Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dewi Jones

Penderfyniad:

1.     Mabwysiadu yr Opsiwn o greu Uned Gyfeirio Disgyblion Cofrestredig Portffolio (Aml Safle).

2.     Derbyn y cynllun ariannu a gyflwynwyd yn yr adroddiad gan ddirprwyo’r amserlen gweithredu a gwireddu y cynllun i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Addysg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Mabwysiadu yr Opsiwn o greu Uned Gyfeirio Disgyblion Cofrestredig Portffolio (Aml Safle).
  2. Derbyn y cynllun ariannu a gyflwynwyd yn yr adroddiad gan ddirprwyo’r amserlen gweithredu a gwireddu y cynllun i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Addysg.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod sicrhau’r gefnogaeth a’r ddarpariaeth gorau ar gyfer plant sydd â phroblemau ymddygiadol yn un o flaenoriaethau’r Adran Addysg.

 

Eglurwyd bod yr Adroddiad yn manylu ar drefniadau darpariaeth cynhwysiad presennol yng Ngwynedd. Nodwyd bod strategaeth gynhwysiad uchelgeisiol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer ailstrwythuro’r ddarpariaeth yn 2012 ond ei bod bellach yn amserol i ddiwygio’r ddarpariaeth unwaith eto er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer ymateb i anghenion disgyblion yn effeithiol yn y byd sydd ohoni.

 

Atgoffwyd bod y gwasanaeth Cynhwysiad wedi cael ei sefydlu er mwyn cyfarch argymhelliad arfarniad allanol yn 2017. Cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi esblygu yn gyson er mwyn sicrhau ei fod yn cyfarch anghenion perthnasol a datblygu arfer dda.

 

Cyflwynwyd y bwriad o sefydlu Uned Gyfeirio Disgyblion Portffolio (aml safle) ar gyfer darparu cefnogaeth i blant sydd â phroblemau ymddygiad ac ymgysylltu sylweddol. Adroddwyd y dymunir i’r Uned fod yn addas ar gyfer cefnogi plant o bob oed gydag ystod amrywiol o anghenion, gan y byddai’n addas ar gyfer unrhyw ddisgybl sydd yn canfod y profiad o fod mewn ysgol prif lif yn heriol ac anaddas i’w anghenion. Ymhelaethwyd bod cynllun i’r Uned wedi cael ei ddatblygu er mwyn amlygu strwythur llywodraethiant gadarn, amcanion a rolau penodol sydd angen eu cyflawni.

 

Tynnwyd sylw bod yr angen am yr Uned hon wedi cael ei amlygu o fewn gwaith bwrdd prosiect penaethiaid Gwynedd a oedd yn ymchwilio i ddarpariaethau mewn Awdurdodau Lleol eraill, yn dilyn derbyn adroddiad gan Estyn yn ddiweddar. Cadarnhawyd bod datblygu’r Uned hwn wedi cael ei wneud mewn cydweithrediad â phenaethiaid Gwynedd, gan sicrhau bod galw am y ddarpariaeth benodol hon.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Mewn ymateb i bryderon bod niferoedd disgyblion sydd yn cael eu gwahardd o ysgolion yng Ngwynedd ar gynnydd, cadarnhawyd bod gwaith yn cael ei wneud ar draws yr adran er mwyn ceisio sicrhau nad yw disgyblion yn cael ei gwahardd. Eglurwyd bod cynlluniau i ariannu cyllidebau i ysgolion sydd ar gyfer darparu cefnogaeth i ddysgwyr cyn i’r angen i fynychu’r Uned Gyfeirio yn cael ei ystyried. Pwysleisiwyd bod darparu’r gefnogaeth hon i’r ysgolion ran allweddol i lwyddiant y cynllun hwn.
  • Eglurwyd byddai’r cyfnod o amser bydd plant yn ei dreulio o fewn yr Uned Gyfeirio yn amrywio, yn ddibynnol ar eu hanghenion ac oedran, gan gadarnhau bod y rhyddid iddynt ddychwelyd i’r ysgol prif lif ar unrhyw amser maent yn dymuno gwneud hynny. Eglurwyd bydd ystyriaeth benodol yn cael ei roi i unrhyw ddisgybl Blwyddyn 10 neu 11 sydd yn yr Uned Gyfeirio er mwyn sicrhau eu bod wedi eu lleoli yn y man mwyaf addas ar gyfer cyrraedd eu llawn botensial yn eu cymwysterau addysgol. Cadarnhawyd bydd trafodaethau cyson gyda’r ysgolion perthnasol er mwyn cwblhau addasiadau priodol tra mae’r unigolion yn yr Uned Gyfeirio fel gall y plant hynny ddychwelyd i’r ysgol.
  • Cyfeiriwyd at nifer o argymhellion a gyflwynwyd yn adroddiad Adolygiad o’r ddarpariaeth cynhwysiant yng Ngwynedd 2023 (Atodiad 2), gan sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arnynt.

 

Awdur:Ffion Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynwysiad, Yr Adran Addysg)

Dogfennau ategol: