Cais llawn ar gyfer datblygiad yn cynnwys 8 tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig (cam 1 o 2)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GWRTHOD
1.
Mi fyddai’r datblygiad hwn yn creu
ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored ac nid yw’n yn union
gerllaw'r ffin datblygu. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella
cymeriad ac ymddangosiad y safle nac yn integreiddio gyda'r hyn sydd o'i gwmpas
ac felly nid yw’n estyniad rhesymegol i’r anheddle. Mae'r cais felly'n groes i
ofynion Polisïau PCYFF 1, PCYFF 3, PS 5 a TAI 16 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a rhan 2.6 o Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sydd yn
nodi na ddylai dylunio sy’n amhriodol yn ei gyd-destun, neu nad yw’n manteisio
ar gyfleoedd i wella cymeriad, ansawdd a swyddogaeth ardal, gael ei dderbyn
oherwydd bydd yn cael effaith niweidiol ar gymunedau sy’n bodoli’n barod.
2.
Nid oes gwybodaeth a thystiolaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod
Cynllunio Lleol i asesu’r holl ystyriaethau cynllunio materol angenrheidiol yn
llawn. Yn ogystal, mae gwybodaeth anghyson a chamarweiniol yn y dogfennau a
gyflwynwyd ynglŷn â’r math a maint o unedau a ddatblygir o’r hyn a
ddangosir ar y cynlluniau manwl. Er mwyn galluogi asesiad cyflawn o'r cynnig
dan bolisïau perthnasol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2011-2026, byddai angen cyflwyno rhagor o wybodaeth ynghylch y materion isod:
i. Tystiolaeth ar ffurf asesiad marchnad
tai ffurfiol i brofi’r angen am dŷ fforddiadwy (Polisi TAI 16)
ii. Tystiolaeth am addasrwydd y gymysgedd o
dai a phrisiad o werth yr unedau (Polisïau TAI 8 a TAI 15).
3. Ar sail yr
wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na
fyddai’r datblygiad yn achosi niwed o sylwedd i gymeriad a chydbwysedd yr iaith
Gymraeg yn y gymuned ac felly mae’r cais yn groes i ofynion polisi PS1 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn ogystal â gofynion perthnasol CCA
Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy.
4. Nid oes gwybodaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod
Cynllunio Lleol i asesu’r effaith y bwriad ar fioamrywiaeth leol yn llawn. O
ganlyniad credir fod y bwriad yn annerbyniol ac yn methu bodloni gofynion
perthnasol polisïau PS 19 ac AMG 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn ynghyd a Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru.
5. Nid oes manylion trefniadau mynediad digonol wedi eu cynnwys
fel rhan o’r cais ac felly ni chredir bod y cynnig yn cwrdd gyda’r gofynion
perthnasol o safbwynt cydymffurfiaeth gyda meini prawf perthnasol polisïau TRA
4 a PCYFF 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd yn nodi’r
angen i sicrhau fod datblygiadau newydd yn darparu mynedfa dderbyniol.
Cofnod:
Cais llawn ar gyfer
datblygiad yn cynnwys 8 tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle
eithrio gwledig (cam 1 o 2)
a)
Atgoffwyd
yr Aelodau bod y cais wedi ei gyflwyno yn flaenorol ond bod penderfyniad wedi
ei wneud i’w ohirio ar y pryd fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb i’r
rhesymau gwrthod a chyflwyno rhagor o wybodaeth.
Nodwyd bod y cais yn
un llawn i godi 8 tŷ fforddiadwy unllawr ynghyd
a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig, tu allan i ffin ddatblygu
gyfredol pentref Botwnnog. Bydd y cynnig yn
golygu codi’r tai a darparu mynedfa trwy ymestyn y ffordd bresennol trwy
stad Congl Meinciau ac yna trwy stribyn o dir gwag at leoliad y tai newydd. Mi
fyddai llecyn parcio i’w ddarparu i flaen y tai unigol. Eglurwyd bod gwybodaeth
ddiweddar a gyflwynwyd yn nodi cymysgedd o ran y math a maint y tai i’w
darparu, ond nad oedd hyn wedi cael ei gyfleu yn y cynlluniau a gyflwynwyd ac
nad oedd y cynlluniau wedi eu newid o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Ategwyd
nad oedd y cynlluniau arfaethedig yn cynnwys unrhyw wybodaeth o ran trefn a
gosodiad gerddi neu ofod unigol y tai nac unrhyw gyfeiriad at dirlunio
ffurfiol.
Adroddwyd bod safle’r
cais, yn bresennol yn dir gwag sydd wedi gôr dyfu gyda olion gwaith clirio o’r
gorffennol. Ategwyd bod y tir a’r ardal gyfagos o fewn dynodiad Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli ac o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig Gorllewin Llŷn. Tynnwyd sylw at
ddarn o dir sydd yn mesur oddeutu 30 troedfedd o lêd
rhwng ffin stad bresennol Congl Meinciau a dechrau ffin y stad newydd sydd ym
mherchnogaeth rhywun arall ac felly yn fater sifil i’w ddatrys; bydd angen
caniatâd y perchennog tir yma i greu mynediad tuag at y tai newydd ynghyd a’r
angen am ganiatâd cynllunio ffurfiol ar wahân ar gyfer creu ffordd stad newydd.
Roedd y swyddogion yn
parhau i argymell gwrthod y cais ar sail nad oedd y wybodaeth a dderbyniwyd yn
ddigonol ac er derbyn cais gan yr ymgeisydd am estyniad amser i gyflwyno mwy o
wybodaeth, ystyriwyd bod cyfle ac amser digonol eisoes wedi ei roi. Er derbyn
bod gwybodaeth wedi dod i law, roedd y wybodaeth yn arwynebol heb dystiolaeth
i’w gefnogi ac felly nid oedd modd asesu’r cynllun yn llawn. Ni dderbyniwyd
tystiolaeth asesiad marchnata, tystiolaeth cymysgedd a phrisiad; ni dderbyniwyd
tystiolaeth am gyfiawnhad y bwriad ac nid oedd yr angen wedi ei brofi; er
derbyn asesiad effaith roedd y wybodaeth eto yn arwynebol heb dystiolaeth o’r
sefyllfa leol; ni dderbyniwyd asesiad bioamrywiaeth na manylion trafnidiaeth a
mynediad. Nid oedd gofynion sylfaenol cyflwyno cais wedi eu cyflawni.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol;
·
Yn annog
y Pwyllgor i ganiatáu gohiriad am fis arall
·
Bod yr
ymgeisydd yn gweithio yn galed i geisio cael gwybodaeth ychwanegol
·
Byddai
cynnal ymweliad safle yn fuddiol
c)
Cynigwyd
ac eiliwyd gwrthod y cais
PENDERFYNWYD GWRTHOD Y CAIS
Rhesymau:
1.
Mi fyddai’r datblygiad hwn yn creu
ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored ac nid yw’n yn union
gerllaw'r ffin datblygu. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella
cymeriad ac ymddangosiad y safle nac yn integreiddio gyda'r hyn sydd o'i gwmpas
ac felly nid yw’n estyniad rhesymegol i’r anheddle. Mae'r cais felly'n groes i
ofynion Polisïau PCYFF 1, PCYFF 3, PS 5 a TAI 16 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a rhan 2.6 o Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sydd yn
nodi na ddylai dylunio sy’n amhriodol yn ei gyd-destun, neu nad yw’n manteisio
ar gyfleoedd i wella cymeriad, ansawdd a swyddogaeth ardal, gael ei dderbyn
oherwydd bydd yn cael effaith niweidiol ar gymunedau sy’n bodoli’n barod.
2.
Nid oes gwybodaeth a thystiolaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod
Cynllunio Lleol i asesu’r holl ystyriaethau cynllunio materol angenrheidiol yn
llawn. Yn ogystal, mae gwybodaeth anghyson a chamarweiniol yn y dogfennau a
gyflwynwyd ynglŷn â’r math a maint o unedau a ddatblygir o’r hyn a
ddangosir ar y cynlluniau manwl. Er mwyn galluogi asesiad cyflawn o'r cynnig
dan bolisïau perthnasol Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2011-2026, byddai angen cyflwyno rhagor o wybodaeth ynghylch y materion isod:
i. Tystiolaeth ar ffurf asesiad marchnad tai ffurfiol i
brofi’r angen am dŷ fforddiadwy (Polisi TAI 16)
ii. Tystiolaeth am
addasrwydd y gymysgedd o dai a phrisiad o werth yr unedau (Polisïau TAI 8 a TAI
15).
3. Ar sail
yr wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi
na fyddai’r datblygiad yn achosi niwed o sylwedd i gymeriad a chydbwysedd yr
iaith Gymraeg yn y gymuned ac felly mae’r cais yn groes i ofynion polisi PS1
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn ogystal â gofynion perthnasol
CCA Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy.
4. Nid oes
gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r
Awdurdod Cynllunio Lleol i asesu’r effaith y bwriad ar fioamrywiaeth leol yn
llawn. O ganlyniad credir fod y bwriad yn annerbyniol ac yn methu bodloni
gofynion perthnasol polisïau PS 19 ac AMG 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn ynghyd a Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru.
5. Nid oes
manylion trefniadau mynediad digonol wedi eu cynnwys fel rhan o’r cais ac felly
ni chredir bod y cynnig yn cwrdd gyda’r gofynion perthnasol o safbwynt
cydymffurfiaeth gyda meini prawf perthnasol polisïau TRA 4 a PCYFF 3 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd yn nodi’r angen i sicrhau fod
datblygiadau newydd yn darparu mynedfa dderbyniol.
Dogfennau ategol: