Agenda item

I ystyried a nodi’r wybodaeth

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlinellu gosodiad rhagdybiaethau ar gyfer prisiad 2025 Cronfa Bensiwn Gwynedd. Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y disgwyliad oes ariannol, disgwyliad oes, a rhagdybiaethau demograffig eraill sydd rhaid i'r Gronfa eu gwneud, a bod y rhagdybiaethau hyn wedi eu gosod gan Actiwari'r Gronfa wedi trafodaethau a sesiwn hyfforddi gyda Swyddogion, Aelodau’r Pwyllgor ac Aelodau’r Bwrdd. Amlygwyd bod perthnasedd y rhagdybiaethau presennol wedi cael eu hystyried cyn cyflwyno newidiadau fyddai’n adlewyrchu nodweddion penodol y Gronfa a chymryd barn hirdymor iawn. Ategwyd bod y rhagdybiaethau hefyd yn cadw at ganllawiau CPLlL sy'n gofyn am ddoethineb yn y gyfradd ddisgownt, tra bod y rhagdybiaeth eraill yn amcangyfrifon gorau posib.

 

Yng nghyd-destun rhagdybiaethau ariannol, amlygwyd newidiadau sylweddol mewn amodau economaidd ers prisiad 2022, oedd yn cynnwys cyfraddau llog uwch, chwyddiant uwch na'r disgwyl, a mwy o anweddolrwydd (volatility) yn y farchnad. Nodwyd bod risgiau gwleidyddol a hinsawdd hefyd yn cael eu crybwyll fel ffactorau dylanwadol. Ategwyd bod y gyfradd disgownt (sydd yn cynrychioli cyfradd flynyddol gyfartalog dychwelyd buddsoddiad yn y dyfodol), wedi gweld newid sylweddol yn yr amgylchedd economaidd ers 2022, sydd o ganlyniad wedi arwain at enillion buddsoddi disgwyliedig uwch yn y dyfodol, a lefelau cyllido, ond hefyd at gynnydd mewn ansicrwydd. Amlygwyd mai argymhelliad yr Actiwari oedd cynyddu'r lefel bwyll ar gyfer y gyfradd ddisgownt o 75% i 80%.

 

Yng nghyd-destun codiadau i’r buddion ac ailbrisio Cynllun Cyfartaledd Gyrfa, sy'n gysylltiedig â CPI, nodwyd bod y dull yn aros yr un fath â phrisiad 2022, ond yn adlewyrchu disgwyliadau chwyddiant cyfredol. Adroddwyd mai’r lefel gyfartalog o chwyddiant i’r dyfodol ar 30 Tachwedd 2024 oedd 2.3% y flwyddyn (o'i gymharu â 2.7% y flwyddyn ym mis Mawrth 2022) ac felly argymhellwyd cynnal codiadau cyflog ar CPI + 0.5%, i adlewyrchu ansicrwydd er gwaethaf disgwyliadau chwyddiant cyfredol.

 

Cyfeiriwyd at ragdybiaethau disgwyliad bywyd gan nodi mai’r argymhelliad oedd mabwysiadau rhagdybiaeth gyffredinol o welliant ‘diofyn’ yn y dyfodol, a gyda rhagdybiaethau eraill megis rhagdybiaethau demograffi, nodwyd bwriad o fabwysiadu rhagdybiaethau sy’n seiliedig ar ddadansoddi gwybodaeth o’r Gronfa ynghyd â phrofiad aelodaeth wirioneddol y Gronfa.

 

Adroddwyd bod y Pwyllgor Pensiynau, mewn cyfarfod ar 17 Mawrth 2025, wedi mabwysiadu’r rhagolygon.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ‘fwlch cyfraniad / taliadau’ (payment / contribution holiday) ac os dylid ystyried hyn fel risg, nodwyd bod y Ddeddfwriaeth bellach yn cael ei haddasu i atal hyn. Ategwyd pe byddai unrhyw ragdybiaethau sydd wedi eu derbyn angen eu hadolygu mewn ymateb i unrhyw sefyllfa sydd yn codi, nodwyd bod modd gweithredu hyn ac y byddai’n cael ei ystyried fel ymddygiad darbodus

 

Mewn ymateb i sylw, o ystyried anweddolrwydd y farchnad ar hyn o bryd, ac os byddai modd caniatáu prisiad dros dro, nodwyd bod hyn wedi cael ei ganiatáu mewn achosion eithriadol, ond eto, y bwriad yw addasu’r Ddeddf i atal hyn.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol,

·        Y Gronfa wedi ei hariannu yn dda, onid doeth fyddai cadw’r sefyllfa fel y mae yn hytrach na lleihau cyfranddaliadau? rhag ofn i bethau fynd o chwith?

·        Bod prisiad pob tair mynedd yn cadw rheolaeth dros gyfraniad y cyflogwr – rhaid bod yn ymwybodol o’r sefyllfa a cheisio osogi sefyllfa sydd yn mynd i fyny ac i lawr.

·        Pwysig cynnal trafodaethau gyda’r prif gyflogwyr

·        Cais i’r gofrestr risgiau cael ei chyflwyno / diweddaru erbyn y cyfarfod nesaf

·        Derbyn mai rhagolygon sydd yma ac anodd yw cael eglurder heb ffigyrau cywir - er hynny angen sicrhau balans

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

Dogfennau ategol: