Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:-

1.    Mae’r Cyngor hwn yn nodi effeithiau anghymesur a chronnus polisïau llymder ar drigolion fwyaf bregus ein cymdeithas gan lywodraethau dilynol y DU - boed yn llywodraethau Ceidwadol neu Lafur.

2.    Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU o doriadau pellach i fudd-daliadau fydd yn cyfansymu i £5 biliwn, cydnabyddir y Cyngor hwn mai parhad a chynnydd i bolisïau llymder yw’r toriadau hyn. Gyda chyfran o 18.1% o boblogaeth Gwynedd yn cael eu hystyried yn anabl, bydd pobl Gwynedd yn cael eu taro’n arbennig o galed gan y toriadau. Ym mhellach, mae pobl a ystyrir yn anabl yng Ngwynedd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth, gyda dim ond 50.5% mewn swydd â thâl, ac felly maent yn fwy tebygol o ddibynnu ar fudd-daliadau fel eu hunig ffynhonnell incwm.

3.    Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb cynyddol i liniaru effeithiau creulon polisïau llymder drwy wasanaethau’r Cyngor. Gwelwn gynnydd yn y galw am wasanaethau megis tai cymdeithasol, llety argyfwng a gofal cymdeithasol, a’r gost gynyddol ganlyniadol o gynnal y gwasanaethu hyn. Cydnabyddwn y pwysau a roddir hyn ar gyllidebau'r Cyngor.

4.    Er mwyn trigolion Gwynedd, geilw’r Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros Gymru a mynnu bod eu cyd-aelodau Llafur yn Llywodraeth y DU yn gwneud tro bedol ar eu cynlluniau i dorri budd-daliadau.

5.    Er mwyn sicrhau parch ac urddas i bob un, geilw’r Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyllido budd-daliadau a gwasanaethau cymdeithasol yn ddigonol.

6.    Er mwyn roi diwedd ar lymder yng Nghymru, mynnir y Cyngor hwn bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli lles a budd-daliadau, ynghyd â’r holl liferi angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i warchod, gofalu a chynnal ein cymdeithas.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Hywel o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

Mae’r Cyngor hwn yn nodi effeithiau anghymesur a chronnus polisïau llymder ar drigolion fwyaf bregus ein cymdeithas gan lywodraethau dilynol y DU - boed yn llywodraethau Ceidwadol neu Lafur.

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU o doriadau pellach i fudd-daliadau fydd yn cyfansymu i £5 biliwn, cydnabydda’r Cyngor hwn mai parhad a chynnydd i bolisïau llymder yw’r toriadau hyn.  Gyda chyfran o 18.1% o boblogaeth Gwynedd yn cael eu hystyried yn anabl, bydd pobl Gwynedd yn cael eu taro’n arbennig o galed gan y toriadau.  Ymhellach, mae pobl a ystyrir yn anabl yng Ngwynedd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth, gyda dim ond 50.5% mewn swydd â thâl, ac felly maent yn fwy tebygol o ddibynnu ar fudd-daliadau fel eu hunig ffynhonnell incwm.

Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb cynyddol i liniaru effeithiau creulon polisïau llymder drwy wasanaethau’r Cyngor.  Gwelwn gynnydd yn y galw am wasanaethau megis tai cymdeithasol, llety argyfwng a gofal cymdeithasol, a’r gost gynyddol ganlyniadol o gynnal y gwasanaethau hyn.  Cydnabyddwn y pwysau mae hyn yn ei roi ar gyllidebau'r Cyngor.

Er mwyn trigolion Gwynedd, geilw Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros Gymru a mynnu bod eu cyd-aelodau Llafur yn Llywodraeth y DU yn gwneud tro bedol ar eu cynlluniau i dorri budd-daliadau.

Er mwyn sicrhau parch ac urddas i bob un, geilw Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyllido budd-daliadau a gwasanaethau cymdeithasol yn ddigonol.

Er mwyn rhoi diwedd ar lymder yng Nghymru, mynna’r Cyngor hwn bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli lles a budd-daliadau, ynghyd â’r holl liferi angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i warchod, gofalu a chynnal ein cymdeithas.

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

·         Ei bod yn cyflwyno’r cynnig hwn gan ei bod wedi dychryn ynghylch amgylchiadau bywyd ein trigolion mwyaf bregus, a hynny oherwydd penderfyniadau creulon ac ideolegol gan Lywodraeth San Steffan, sydd wedi troi cefn ar bobl Gwynedd.

·         Y gwelwyd toriadau pellach i’r system fudd-daliadau yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Credyd Cynhwysol a’r cymorth gyda chostau tai, a bod y toriadau hyn wedi dod heb unrhyw ymgynghoriad ystyrlon, heb asesiad effaith cymdeithasol trylwyr, ac yn llwyr ddi-hid o ran eu heffaith ar fywydau pobl go iawn.

·         Bod nifer y bobl yng Ngwynedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol wedi aros yn uchel dros y blynyddoedd, gyda llawer ohonynt mewn gwaith, ond eto ddim yn gallu fforddio byw.

·         Bod y toriadau i gymorth costau tai yn creu pwysau digynsail, gyda rhent preifat yn codi a dewisiadau’n lleihau.

·         Bod y toriadau yn cynyddu’r galw ar ein gwasanaethau llesiant, tai, cyngor dyledion, a hyd yn oed ein llyfrgelloedd, sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn lle o loches a chefnogaeth.

·         Bod y Cyngor hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gorfod camu i’r bwlch sydd wedi’i greu gan Lywodraeth San Steffan a’u penderfyniadau gwael, gan ddarparu cefnogaeth sydd ddim yn gyfrifoldeb statudol, ond yn ofyniad moesol, ac sy’n dod â phwysau ariannol uniongyrchol ar ein cyllidebau.

·         Nad yw’r system fudd-daliadau yno i gefnogi pobl mwyach, a’i bod yn system sydd wedi’i chynllunio i danseilio hyder, i niweidio iechyd meddwl ac i greu rhwystrau.

·         Bod adroddiadau diweddar gan Shelter Cymru, Cyngor ar Bopeth a hyd yn oed Pwyllgorau San Steffan eu hunain yn cydnabod bod y broses asesu ar gyfer Lwfans Cefnogaeth a Chymorth (ESA) a Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn achosi niwed difrifol i bobl fregus, gan gynnwys cynnydd mewn straen, iselder a sefyllfaoedd llawer gwaeth na hynny hefyd.

·         Bod y Cyngor yn gweld galw cynyddol, digynsail ac anghynaladwy am:-

Ø  wasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys cefnogaeth i bobl hŷn, pobl ag anableddau a theuluoedd.

Ø  tai brys a llety brys.

Ø  gwasanaethau iechyd meddwl a chwnsela, sy’n aml yn methu cynnal y galw.

·         Bod hyn yn creu sefyllfa lle mae cynghorau fel Gwynedd yn talu am ganlyniadau polisïau sy’n cael eu gwneud dros 200 milltir i ffwrdd gan Lywodraeth Lafur sydd heb unrhyw ddealltwriaeth o’n cymunedau na’n cyd-destun lleol.

·         Bod y cynnig yn alwad am foesoldeb, cyfiawnder a chefnogaeth.

·         Nad toriadau ariannol a diffyg arian sy’n arwain at y penderfyniadau hyn gan y Llywodraeth, ond diffyg ewyllys gwleidyddol.

·         Ei bod yn rhagrithiol bod y Llywodraeth yn gallu creu system dreth sydd o werth i bobl gyfoethog ac i’r cwmnïau mwyaf, ond yn methu ar yr un pryd â chynnal incwm sylfaenol i bobl sy’n byw ar lai nag £80 yr wythnos.

Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig gan aelodau.

Cyfeiriodd aelod at araith ddiweddar Ann Davies, AS yn San Steffan oedd yn nodi:-

·         Bod ymchwil helaeth iawn a wnaed i niferoedd y bobl a gofrestrwyd ag anableddau yn dangos bod y ffigwr hwn yng Nghymru yn 28%, gyda 50% o’r bobl hynny yn methu gweithio.

·         Bod hyn yn cymharu â ffigwr o 22% wedi’u cofrestru ag anableddau yn Ne Ddwyrain Lloegr, gyda 61% o’r bobl hynny mewn gwaith.

·         Bod effaith toriadau o £5m mewn budd-daliadau yn mynd i gael effaith sylweddol fwy ar y llywodraethau oedd wedi’u datganoli, nag ardaloedd eraill o’r DU.

·         Bod y sefyllfa Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), lle mae pobl yn cael arian ar gyfer byw yn fwy annibynnol, yn mynd i fod yn waeth yng Nghymru oherwydd bod niferoedd uwch yn derbyn y taliad yma.

·         Bod Llywodraeth Cymru yn mynd i orfod ysgwyddo’r gost ddifrifol a’r trafferthion mawr fydd yn deillio o dorri £5m o’r gyllideb budd-daliadau.

·         Bod Cymru'r ail o’r gwaelod o ran niferoedd mewn oedran gwaith sy’n anabl.

·         Y byddai wedi bod yn hawdd iawn i Lywodraeth San Steffan roi 2% o lefi ar asedau dros £10m, a thrwy hynny ddod â £24bn i mewn i’w cronfa, ond yn hytrach na hynny, bu iddynt benderfynu taro’r bobl fwyaf anabl bosib’ sy’n dioddef eisoes.

Nododd yr Arweinydd:-

·         Bod rhaglen Cefnogi Pobl Gwynedd yn flaenoriaeth i’r Cabinet ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.  Fodd bynnag, ni allai hynny byth fod yn ddigon oherwydd, fel roedd y cynnig hwn, a chynigion eraill ar raglen y cyfarfod hwn wedi amlygu, mae’r broblem wedi’i hachosi ymhell o Wynedd.

·         Bod y ffaith nad yw Cymru yn elwa o’i hadnoddau naturiol a’r ffaith ein bod yn cael ein tanariannu gan Fformiwla Barnett yn cael effaith uniongyrchol ar ein heconomi, ar dlodi yng Nghymru, ar iechyd pobl ac ar ddyfodol ein plant.

·         Bod ymchwil gan Policy and Practice yn dangos bod y toriadau diweddaraf yn golygu bod Cymru yn wynebu 3 gwaith yr effaith economaidd o gymharu â Llundain a De Ddwyrain Lloegr, gyda bron i 200,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu heffeithio, sef 6.1% o’r boblogaeth, a rhai yn colli hyd at £9,000 y flwyddyn.

·         Na fyddai’r newidiadau hyn yn dod i rym yn syth ac anogid unrhyw un sy’n bryderus ynglŷn â’r sefyllfa i gysylltu â’r Cyngor neu eu cynghorydd lleol am gymorth.

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-