom nad oedd y
polisi yn anelu am Gategori 3P Llywodraeth Cymru, gan fod sawl ysgol yn y sir
eisoes yn cyrraedd gofynion y categori yma. Cwestiynwyd a yw'r ffaith bod y
polisi ond yn anelu at Gategori 3 yn cyfleu neges ynghylch ysgolion sy'n cyrraedd
y Categori 3P, megis awgrymu eu bod yn niffygiol oherwydd eu defnydd ehangach
o'r Gymraeg. Mewn ymateb, nodwyd:
· Derbyn y sylwadau
ynglŷn â’r angen i dynhau rhywfaint ar y geiriad er mwyn sicrhau nad oes
camddehongliad.
· Bod y polisi hwn yn sefydlu gwaelodlin, a bod
disgwyl i’r ysgolion gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros gyfnod o
amser.
· Bydd gan pob ysgol cynllun
gwella penodol ar gyfer y Gymraeg, a byddai’r cynlluniau hyn yn cael eu monitro
dros amser gyda thargedau amlwg.
· Nad yw canrannau yn rhan o
gategori 3 fel y cyfryw, ac nad yw’r polisi wedi’i seilio ar ganrannau o 60%
neu 40%.
· Bod eithriadau’n cael eu cydnabod o fewn y
polisi, megis anghenion dysgu ychwanegol a hwyrddyfodiaid, gyda darpariaeth
addas yn cael ei gynllunio ar eu cyfer.
· Nad yw’r polisi yn cyfeirio
at bynciau penodol fel gwaith trawsgwricwlaidd; yn hytrach, mae’r polisi yn
nodi y dylai pob maes dysgu a phrofiad gael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
fel prif iaith.
· Mai’r cyfeiriad at waith trawsgwricwlaidd yw
bod disgyblion yn cael cyfleoedd o fewn y meysydd dysgu a phrofiad i ddatblygu
eu cymhwysedd ieithyddol yn y Saesneg, gan olygu y bydd canran o’r dysgu
trawsgwricwlaidd yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg.
· Nad oes modd eithrio un
pwnc yn benodol i’w ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.
· Bydd Saesneg fel pwnc yn cyfrif am tua 14-15%
o amser dysgu, gyda’r defnydd ychwanegol o’r Saesneg yn cael ei gynnwys ar
draws pob maes dysgu fel rhan o brofiadau trawsgwricwlaidd.
· Nad yw Categori 3P yn
bodoli mwyach o dan y Mesur Iaith newydd sy’n mynd drwy’r Senedd, ac y bydd y
categorïau yn y dyfodol yn cynnwys dim ond Categorïau 1, 2 a 3.
· 70% yw’r isafswm
darpariaeth Gymraeg a bennir yn y polisi, nid yr uchafswm.
· Bod y polisi’n cyfeirio’n
benodol at 70% cwricwlaidd, gyda disgwyl i’r gwaith allgyrsiol a’r profiadau
trwy fframwaith Siarter Iaith Uwchradd, sydd yn rhan o’r mesur yma ac yn
statudol, i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ychwanegol.
Mynegwyd pryder bod y
polisi yn parhau i gyfeirio'n benodol at ganllawiau Llywodraeth Cymru trwy
gynnwys dolen i'r categorïau presennol. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod y polisi
drafft yn cynnwys dolen i fframwaith Llywodraeth Cymru a’r categorïau cyfredol,
gan adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Ymhelaethwyd bod categori 3 wedi’i nodi
gan ei fod yn bolisi blanced ar ran yr awdurdod, ac mai dim ond tri chategori
fydd yn bodoli, felly categori 3 yw’r categori mwyaf addas.
Gofynnwyd
am eglurder ynghylch sut y byddai dysgu trawsgwricwlaidd yn cael ei weithredu,
gan bwysleisio’r perygl, os câi disgyblion ddewis pa elfennau fyddai’n cael eu
dysgu trwy gyfrwng y Saesneg, y byddai hynny’n tanseilio’r defnydd o’r Gymraeg
mewn gwersi. Mewn ymateb, cadarnhawyd nad yw’n fwriad i ddisgyblion ddewis yn
unigol pa bynciau a fyddai’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.
Ymhelaethwyd bod penaethiaid wedi bod yn rhan o’r ymgysylltu er mwyn iddynt
gymryd perchnogaeth o’r polisi, fel y caiff ei weithredu’n fwy effeithiol.
Cadarnhawyd y bydd pob ysgol yn cynllunio’n fanwl, a bydd defnydd o’r Gymraeg
a’r Saesneg yn cael ei ymgorffori’n systematig yn seiliedig ar y Meysydd Dysgu
a Phrofiad.
Ailadroddwyd
bod y ddogfen yn ddrafft, ac mai pwrpas dod gerbron y pwyllgor oedd i dderbyn
sylwadau cyn mynd ymlaen at ymgynghoriad cyhoeddus llawn dros yr haf.
Pwysleisiwyd y byddai’r broses ymgynghori yn drylwyr iawn. Nodwyd bod
swyddogion a'r Aelod Cabinet Addysg wedi bod yn rhagweithiol yn sicrhau bod y
cyhoedd yn ymwybodol o'r broses.
Pwysleisiwyd bod y polisi blaenorol, a sefydlwyd ym
1984, dal mewn grym hyd heddiw, ac felly roedd angen gweithredu polisi newydd
cadarn fyddai’n dylanwadu dros y degawdau nesaf. Nodwyd nad yw'r polisi hwn yn
gam yn ôl, ond yn fodd i agor drysau newydd i blant Gwynedd drwy roi mwy o
gyfleoedd ieithyddol a phroffesiynol iddynt.
Croesawodd
aelod y polisi drafft a mynegodd ei ddiolch i’r swyddogion a’r Aelod Cabinet
Addysg am gyflwyno’r polisi i’r pwyllgor. Canmolwyd y gwaith parhaus a'r
cydweithio rhwng yr Adran Addysg, y swyddogion ac aelodau’r Cabinet i ddod â’r
ddogfen i'r cam presennol.
Cyfeiriwyd
at gryfderau'r polisi fel y’i cyflwynwyd, ond hefyd at rai sylwadau a ystyrid
yn llai adeiladol gan rai gwleidyddion, gan nodi bod hyn yn tanlinellu diffyg
dealltwriaeth o wir werth dwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog. Pwysleisiwyd bod
dwyieithrwydd a’r gallu i fod yn amlieithog yn rhan annatod o’r byd modern ac
yn cynnig buddion unigryw i blant Gwynedd, nid yn unig o ran cyfleoedd gwaith
ond hefyd o ran diwylliant, celfyddydau, cyfryngau a bywyd cymdeithasol.
Rhannwyd
stori bersonol am y newid sylweddol a ddaeth yn sgil cael mynediad at addysg
drwy gyfrwng y Gymraeg, a sut mae’r profiad hwnnw bellach yn cael ei
drosglwyddo i blant yr aelod drwy eu magwraeth a’u haddysg. Mynegwyd pryder nad
yw pob plentyn yn y sir ar hyn o bryd yn cael mynediad cyfartal at y rhodd
honno o ddwyieithrwydd. Cyfeiriwyd at brofiadau dysgwyr a oedd yn gresynu am
golli’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn ifanc. Pwysleisiwyd bod gan y Cyngor
ddyletswydd i sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn yn y sir, a bod angen
cynnig y rhodd o ddwyieithrwydd yn gyflawn i bawb.
Croesawyd yr uchelgais a
fynegwyd ar gyfer y tair ysgol drosiannol, ond tynnwyd sylw at y ffaith nad
oedd yr un uchelgais yn cael ei amlinellu'n glir ar gyfer yr ysgolion hynny
sydd eisoes wedi’u categoreiddio fel rhai Categori 3. Nodwyd bod llawer o’r ysgolion
hynny eisoes yn gweithredu y tu hwnt i waelodlin y categori, a bod angen
cynnwys fframwaith gadarn o fewn y polisi i sicrhau cynnydd mesuradwy dros
gyfnod penodol o amser.
Pwysleisiwyd
y ffaith fod iaith addysg yn dod yn fwyfwy pwysig wrth geisio cynnal y Gymraeg
fel iaith gymunedol. Galwyd ar y Cyngor i barhau i arloesi ac i ddarparu llwybr
clir a chadarn ar gyfer pob ysgol er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg gan
blant Gwynedd heddiw ac yn y dyfodol.
Croesawyd rhai elfennau
o’r polisi drafft, yn enwedig y bwriad i symud ysgolion ymlaen ar hyd y
continwwm, er bod angen amserlen fwy pendant o bosib. Derbyniwyd bod y polisi
wedi’i gyflwyno mewn ffordd fwy eglur a syml, ond bod rhai agweddau o’r geiriad
angen ystyriaeth bellach.
Mynegwyd
siom nad oedd unrhyw fwriad i gynnwys ysgolion yn y categori 3P, gan honni nad
oedd sail eglur i’r penderfyniad yn y ddogfennaeth. Cyfeiriwyd at hanes cryf
addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir ers yr 1980au, gan nodi bod hynny wedi gwanhau
dros amser. Mynegwyd pryder bod rhai ysgolion mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith
bellach yn cynnig llai o ddarpariaeth Gymraeg, sy’n groes i bolisi Llywodraeth
Cymru sy’n mynnu cynnal neu gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg.
Tynnwyd sylw at
ddisgwyliad Llywodraeth Cymru i ysgolion categori 3 adlewyrchu cyd-destun
ieithyddol ei ardal a gweithio at gynyddu darpariaeth Cymraeg dros amser, a
mynegwyd barn nad yw’r polisi drafft yn cyflawni hyn, yn enwedig mewn ysgolion
fel Ysgol Dyffryn Nantlle ac Ysgol Brynrefail. Beirniadwyd diffyg uchelgais yn
y sector uwchradd, gan godi pryder am ddirywiad posib. Galwyd ar Gyngor Gwynedd
i amddiffyn y ddarpariaeth bresennol a dangos mwy o uchelgais, gan gyfeirio at
fodel Catalonia. Codwyd pryderon hefyd am ddiffyg monitro cyson o’r polisi.
Mewn ymateb, nodwyd:
· Bydd pob ysgol yn cael ei
chategoreiddio fel ysgol categori 3 yn unol â’r system genedlaethol; ni fyddai
categori 3P yn bodoli bellach.
· Nid yw’r trothwy o 70% yn
derfyn uchaf ond yn isafswm.
·
Ni fydd unrhyw ysgol yn derbyn llai o ddarpariaeth trwy gyfrwng y
Gymraeg na’r hyn a fu yn y gorffennol, nid oes perygl o ddirywiad.
· Bydd disgwyl i ysgolion
gynyddu’r ddarpariaeth yn barhaus dros amser, gydag uchelgais glir i wella o’r
isafswm 70% lle bo hynny’n bosib.
· Bod yr awdurdod yn
gweithio’n agos gyda’r ysgolion i gefnogi’r broses hon.
· Bod swyddogion newydd
wedi’u penodi i’r Adran Addysg i gryfhau trefniadau monitro.
· Bydd y swyddogion hyn yn
gyfrifol am fonitro gweithredu’r polisi a’r cynlluniau datblygu.
· Bydd y trefniadau monitro
yn cynnwys cydweithio tynn rhwng ysgolion a’r awdurdod, yn ogystal â
chyfrifoldeb i adrodd cynnydd i Lywodraeth Cymru.
·
Bod y polisi’n cynnwys mesurau i sicrhau parhad ieithyddol rhwng Cyfnod
Allweddol 2 a’r uwchradd, gyda phlant pontio’n cael eu nodi a’u dilyn i sicrhau
eu bod yn cadw at eu llwybr ieithyddol priodol.
Croesawyd y sicrwydd bod
trefniadau monitro bellach ar waith. Mynegodd ei siom, fodd bynnag, nad oes
ystyriaeth i adfer neu ddiffinio categori 3P. Galwyd am adfer darpariaeth 100%
trwy’r Gymraeg mewn ysgolion lle mae hynny’n briodol, fel yr arferai fod yn y
1980au a’r 1990au.
Mynegodd
aelod gefnogaeth i’r polisi drafft. Mynegwyd barn nid oedd angen diffinio
categori 3P gan bod yr ysgolion dan sylw eisoes wedi symud ymlaen yn sylweddol,
ac yn cyd-fynd â disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran darpariaeth iaith.
Cwestiynwyd pa hyfforddiant fydd ar gael i aelodau staff i’w helpu i gyrraedd y
lefel Gymraeg sydd ei hangen i addysgu pob maes o fewn y cwricwlwm. Cwestiynwyd
ymhellach, pa gyllid fydd ar gael i gryfhau’r unedau trochi, yn enwedig ar
gyfer disgyblion sy’n cyrraedd yn hwyr, megis blwyddyn 8 neu 9, gan fod angen
galluogi’r disgyblion hyn i allu dilyn cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn
ymateb, nodwyd:
· Bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Canolfan
Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ac mae Gwynedd eisoes yn cydweithio gyda’r ganolfan
hon.
· Bod y ganolfan yn cynnig
cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer athrawon unigol mewn ysgolion penodol, gan
gynnwys cyrsiau ar lefel mynediad ac uwch.
· Bod y cyrsiau’n cael eu teilwra i amserlenni
athrawon ac yn gallu bod yn wyneb yn wyneb, yn rhannol rithiol neu’n
hunan-astudio.
· Bod tiwtoriaid yn cael eu
neilltuo i glystyrau o ysgolion, ac mae cyrsiau ar gael sy’n benodol i bynciau,
e.e. mathemateg neu ffiseg.
· Bod cyrsiau sabothol ar gael gydag athrawes o
ysgol drosiannol eisoes wedi cofrestru.
· O ran ariannu, mae’r
cynllun trochi dan bwysau cynyddol. Derbynnir grant gan Lywodraeth Cymru gyda’r
Awdurdod yn ychwanegu ato gyda chyllid cyfatebol.
· Bod rhwydwaith trochi
cenedlaethol wedi’i sefydlu a rhoddir grantiau dros gylch tair blynedd. Mae’r
flwyddyn bresennol yn ddechrau cylch newydd.
· Bod y cynlluniau a’r angen am gyllid
ychwanegol wedi’u rhannu gyda Llywodraeth Cymru, ac maent yn ymwybodol o’r
trefniadau a’r pwysau.
Holwyd
a fyddai’r hyfforddiant ar gael yn fewnol, neu a fyddai’n rhaid i unigolion eu
trefnu a’u talu amdanynt eu hunain, gan ystyried llwyth gwaith. Codwyd pryderon
hefyd ynghylch yr angen am ddarpariaeth benodol i athrawon mewn ysgolion sy’n
symud o’r categori 3T. Mewn ymateb, nodwyd:
·
Bod amrywiaeth eang iawn o gyrsiau ar gael.
·
Bod yr holl gyrsiau am ddim.
·
Nid oedd y llywodraeth yn ariannu amser
digyswllt, ond er hyn, maent yn gweithio gydag ysgolion i deilwra'r cyrsiau o
gwmpas amserlen athrawon.
· Bod ysgolion yn derbyn
grantiau datblygu proffesiynol a all gael eu defnyddio i ryddhau staff er mwyn
mynychu’r cyrsiau.
Cwestiynwyd a oedd
bwriad i ymgynghori â’r Esgobaeth ynglŷn â newid yng nghategori Ysgol Ein
Harglwyddes. Mynegwyd pryder am natur amrywiol y disgyblion yn yr ysgol honno
ac fe ofynnwyd am sicrwydd y bydd asesiad effaith cydraddoldeb yn cael ei gynnal.
Mewn
ymateb, eglurwyd bydd cyfnod o ymgysylltu ac ymgynghori’n cael ei gynnal fel
rhan o’r broses o ddatblygu’r polisi drafft. Nodwyd bydd y gwaith hwn yn
cynnwys rhanddeiliaid yn Ysgol Ein Harglwyddes a bydd cyfarfodydd yn cael eu
trefnu. Cadarnhawyd hefyd y bydd asesiad effaith cydraddoldeb yn cael ei gynnal
i sicrhau y caiff anghenion pob disgybl eu diwallu.
Pryderwyd
ynghylch eglurder y polisi drafft, gan nodi ei bod yn anodd i ysgolion ddeall
beth yn union sy’n ddisgwyliedig. Mynegwyd barn bod y polisi’n rhy hawdd i’w
gamddehongli. Galwyd am fersiwn wedi’i chryfhau drwy ei wneud yn fwy cryno,
clir a chadarn, gan bwysleisio bod monitro rheolaidd gan lywodraethwyr a’r
Adran Addysg yn hanfodol i’w lwyddiant. Mewn ymateb, nodwyd:
·
Bod y polisi drafft yn gosod cyfeiriad cychwynnol.
·
Bod y nod yn glir sef codi’r safonau iaith yn y system addysg, ac y bydd
disgwyl i bob ysgol ddatblygu cynllun penodol i’w hamgylchiadau unigol i
gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith addysg.
·
Bydd disgwyl gweld enghreifftiau clir o ddysgu trawsgwricwlaidd ac y
bydd cynnydd yn cael ei fonitro gan swyddogion cefnogi ysgolion.
Holwyd ynglŷn a chyfraniad ac argymhellion
penodol Meirion Prys Jones, fel arbenigwr iaith cenedlaethol, wrth greu’r
polisi drafft. Mewn ymateb, nododd Meirion Prys Jones:
·
Ei fod yn gydawdur y ddogfen, ynghyd â
swyddogion addysg a gyda chytundeb penaethiaid uwchradd, a bod trafodaethau
eang wedi cael eu cynnal dros gyfnod o ddau ddiwrnod.
· Bod y ddogfen yn arloesol
ac nad oedd amheuaeth yn ei feddwl am hynny.
· Bod y ddogfen yn cyflwyno
her, yn enwedig i benaethiaid ysgolion uwchradd, a bod trafodaethau manwl wedi
eu cynnal gyda hwy ar ddau achlysur, gan gynnwys yr wythnos flaenorol.
· Bod y polisi yn ceisio
symud ysgolion o addysg ddwyieithog (beth bynnag fo hynny'n ei olygu) i ddysgu
trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda’r nod o sicrhau bod canran uwch o ddisgyblion yn
dilyn pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at 16 oed.
· Bod y nod hwn yn unol â
pholisi Llywodraeth Cymru ar ysgolion categori 3, gan ystyried nad yw llawer o
ddisgyblion ar hyn o bryd yn sefyll eu harholiadau nac yn astudio pynciau trwy
gyfrwng y Gymraeg yn 14 oed.
· Bod rhanddeiliaid allanol
hefyd wedi bod yn rhan o’r broses a’u bod wedi barnu bod y ddogfen yn ddigon
eglur.
· Croesawyd trafodaeth bellach, gan bwysleisio
bod angen i’r polisi fod yn glir, cadarn a chryno, ac mai hynny oedd wedi bod
yn flaenoriaeth wrth ei lunio.
Pwysleisiodd
aelod bwysigrwydd sicrhau bod pob plentyn yn gallu aros yn yr ardal ac yn eu
cymuned drwy fod â’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol, yn enwedig wrth geisio
am swyddi lleol sy’n gofyn am y Gymraeg. Galwyd am bolisi fydd yn sicrhau bod y
Gymraeg yn iaith fyw yn y gymuned a bod disgyblion yn gadael ysgol yn gwbl
ddwyieithog. Pwysleisiwyd yr angen am gamau cadarnhaol, gan wrthwynebu’n gryf
unrhyw ymgais wleidyddol i danseilio’r iaith Gymraeg.
Pwysleisiodd
yr Aelod Cabinet Addysg ei ddymuniad i roi cyfleoedd cyfartal i blant ac i
gynnal y gwaith ieithyddol da sy’n cael ei wneud yn y sector cynradd wrth
iddynt symud ymlaen i'r sector uwchradd. Mynegwyd pryder ynghylch y ffordd y
mae’r iaith Gymraeg yn cael ei thrafod mewn rhai cylchoedd gwleidyddol.
Mynegwyd siom o glywed sylwadau gan Darren Millar AS, ac fe fynegwyd y gred bod
y Gymraeg, fel iaith genedlaethol Cymru, bellach yn rhywbeth y dylai pawb ei
chefnogi’n gadarn.
Mynegwyd siom o ran
diffyg gweledigaeth gadarn y polisi drafft. Cyfeiriwyd at y gostyngiad yn y
canran o blant sy’n siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad diwethaf, ac at y ffaith
nad yw 14% o blant Gwynedd yn gallu siarad Cymraeg er gwaethaf blynyddoedd o
bolisi. Awgrymwyd bod angen strategaeth llawer mwy cadarn ac uchelgeisiol.
Gofynnwyd am eglurder
ynghylch addysg cyn-ysgol, gan bwysleisio bod angen defnyddio geiriau megis “yn
unig drwy gyfrwng y Gymraeg” wrth gyfeirio at ddarpariaeth cyn-ysgol er mwyn
gosod sylfaen cadarn. Cwestiynwyd beth oedd “Cymraeg yw prif gyfrwng addysg” yn
y cynradd yn wir olygu. Codwyd pryderon ynghylch defnyddio’r Saesneg ar draws y
cwricwlwm heb ddiffiniad clir. Awgrymwyd y dylai’r Saesneg gael ei ddysgu fel
pwnc ail iaith yn hytrach na chyfrwng dysgu trawsgwricwlaidd.
Cyfeiriwyd
at ddiffiniad ysgolion categori 3, sef bod pob pwnc heblaw am Saesneg yn cael
ei addysgu trwy’r Gymraeg. Gofynnwyd a oedd hynny’n cael ei wireddu ym mhob
ysgol, ac awgrymwyd nad yw’r ffigwr 70% yn ddigonol o ystyried yr addysg
Gymraeg sylfaenol a roddir i blant yn y cyfnod cynradd. Galwyd am dargedau
cynyddol ac am fonitro rheolaidd i sicrhau cynnydd parhaus.
Pwysleisiwyd yr angen i
weithredu’n bendant dros y Gymraeg mewn sir sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr
Cymraeg yn y wlad. Nodwyd bod angen drafftio polisi cryfach a mwy uchelgeisiol,
un sy’n normaleiddio’r Gymraeg fel iaith gyfathrebu bob dydd ym mywyd yr ysgol,
yn y gymuned ac yn y cartref. Gofynnwyd i ail-ymgynghori ac ail-ddrafftio’r
polisi er mwyn diogelu’r iaith yn genedlaethol ac yn lleol, wrth barchu’r angen
i ddysgu’r Saesneg yn fanwl a safonol hefyd.
Mynegodd aelod bryder
nad oedd y drafodaeth yn adlewyrchu agwedd gadarnhaol tuag at y polisi.
Mynegwyd barn bod y polisi yn uchelgeisiol, cadarnhaol ac arloesol,
tanlinellwyd y perygl y byddai negeseuon negyddol yn cyfrannu at ddirywiad yr
iaith. Diolchwyd i bawb a gyfrannodd at lunio’r polisi, a mynegwyd gobaith y
bydd y broses ymgynghori yn cynnwys pawb, gan gynnwys y rhai sydd â safbwyntiau
mwy cadarnhaol.
Nododd aelod bod angen
i’r polisi adlewyrchu’r newidiadau demograffig sylweddol sydd wedi digwydd yn y
sir dros yr hanner canrif ddiwethaf. Dymunwyd gweld y dolenni yn cael eu dileu
o’r polisi ac y nodir yn glir beth yw’r ddarpariaeth y disgwylir i ysgolion
Gwynedd ei gyflwyno. Dymunwyd hefyd eglurder pellach yn y polisi ynghylch
cyflwyno’r Saesneg yn drawsgwricwlaidd. Pwysleisiwyd mai parhad y gymdeithas
Gymraeg ei hiaith yw’r cwestiwn sylfaenol, a bod angen trafod y polisi yn yr
ysbryd hwnnw.
Amlygodd aelod realiti’r
sefyllfa o fewn y proffesiwn addysg ar hyn o bryd, gan nodi’r argyfwng
recriwtio a chadw athrawon ledled Cymru. Pryderwyd ynghylch nifer isel yr
ymgeiswyr sy’n cofrestru ar gyrsiau TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) a bod
nifer sylweddol o athrawon yn gadael y proffesiwn. Mynegwyd barn byddai unrhyw
athro yn croesawu’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn rhugl, ond bod yn rhaid i’r sir
alluogi hynny drwy ddarpariaeth briodol. Galwyd am amynedd a dealltwriaeth mai
addysg o safon yw’r nod, ac y bydd y newid yn cymryd amser. Mewn ymateb i sawl
pwynt blaenorol, nododd yr Aelod Cabinet Addysg:
·
Bod anhawster cyffredinol recriwtio athrawon yn bodoli, gan bwysleisio
bod y broses yn un hirdymor sy’n gofyn am ymrwymiad ac adnoddau.
·
Nid yw’r polisi hwn yn ymgais gyflym i greu argraff, ond yn fenter
ddifrifol sydd angen amser ac adnoddau i’w gweithredu’n briodol.
·
Bydd rhai ysgolion yn gallu cyrraedd yr
isafswm o 70% yn haws na’i gilydd, a dyna pam fod angen cymryd yr amser i
fuddsoddi’n briodol.
·
Bod y 70% a nodir yn y polisi yn isafswm, nid uchafswm.
·
Bod angen eglurder pellach mewn rhai
rhannau o’r geiriad, a bod hynny’n rhywbeth y byddai’r swyddogion yn barod i’w
ystyried wrth fireinio’r drafft.
Nododd
yr Aelod Cabinet Addysg ynglŷn a’r elfen drawsgwricwlaidd:
I
gloi, nododd yr Aelod Cabinet fod y polisi drafft yn uchelgeisiol, ond
derbyniodd fod angen gwneud newidiadau angenrheidiol. Pwysleisiodd mai dyna yw
pwrpas y cyfarfod, sef creu fforwm agored ar gyfer trafodaeth. Eglurwyd bod
ymgynghori eang gyda thrigolion Gwynedd yn hollbwysig, ac mai dyna’r rheswm
dros y gwaith ymgysylltu helaeth sydd eisoes wedi’i wneud gydag ysgolion ledled
y sir.
Nodwyd
bod arbenigwyr allanol wedi’u cynnwys yn y broses er mwyn cryfhau’r ddogfen a
sicrhau fod y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw yng Ngwynedd, gan gyfrannu’n
uniongyrchol at y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ac
ymlaen. Pwysleisiodd bwysigrwydd meithrin plant a phobl ifanc a fydd, ar ôl
gadael y system addysg, yn gallu gweithio’n ddwyieithog. Cyfeiriwyd at y
drafodaeth a gafwyd ynglŷn ag denu athrawon syn medru’r Gymraeg. Nodwyd er
mwyn gyrraedd y nod hwn, mae’n rhaid cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ym maes
addysg.
Amlygwyd
bod cefnogaeth wedi dod i law gan UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru), gan
gadarnhau na fyddai’r polisi’n cael effaith andwyol ar y gweithlu. Yn ogystal,
derbyniwyd cefnogaeth gan Gymdeithas yr Iaith, gan nodi bod hyn yn gam i’r
cyfeiriad cywir, a’u bod yn ei groesawu, ac yn dymuno gweld siroedd eraill yn
dilyn esiampl Gwynedd.
Mewn ymateb i gwestiwn a
godwyd ynghylch a yw Gwynedd yn parhau i arwain ar flaen y gad, mynegwyd bod
Gwynedd yn parhau i arwain ar y blaen. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith
caled ac i’r Cynghorydd Beca Brown am ei chyfraniad ers y cychwyn cyntaf.
PENDERFYNWYD
1.
Nodi’r polisi drafft gan nodi’r sylwadau.
2.
Croesawu bod y polisi drafft yn mynd i ymgynghoriad.
3.
Bod y Pwyllgor yn gwneud cais i’r Fforwm Craffu i
flaenoriaethu adnoddau ar gyfer ffurfio grŵp tasg a gorffen, gyda’r brîff
i edrych ar eiriad y Polisi Iaith Addysg Drafft gan ystyried os oes angen
gwneud awgrymiadau i’r Aelod Cabinet / Adran Addysg, ac adrodd yn ôl i’r
pwyllgor yng nghyfarfod 19 Mehefin 2025.
4.
Pe bai’r cais i’r Fforwm Craffu yn llwyddiannus, bod yr
Ymgynghorydd Craffu yn anfon e-bost at aelodau’r Pwyllgor yn rhoi cyfle iddynt
roi eu henw ymlaen i fod yn aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen.
Dogfennau ategol: