Cais ar gyfer lleoli tryc bwyd gyda chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau picnic. Cadw llain caled ar gyfer parcio ceir a llwybr mynediad. Adeiladu 20 o siediau rhandir.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Meryl Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:
1 - Amser
2 - Yn unol gyda’r
cynlluniau
3 - Amodau tir
halogedig
4 – Amodau bioamrywiaeth gan gynnwys sicrhau gwelliannau
5 – Tryc bwyd ond i osod ar y safle pan mae o mewn
defnydd.
6 - Cyfyngu oriau
agor y tryc bwyd i 8-7 pob diwrnod.
7 - Cytuno ar fanylion rheoli gwastraff i’r tryc bwyd.
8 - Arwyddion Cymraeg
Cofnod:
Cais ar gyfer lleoli tryc bwyd gyda
chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau picnic. Cadw llain galed ar gyfer
parcio ceir a llwybr mynediad. Adeiladu 20 o siediau rhandir.
a)
Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi 20 sied gardd ar gyfer
rhandiroedd, lleoli tryc bwyd gyda chyfleusterau toiledau cyhoeddus a llecynnau
picnic, cadw llain galed ar gyfer parcio ceir a hwyluso mynediad cerbydol. Er
bod y siediau angen hawl cynllunio, nid oedd bellach angen hawl i gynllunio ar
gyfer creu rhandiroedd.
Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn
dderbyniol yn nhermau polisi ISA 2 oherwydd bod y safle yn ffinio gyda ffin
datblygu Penrhyndeudraeth a bod y datblygiad yn hawdd ei gyrraedd ar droed,
beic a chludiant cyhoeddus. Ategwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol o ystyried
polisi MAN 6 sydd yn cefnogi datblygiad manwerthu ar raddfa fach yng nghefn
gwlad a pholisi MAN 7 sydd yn berthnasol i ddefnyddiau bwyd poeth i gario
allan.
Er yn cydnabod byddai rhywfaint o
effaith gweledol, ni ystyriwyd y byddai cael siediau ar randiroedd yn rhywbeth
annisgwyl ac oherwydd ei maint a’i lleoliad ynghyd a llystyfiant naturiol o
amgylch y safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn niweidiol i edrychiad y
safle nac yn amharu ar fwynderau gweledol yr ardal.
Nodwyd bod dyluniad y toiled yn
cyd-fynd gyda’r siediau ac yn caniatáu mynediad hygyrch; Byddai modd sicrhau
ansawdd i’r edrychiad trwy osod amodau er mwyn sicrhau bod lliw'r siediau a’r
toiled yn cydweddu a’i gilydd.
Er bod y safle wedi ei leoli mewn
lleoliad cynaliadwy gyda phalmant yn gwasanaethu’r safle, derbyniwyd y bydd
defnyddwyr y rhandiroedd angen defnyddio cerbyd ar adegau i gludo nwyddau ac
offer garddio, ond wrth bwyso a mesur unrhyw effeithiau gweledol, a’r ffaith
bod defnydd tir fel rhandir yn ddatblygiad a ganiateir, ystyriwyd y byddai
rhywfaint o effaith gweledol bychan yn deillio o’r maes parcio yn well na
cherbydau yn parcio ar y palmant ac yn creu problemau diogelwch ffordd. O
ganlyniad, ystyriwyd fod y trefniadau parcio a mynediad yn dderbyniol.
Yng nghyd-destun gosod tryc bwyd,
sydd yn gerbyd yn hytrach nag adeilad, ystyriwyd y bydd yn cael ei weld yng
nghyd-destun cerbydau eraill sydd wedi parcio ar y safle. I gyfyngu’r effaith
gweledol, priodol fyddai gosod amod i sicrhau fod y tryc yn cael ei osod ar y
safle pan fydd mewn defnydd yn unig ac y bydd angen ei symud oddi ar y safle
pob nos.
Wrth ystyried mwynderau preswyl,
eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal ar gyrion y dref, gyda thai
preswyl gerllaw, gyda’r tŷ agosaf oddeutu 20m i ffwrdd o’r rhandiroedd. O
ystyried natur defnydd rhandir, mae’n annhebygol y byddai’r bwriad o osod
siediau yn amharu ar unrhyw fwynderau preswyl. Ategwyd bod defnyddiau amrywiol eraill gerllaw megis
gorsaf rheilffordd ag unedau diwydiannol/masnachol ac felly nid yw’r ardal yn
cael ei hystyried fel un anheddol yn unig.
Tynnwyd sylw at y pryderon a
dderbyniwyd mewn ymateb i’r cyfnod
ymgynghori, ac ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn denu ymddygiad
anghymdeithasol i’r safle gan ei fod yn safle eithaf agored gyda gwyliadwriaeth
naturiol oherwydd ei leoliad ger y ffordd gyhoeddus gerllaw. Er hynny,
derbyniwyd y gall materion sy’n gysylltiedig gyda’r tryc bwyd gael effaith ar
fwynderau preswyl yn sgil sŵn ac arogleuon ac felly mewn ymateb, bydd y
tryc i’w osod ger y maes parcio sydd oddeutu 150m i ffwrdd o’r tŷ preswyl
agosaf - bydd hyn yn lliniaru rhan fwyaf
o’r effeithiau. Ategwyd mai priodol fyddai
gosod amod i gyfyngu’r oriau agor ynghyd ag amod i gytuno ar gynllun
rheoli gwastraff i sicrhau difa pla effeithiol, gwarchod yr amgylchedd ac
edrychiad yr ardal.
Yng nghyd-destun materion llifogydd
ac o ystyried bod y safle mewn parth llifogydd, nid oedd gan CNC unrhyw
wrthwynebiad i’r bwriad a cadarnhawyd ei fod yn cydymffurfio gyda TAN 15. Er
hynny roedd CNC wedi amlygu pryder fod y tir wedi ei halogi o gofio defnydd
hanesyddol gwaith Cookes gerllaw, ond trwy osod
amodau i gynnal archwiliad tir manwl, ystyriwyd y byddai’r bwriad, yn unol â
gofynion polisi PCYFF 2 yn gofyn sicrhau gwarchod iechyd a diogelwch.
Roedd y swyddogion yn argymell
caniatáu y cais
b)
Yn manteisio ar
yr hawl ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;
·
Ei bod yn
gefnogol i’r cais
·
Bod y bwriad yn
ymateb i’r angen
·
Bod y bwriad yn
dda i’r gymuned
·
Bydd yr ardal yn
cael ei barchu
c)
Cynigwyd ac
eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD Caniatáu yn unol â’r
amodau canlynol:
1 -
Amser
2 -
Yn unol gyda’r cynlluniau
3 -
Amodau tir halogedig
4 – Amodau bioamrywiaeth gan gynnwys
sicrhau gwelliannau
5 – Tryc bwyd ond i osod ar y safle
pan mae o mewn defnydd.
6 -
Cyfyngu oriau agor y tryc bwyd i 8-7 pob diwrnod.
7 - Cytuno ar fanylion rheoli
gwastraff i’r tryc bwyd.
8 - Arwyddion Cymraeg
Dogfennau ategol: