I ystyried
a nodi’r wybodaeth
COFNODION:
Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r
aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Nodwyd bod
yr adroddiad bellach yn un sy’n cael
ei gyflwyno yn rheolaidd i’r
Bwrdd ac yn elfen bwysig iawn
o Gronfa Bensiwn Gwynedd sydd bellach gyda
85% o’r gronfa wedi’i bwlio.
Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr
Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd
y pwl, a bod y cydweithio yn parhau i
fynd yn dda
ar faterion megis ymateb ceisiadau
rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y cronfeydd.
Tynnwyd sylw
at y cronfeydd gan amlygu bod perfformiad y cronfeydd ar y cyfan wedi bod tu ôl i’r
meincnod ers y dechrau a hyn yn
benodol gan fod y meincnod a
osodwyd yn heriol e.e. ar
gyfer y Gronfa sustainable
equity y meincnod yw MSCI
All Country World Index, sydd yn
cynnwys yr holl gwmnïau, ond bod cwmnïau y mae’r Gronfa yn gallu
buddsoddi ynddi wedi ei gyfyngu.
Eglurwyd bod Cronfa Global
Growth wedi bod mewn bodolaeth ers dros
5 mlynedd ac wedi tan berfformio'r meincnod. O ganlyniad, mae Russell Investments
wedi newid strwythur y gronfa yma ac wedi newid
y rheolwyr o fewn y portffolio - bydd swyddogion Gwynedd, ymgynghorwyr
y Gronfa, Hymans Robertson a swyddogion
PPC yn monitro’r cronfeydd yn fanwl
yn y dyfodol.
Adroddwyd bod cronfeydd newydd
marchnadoedd preifat yn prysur gael
ei sefydlu gyda diweddariad i’w rannu pan fydd
perfformiad y cronfeydd yma yn cael
ei dderbyn. Yn yr un modd, nodwyd bod y Bartneriaeth yn sefydlu cronfeydd eiddo ac y bydd trafodaeth
yn cael ei
gynnal gyda Hymans
Robertson i drafod pa opsiwn y gellid manteisio arno.
Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad ‘Addas i’r
Dyfodol’ a gafodd ei lansio gan
Lywodraeth y DU oedd yn trafod tri maes
allweddol:
·
Diwygio’r trefniadau pwlio asedau Cynlluniau
Pensiwn Llywodraeth Leol
·
Hybu buddsoddiadau lleol
·
Cryfhau llywodraethu o fewn y cronfeydd pensiwn.
Amlygwyd bod ymateb i’r ymgynghoriad wedi ei gyflwyno gan
Gronfa Bensiwn Gwynedd ynghyd ag achos busnes sy’n awgrymu
mai’r ffordd ymlaen i PPC yw
i Gymru gadw
cronfa CPLlL annibynnol gan adeiladu ar lwyddiant
trefniadau cronni presennol. Ategwyd y byddai modd gwneud
hynny drwy greu cwmni buddsoddi
o dan yr enw ‘IM Co’; yr ail opsiwn
fyddai bod fel is bartner neu gleient mewn pŵl gyda
chronfeydd mwy yn rheoli, ynghyd
â chostau trosiannol. Nodwyd, petai Cronfa
Bensiwn Gwynedd eisiau parhau i gael llais mewn penderfyniadau,
siapio buddsoddiadau addas i’w proffil a sicrhau
buddsoddi yng Nghymru, bydd rhaid
datblygu WPP i fod yn IM Co ac er bydd costau ynghlwm
a gweithredu hyn, bod y sefyllfa yn cael
ei orfodi. Gobeithir y bydd dychweliadau yn parhau yn gryf
a’r costau buddsoddi yn îs
yn y pen draw.
Ar y 1af o Ebrill 2025 adroddwyd
bod Sioned Parry ac Osian Richards wedi mynychu cyfarfod Cadeiryddion y Bwrdd Pensiwn dros Gymru.
Cyfeiriwyd at y sylwadau ffafriol oedd wedi
cael eu cyfleu
yn y cyfarfod at gadw PPC yn annibynnol
a bod y swyddogion yn gweithio yn hynod
o galed o fewn amserlen dynn i
ymateb i ofynion yr adolygiad.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Er y costau,
byddai’r fenter yn fuddiol i
Gymru
·
Croesawu’r ymdrech
i gadw annibyniaeth
pwl Cymru
·
Bod angen
sicrhau bod y broses yn cyfateb i’r angen
yn hytrach na phroses fawr,
gostus yn creu newid er mwyn
newid
·
Mai’r nod yn
wreiddiol oedd pwlio cronfeydd i arbed costau
ond bellach ceir gorfodaeth i wario i
sefydlu cwmni
·
Llywodraeth DU heb gydnabod bod y drefn bresennol yn gweithio yn
effeithiol ac yn dderbyniol, ond eto yn gorfod
sefydlu cwmni i’w gymeradwyo gan Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA -
Financial Conduct Authoity)
·
Cais i’r
swyddogion rannu gwybodaeth am y fforymau a gyflwynodd sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â photensial o arbedion yn y tymor hir (er nad oedd cyfeiriad
at arbedion yn y Cynllun Busnes) nodwyd, o ran amcanion bras iawn, bydd costau
Rheolwyr Buddsoddiadau yn ddibynnol ar
berfformiad ac felly yn y tymor hir y gobaith yw bydd arbediad
i Wynedd (er nad oedd sicrwydd
ar hyn o bryd). Mewn ymateb
i sylw ynglŷn
ar effaith ar adnoddau a chostau
staff, nodwyd nad oedd gwybodaeth ynglŷn â chyfrifoldebau
staff wedi dod i law. Derbyniwyd y rhwystredigaeth nad oedd costau ffurfiol
i’w rhannu, ond y byddai unrhyw
wybodaeth sydd yn cael ei
dderbyn yn cael ei rannu
gydag aelodau’r Bwrdd.
Derbyniwyd y wybodaeth
Dogfennau ategol: