Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig
fel a ganlyn:-
Mae gwasanaethau
cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol
a gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Unwaith eto, bydd Cynghorau
Cymru yn gweld colled llwyr wrth i’r
llywodraeth ddefnyddio’r fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei
roi i wledydd datganoledig. Mae’r fformiwla Barnett yn seiliedig ar
faint y boblogaeth yn hytrach
nag angen.
Mae’n annheg na fydd
gwasanaethau cyhoeddus
Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae
Cymru dan anfantais llwyr o
ganlyniad i lywodraeth Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.
Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl
am fanylion gan y ddwy lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o
bryd, ond mae Cyngor Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu
£1m, sy’n swm rydym wedi gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr.
Mae Cyngor Gwynedd yn galw
felly ar Lywodraeth Cymru i
fynnu ffordd decach o ariannu ein gwlad gan
eu penaethiaid yn Llundain.
Penderfyniad:
Mae gwasanaethau cyhoeddus
Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a
gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Unwaith eto, bydd Cynghorau
Cymru yn gweld colled llwyr wrth i’r llywodraeth ddefnyddio’r fformiwla Barnett
i benderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i wledydd datganoledig. Mae’r
fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach nag angen.
Mae’n annheg na fydd
gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn
enghraifft arall o sut mae Cymru dan anfantais llwyr o ganlyniad I lywodraeth
Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.
Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl
am fanylion gan y ddwy lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o
bryd, ond mae Cyngor Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu
£1m, sy’n swm rydym wedi gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr.
Mae
Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i fynnu ffodd decach o ariannu
ein gwlad gan eu penaethiaid yn Llundain.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Gwynfor Owen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Mae gwasanaethau
cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol
a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled lwyr
wrth i’r Llywodraeth ddefnyddio’r Fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei
roi i wledydd
datganoledig. Mae’r Fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth
yn hytrach nag angen.
Mae’n annheg na
fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae
Cymru dan anfantais lwyr o ganlyniad i Lywodraeth
Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.
Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl am fanylion gan y
ddwy Lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o bryd, ond mae Cyngor
Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu £1m, sy’n swm rydym wedi
gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr.
Mae Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i fynnu ffordd
decach o ariannu ein gwlad gan
eu penaethiaid yn Llundain.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
·
Bod
y Llywodraeth ganolog yn cyfrannu 81.8% o gyllideb y Cyngor yn 1997, ond erbyn
eleni, roedd y ffigwr hwnnw wedi disgyn i 69.5%.
·
Bod
hynny’n dangos y glir sut roedd Llywodraeth San Steffan wedi newid yn raddol y
ffordd o ariannu llywodraeth leol, gan symud yn araf o system dreth incwm, sef
treth flaengar, i system treth cyngor, sy’n dreth anflaengar. Golygai hynny bod y baich treth yn cael ei
symud o’r cyfoethog i’r tlawd.
·
Pan
gyhoeddodd Llywodraeth y DU y codiad yswiriant cenedlaethol i gyflogwyr,
rhoddwyd addewid y byddent yn digolledu gwasanaethau cyhoeddus am y gost
ychwanegol roeddent yn wynebu. Roedd
hynny wedi digwydd yn Lloegr, ond nid yng Nghymru.
·
Bod
hyn yn un esiampl yn unig o sut mae Cymru yn cael ei thanariannu gan Lywodraeth
y DU, ac y dylai Llywodraeth Cymru fynnu bod Llywodraeth y DU yn newid y
fformiwla ariannu, nid yn unig ar gyfer digolledu yswiriant cenedlaethol, ond
ar gyfer ariannu ein gwlad yn gyffredinol.
Mynegwyd
cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau ar y sail bod angen system ariannu briodol
sy’n adnabod angen a bod Fformiwla Barnett yn
gweithio yn erbyn cymunedau gwledig.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Mae gwasanaethau
cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol
a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled lwyr
wrth i’r Llywodraeth ddefnyddio’r Fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei
roi i wledydd
datganoledig. Mae’r Fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth
yn hytrach nag angen.
Mae’n annheg na fydd gwasanaethau
cyhoeddus Cymru yn derbyn
yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae
Cymru dan anfantais lwyr o ganlyniad i Lywodraeth
Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.
Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl am fanylion gan y
ddwy Lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o bryd, ond mae Cyngor
Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu £1m, sy’n swm rydym wedi
gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr.
Mae
Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth
Cymru i fynnu ffordd decach o ariannu ein gwlad
gan eu penaethiaid
yn Llundain.