Agenda item

Datblygiad llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:- 

  • Gosod sylfeini ar gyfer cabannau gyda decio cysylltiedig. 
  • Gosod sylfeini ar gyfer podiau glampio. 
  • Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol, mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dwr aflan. 
  • Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys torri rhai coed, cadw coed ac ymgymryd a gwelliannau i'r goedlan presennol. 
  • Codi derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio fel hwb e-beicio gyda  pwyntiau gwefru trydan. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:  CYNNAL YMWELIAD SAFLE

 

Cofnod:

Datblygiad llety gwyliau (cynllun diwygiedig) sy'n golygu:- 

·        Gosod sylfeini ar gyfer cabannau gyda decio cysylltiedig. 

·        Gosod sylfeini ar gyfer podiau glampio. 

·        Seilwaith cysylltiedig i gynnwys ffyrdd mewnol, mannau parcio, systemau draenio cynaliadwy ynghyd a draenio dŵr aflan.

·        Tirlunio meddal a chaled gan gynnwys torri rhai coed, cadw coed ac ymgymryd â gwelliannau i'r goedlan bresennol.

·        Codi derbynfa/adeilad gwerthiant ynghyd ac ail-orchuddio'r adeilad presennol a'i ddefnyddio fel hwbe-beiciogydapwyntiau gwefru trydan. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at ddogfennau diwygiedig oedd wedi ei cyflwyno ers paratoi’r adroddiad, yn adlewyrchu lleihau’r nifer o podiau a dileu datblygiad o fewn parth a adnabyddir fel parth 5. Ategwyd nad oedd hyn yn newid asesiad nac argymhelliad y cais. Roedd y sylwadau hwyr hefyd yn nodi amod tirlunio, ac amodau i gytuno cynllun adeiladau a gwarchod coed a chynllun rheoli ecolegol a phlannu.

 

a)   Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn oedd dan sylw ar gyfer darparu llety gwyliau a gwaith cysylltiedig o fewn coedlan bresennol i’r de-ddwyrain o bentref Glasinfryn. Mynegwyd, ers cyflwyno’r cais yn wreiddiol yn 2018, bod y datblygiad wedi ei ddiwygio a’i leihau nifer o weithiau a bellach y nifer o unedau wedi eu lleihau i 25 caban gwyliau a 4 pod glampio.

 

Nodwyd bod y goedlan, sy’n ffurfio’r ffin gyda’r ffordd Dosbarth III tuag at Glasinfryn, yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed gyda gweddill y safle yn Safle Bywyd Gwyllt ymgeisiol.

 

Cyfeiriwyd at polisi TWR 3 sy’n caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd carafannau neu siale sefydlog newydd, neu lety gwersylla amgen parhaol y tu allan i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig, yn ddarostyngedig i feini prawf perthnasol.

 

Adroddwyd bod y maen prawf cyntaf yn cyfeirio’n benodol at ormodedd o ddatblygiadau newydd, ac ‘Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri’ er mwyn diffinio gormodedd ar gyfer y safle yma. Ategwyd bod yr Astudiaeth yn nodi fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau bach i bach iawn y tu allan i’r safleoedd sy’n cyfrannu tuag at osodiad Parc Cenedlaethol Eryri o fewn yr Ardal Cymeriad Tirwedd penodol yma, gyda’r Astudiaeth yn diffinio datblygiadau ‘bach iawn’ fel rhai hyd at 10 uned a datblygiadau ‘bach’ fel rhwng 10 - 25 uned. Er bod nifer unedau sy’n destun y cais yma yn 29 a gan gydnabod bod y ffigwr yma yn uwch na’r hyn a ddiffinnir fel datblygiad bychan yn yr Astudiaeth, rhoddwyd ystyriaeth i gapasiti ardaloedd ar gyfartaledd yn hytrach na lleoliadau unigol, ac ystyriaeth i’r safle fel un cuddiedig. I’r perwyl hyn, ystyriwyd bod capasiti digonol i’r safle yn yr ardal benodol yma, a gan ei fod yn safle anymwthiol sydd eisoes wedi ei sgrinio’n dda roedd hefyd yn cydymffurfio gyda’r ail faen prawf.

 

Yng nghyd-destun y maen prawf sy’n cyfeirio at ddarparu mynediad digonol heb amharu’n sylweddol ar nodweddion a chymeriad y dirwedd, ynghyd a sicrhau fod y safle yn agos at brif rwydwaith ffyrdd, nodwyd bod mynedfa i’r safle yn bodoli’n bresennol gyda bwriad i’w wella a darparu llain welededd i foddhad yr Uned Drafnidiaeth yn ogystal â gwarchod y gwrych sydd yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed.

 

Cyfeiriwyd at gynnwys yr asesiad manwl ar effaith ar fwynderau trigolion cyfagos, ond yn y pen draw ac ar sail y pellter a natur guddiedig y safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar drigolion cyfagos. Cadarnhawyd hefyd bod trafodaeth sylweddol wedi bod ynglŷn â phryderon ac effaith ar goed a bioamrywiaeth, a bod nifer o asesiadau ac arolygon wedi eu cyflwyno ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu cynllun i reoli’r safle a fyddai yn cynnwys gwelliannau. Ystyriwyd bod yr arolygon a gyflwynwyd yn cyfleu sefyllfa bresennol y safle ac yn amlygu’r angen i reoli’r goedlan er mwyn sicrhau dyfodol y cynefin a’i fioamrywiaeth o’i fewn. Adroddwyd nad oedd y safle wedi ei ddynodi fel safle o bwysigrwydd Cenedlaethol. Cydnabuwyd ei fod yn safle bywyd gwyllt ymgeisiol, ond ystyriwyd fod yr ymgeisydd wedi mynd i’r afael ag anghenion y safle ac o ganlyniad bydd y datblygiad yn cael ei reoli a’i wella yn ddarostyngedig i amodau cynllunio. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn dderbyniol yng nghyd-destun effaith ar fwynderau a hynny yn ddarostyngedig i amodau priodol fyddai’n sicrhau mesurau rheoli, lliniaru a gwella priodol.

 

Cyfeiriwyd at faterion cynaliadwyedd, llifogydd, isadeiledd ac ieithyddol gan nodi eu bod wedi derbyn sylw priodol a’r bwriad yn dderbyniol o ran y materion hynny.

 

Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·        Mai datblygiad bach oedd yma o safon uchel yn darparu cyflenwad o lety gwyliau

·        Bod y safle wedi ei ystyried yn ddelfrydol ar gyfer y weledigaeth o ddarparu gwyliau pwrpasol i ymwelwyr fwynhau’r ardal a defnyddio’r rhwydwaith beicio leol

·        Bod £2 filiwn o fuddsoddiad i’r cabanau sydd wedi eu hadeiladu gan gyflenwyr lleol

·        Mai’r unig adnodd ar y safle fydd llogi beics

·        Bod Siop Fferm o fewn cerdded i’r safle

·        Bod y safle yn un gwledig ac wedi ei sgrinio yn dda

·        Bod CNC wedi cadarnhau nad yw’r coed yn rhai hynafol – yr holl goed sydd yn destun gorchymyn yn cael eu cadw, ond bydd angen teneuo ychydig o’r goedlan

·        Ei fod yn croesawu argymhelliad y swyddogion

·        Bod y bwriad yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol

·        Nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr ymgynghorwyr statudol

 

c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y sylwadau canlynol:

·        Byddai caniatáu y cais yn hyrwyddo a chreu cwmni annibynnol

·        Nad yw’r bwriad yn cefnogi’r economi leol na chyflogi yn lleol (oni bai am gyflogai rhad)

·        Bod y datganiad iaith a gyflwynwyd yn un gwan

·        Cynyddu niferoedd llety gwyliau yn yr ardal yn cael effaith ar y gymuned leol

·        Dim bwriad o gydweithio na ‘chyd-fyw’ – hyn yn gatalydd i Saesnegeiddio yr ardal

·        Bod y galw yn ‘ddi-ben draw’ – dim modd ei ddiwallu

·        Bod Cymru yn wlad o gymunedau yn marw

·        Eisoes wedi cymryd drosodd glannau’r môr, bellach yn treiddio i gefn gwlad

·        Byddai caniatáu yn gosod cynsail

·        Annog i’r Pwyllgor wrthod y cais gan ei fod yn or-ddatblygiad – yn groes i bolisïau SO1 pwynt 5.4 a 5.5 a PS1

 

d)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·        Ei bod yn cynnig i’r Aelodau ymweld â’r safle neu wrthod y cais ar y sail ei fod yn or-ddatblygiad

·        Ei bod yn rhannu pryderon ei hetholwyr

·        Bod yr adroddiad yn nodi ‘dim carafanau statig yn yr ardal’ - hyn yn anghywir: o fewn 3km i’r safle ceir nifer o safleoedd carafanau / llety gwyliau

·        Bod y cais yn adlewyrchu rhwydwaith dda o gysylltiadau bws; hyn eto yn anghywir gan nad oes arhosfa bws yn Llys y Gwynt - yr arhosfa agosaf 2km o’r gwersyll arfaethedig. Felly, dim cysylltiadau bws.

·        Dwy swydd yn unig fydd yn cael eu creu - incwm cyfyngedig i’r ardal. Y cwmni gyda phencadlys ym Manceinion

·        Er yn nodi budd yn lleol, bod y pecyn croeso sydd yn cael ei adael i ymwelwyr yn annog iddynt siopa ar-lein fydd yn lleihau'r angen iddynt deithio oddi ar y safle; Cwmnïau mawr fydd yn elwa o hyn ac nid siopau lleol.

·        Bod y safle arfaethedig gerllaw tir coediog yn cynnig sgrin naturiol i ffordd brysur a pheryglus. Byddai torri'r coed yn gwaredu’r amddiffynfa naturiol yma a chreu effaith ar drigolion lleol.

·        Bod y cais wedi ei selio ar wybodaeth anghywir

·        Yn echdynnu elw drwy  greu safle di angen bydd yn niweidiol i’r gymuned leol

·        Yn annog ymweliad safle

 

e)     Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle

 

PENDERFYNIAD: Cynnal ymweliad safle

 

 

Dogfennau ategol: