Agenda item

Cais llawn ar gyfer creu 'depot' yn cynnwys swyddfeydd, gweithdy, adeiladau ar gyfer storio ynghyd a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: CANIATÁU yn ddarostyngedig a’r amodau canlynol:

1. 5 mlynedd.

2. Unol a chynlluniau a dogfennau.

3. Cytuno cynllun a mesurau atal sŵn y gweithdy ym mhen gorllewinol y safle. Gallai hyn gynnwys mesurau fel insiwleiddio, cytuno ar leoliad unrhyw sustemau echdynnu, oriau defnydd a ffens acwstig.

4. Sicrhau defnydd o arwyddion dwyieithog sy’n rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg.

5. Tirlunio.

6. Cynnal tirlunio.

7. Angen cytuno ar unrhyw sustemau echdynnu ar y gweithdy cyn gosod ar yr adeilad.

 

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer creu 'depot' yn cynnwys swyddfeydd, gweithdy, adeiladau ar gyfer storio ynghyd a gwaith cysylltiol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Caernarfon a'r cyfan o fewn ardal sydd wedi ei warchod fel prif safle cyflogaeth ar gyfer defnydd cyflogaeth. Ategwyd bod y safle yn cael ei wasanaethu gan ffordd sirol ddi-ddosbarth sy’n arwain drwy’r stad a'r bwriad yn cynnwys darpariaeth ar gyfer 44 o lefydd parcio ceir (yn cynnwys 3 ar gyfer yr anabl), 10 ar gyfer loriau ac 8 ar gyfer peiriannau eraill yn ogystal â gofod cadw beiciau.

 

Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Caernarfon ac ardal sydd wedi ei warchod ar gyfer cyflogaeth ac yn benodol defnyddiau diwydiannol B1, B2 a B8, roedd egwyddor y bwriad yn dderbyniol o safbwynt polisïau PCYFF 1 a CYF 1. Dsigrifiwyd y tir yn weddol wastad ac yn cefnu ar weddill y stâd sydd ar lefel sylweddol uwch i’r gogledd. Cydnabuwyd y byddai'r unedau unllawr a deulawr yn weladwy o ffordd osgoi Caernarfon, ac yn ychwanegu at strwythurau ac ardaloedd storio offer yn y tirlun. Er hynny, byddai'r stâd bresennol yn ffurfio cefndir i’r safle ac, felly yn lleihau effaith y bwriad ar y tirlun. Cyfeiriwyd at  gynllun safle a chynllun trawstoriad oedd yn amlygu bwriad i weithredu cynllun tirlunio ar gyfer terfyn deheuol, gorllewinol a gogleddol y safle fydd yn cynnwys cadw coed ar hyd y terfyn deheuol. O ganlyniad ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith weledol annerbyniol.

 

Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl nodwyd bod yr adeilad bwriedig mwyaf i’w leoli ym mhen gorllewinol y safle, oddeutu17 medr o’r terfyn a tua 28 medr o edrychiad cefn tai cymdogion agosaf. Amlygwyd bod bwriad gosod deunydd ynysu ychwanegol ar wal gefn yr adeilad er mwyn lleihau unrhyw sŵn a fyddai yn deillio ohono. Adroddwyd bod y datganiad cynllunio yn nodi mai sied gynnal a fwriedir yma ac ni ddisgwylid bod sŵn yn tarddu ohoni; nid oes ffenestri na drysau ar yr edrychiad cefn a byddai’r adeilad hefyd yn lliniaru sŵn sy’n deillio o lefydd arall ar y safle.  Ystyriwyd felly bod potensial i ychwanegu at y mesurau lliniaru sŵn drwy osod amodau priodol i leihau effaith andwyol ar drigolion cyfagos.

 

Cyfeiriwyd at  faterion  priffyrdd, bioamrywiaeth, ac ieithyddol oedd wedi derbyn sylw priodol.

 

Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu y cais

 

b)       Yn manteisio ar yr hawl ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol;

·        Y safle wedi ei  leoli ar ddarn o dir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer datblygu

·        Bod y cwmni angen cynyddu eu gweithdy presennol yn yr ardal

·        Defnydd arfaethedig a manteision economaidd. Yn dilyn cynnydd yn y busnes, yn ymateb drwy geisio cyfuno pum depo rhanbarthol i ganoli adnoddau fydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol yn yr ardal

·        Bod y safle yma yn ddelfrydol o ran manteision strategol a logistaidd

·        Yn agos at rwydwaith ffyrdd i Ganolbarth Cymru fydd yn lleihau amseroedd teithio

·        Yn rhagweld cynnydd mewn niferodd staff llawn amser i 36%

·        Bod cyflog net blynyddol yn cyfateb i £1.4 miliwn sydd yn cael ei wario yn bennaf yng Ngwynedd

·        Byddai’r bwriad yn cynnig swyddfa bwrpasol ar gyfer staff ynghyd a gweithdy masnachol ar gyfer cynnal a chadw cerbydau, uned arwyddion rheoli traffig a

chyfleuster storio ar gyfer system codi a systemau hydrolig

·        Bydd y prosiect yn ffynhonnell datblygu economaidd lleol, cynaliadwy fydd yn creu cyfleoedd swyddi newydd ac yn darparu masnach gyda chyflenwyr busnes lleol eraill yn yr ardal

·        Bod ffyrdd mynediad eisoes wedi ei ffurfio gyda bwriad o ddefnyddio seilwaith presennol

·        Bod llythyrau cefnogaeth wedi eu derbyn

·        Dim gwrthwynebiadau wedi ei dderbyn

 

c)           Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)           Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        Bod y cwmni yn un llwyddiannus iawn gydag enw da

·        Bod y Cyngor Tref yn gefnogol i’r cais

·        Bod y cwmni angen lle ychwanegol

·        Bod angen iddynt ystyried gwefan ddwyieithog

 

PENDERFYNWYD: CANIATÁU yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1. 5 mlynedd.

2. Unol a chynlluniau a dogfennau.

3. Cytuno cynllun a mesurau atal sŵn y gweithdy ym mhen gorllewinol y safle. Gallai hyn gynnwys mesurau fel insiwleiddio, cytuno ar leoliad unrhyw sustemau echdynnu, oriau defnydd a ffens acwstig.

4. Sicrhau defnydd o arwyddion dwyieithog sy’n rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg.

5. Tirlunio.

6. Cynnal tirlunio.

7. Angen cytuno ar unrhyw sustemau echdynnu ar y gweithdy cyn gosod ar yr adeilad.

 

 

 

Dogfennau ategol: