Cynllun arallgyfeirio fferm ar gyfer gosod 5 uned llety gwyliau ar y tir
AELOD LLEOL:
Cynghorydd John Pughe Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: CYNNAL
YMWELIAD SAFLE
Cofnod:
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm
Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir a datblygu llety
gwyliau newydd ar ffurf 5 pod glampio parhaol, parcio cysylltiedig, addasiadau
i’r fynedfa, draenio a thirlunio.
Eglurwyd, wrth ymdrin a’r cais bod y bwriad wedi ei ddiwygio gan leihau
maint y safle a’r nifer podiau wedi lleihau o 6 i 5; bod y safle wedi ei leoli
yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig (ATA) gydag un eiddo preswyl
yn ffinio gyda’r safle ac adeilad allanol nad yw ym mherchnogaeth yr ymgeisydd
i’r dwyrain o’r fynedfa bresennol.
O ystyried
y math o bodiau a lleoliad y cais o fewn ATA, amlygwyd bod pwynt 1 Polisi TWR 3
yn cadarnhau y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog
newydd, safleoedd sialé gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen parhaol o fewn
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Môn neu Llyn ac yn yr ATA; y bwriad felly
yn sylfaenol groes i bwynt 1 o bolisi TWR 3 a pholisi PCYFF 1 gan y byddai’n
sefydlu safle gwersylla amgen parhaol newydd oddi fewn i’r ATA.
Yng
nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod y tŷ annedd
agosaf i’r safle wedi ei leoli ar waelod y trac a fyddai’n cael ei ddefnyddio
gan ddefnyddwyr yr unedau gwyliau arfaethedig ac fwy na heb yn ffinio gyda ffin
ddeheuol safle’r cais. Yn bresennol caeau amaethyddol a’r afon sydd o amgylch y
tŷ annedd yma ac mae mewn lleoliad gymharol breifat, llonydd a tawel lle
nad oes llawer o weithgareddau ac aflonyddwch i ddeiliaid yr eiddo. Byddai
cyflwyno safle gwersylla amgen yn y lleoliad hwn gyda photensial o achosi
effaith andwyol annerbyniol ar yr eiddo cyfagos oherwydd mwy o weithgaredd,
sŵn ac aflonyddwch gan ymwelwyr. Ategwyd bod natur defnydd gwyliau yn
golygu symudiadau gwahanol i unedau preswyl parhaol, ac nid yw’r ymgeisydd yn
byw ar y safle o ran gallu goruchwylio a rheoli’r safle ac ymateb i unrhyw
faterion neu broblemau allai godi ar y pryd. Ystyriwyd fod y bwriad felly yn
groes i ofynion maen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 ar sail effaith ar mwynderau’r
cymdogion.
Tynnwyd
sylw at faterion priffyrdd, bioamrywiaeth, archeolegol, cynaliadwyedd,
llifogydd, draenio a ieithyddol oedd wedi derbyn sylw priodol ac ystyriwyd fod
y bwriad yn dderbyniol o ran hynny, ond pwysleisiwyd nad oedd hynny yn goresgyn
gwrthwynebiad sylfaenol i’r bwriad ar sail y byddai sefydlu safle gwersylla
amgen parhaol newydd oddi fewn i’r ATA yn gwbl groes i bolisi.
Roedd y
swyddogion yn argymell gwrthod y cais
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Bod y bwriad yn un i geisio
ailgyfeirio'r fferm
·
Yn un o dair merch o deulu
Cymraeg, trydedd genhedlaeth ar y fferm gyda dymuniad o aros a chreu teulu yng
Nghorris
·
Y fferm fach yn un 300 erw ac
angen ailgyfeirio a sefydlu menter newydd ac incwm ychwanegol i sicrhau dyfodol
i’r fferm. Ffermio erbyn hyn yn anodd gyda rheolau a newidiadau cyson
·
ATA yn ddosbarthiad o dir
sydd wedi ei adael allan o Parc Cenedlaethol Eryri, ond yn ddiweddar, wedi ei
ddynodi fel ardal i beidio ei ddatblygu
·
Bod holl dir y fferm wedi ei
leoli o fewn ATA a dim dewis ond ailgyfeirio
·
PYCFF 2: Aflonyddwch i
gymdogion – un eiddo cyfagos ac felly wedi symud yr unedau 70 m i ffwrdd o’r
eiddo hwnnw
·
Yn ogystal â lleihau
niferoedd unedau, ni fu cyswllt gan y Swyddogion ynglŷn â phellter addas
derbyniol. 70m gyda sgrinio rhag llygredd sŵn a golau yn fwy na derbyniol
- dyma ofynion llety preswyl
·
Y bwriad yn cael ei gefnogi
gan nifer o bolisïau cenedlaethol ac yn cydymffurfio gyda mwyafrif o bolisïau
Cynllun Datblygu Lleol
·
Bod cyfarfod Cyngor Cymuned
wedi ei gynnal gyda nifer o bobl leol o blaid y datblygiad a neb yn
gwrthwynebu, ond ers hynny wedi darganfod
sawl gwrthwynebiad wedi eu derbyn gan bobl sydd wedi symud i mewn i’r
ardal sy’n berchnogion ail gartref neu AirB&B sydd ddim eisiau cystadleuaeth
·
Gorboblogaeth yng Nghorris o
AirB&B. Byddai creu unedau gwyliau pwrpasol yn lleihau galw am ddefnydd tai
lleol fel unedau gwyliau fydd yn unol ag Erthygl 4 yn rhyddhau cartrefi i
brynwyr cyntaf lleol.
·
Byddai’r fenter yn dod a budd
i bentref Corris – y pentref a busnesau lleol
·
Bod y bwriad yn cyfateb a
gofynion polisïau sydd yn ymwneud ag edrychiad
a gosodiad o fewn y dirwedd ac
wedi ei ddylunio i lefel uchel. Dyma’r safle gorau ar y fferm gan ei fod â
chysylltiadau da i lwybrau cyhoeddus
·
Yn annog cefnogaeth y
Pwyllgor i ailgyfeirio’r busnes i deulu lleol gael aros yn lleol angen a chreu
dyfodol i’r fferm
c)
Yn manteisio ar yr hawl ar yr
hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Bod Parc Eryri yn gefnogol i
Dwristiaeth gynaliadwy i ffermydd cefn gwlad
·
Bod angen mwy o arweiniad i
asesiadau cychwynnol i sicrhau hyfywdra’r cynllun
·
Bod swyddogion yn barod i
ganiatáu cais am 25 caban gwyliau heb gefnogaeth, ond yn gwrthod cais am 5
caban gyda chefnogaeth leol
·
Byddai ailgyfeirio yn sicrhau
dyfodol a sicrwydd i’r teulu
·
Byddai’r cabanau yn toddi i
mewn i’r tirlun; yn cysgu dau berson. Wedi eu gosod 70m i ffwrdd o’r eiddo
cyfagos, wedi ei sgrinio yn dda ac yn anweladwy
·
Bod bwriad plannu coed fyddai
yn gwella bioamrywiaeth a rhywogaethau
·
Bod y Cyngor Cymuned a phobl
leol yn gefnogol ac er yr ychydig sydd wedi gwrthwynebu, nid ydynt yn byw yn
lleol. Nifer wedi amlygu cefnogaeth i’r cais
·
Byddai bwriad defnyddio enwau
caeau’r fferm ar y podiau – yn croesawu hyn
·
Byddai’r bwriad yn cefnogi
busnesau lleol; llwybrau uniongyrchol o’r safle i’r pentref; yn fudd i’r
pentref ac i fusnesau'r ardal; dim yn ymyrryd gyda phroblemau parcio'r pentref
·
Yn gyswllt da i lwybrau
cerdded yr ardal a llwybr beicio Dyfi
·
Nid oes gormodedd llety
gwyliau yn yr ardal – dim podiau glampio o fewn 10m i’r safle
·
Bod Cynllun Economi Ymweld
Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 yn cefnogi arallgyfeirio i ffermwyr i greu
economi wledig gryfach
·
Uned bioamrywiaeth yn ymateb
bod yr adroddiad ystlumod o safon dda
·
Sail y gwrthodiad yw ei safle
o fewn ATA. Beth yn union yw dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig? Corris ddim o
fewn y Parc Cenedlaethol oherwydd ei fod yn rhy ddiwydiannol, ond yn fwy
diweddar wedi ei ddynodi fel ATA.
·
Effaith andwyol ar eiddo
meddiannwr cyfagos - 70m i ffwrdd o’r eiddo, bydd coed wedi eu plannu bydd wedi
ei sgrinio yn dda ac yn anweladwy
·
Yn annog y pwyllgor i
gefnogi’r cais - angen teulu ifanc, lleol i amaethu yn yr ardal. Gormod o bobl
ifanc yn gadael y Sir oherwydd diffyg cyfleoedd.
ch) Cynigwyd ac eiliwyd cynnal
ymweliad safle i gyfiawnhau’r effaith ar fwynderau preswyl cyfagos
d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod angen adolygu polisïau
iddynt weithio yn well i gefnogi cymunedau'r Sir - angen hyblygrwydd yn y
broses (o gymharu ceisiadau 5.1. a 5.3 sydd yn gwahaniaethu rhwng yr angen
lleol)
·
A oedd cyswllt gyda’r
tirfeddiannwr cyn rhoi dynodiad ATA i’r ardal? A oedd ymgynghoriad wedi ei
gynnal gyda’r gymuned cyn ei ddynodi fel ATA? Beth yw ystyr y statws yma yn y
lleoliad yma?
·
Polisi AMC 2 yn amlygu
‘cynnig o fewn yr ATA, bod ystyriaeth priodol i raddfa a natur y datblygiad gan
sicrhau na fydd yn cael effaith andwyol ...’ onid ydy AMC 2 yn rhoi disgresiwn
ychwanegol wrth ystyried Polisi TWR 3?
Mewn ymateb i gwestiwn, a yw
podiau, wrth ystyried materion cynllunio yn cyfateb i garafanau symudol, nodwyd
bod Polisi TWR 2 a 3 yn gwahaniaethu rhwng carafanau symudol a parhaol. Yn y
cyd-destun yma, amlygwyd bod y podiau yn cael eu cysylltu yn ffisegol i’r
ddaear gyda gwasanaethau dwr a thrydan ac felly yn cael eu hystyried fel rhai
parhaol. Mewn ymateb i gwestiwn ategol a fyddai modd tynnu’r podiau i lawr dros
fisoedd y gaeaf, ac o bosib hyn yn dderbyniol, nodwyd nad hynny oedd gofynion y
cais a gyflwynwyd, ond ni fyddai Polisi TWR 2 yn rhwystro datblygiadau o fewn
tirwedd ATA.
Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod a’r ystyriaethau cynllunio, nodwyd na ddylid ystyried pwy sydd yn gwneud
y cais a bod pob cais yn cael ei ystyried ar ei rinweddau ei hun ac o fewn
polisïau lleol a chenedlaethol. Pwysleisiwyd, er y gallu i fod yn hyblyg gan
bwyso a mesur rhai penderfyniadau cynllunio, byddai’n sefydlu safle gwersylla
amgen parhaol newydd oddi fewn i’r ATA yn hollol groes i bolisi TWR 3.
O ran statws yr ATA yn
Corris, byddai ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal yn ystod ymgynghoriad y
CDLl pryd aseswyd y dirwedd o ran capasiti i dderbyn llety twristiaeth barhaol
gan hefyd adnabod ardaloedd sensitif. Canlyniad yr asesiad hwnnw oedd bod ansawdd
y dirwedd wedi ei adnabod fel ATA a bod yr ardal yma, fel ardaloedd AHNE, gyda
gormodedd o garafanau a llety parhaol ac felly polisi wedi ei lunio i warchod sensitifrwydd yr ardaloedd hynny.
PENDERFYNWYD:
Cynnal Ymweliad Safle
Dogfennau ategol: