I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Adran Tai ac Eiddo. Tynnwyd sylw’n fras at y prif
bwyntiau canlynol:
Adroddwyd bod
nifer o brosiectau a chynlluniau’r Adran yn cyfrannu at amcanion strategaeth
iaith y Cyngor, megis y Cynllun Gweithredu Tai. Eglurwyd bod y cynllun hwn yn
cynnwys dros 30 o brosiectau sy’n anelu i fynd i’r afal â’r argyfwng tai yng
Ngwynedd gan ymdrechu i sicrhau bod pobl Gwynedd yn cael mynediad at dai addas,
safonol a fforddiadwy er mwyn gwella ansawdd eu bywyd. Mynegwyd balchder bod
dros 8,000 o unigolion lleol wedi derbyn cefnogaeth drwy’r cynllun hwn hyd yma.
Eglurwyd bod
Cynllun Cartrefi Gwag yr Adran yn mynd i’r afael â’r diffyg tai ar gyfer pobl
leol. Nodwyd bod 101 o grantiau wedi cael eu dosbarthu i brynwyr tai gwag sydd
â chysylltiad lleol er mwyn eu cynorthwyo i’w hadnewyddu i safon byw
dderbyniol. Diweddarwyd bod y cynllun hwn wedi cael ei ehangu yn ddiweddar er
mwyn cynnwys tai gwag a arferai fod yn ail gartrefi. Esboniwyd mai dim ond ar
gyfer prynwyr tro cyntaf oedd y cynllun hwn yn berthnasol yn flaenorol ond er
mwyn ymateb i alw mawr am gymorth y cynllun hwn gan y cyhoedd, fe’i hehangwyd
ar gyfer pob math o brynwr a’u cynorthwyo i gyfarch cynnydd mewn costau
deunyddiau ac adeiladu.
Cadarnhawyd bod
yr Adran yn rhoi ystyriaeth drylwyr i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015 yn ogystal ag effeithiau cydraddoldeb, ieithyddol a dyletswyddau
Economaidd-Gymdeithasol o fewn y cynlluniau. Ymfalchïwyd bod yr Adran yn cael
effaith bositif ar nodweddion cydraddoldeb a’r iaith Gymraeg drwy gynyddu’r
ystod o dai sydd ar gael o fewn y Sir er mwyn ceisio cyrraedd anghenion
cymunedau. Ymhelaethwyd bod 63% o drigolion Gwynedd, sydd wedi eu prisio allan
o’r farchnad dai, wedi derbyn cymorth i gael mynediad at gartrefi fforddiadwy,
benthyciadau, grantiau neu ryddhad trethi. Nodwyd bod Cymdeithas Tai Adra wedi
rhannu data gyda’r Adran yn ddiweddar, gan gadarnhau bod 94% o breswylwyr
newydd staff yn Ninas, Llanwnda yn gallu’r Gymraeg, ac yn yr un modd, bod gan
96% o breswylwyr stad newydd yn Nhregarth sgiliau’r Gymraeg. Mynegwyd bwriad i
gyflwyno adroddiad i’r Cabinet er mwyn amlygu effaith y cynllun hwn, gan
ymdrechu i’w ymestyn hyd at 2028/29.
Atgoffwyd bod yr
Adran yn arwain ar brosiect Gwynedd Glyd, sy’n rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd.
Adroddwyd bod yr Adran yn cyflawni hyn drwy gynyddu cyflenwad o dai i bobl
leol. Sicrhawyd bod hyn yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan drigolion
Gwynedd gartrefi addas, fforddiadwy a safonol drwy denantiaeth, cymorth i brynu
tŷ neu adnewyddu tai gwag. Ymfalchïwyd bod 97% o osodiadau drwy’r gofrestr
tai yn mynd i rywun â chysylltiad i Wynedd, gydag oddeutu 60% yn mynd i
unigolion â chysylltiad gyda’r gymuned y maent yn dymuno byw ynddi. Eglurwyd
bod Polisi Gosod Tai Cyffredin yn weithredol er mwyn sicrhau bod pobl leol yn
cael blaenoriaeth resymol wrth osod tai. Tynnwyd sylw bod yr Adran yn derbyn
nifer o geisiadau gan grwpiau cymunedol a rhai Cynghorau Cymuned i ychwanegu
amod ieithyddol fel rhan o’r broses o osod tai cymdeithasol. Eglurwyd bod yr
Adran yn derbyn cyngor cyfreithiol arno ar hyn o bryd.
Cydnabuwyd bod
prif systemau a ddefnyddir yn cael eu prynu gan gwmnïau allanol ac felly maent
ar gael yn Saesneg yn unig. Fodd bynnag, sicrhawyd bod yr Adran yn datblygu
apiau yn fewnol yn uniaith Gymraeg ac mae defnydd helaeth yn cael ei wneud
ohonynt.
Eglurwyd bod yr
Adran yn cadw cofnod o faint o bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau drwy
gyfrwng y Gymraeg drwy ofyn i unrhyw un sydd yn llenwi ffurflen gais am dŷ
cymdeithasol i nodi dewis iaith er diben cysylltu â nhw. Nodwyd nad yw’r system
yn galluogi i’r Adran adrodd ar y wybodaeth hon ar hyn o bryd ond mae system
newydd ar droed a fydd yn caniatáu rhannu’r wybodaeth. Ymhelaethwyd bod yr
Adran hefyd yn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth yn cael ei rannu yn ddwyieithog
gyda’r Gymraeg yn gyntaf er mwyn annog a hybu defnydd yr iaith, gan sicrhau yn
ogystal bod unrhyw wybodaeth a rennir ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei osod
fel bod y Gymraeg yn cael ei ddarllen yn gyntaf.
Mynegwyd balchder
bod 88.1% o staff yr adran wedi cwblhau asesiad ieithyddol, gan gadarnhau bod
95.4% o’r aelodau staff hynny yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi. Nodwyd mai
diffyg hyder sydd yn atal rhai unigolion rhag cyrraedd dynodiad iaith y swydd,
gan fod y mwyafrif helaeth o staff yr adran yn cyrraedd lefel Hyfedredd neu
Uwch yn y Gymraeg.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
Mewn ymateb i sylwadau nad ydi person sydd yn
lleol i gymuned yng Ngwynedd o reidrwydd yn meddu a sgiliau’r Gymraeg, eglurodd
y Pennaeth Adran bod y data a geir am niferoedd siaradwyr Cymraeg o’r unigolion
sydd wedi derbyn a’u rhannu gan y cymdeithasau tai. Ymhelaethwyd bydd
cymdeithasau tai yn dod o dan Safonau’r Gymraeg yn y dyfodol agos ac felly fe
fydd yn ofynnol iddynt fod yn casglu data ar elfennau ieithyddol wedi hynny.
Mewn ymateb i ymholiad am eglurder am yr hyn
a olygir drwy fod gyda chysylltiad gyda Gwynedd neu ardal benodol wrth ystyried
gosod tai, cadarnhaodd y Pennaeth Adran bod meini prawf statudol wedi cael eu
mabwysiadu o fewn y Polisi Gosod Tai. Ymhelaethwyd bod y meini prawf safonol
hyn wedi cael ei addasu yng Ngwynedd er mwyn gofyn bod ymgeiswyr tai gyda
chysylltiad i’r gymuned neu’r Sir. Nodwyd bod yr Adran wedi mynd i'r eithaf
drwy ychwanegu’r ystyriaeth hyn i’r meini prawf gan fod pobl sydd yn chwilio am
dai yn eu hardaloedd cynefinol yn derbyn blaenoriaeth dros bobl o ardaloedd
eraill. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn ystyriol iawn o ran peidio cyflwyno amodau
a all gael eu hystyried i fod yn wahaniaethol ymysg ymgeiswyr. Ategwyd byddai
angen cyngor cyfreithiol cyn cyflwyno unrhyw addasiad pellach.
Nodwyd bod y Gwasanaeth Iechyd yn cael her i
recriwtio staff mewn rhai ardaloedd yng Ngwynedd. Gofynnwyd i’r Pennaeth Adran
a fyddai unrhyw un sydd yn symud i’r ardal ar gyfer gweithio gyda’r Gwasanaeth
Iechyd yn cael blaenoriaeth am dŷ, er gwaetha’r amod iaith, er mwyn
gwasanaethau’r cymunedau. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Adran nad oes
amod iaith yn cael ei ystyried wrth osod tai ar hyn o bryd ac ni fyddai’n
effeithio ar eu cyfleoedd i dderbyn tŷ. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod
ffactorau eraill yn gallu effeithio’r sefyllfa benodol hon megis ers faint o
amser maent wedi bod yn byw yn yr ardal, gan arwain at anfantais gychwynnol
wrth iddynt wneud cais am gartref.
Diolchwyd am yr
adroddiad.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: